statcounter

       

Ebrill 2004 April

Hen Garrog a Llidiart y Parc

Wrth I ni barhau a’n cyfres o’r traethawd a ysgrifennwyd yn y 50au y pwnc y Mis hwn yw Cyflogaeth:

“Ffermio oedd y prif ddiwydiant, arwahan I grefftwyr lleol, megis torrwr cerrig, crudd, cyfrwywr, torrwr llechi, gof, melinwr a theiliwr. Yn 1850 roedd dwy Efail yng Ngharrog. Un yn Llidiart y Parc, ac un yn y ‘Smithy’ sydd gyferbyn a Bronant , a oedd yn cael ei adnabod fel ‘Yr Hen Efail’. Roedd yr Efail yn Llidiart y Parc yn cael ei redeg gan ddau frawd, ac Efail Carrog gan Evan Jones a wnaeth glwydi’r Eglwys gan law. Roedd y rhain yn pwyso hanner tunell. Efe a wnaeth y rheiliau sydd o flaen y tai sy’n rhedeg o’r Capel Methodist hyd at “Sycamore Terrace”. Ar ddiwedd y Ganrif roedd 300 o geffylau ar lyfrau’r Gof.

Roedd y Felin hefyd yn brysur iawn yn y dyddiau yma. Y Felin a Felin Isa. Roedd yr un ‘Mill Race’ yn gweini’r ddau. Teulu o’r enw Price oedd yn rhedeg y Felin. Roeddent yn perthyn I’r teulu Price o Langollen, Maerdy a Chorwen.

Roedd gan Mr Price dri asyn I gario sachau o flawd yn ol I’r ffermydd.Roedd y bechgyn lleol wrth eu bodd yn mynd a’r asyn I’r fferm er mwyn cael reid yn ol ar ei gefn ar ol cludo’r blawd.

Adeg chwyldroadol I’r pentref oedd dyfodiad y tren o gwmpas 1865. Ceffyl a chart, neu drol oedd y prif fodd o drafnidiaeth cyn hyn. Agorwyd Chwarel Pennarth yn 1860 a bu hyd at 300 o fobl yn gweithio yno yn ei anterth. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd Park Terrace, Berwyn Street a Quarry Terrace, Siop y Parc eu hadeiladu yn ogystal a 9 ty yn ymyl y Chwarel. Cafodd y Chwarel ei chau yn 1928.

Man arall o ddiddordeb oedd siop y Teiliwr. David Jones oedd y Teiliwr lleol. Bu’n byw yng Nharchardu (Glyndwr Terrace) yna yn y Swan, ac yna yn Crammond. Roedd dau deiliwr yn gweithio iddo. Fe wnaeth drowses I’r chwarelwyr, y ffermwyr, a’r Cipars. Roedd hefyd yn golchi thrwsio dillad.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article