statcounter

       

Chwefror 2004 February

Llythyr o America.

Mae’r llefydd gorau I’w cael oddi ar y map...... gan Sam O’Neill Roedd gan fy ngwraig a minnau awydd teithio. A gyda’r Gwyliau Diolchgarwch yn agosau a ninnau ag amser yn rhydd, fe gododd yr awydd am brofi diwylliant a lle newydd! Fel un sy’n dod o stoc Geltaidd gyda cyfenw O’Neill, yn hoff o sgwrs a diod ac yn hoffi hiwmor a hwyl (mae fy ngwraig Mary Alice yn gadael I mi feddwl fy mod yn berchen ar dipyn o hiwmor) daethom I’r penderfyniad ein bod am brofi golyffeydd hardd, hen gestyll, hanes ac efallai tipyn o gymysgu gyda bobl lleol - yn fyr - A5 - Gogledd Cymru, Dwyrain o Langollen.

Yn falch o fod allan o Loegr (dach chi’n gwybod be’ dwi’n feddwl) daethom I Gymru o’r Gorllewin a nghalon Geltaidd yn curo’n gyflymach. Roeddwn wedi blino gan nad wyf yn cysgu ar awyrennau, ac yn gweld gyrru ar yr ochr anghywir o’r ffordd yn waith caled. Roeddwn newydd droi cornel ac wedi darganfod fy hun ar yr ochr anghywir o’r ffordd pan benderfynnais ei fod yn amser stopio a dod o hyd I le I aros am y noson. Corwen oedd y dref agosaf ar y map ond roeddem yn dal I fod tipyn o ffordd o Gorwen pan welodd Mary Alice arwydd am Garrog, gyda lonydd cul a chyfle iddi dynnu mwy o luniau o’r wlad a oedd yn troi’n harddach bob munud. Wrth I ni droi I’r dde fe welais olygfa fendigedig yn y golau gwan, o bont yn croesi afon ac adeilad a allai fod yn dafarn.

Daeth Mary Alice I’r canlyniad mai rhyw siop grefftau oedd yr adeilad, a nghalon yn mynd yn drymach wrth feddwl am yr hyn a allai fod. Ac felly y dechreuodd ein diwrnod cyntaf yng Nghymru a sut y daethom I Garrog (un o uchafbwyntiau ein taith) Diolch I’r nefoedd nad siopgrefftau mo’r Grouse a buom yno am y noson a’r rhan fwyaf o’r bore trannoeth. Roedd y bobl lleol yn ddiddorol ac yn gyfeillgar ac fe wnaethant ein taith I Gymru yn angofiadwy.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article