statcounter

       

Rhagfyr 2005

MATERION TAI

Rai misoedd yn ôl, gwnaeth Cyngor y Gymuned gais am i Gyngor Sir Ddinbych ddefnyddio’u pwerau i dacluso’r ardal ar ben Rhes Glyndur er mwyn gwella mwynderau’r pentref a safle hanesyddol y Carchardy. Rydym wedi cael ar ddeall eu bod am fynd gam ymhellach na hyn a’u bod yn arwyddo gorchymyn gorfodaeth i ddymchwel un o’r tai. Dylid cofio mai’r Cyngor Sir a dynnodd y to oddi ar y tw pen rai blynyddoedd yn ôl gan, yn ôl pob tebyg, olygu ei fod wedi dirywio’n raddol a bod hyn wedi effeithio ar y tai o’i gwmpas.

Mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fo’r un cyngor wedi dynodi prinder tai y gellir eu fforddio mewn cymunedau gwledig fel hon. Efallai bod llawer yn ein plith a fyddai’n croesawu’r syniad o fyw mewn bwthyn o’r fath petai modd ei adfer, ac mae’n sicr bod modd gwneud hynny. Yn bendant dyma beth ddylid ei wneud yn gyntaf, nid eu dymchwel a chreu hagrwch gwaeth a fyddai’n cael effaith andwyol ar yr eiddo o’i gwmpas.

Mae’n ymddangos nad yw hyn yn enghraifft dda o ‘lywodraeth gysylltiedig’ yr ydym ar hyn o bryd i fod i elwa ohono!

© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.