statcounter

       

Medi 2004 September


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Bont Syndey Gwyl Cofio Glyndwr
Loteri’r Neuadd * Hen Carrog Neuadd
Llongyfarchiadau Weli’s a Berfa Ocsiwn Elusen
Materion Iechyd Sioe Haf Carrog Ysgol Carrog
  Bore Goffi  

Golygyddol

Dyma ni wedi cyrraedd rhifyn deuddeg. Blwyddyn gron ers I’r rhifyn cyntaf gael ei argraffu. Mae wdi bod yn waith caled I nifer o bobl yn cynnwys Sw Jones sy’n cyfieithu I ni, y tim sy’n dosbarthu’r papur, a phawb arall sydd wedi cyfrannu. Diolch yn arbennig I’r rhai sydd wedi dangos digon o ffydd I’n noddi ni fis ar ol mis, un a’I trwy ein noddi neu drwy dalu am hysbyseb.Rydym wedi derbyn grant am £105 ond yn anffodus, talu am fis yn unig a wnaiff hyn. Bydd angen I gymaint ohonoch a sydd bosib fynychu’r Parti Penblwydd (‘Birthday Bash’) ar Ddydd Sadwrn 2il o Hydref I sicrhau ein bod yn codi digon o arian I ddal I fynd am flwyddyn arall.. Dim ond tair tudalen sydd yn y Rhifyn hwn, yn bennaf gan ein bod am argraffu’n gynnar. Gobeithio y bydd mwy yn y rhifyn nesa!

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Croesi’r Bont

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn croesi’r bont nifer o weithiau mewn wythnos heb feddwl amdano. I ni ma’e fodd o fynd o un lle I‘r llall heb wlychu ein traed. Nid yw pob pont yr un fath fodd bynnag, wrth I ni ddarganfod ar ein taith I Sydney. Mae ein ffrindiau yn Awstralia yn wynebu hyn yn dra gwahanol, fel I ni ddarganfod.Roedd yn rhaid I ni fynd ar fferi o gylch yr harbwr yn gyntaf. Oedd mi oedd fferi yng Ngharrog flynyddoedd yn ol. Mae’n bosib gyrru ar draws, ond fe aethom ar y bont gyda ymwelwyr eraill er mwyn cymharu’r profiad a chroesi’r bont yma.

Roedd yn rhaid bwcio a thalu o flaen llaw gan gyrraedd ar amser penodedig, ac yna aros mewn grwpiau o ddeg mewn ‘stafell’ fechan cyn croesi. Does dim gofyn am hyfforddiant mewn diogelwch er mwyn croesi pont Carrog, dim ond gobeithio y bydd gyrrwyr yn rhoi digon o amser I ni frysio I mewn I’r cilfannau heb bwyso gormod dros y wal. Mae Pont Harbwr Sydney yn stori wahanol.

Ar ol cael ein arholi am ein iechyd cawsom brawf anadl - (am 2 o’r gloch ar brynhawn Gwener). Ar ol hyn roedd yn rhaid gwagu ein pocedi a gwisgo rhywbeth a oedd yn debyg I ‘babygro’ llwyd anferthol, cyn clipio siaced, het, scarff, menyg, lamp pen, radio, chlustffonau a hances boced atom. Gan edrych fel rhywbeth o blaned arall, roedd yn rhaid dangos ein bod yn gallu dringo ysgol fetel cyn pasio I groesi’r bont. O’r diwedd cawsom ein clipio at raff ddiogelwch hyd nes I ni ddychwelyd.

Nid oedd yn waith called wrth ddringo ond roedd yrolygfa o’n blaen yn werth ei gweld. Roedd yr haul yn machlud wrth I ni ddringo a chroesi’r ‘catwalk’ cyn croesi I weld y ddinas yn goleuo ar noson o aeaf (Gorffennaf). Cawsom gyfle I dynnu lluniau, a csafwyd esboniad radio gan ein arweinydd , yn disgrifio’r bont a’r golygfeydd. Cymerodd hyn I gyd o gwmpas 3 awr a hanner erbyn I ni gyrraedd yn ol a dad-wisgo.

Roedd meedwl am gael dirwy am fod yn hwyr yn ol a methu’r ‘Early Doors club’ wedi diflannu.

Yn 134m o daldra a 1149m o hyd, mae Pont Harbwr Sydney yn sicr yn fwy na phont Carrog. Ac yn 52,800 tunell mae’n llawer trymach. Mae pont Carrog fodd bynnag yn hyn, wedi ei hadeiladu yn 1661 mae’n 270 mlynedd yn hyn, ac os wnawn ni edrych ar ei hol a’I thrin gyda pharch mae’n siwr o fod yma am flynyddoedd I ddod.

