statcounter

       

Tachwedd 2003

Cymdeithas Hanesddyol Edeyrnion

Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1978. Galwodd Cyngor Cymdeithas Corwen gyfarfod cyhoeddus i asesu diddordeb mewn ffurfio Cymdeithas o’r fath. Er syndod daeth tua 80 o bobl i’r cyfarfod a penderfynwyd sefydlu’r Gymdeithas. Y nod oedd i annog ymchwil hanes lleol ac i drefnu darlithoedd, sgyrsiau a teithiau, ac i geisio diogelwch hen bethau.

Ym mis Mehefin, 1979 roedd Cyngor Glyudwr am ddymchwel wyrcws Gorwen gan ei fod yn atgof o’r dyddiau caled. Gwrthwynebodd y Gymdeithas yn gryf a thrwy lwc cymerwyd sylw o’n cri. Mae hyn yn golygu fod adeilad o bensaerniaeth amlwg yng Nghorwen yn dal if fodoli - heddiw fe’i adnabyddir fel Corwen Manor. Trueni nad oeddem o gwmpas rhwng 1901 a 1908 fel a ddarganfwyd ar ddydd Mawrth, Hydref 2lain eleni. Rhoddodd Mr. Ian Lebbon gyflwyniad yn Neuadd Carrog ar yr ymdrech a wnaethpwyd i annog cymorth i ddiogelu Carchardy Owain Glyndwr. Mae’n drist na wrandawodd neb yr adeg hynny a bod rhan pwysig o’n etifeddiaeth wedi ei golli.

Bob blwyddyn ceir pedwar darlith o fewn Edeymion a tri taith i fannau o ddiddordeb. Mae croeso cynnes i bawb - ond yn well fyth gallwch ymaelodi am gost o £3 y flwyddyn. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Ysgol Isa Cynwyd ar Ddydd Mawrth. Tachwedd 25ain am 7.30 yr hwyr.

Mrs. Valmai Webb.


© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.