statcounter

       

Gorffennaf 2004 July

Nant y Morwynion

Bu plant Ysgol Carrog yn ysgrifennu am hanesion a chwedlau Dewisiodd Lauren Bourne ysgrifennu am Nant y Morwynion a sut y cafodd ewi enw.

‘Amser maith yn ol yn nyddiau’r ddraig a’r marchog roedd Arglwydd o’r enw Dewi yn byw. Gwr gweddw oedd Dewi ond nid oedd yn byw ar ben ei hun. Roedd ganddo dair morwyn o’r enw Moli, Holi a Poli. Roedd y dair wedi gweini ar dad Dewi a’I Dad o o’I flaen felly fel y gallwch weld roeddynt braidd yn hen. Roedd Dewi’n hoff o hela, a tra allan un noson fe chwythodd storm fawr. “W” medd Moli, “Gadewch I ni baratoi pryd o fwyd ffein”. “W” medd Holi, “Gadewch I ni frwsio’r llawr”. “W” medd Poli, “Gadewch I ni lanhau’r ffenestri”. Wrth iddynt weithio gwaeddodd Holi “Aaaaaaaaaaaaa, dwr, help”. Agorodd Poli’r drws gan adael ton o ddwr I mewn I’r ty. Boddodd y dair ac ar y diwrnod trychinebus hwnnw fe syrthiodd y ty yn y man lle mae’r nant heddiw a elwir erbyn hyn yn “Nant y Morwynion”.

Lauren Bourne. BL 6.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article