Rhagfyr 2005
Roedd dydd Gwener, 18 Tachwedd yn ddiwrnod heb wisg ysgol i godi pres i Blant mewn Angen. Yn ystod egwyl y bore, prynwyd y bisgedi Pudsey a wnaeth Aunti Yvonne. Cynhaliodd y Clwb ar ’l Ysgol noson fideo a mwynhau creision a diod. Codwyd cyfanswm o £91 yn ystod y diwrnod.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu’r plant wrthi’n casglu ac yn prynu eitemau i’w rhoi mewn bocsys esgidiau ar gyfer Ymgyrch Plentyn y Nadolig. Mrs. Marion Roberts sy’n casglu’r bocsys o’r ysgol bob blwyddyn a’u cymryd i’r ganolfan yn Wrecsam. Eleni, casglwyd 42 o flychau a fydd yn gwneud 42 o blant yn hapus mewn rhannau eraill o’r byd. Bu’r ysgol gynradd yn mwynhau diwrnod yn y ganolfan dechnoleg yn Ninbych gan gwblhau’u hymchwil i olau a sain. Yn y prynhawn, cawsant daith o gwmpas Castell Dinbych gyda Fiona Gale, Archeolegydd Sir Ddinbych, a darganfod ffynhonnau a thyllau diddorol ym muriau’r castell.
Bu Emily, Elisha, Lewis a Tom i gyd yn llwyddiannus yn y Gwobrau Nofio Camp Un a bu Laura, Oliver, Chloe a Callum yn llwyddiannus yng Nghamp Dau.
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.