Tachwedd 2003
Llythyrau
Llongyfarchiadau i Dim “Y Bont” - Paul, Ian a Colin a’r holl arwyr a alluogodd i’r rhifyn cyntaf o’r Bont gael ei argraffu a’i rannu. Da iawn chi.
Y Felin
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Olygydd,
Llongyfarchiadau ar yr argraffiad cyntaf o “Y Bont”. Cylchlythyr diddorol a defnyddiol.
Gobeithio y cewch fynd o nerth i nerth - bydd yn ddefnyddiol iawn i ni yn Llidiart y Parc, trwy roi gwybod i ni beth sy’n digwydd ‘dros y dwr’!
Efallai
y byddai’n bosib dosbarthu nifer o gopiau yn siopau Corwen er mw yn hyrw
ydd digw yddiadau’r pentref.
Pob lwc gyda’r fenter newydd.
Faye Lea.
Parc House
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Syr,
‘Rwyf yn byw yn Llidiart y Parc ac yn peni’n arw am gyflymder y traffig ar hyd yr A5. Yn y misoedd diwethaf bu nifer o ddamweiniau yn y pentref o achos hyn. Teimlaf mai mater o amser fydd hi nes i ryw berson diniwed gael difrod neu waeth obherwydd diffyg cyfyngiad cyflymder.
Yn dilyn nifer o geisiadau, rhaid gofyn pam fod y Cyngor mor anfodlon i gyflwyno’r cyfyngiad cyflymder a allai arbed bywydau?
Eric Lea.
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.