statcounter

       

Awst 2004 August

PUM-DEG PUM MLYNEDD O WASANAETH CYSEGREDIG - ANODD I’W DDILYN

Mae’r cynghorydd Rhys Webb yn ymddeol ar ol 55 mlynedd o wasanaeth llawn di-doriad, ac mae’n debyg nad oes Cynghorydd arall wedi bod gyda’r Sir cyhyd ar ol 46 mlynedd o wasanaeth.

Yn 1949 cafodd ei ethol ar Gyngor Lleol Llansantffraid Glyndyfrdwy ond erbyn 1958 roedd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol I Gyngor Sir Meirioneth. Ar ol ei ethol fe fu’ n Gynghorydd Sir i Edeyrnion hyd heddiw, yn. gweld newidiadau i’r Sir ac enw Siroedd. Bu’n ymgeisydd annibynnol ar hyd yr amser gan goelio fod hyn yn galluogi iddo wasanaethu’r gymuned heb orfod dilyn rheolau parti arbennig.

Bu’n gysylltiedig a nifer o weithgareddau lleol, yn elusenau ac yn weithgareddau llywodraethol ac yn Gadeirydd ar nifer o bwyllgorau yn cynnwys: Polisi Cyllid ac Adnoddau, Cynllunio Ffyrdd a Thrafnidiaeth, Llyfrgelloedd Diwylliant ac Adloniant.

O 1959 hyd at 1974 bu’n gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau Rheoli Ysbytai yn cynnwys Ysbyty Maelor, Wrecsam a hen Ysbyty Gogledd Cymru. Bu hefyd yn aelod o Bwyllgor lechyd Meirioneth.

Yn 1969 daeth yn Henadur ac yn 1972 yn Gadeirydd Cyngor Sir Meirioneth a Cyngor Sir Clwyd yn 1982 gan ddilyn fel arweinydd Grwp Cynghorydd Annibynnol. Yn 1995 cafodd ei ethol fel Cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Ddinbych a Dirprwy Swyddog Cymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru.

Mae hefyd wedi bod yn aelod o Fwrdd Awdurdod Tir i Gymru a Heddlu Gogledd Cymru am 20 mlynedd lle death yn Gadeirydd.

Rhywfodd, rhwng y gweithgareddau llywodraethol yma i gyd fe lwyddodd ifod yn :

• Llywodraethwr yn Theatr Clwyd ac yn Gacleirydd am bedair mlynedd.

• Llywodraethwr yn Ysgol Carrog ers 1949 a Dinas Bran ers 1974

• Ynad Heddwch am 23 mlynedd ac yna yn Gadeirydd y Fainc.

• Aelod o Gyngor Chwaraeon Cymru.

Fe sicrhaodd fod Cysgod y Gaer a’r Ganolfan lechyd yn cael eu hadeiladu yng Nghorwen a bod grant ar gael ar gyfer y Pafiliwn.

Yn 1996 cafodd O.B.E. am wasanaeth i’r gymuned.

With edrych yn ol ar ei yrfa dywedodd mai’r 20 mlynedd gyda heddlu Cymru a’r 14 mlynedd gyda Awdurdod Tir Cymru oedd yr uchafbwyntiau. Dywedodd ; “Hoffwn ddiolch I bawb yn Edeyrnion am eu cefnogaetli dros y blynyddoedi ac yn enwedig i pobl Llidiart y Pare a Charrog ond yn fwy arbennig i’m gwraig, Valmai. Heb ei chymorth a’l dealltwriaeth ni fyddwn wedi bod yn gynghorydd am gyhyd. Hoffwn hefyd ddymuno’n dda I Nigel gan obeithio iddo gael cymaint o bleser ac a gefais i”.

Mae wedi ei siomi nad yw wedi gweld cynlluniau ar gyfer comin Corwen (14 acer o gwmpas pafiliwn Corwen) yn cael ei cyflawni cyn iddo ymddeol ond mae’n credu y bydd hyn yn digwydd o fewn ychydig o flynyddoedd gan ddod ag estyniad i’r rheilffordd , gwell pafiliwn a llawer mwy.

Fel Cynghorydd poblogaidd mae Rhys Webb wedi rhoi Carrog ar y map. Nid oes yn rhaid i neb esbonio i’r Cyngor Sir ble mae Carrog. Am y tro cyntaf mewn 46 mlynedd ni fydd cysylltiad uniongyrchol rhwng Carrog a’r Cyngor Sir ac efallai bydd rhai yn gofyn Ble mae Carrog ? yn y dyfodol.

Rydym yn gobeithio y caiff rhys a Valmai ymddeoliad hapus, gweithgar a hir.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article