statcounter

       

Chwefror 2006

URDD GOBAITH CYMRU

Sefydlwyd yr Urdd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owain Edwards yn fudiad ar gyfer pobl ifanc Cymru. Yn ei flwyddyn gyntaf roedd yr aelodaeth dros 700 mewn aelwydydd gwahanol drwy’r wlad ac erbyn 1925 roedd yr Urdd yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Er ei bod yn gynnar yn hanes y radio, fe ddarlledwyd Neges Heddwch ac Ewyllys da oddi wrth Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y Byd. Pery’r traddodiad hwn hyd heddiw.

Ers y dechrau bu’r mudiad yn annog pobl ifanc i deithio ac i gyfarfod â phobl eraill. Mae ganddynt dair o ganolfannau preswyl parhaol yn y Bala, Llangrannog a Chaerdydd sy’n cynnig nifer fawr o weithgareddau hamdden a chwaraeon ac sydd ar gael i dros 50,000 o aelodau o 8 i 25 mlwydd oed.

Mae gan yr Urdd gysylltiadau cryf gyda’n hardal ni. Yn 1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen. Mae lle pwysig gan yr Eisteddfod yng nghalendr yr Urdd, dyma penllanw cyfres o eisteddfodau lleol a rhanbarthol pan fydd aelodau’n cystadlu am y fraint o ‘gael llwyfan’.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw Guŵy Ieuenctid fwyaf Ewrop a’r unig un o’i bath yn y byd. Mae mwy na 460 o gystadlaethau, ac er mai’r Gymraeg yw’r iaith swyddogol darperir yn gyfartal ar gyfer y rhai Di-Gymraeg hefyd.

Mae’r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Crefftau, Y Pafiliwn Roc a Dysgwyr ynghyd â 150 o stondinau gwahanol, cyngherddau a chystadlaethau yn cyfrannu at y chwe diwrnod o adloniant. Bydd yr Eisteddfod yn symud o’r De i’r Gogledd bob yn ail ac eleni caiff ei chynnal yn Rhuthun ar ddiwedd mis Mai. Er mwyn cynorthwyo gyda’r costau sylweddol sy’n ymwneud â chynnal yr Eisteddfod mae’r pwyllgorau codi arian lleol wedi gosod targedau ac eleni gofynnwyd i Gorwen , Carrog a Glyndyfrdwy godi £7,000.


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.