statcounter

       

Rhagfyr 2005

MATERION IECHYD RHAGFYR 05

8 Cyngor am Nadolig Iach

1. Annwyd y Nadolig
Adeg wych i rannu’ch germau yw’r Nadolig! Os oes annwyd arnoch chi, ceisiwch fod yn gyfrifol ac osgoi mynd yn rhy agos i bobl eraill. Peidiwch â chusanu pobl o dan yr uchelwydd ar ôl parti’r swyddfa!

2. Osgoi Straen
Gall y Nadolig fod yn adeg o straen. Os yw’r teulu’n eich gyrru’n wallgof yna peidiwch ag ymuno, ewch ar wyliau i ddianc neu trefnwch Nadolig tawel gartref i chi yn unig. Mae rhai pobl yn cael y Nadolig yn amser digalon iawn o’r flwyddyn, os rydych chi neu rywun agos atoch chi’n teimlo’n ddifrifol isel cofiwch beidio â chadw pethau ichi’ch hunan ond siaradwch gyda’ch meddyg teulu neu’r Samaritans www.samaritans.org. Os bydd y Nadolig yn drychineb, cofiwch mai dau ddiwrnod yn unig fydd o a dylech feddwl am y flwyddyn newydd sydd o’ch blaen.

3. Osgoi effaith alcohol
I lawer o bobl mae’r Nadolig yn golygu yfed diodydd alcohol. Gall alcohol fod yn llesol ichi, gan helpu pobl i ymlacio, gall ychydig ohono ysgogi’r sudd treulio a llifeiriant y gwaed i’r iau, a’ch helpu chi i dreulio gwledd y Nadolig. Os rydych chi am leihau’r posibilrwydd o gael pen mawr, dyma ychydig o gyngor. Mae gan y gwirodydd tywyll, melys fwy o ‘r moleciwlau cymhleth sy’n achosi syched, cur pen, blinder, cyfog, cryndod ac edifeirwch sy’n nodweddiadol o ben mawr nag sydd gan y diodydd golau, clir. Mae chwisgi, er enghraifft, yn achosi ddwywaith mwy o symptomau pen mawr na’r un faint o fodca. Mae’r gwirodydd rhatach yn waeth, yn enwedig sieri - felly gwariwch eich pres!

4. Os oes pen mawr arnoch....
Yfwch ddigonedd o hylif i wrthweithio tueddiad alcohol i’ch sychu. Ceisiwch yfed ddwywaith mwy o ddu’r na’r alcohol rydych wedi’i yfed. Bwytwch rywbeth sydd â siwgr ynddo i wrthweithio lefelau isel o siwgr yn y gwaed (dyma beth sy’n eich gwneud i deimlo’n gyfoglyd yn y bore). Dewiswch eich hoff dabled atal poen, cymerwch ofal o Asbirin gan ei fod yn effeithio ar y stumog, ac Iboprofen hefyd i raddau llai. Cymerwch ffisig camdreuliad sy’n cynnwys alinate (sy’n creu leinin i’r stumog) Gall Fitamin c a fitamin B fod o gymorth hefyd.

5. Peidiwch â bwyta gormod
Os digwydd ichi gael camdreuliad (llid leinin y stumog), yna peidiwch â mynd heb brydau bwyd. Bwytwch yn rheolaidd ac osgoi bwydydd sy’n uchel mewn braster. Dewiswch brydau bach am ddiwrnod neu ddau a pheidiwch â gorfwyta. Yfwch ddigon o ddur gyda’ch bwyd. Peidiwch â bwyta yn yr oriau cyn ichi noswylio. Cymerwch ofal o fwyd poeth a adawyd mewn ystafell boeth am gyfnod hir, yn enwedig bwyd m’r, cyw a bwydydd sy’n cynnwys mayonnaise. Byddwch yn westai cyfrifol. Does ar neb eisiau rhoi gwenwyn bwyd i’r gwesteion.

6. Diogelwch yn y gegin
Mae pawb yn cael gormod o fwyd i mewn yn ystod Tymor y Nadolig, gan orlenwi’r oergell a’r rhewgell. Gall hyn olygu nad yw’r bwyd yn cael ei gadw’n ddigon oer i rwystro’r bacteria rhag lledu. Os yw eich oergell yn llawn i’r ymylon, trowch o i’r rhif uchaf. Os rydych yn llosgi eich hunan, rhowch y rhan a losgwyd mewn dur oer iawn ar unwaith am o leiaf 10 munud. Rhowch ‘haenen lynu’ drosto. Os daw swigen fawr neu os bydd haen uchaf y croen wedi’i golli dylech gael cyngor meddygol.

7. Ffitrwydd yn y gaeaf
Ceisiwch fynd am dro cyflym bob dydd, gall hyn helpu i rwystro iselder y gaeaf.

8. Diogelwch y Goeden Nadolig
Bob blwyddyn mae tua 1000 o ddamweiniau’n digwydd oherwydd Coed Nadolig a goleuadau. Mae trydaneiddio, syrthio oddi ar ysgolion, a niwed i’r llygaid oherwydd ganghennau’n ffyrdd cyffredin o gael niwed. Peidiwch â mentro na chymryd y ffordd agosaf ............ a chofiwch fod yn ofalus dros ben yn ymyl simneiau!

Sian Dolben.

© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.