statcounter

       

Mehefin 2005 June

Weli’s a Berfa

Gan fod y mwyafrif o fy ngweithwyr wedi ymddeol ac yn mwynhau pensiwn o 365 bowlen o Pero y flwyddyn, penderfynais innau ei bod yn hen bryd imi ddod â gwaed newydd i’r busnes, ac felly i ffwrdd â fi i brynu ci bychan. Am wythnosau cyntaf ei fywyd o dan ei reolwr newydd Siôn oedd ei enw. Ond gan fod neb (gan gynnwys y ci bach ei hun) yn rhyw hoff o’r enw, dyma fi’n rhoi enw newydd arno - Henson-. Yr unig benbleth ydy, mae Siôn/Henson wedi drysu’n lân ac yn dioddef o ryw argyfwng hunaniaeth cwn.

Erbyn hyn, mae’ r tymor wyna wedi dod i ben, fwy neu lai, gydag ychydig yn unig o’r merched ar ôl. Mae gen i ryw deimlad ei bod nhw wedi deall po hiraf fydda nhw’n feichiog yna po fwyaf o fwyd y cân nhw, felly does dim brys o gwbl gyda’r gwaith. Yn anffodus iddyn nhw, pan fydd y bwyd yn gorffen fydda i ddim yn prynu mwy felly bydd rhaid iddyn nhw ddioddef bwyta’r glaswellt.

Gan fod Arwel Bach wedi’i fwcio i deilio roeddwn ni’n meddwl byddai’n syniad reit da i roi’r fforch deilio ar y lodar. Roeddwn i wedi treulio rhyw awr yn trio sythu’r dannedd oedd wedi plygu ac wedi prynu rhai newydd yn lle’r rhai oedd wedi plygu gormod, felly gyda’r holl ddannedd ar y lodar roeddwn i’n hollol ffyddiog byddai popeth yn gweithio’n wych.

Ar y diwrnod, daeth yn amlwg yn o fuan y byddai’n well imi ddysgu gyrru yn lle treulio’r amser yn trwsio’r dannedd. Gall unrhyw ffwl lwytho sbredar, dydy o ddim yn beth dyrys iawn, ond imi mae’n amhosibl. Nifer o weithiau roeddwn i wedi llwyddo gyrru’r tractor yn syth at y sbredar a bob rhyw ddau neu dri llwyth roeddwn i’n llwyddo methu’r sbredar yn gyfan gwbl a gollwng y tail ar y buarth. Dyma fi’n digwydd taro golwg ar Arwel- roedd yntau yn ei ddyblau. Dydw i ddim yn hollol sicr ai dagrau crio, chwerthin, neu anobaith oedd ganddo. Ond ar ôl dal ati am ychydig o ddyddiau roedd y jobyn wedi’i orffen.

Ac eithrio dwy, mae pob un o’r gwartheg wedi dod â llo ac wedi mynd allan i fwynhau’r haf. Mae’n dda gen i ddweud nad oedd angen fy noniau fel bydwraig eleni.

Gan nad oedd unrhyw arwydd o’r pasbort newydd i’r lloi yn y post dyma fi’n penderfynu ffonio Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain yn Workington i weld ble roedden nhw. Yn union pan atebodd y ffôn dyma fi’n adnabod y llais ar unwaith - llais Aled Jones. A dyma ni’n cael sgwrs am ryw ddeg munud a minnau’n rhoi’r newyddion lleol iddo. Dim ond ar ôl dweud “ta ra' gofiais i mod i heb ofyn am y pasborts!

Tyfu’n araf wnaeth y glaswellt oherwydd y tywydd oer eleni. Ond dydy hynny ddim fel petai’n effeithio ar yr ysgall a’r dail poethion a’r dail tafol, maen nhw’n ffynnu yn y Llan. Waeth faint fydda i’n chwistrellu’r caeau, dydyn nhw byth yn lân. Felly bydd unrhyw un sy’n cludo’r gwair eleni’n gorfod buddsoddi mewn pâr o fenig da.

Mae gen i deimlad bod y pwerau sy’n bodoli wedi cael fy enw i ynghlwm yn y cyfrifiadur ac yn methu’i ddileu. Yn ystod y chwe mis olaf daeth DEFRA i archwilio’r tagiau gwartheg a’r pasborts, Safonau Marchnata’n archwilio Cofnodion Symud yr anifeiliaid, Asiantaeth yr Amgylchedd yn ffansio diwrnod allan o’r swyddfa’n i edrych ar y dip defaid a’r cyfleusterau gwaredu dip, ac ar ben y cyfan i gyd daeth y fet o’r cynllun yswiriant ffermydd i archwilio popeth oedd heb gael ei archwilio. Gan fod popeth fel y dylai fod dwi’n gobeithio na wela i neb am amser hir eto.

Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 19 digwyddodd rhywbeth rhyfeddol – Cymru’n ennill y Gamp Fawr a minnau’n gosod dau ddrws sleidio ar y sied i orffen y gwaith o’r diwedd. Roeddwn yn ystyried torri potel o siampaen yn erbyn y sied i’w hagor yn swyddogol, ond meddwl hwyrach byddai hynny’n niweidio’r paent.

Gareth Llan
© Gareth Bryan - 2004

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.