statcounter

       

Gorffannef/Awst 2005 July/August


Weli’s a Berfa

Mae cneifio’n waith caled dros ben. Rydw i’n dueddol o’i osgoi cyn hired â phosib yn y gobaith bydd y defaid yn haws eu cneifio yn nes ymlaen.

Gan fod y rhan fwyaf o ddefaid y cymdogion wedi cael torri’u gwalltiau’n fyr, dyma fi’n penderfynu gwneud yr ymdrech i ddechrau arni. Felly aeth Gareth Blondie a finnau i dreulio un prynhawn ddigon didrafferth yn cneifio diadell fechan o ddefaid yng Nghae Pwll. A dweud y gwir, yr hyn a ddigwyddodd oedd bod Blondie wedi casglu’r cae ac wedi gorffen cyn imi gyrraedd, felly fues i’n ei helpio i bacio. Dim ond meddwl y dylwn i sôn roeddwn i.

Yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd byddaf yn gorfod cneifio yn fy nghorlannau yn Erw Seion ac yn cael fy llosgi yn yr haul, ond roedd mwy o le eleni felly mi benderfynais gneifio o dan do. Ar ôl treulio dipyn o amser yn codi corlan yn y sied fe wnes i ddrws ar sbring i gael y mamogiaid allan. Ges i afael ar waelod hen sied gardd i gneifio arno a rhoi siafins coed ( gan Brian Tawelfa) ar y llawr i gadw’r defaid yn lân. Roedd yn edrych yn reit broffesiynol ar y cyfan ac roeddwn ni’n ffyddiog byddai popeth yn mynd yn dda.

Ar ôl gwahanu 50 o famogiaid oddi wrth eu hŵyn mi ddos i â nhw o’u corlannau i’r gadlas heb fawr o drafferth er nad oedden nhw’n ryw hapus iawn o orfod gadael yr wyn ar ôl, ac roedden nhw’n torri’n rhydd i fynd atyn nhw. Erbyn ces i’r defaid i’r sied ac yn barod i gychwyn mi gafodd y cŵn a finnau ddiffyg mawr mewn hiwmor.

Ar ôl cael ail-wynt, mi wisgais i’r mocasins a’r fest gneifio ( rhaid iti edrych y rhan), tynhau’r belt o dwll neu ddau, neidio i’r gorlan a chydio mewn dafad. Mi wnes iddi eistedd, codi’r gwellaif, tynnu’r cortyn a ¡­¡­ddigwyddodd dim byd. Roeddwn wedi anghofio troi’r trydan ymlaen. Unwaith fydda i’n mynd i’r arferiad o gneifio, dydy o ddim yn rhy ddrwg, dim ond mater o arfer sy wedyn.

Cydio mewn dafad, ei chneifio, pitsio, gollwng, lapio’r gwlân ac ailadrodd popeth nes (a) fydd yr holl ddefaid wedi’u cneifio neu (b) rwyt ti wedi syrthio o flinder.

Yr unig broblem mewn gwirionedd ydy - ar ôl clirio rhai o’r corlannau, mae’r drefn yn newid ychydig. Hercian o gwmpas y gorlan mor gyflym â mae dy gefn poenus yn caniat¨¢u a thrio dal dafad gan ei llusgo o gornel bellaf y gorlan lle rwyt ti’n gallu ei dal o’r diwedd. Cneifio, pitsio, gollwng, lapio gwlân, gweddi gyflym a dechrau o’r dechrau eto (mae wylo’n ddewisol). Mae’n dda gen i ddweud fod y cneifio wedi gorffen erbyn hyn, ac ar wahân i ychydig o friwiau ar y bysedd a thwll gwynt newydd yn fy nghlos, fe aeth popeth yn weddol dda.

Es i â’r wyn cyntaf i Gorwen yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn weddol fodlon ar y pris - nes i rywun ddigwydd sôn baswn i wedi gwneud £6 y pen yn fwy yr wythnos gynt!

Pan fydda i’n edrych beth mae’r cymdogion yn ei wneud, mae’n debyg mai fi ydy’r un olaf i orffen popeth bob tro, rhywbeth mae fy ffrindiau wedi bod yn dweud wrthyf ers tro. Pan fydda i wrthi’n trin cynffonnau mae pawb yn dipio a phan fydda i’n dipio mae pawb yn y cynhaeaf. Mae eglurhad digon syml am hyn. Pan fydd pawb arall yn dilyn Amser Haf Prydain mi fydda i’n dilyn amser Llan. Hwyrach ei fod yn arafach nag Amser Haf Prydain, ond cyrraedd rydyn ni yn y diwedd!

Gareth Llan.
(© Gareth Bryan 2005)

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.