statcounter

       

Mawrth 2004 March

Hen Carrog

Wrth i ni barhau a’n cyfres o’r traethawd a ysgrifennwyd yn y 1950au y pwnc y Mis hwn yw Cymeriadau Lleol : Dyn y foment ar ddechrau’r ganrif oedd Mr Edward Jones, Siop y Parc. Fe weithiodd yn galed er budd y pentrefwyr, yn eu hannog i cynilo. Annogodd weithwyr y chwarel i gadw dau fochyn - byddai Mr Edwards wedyn yn rhoi blawd yn rhad ac am ddim iddynt i fwydo’r moch ac yn yr Hydref byddai’n prynnu mochyn am chwe cheiniog. Byddai’r chwarelwyr yn cadw un mochyn. Byddai hefyd yn eu hannog iddynt dyfu tatws mewn cae un o’r ffermwyr lleol am 6 hen geiniog am 20 llath. Cymeriad arall oedd Amos Williams - bu Mr Williams yn cadw tafarn, yn gwerthu glo ac yn bysgotwr o fri. Byddai’n gwneud ei ‘flies’ ei hun ac yn boblogaidd iawn gyda’r pysgotwyr a fu’n dod o Ganolbarth Lloegr i aros gyda theuluoedd yn y pentre’. Roedd gwraig Amos, sef Mary Williams yn adnabyddus am ei sgiliau ym myd meddyginiaeth. Roedd yn enwog am ei phlanhigion a’i llysiau. Roedd bechgyn y pentref yn mwynhau pysgota a byddai Amos yn gwerthu bachau iddynt - tri bachyn am geiniog ar gyfer llysywen ac un bachyn am geiniog ar gyfer brithyll. Byddai Mary yn rhoi ceinog neu ddwy i’r bechgyn am lysywen, yn ol ei maint, a byddai’n gwneud olew gyda hwy i wella pigyn clust. Dywed hefyd fod y lysywen yn cael ei chroeni a’i rhannu i wneud carau. Chwaraeodd teulu Rhaggat neu y “Lloyds” ran bwysig ym mywyd y pentre’ yn y gorffennol. Roeddent yn hael iawn gyda thrigolion y plwyf. Yn ol yr hanes roedd yn rhaid iddynt adael Rhaggat am dair blynedd gan eu bod wedi gwario gormod (a rhentu’r ty) Llongyfarchiadau i’r rhai a sylweddolodd fod awdur y traethawd wedianghofio rhestru’r “Swan” ynghyd a’r tafarnau eraill.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article