Cafodd y ddwy bont eu hadeiladu I‘r un pwrpas - I gysylltu dwy ran o’r un gymuned sydd wedi ei gwahanu gan ddwr.

Ian and Bronwen Lebbon

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Gwyl Cofio Glyndwr

Cynhelir Gwyl Cofio Glyndwr yng Nghorwen a Charrog ar y 17eg a’r 18eg o Fedi. Bydd o ddeutu 20 o ddawnswyr ‘Manx’ a cherddorwyr a 8 o Lydawyr yn mynychu. Bydd Llydawyr yn chwarae ar Sgwar Corwen a Nos Wener cyn I bopeth symud I Garrog am noson o gerddoriaeth a dawnsio yn y Neuadd gyda bar a BBQ. Nid yw’r mynediad o £2 yn cynnwys y BBQ. Ddydd Sadwrn bydd dawnsio ‘Manx’ yng Nghorwen gyda gweithdy ar gyfer plant ac oedolion. Yn ystod yr hwyr bydd cyflwyniad o ddagr I’r Cyngor Lleol a drama fer am Glyndwr I ddilyn. Bydd cerddoriaeth gan grwpiau Cymreig, Bretoneg a Manx gyda bar a luniaeth ysgafn. Mynediad am ddim. Dewch I gefnogi os y medrwch gan mai gwyl I bobl leol yw hwn wedi’r cwbl.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ennillwyr Loteri’r Neuadd

1af - Mr a Mrs Paul Fisher - £20
2il - Mr a Mrs Dave ‘Manweb’ Jones - £10

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* Hen Carrog

Cafwyd y llun hwn gab Edgar Jones a gafodd ei dynnu tua 80 mlynedd yn ol. A ydych yn adnabod y bobl ynddo?

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Neuadd

Cynhaliwyd cyfarfod ar Ddydd Llun 16eg o Awst.

Mae’r Swyddfa Bost yn debygol o ddefnyddio’r Neuadd am dipyn a bydd gofyn newid clo’r drws gan nad oes rhest penodedig o allweddi mwyach gan fod copiau wedi eu gwneud.

Codi tal am logi’r Neuadd - Bydd rhestr newydd yn gael ei benderfynnu yn fuan.

Adroddiad Trysorydd - Rhoddwyd esboniad o’r sefyllfa ariannol a cafwyd £100 gan y ‘Grouse’.

Llenni - Mae’r defnydd wedi ei brynnu ac wedi ei yrru I gael triniaeth tan.

Ceir rhest copi llawn o‘r nodiadau gan yr Ysgrifennyddes Janice sheasby os y mynnir.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llongyfarchiadau

I Hawys, Merch Ian and Bronwen Lebbon, a Matthew, mab Linda Pierce Dinbych ar ei dyweddiad.

I Bebbie Davies a John Forward o 2 Tai Teg, Llidiart y Parc ar ei priodas yn Llwyn Onn, Wrecsam ar dydd Gwener Aust.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Weli’s a Berfa

A’r cynhaeaf wedi gorffen death yr amser I lanhau’r peiriannau a’I rhoi yn eu gwlau am flwyddyn unwaith eto. Jobyn hanfodol mae arna’I ofn. Felly yng nghanol storm yr wythnos ddiwetha’ fe ddechreuais arni.

Ni ddylai hyn fod wedi cymryd gormod o amser ond fel ac y mae pethau yma yn ‘Llan Farm’ fe aeth pethau o chwith. Fe aeth yr ‘haybob’ a’r ‘centipede’ heb drafferth ond cefais fwy o drafferth gyda’r belar. Er mwyn clirio gwair a oedd wedi mynd yn sownd fe ddringais I mewn iddo. Fe ddaeth y gwair yn rhydd ond yn anffodus sylweddolais fy mod I’n sownd.Rwy’n un sy’n credu’n gryf mewn ‘panicio’ gyntaf a meddwl wedyn, felly ar ol cicio a straffaglu fe aeth fy nhroed yn sownd hefyd. Llwyddais I dynnu fy esgid a rhyddhau fy nhroed cyn tynnu fy melt a rhyddhau fy hyn. Efallai y byddai’n syniad da cario ffon symudol gyda mi o hyn ymlaen.

Fe aeth y tarew yn ol dipyn yn gynharach na’r disgwyl. Ar ol hel y gwartheg a throi’r tarw tua’r cae cefais sioc wrth weld y tarw’n dod ar ras wrth edrych am ei ‘harem’. Nid oedd am gael wahanu o’r marched a doeddwn I ddim yn hapus iawn am ei driniaeth o ddrws y sied. Mae’r wyn wedi eu diddyfnu ac wedi mynd I dir gwell a’r defaid wedi mynd I dir uchel. Rwyf wedi sortio’r defaid I weld pa rai fydd yn aros yn fy nghwmni am flwyddyn arall ac wedi trimio eu traed.

