statcounter

       

Chwefror 2006

WELI’S a BERFA

Weli’s a Berfa

Yn Ionawr cynhaliwyd Ocsiwn Addewidion yn y Neuadd gan godi dros £3,060 tuag at y targed. Diolch o galon i bawb a fu’n cefnogi’r achos drwy drefnu noson, cyfrannu addewidion, mynychu’r ocsiwn neu fidio am y nifer fawr o eitemau. Richard Jones, Arwerthwr Corwen, oedd yn llywyddu ac yn ei ddull dihafal ei hunan fe ofalodd na chollwyd unrhyw fid o gwbl a bod popeth wedi cyrraedd ei werth.

Ar ôl treulio awr neu ddwy rwystredig dros ben yn ceisio symud defaid gyda help Henson y ci rhyfeddol - dw i ddim yn meddwl! - dyma fi’n penderfynu cael cyngor ynglŵn â hyfforddi cuŵn. Trefnais gyfarfod â John Dyke (bugail oedd yn arfer gweithio yn Rhug) er mwyn iddo allu esbonio beth roeddwn i’n ei wneud o’i le wrth drin Henson.

Trefnu cyfarfod fore dydd Sul felly, ac ar ôl gollwng Henson oddi ar ei dennyn, treulio deg munud i’w gael i ddod yn ei ôl o ben pella’r cae lle roedd wedi cornelu’r defaid a gwrthod eu rhyddhau. Pan ddaeth yn ei ôl yn y diwedd penderfynodd John geisio drosto’i hun. Y tro hwn doedd Henson ddim am drafferthu rhedeg ar ôl yr holl ddefaid, ond mynnai ddewis un ddafad a’i rhedeg i fyny ac i lawr y cae. Ar ôl llwyddo cael Henson yn ôl a’i roi yn y Landrofer penderfynodd John mai digon yw digon a’i bod yn heb bryd dangos campau ei ast (chwaer gyfan i Henson). Dim ond un chwiban oedd angen ac roedd hithau’n rhedeg i ben pellaf y cae, hel y defaid, a dod a nhw’n ôl yn dawel i ble roeddem ni’n sefyll. Pan roedd y defaid wrth ein traed, chwibanodd John eto ac yna fe newidiodd hi ei chyfeiriad a mynd â’r defaid i’r giât. Chwiban arall a gorweddodd i lawr yn disgwyl inni agor y giât i ollwng y defaid i mewn i’r cae nesaf.

Yn ddiweddarach y dydd hwnnw roeddwn wedi argyhoeddi fy hun fy mod wedi prynu ci mwyaf dwl y dorllwyth, ac wedi digalonni’n fwy gyda Henson nag roeddwn cyn cychwyn y sesiwn hyfforddi. Ers hynny, gwnaed ychydig o gynnydd, diolch fyth, er ei fod yn dal yn draul ar fy amynedd bob dydd, yn wir bob awr weithiau.

Gydol fisoedd y gaeaf mae cyflymdra’r ffermio’n arafu a’r prif waith ydy bwydo’r anifeiliaid. Mae hyn yn golygu bod amser ar gael i wneud y cynnal a’r cadw, yn enwedig yn Llan. Ar un adeg rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd roedd tri o dractorau gennym yn cael eu trwsio - doedd pethau ddim yn rhy dda. Ond gan ddefnyddio peth crebwyll peirianyddol, tipyn o lwc, andros o forthwyl mawr a llwyth o’r iaith anweddus roeddwn wedi llwyddo’u trwsio a’u cael yn ôl ar y ffordd.

Cafodd y mamogiaid eu sganio dros y Nadolig a’u didoli ar gyfer y tymor wyna. Ar y cyfan, mae golwg bur dda arnyn nhw er fy mod wedi sylwi nifer yn colli graen yn ystod yr wythnos diwethaf. Dw i’n cymryd mai’r mamogiaid hynaf ydy’r rhain ac y dylwn fod wedi’u difa ar ddiwedd yr haf. Wnes i ddim am fy mod i’n meddwl gwasgu blwyddyn arall ohonyn nhw.

Mae hi wastad yr un fath - ar ddiwedd yr haf mae golwg reit da arnyn nhw, dw i’n eu cadw ac os ydyn nhw’n llwyddo beichiogi mae’n costio ffortiwn i’w bwydo ac yn y diwedd dim ond oen bach maint gerbil maen nhw’n ei gynhyrchu a hwnnw’n gorfod cael ei fwydo gen i am nad oes gan ei fam lefrith iddo.

Dw i’n gwybod mai ffordd negyddol o feddwl ydy hyn ond dw i wedi bod yn gweithio gyda defaid ers blynyddoedd ac wedi deall o’r diwedd eu bod yn treulio’u hoes yn meddwl am ryw ffordd i siomi’r bugail pan ddaw hi’n adeg wyna. Pan rydych chi’n ffyddiog eich bod wedi gweld pob trychineb posib dyma un arall yn digwydd i’ch cadw ar flaenau’ch traed.

Gareth Llan
© Copyright Gareth Bryan 2006


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.