statcounter

       

Ionawr 2004 January

Carrog

Ble Mae Carrog?

Hen Gymraeg am cellif yw Carrog - sef llif sydyn o ddwr. Enw’r drefgordd ganoloesol a oedd yn rhedeg o’r bont yng Nglyndyfrdwy heddiw, i’r gorllewin ar hyd yr A5 ac yn cynnwys Carrog Isa, Carrog Ucha, Fferm Pen y Bont a’r Wern. I’r dwyrain o bont Glyndyfrdwy, ar ochr dde’r afon Ddyfrdwy oedd trefgordd ganoloesol Mwstwr. Bodorlas oedd enw pentref Carrog i’r gogledd o’r ffordd ac fe oedd y rhain i gyd yn rhan o Blwyf Corwen.

O dan y ffordd yng Ngarrog ar yr ochr dde ac yn mynd tua’r gogledd mewn stribed tenau rhwng ffordd Y Forfydd a Rhagatt tuag ayt Bwrdd y Tri Arglwydd oedd hen blwyf Llansanffraid Glyndyfrdwy sy’n deillio’n ol i’r ddeuddegfed ganrif. Erbyn hyn mae’n cael ei adnabod fel Plwyf Corwen. Pan ddaeth y rheilffordd i Ddyffryn Dyfrdwy yn 1864 galwyd y ddwy stesion yn Glyndyfrdwy a Carrog. Adeiladwyd tai, ac fe ddaeth Glyndyfrdwy yn Plwyf arwahan pan adeiladwyd Eglwys yno. O ganlyniad i hyn adnabyddwyd Carrog a Glyndyfrdwy fel yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Mewn gwirionedd mae enw Carrog yn perthyn yn agosach i Llidiart y Parc nac i ni!

Mae enw Llidiart y Parc yn golygu porth neu giat i dir hela Owain Glyndwr.

Valmai Webb.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article