statcounter

       

Chwefror 2006

HANESION GLANNAU’R AFON

Roeddwn wrthi’n defnyddio fy hen archwilydd metalau yng ngardd Dewis Dyddyn gan ddod o hyd i lawer o’r pethau arferol fel nobiau a fframiau gwelyau a hen bethau rhydlyd eraill pan ddechreuais feddwl am sut y dysgais i ddefnyddio’r peiriant hwn.

Yn 1972 cefais fy nerbyn i’r heddlu ac roedd gennyf dri mis yn rhydd cyn dechrau ar yr hyfforddiant. Gan fod gen i awydd gwella fy sgiliau iaith dyma fi’n penderfynu cael swydd yn yr Almaen. Gyda help cyfaill oedd yn byw yn ardal hardd Eifel cefais waith yn y pyllau ac roedd y swydd ar gael ar unwaith. Wrth imi ymadael roedd darlun gen i yn fy meddwl am weithio o dan y ddaear.

Yn y cyfarfod cyntaf gyda fy rheolwr cefais fy siomi pan roddodd nifer o lyfrau yn yr iaith Saesneg imi oedd yn son am sut i adnabod a thrin bomiau a ffrwydrau Prydain ac America. Mae’n swnio’n annhebygol ond roeddynt yn tybio y byddai darllen y llyfrau hyn yn fy ngwneud i’n rhywfaint o arbenigwr yn y maes.

Bu ymladd trwm yn yr ardal hon ar ffiniau’r Almaen yn ystod y ddau Ryfel Byd ac nid oedd modd torri coed mewn llawer o goedwigoedd oedd yn barod ar gyfer eu torri am fod nifer fawr o ffrwydrau rhyfel yn dal yma. Roedd ein gwaith ni’n golygu bod rhaid marcio llwybrau hir drwy’r coedwigoedd a’u hysgubo’n systematig i chwilio am yr holl wrthrychau metal. Roeddem yn gweithio fesul dau gydag un ohonom yn defnyddio’r peiriant archwilio a’r llall yn cloddio gyda rhyw arf tebyg i fatog. Mae hyn i gyd yn swnio’n amrwd, ond gyda phrofiad daeth yn arf sensitif gan ganiat¨¢u tynnu llawer neu ychydig o bridd yn ôl y galw. Am y rhan fwyaf o’r amser roeddem yn codi shrapnel, casys bomiau a bwledi ac arfau bach fel greneds bach oedd heb ffrwydro ac weithiau casys o ffrwydron gyda’r beltiau gynau yn dal mewn iraid.

Dro arall, daethom o hyd i danc Prydeinig cyfan oedd wedi suddo i gors, a lansiwr greneds (yn dal i weithio), bomiau mawr iawn ac - yn drist iawn- nifer fawr o gyrff pobl. Roedd y cyrff yn ysgerbydau cyfan weithiau gyda darnau o iwnifform arnynt, a thro arall roedd nifer o esgyrn mewn darnau. Un diwrnod sy’n aros yn fy nghof oedd pan

ddaethom ar draws milwr mewn ffos gyda’i helmed dur yn dal ar ei ben. Y tu mewn i’w helmet, yn dal yn weladwy, roedd twll ac yn ei ben roedd twll oedd yn cyfateb iddo gyda’r darn shrapnel a’i laddodd yn dal ynddo. Waeth i ba genedl roeddynt yn perthyn cafodd y gweddillion eu trin gyda pharch mawr a’u cymryd i geisio’u hadnabod ac yna i’w claddu.

Roedd yn dda gen i glywed na chafodd neb eu lladd wrth wneud y gwaith ers tair blynedd ar ddeg. Nid oedd neb yn gwerthfawrogi pan ddywedais pa mor lwcus roedd hynny.

Ar un achlysur yn unig bu angen defnyddio fy sgiliau i adnabod ffrwydron. Roedd un model arbennig (Americanaidd, tybiaf i ) yn achosi peth braw. Roedd iddo gaead a hinj gan edrych fel hen stof Primus, roedd hwn yn troi drosodd ar ôl cael ei sathru gan adael i grened saethu hyd uchder fforch y goes cyn ffrwydro. Fy mhartner oedd yn defnyddio’r detector ac ar ôl codi shrapnel bomiau drwy’r dydd roedd yn ddi-hid gyda’r fatog pan welais gaead fel stof Primus yn troi drosodd. Rhedodd y ddau ohonom i lawr ochr y mynydd mewn 2 eiliad gan edrych ar ein gilydd wrth inni’n dau sylweddoli bod dianc hyd yn oed mor gyflym â hyn yn dda i ddim petai am ffrwydro. Gyda’n cydweithwyr yn edrych arnom gyda difyrrwch daethom yn ôl i godi’r stof Primus yn ofalus, er nad oedd angen.

Ar ôl inni ddatgan fod rhyw ardal yn ddiogel byddai’r coedwigwyr yn symud i mewn i ddechrau torri’r coed a ninnau fel teithwyr modern gyda rhes o gytiau, cerbydau, a phobl yn symud i’r ardal nesaf i’w glirio.

Ar ôl ymuno a’r Heddlu manteisiais mewn dwy ffordd o’r profiad - yn y lle cyntaf cefais ychwaneg o dâl am fy mod yn gallu siarad Almaeneg ac yn ail, am rai blynyddoedd, fi oedd yr un oedd yn cael ei anfon ar gyrsiau bomiau.


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.