O ganlyniad I’r tywydd erchyll dim ond un boncyff bach o redyn sydd wedi cael ei drin, a chan iddi lawio’n ofnadwy ar ol I mi orffen mae’n debyg I hyn fod yn wast o amser beth bynnag. Mae‘n debyg na ddylwn I roi ffydd yn y tywydd erbyn hyn.

Gareth Llan.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ocsiwn Elusen

Sadwrn, 16eg o Hydref ac mae angen mwy o eitemau o bob math. Mae’r dyddiad yn swnio’n bell I ffwrdd ond mae’n rhaid cynhyrchu’r catalog cyn ddiwedd Medi felly peidiwch a dileu rhoi gwybod I ni os oes gennych eitemau.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Materion Iechyd

Beth ydy ‘dafad’?

Mae gwenwyn ‘dafad’ yn effeithio ar y croen ac yn gwneud iddo dyfu’n gyflymach nag arfer a throi’n arw. Ceir ‘defaid’ fel arfer ar y dwylo, y traed, a’r wyneb, ond fe all ‘dafad’ dyfu yn unrhyw fan. Maen’t yn gwasgaru’n hawdd ac mae rhai bobl, yn enwedig plant yn fwy tueddol o’I dal. ‘Verucca’ yw dafad sy’n tyfu ar sawdl y troed. Mae’n tyfu I mewn I’r croen gan fod y droed yn gwasgu arno wrth gerdded. Bydd y system yn arfer gyda’r gwenwyn ar ol sbel ac mi fydd y ‘defaid’ yn diflannu. Gall hyn gymryd misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd, ond dyma ffordd y corf o ddelio gyda’r haint. Os ydych yn gadael iddynt ddiflannu fel hyn mae’n bosibl na chewch fwy ohonynt.

Sut I gael gwared o ‘ddafad’?

Mae dwy ffordd o gael gwared o ‘ddafad’, unai ei rhewi gyda ‘liquid nitrogen’ neu drwy defnyddio eli neu baent.

Eli neu baent.

Bob nos ar ol ymolchi neu wlychu’r croen er mwyn ei wneud yn feddal dylid:

 *  rwbio’r croen gwyn gyda ‘pumice’ neu ffeil fel bod yr hen groen yn cael ei symud cyn rhoi mwy o driniaeth.
 *  defnyddio baent neu eli o’r fferyllfa gan fod yn ofalus gyda’r croen o gwmpas y ddafad.
 *  defnyddio tap meddygol I sicrhau nad yw’r eli yn rwbio ar ddillad gwely y.b neu ddefnyddio eli megis ‘bazooka’.

Cofiwch -

Bydd angen parhau nes cyrraedd o dan lefel y croen o gwpas y ddafad er mwyn sicrhau nad yw’r ddafad yn dal yno. Stopiwch pan fo’r croen yn edrych yr un fath a chroen normal. Os yw’r dafad yn rhoi dolur neu’n gwaedu, gadewch y driniaeth am noson. Os yw ‘verruca’ yn boenus I gerdded arno, defnyddiwch plastar ‘corn’.

Triniaeth ‘liquid nitrogen’.

Ar gael o’r feddygfa. - Mae’r driniaeth yma yn gallu bod yn boenus, ac yn gallu achosi swigod ond yn gwella 50% o ddefaid ar ol un neu ddau driniaeth.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Sioe Haf Carrog

Ennillwyr Cwpan Crefft Sioe Haf Carrog

Adran Oedolion - Judith Blair
Adran Y Plant - Sioned Lois Roberts

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ysgol Carrog

Bydd Ysgol Carrog yn ail agor ar Ddydd Iau yr 2il o Fedi a rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn ysgol arall o weithgareddau a phrysurdeb yn Ysgol Carrog.

Croeso I’r Bwni’s newydd a fydd yn ymuno a’r dosbarth Meithrin - Sam Morris, Maddie Morris, Osian Roberts, Megan Jones, Francis Westbury, Joe Hilton, a Maisie Fenner. Croeso hefyd I’r rhai hynny a fdydd yn ymuno a’r Dosbarth Derbyn yn llawn amser - Bryn Smith, Julian Gonzales, Wezley Nash, Sam Hughes, Harry Smith-Hughes, Imogen Cussick , Imogen Ferneyhough, a Barra Liddy.

Bydd Chloe Jones, Blwyddyn 4 yn ymuno a ni Ysgol Ffridd y Llyn, croeso hefyd iddi hi.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Bore Goffi

Cynhelir Bore Goffi ym Mryn Teg ar Fore Mawrth 21ain o Fedi am 10.30 y.b. (y dyddiad I‘w gadarnhau)

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article