statcounter

       

Awst 2004 August

Materion Iechyd

Sut i edrych am arwyddion o gancr y croen:

Sefwch o flaen drych hir a defnyddiwch ddrych llaw I archwilio eich croen, cofiwch edrvch ar wadnau eich traed eich clustiau a’ch pen. Edrychwch am unrhyw newidiadau mewn man geni (mole) neu fan geni newydd. Dylai unrhyw fan geni sy’n ymddangos ar ol 30 oed gael ei wylio’n ofalus a’i ddangos i’r meddyg.

Gall rheol ‘ABCDE’ fod o gymorth I chi pan yn edrych am arwyddion o gancr y croen. Wrth i chi archwilio’r croen edrychwch am y canlynol -

A ‘assymetry’ - man geni nad yw’n edrych yr un fath with ei rannu.
B ‘border’ -man geni a’i ymylon ynysgithrog.
C ‘colour’ - newidiadau mewn lliw yn gynwys yn dywyllach neu’n tyfu. Man geni sy’n colli lliw, neu nifer o liwiau megis glas, coch, gwyn neu bine, piws neu Iwyd.
D ‘diameter’ -Man geni sy’n fwy na 1/4 modfedd mewn diamedr ( maint rwber ar ben pensil)
E ‘elevation’ -Man geni sy’n codi a chanddo arwyneb anwastad. Dylech hefyd wylio’r canlynol:
  • man geni sy’n gwaedu
  • Man geni sy’n tyfu’n gyflym
  • Tyfiant crystiog ar y croen
  • Briw sy’n gwrthod gwella
  • Man geni sy’n cosi
  • Man ar eich croen sy’n teimlo’n arw fel papur swnd.

Gostyngwch y perygl gan ddilyn y canllawiau canlynol:

1 Osgoi’r haul rhwng 10am a 4pm
2 Defnyddiwch eli haul - ffactor 15 gan ei rwbio’n dda i’r corff o leiaf 30 munud cyn mynd allan i’r hau gan gofio am dop eich clustiau, y pen ac unrhyw fannau moel
3 Gwisgwch het haul, dillad call a sbectol haul. Mae’r haul yn gallu achosi caracts.
4 Peidiwch a defnyddio salon lliw haul - maen’t yn niweidio’r croen yn yr un modd a’r haul.

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article