statcounter

       

Mawrth 2006

ATGOFION GLAN YR AFON

Wrth losgi tomen o doriadau’r ardd cofiais am fy swydd gyntaf yng ngwyliau’r ysgol. Es i weithio mewn parc lleol. Roedd gwarchodwr y parc yn ddyn oedd yn edrych yn hen i mi, ond oedd mae’n debyg yn ei ugeiniau hwyr. Ei enw oedd Ray ac roedd iddo bryd a gwedd anghyffredin am fod ganddo orchudd du dros ei lygad dde ac roedd yn gwisgo maneg ledr ddu ar ei law chwith a het wlân ar ei ben ar bob tywydd. Dywedodd iddo gael damwain pan roedd yn iau ond nid oedd am siarad amdano ac nid oeddwn am ei wthio i egluro.

Roedd swp mawr o doriadau wedi crynhoi o gwmpas y cwt gan gyrraedd uchder o tua 20 troedfedd ar draws. Un diwrnod poeth o haf penderfynodd bod y domen yn ddigon sych i’w llosgi. Wrth imi ei wylio o ddrws y cwt tywalltodd bum galwyn o betrol dros y domen cyn dod yn ei ôl i sefyll yn y drws efo fi.

Roedd Ray yn trin bywyd yn hamddenol iawn gan ddweud y drefn wrthyf yn aml am weithio’n rhy galed, felly nid oedd mewn brys i gynnau’r tan a dyna ble roeddem yn sgwrsio am dipyn o amser. O’r diwedd, cerddodd tua’r swp gyda bocs o fatsis yn ei law ac ychydig o gamau o’r domen fe daniodd fatsien gan fwriadu ei thaflu ar y domen. Ond wrth i’w law ddod ymlaen daeth fflam ac ar yr un pryd sun wwmph ac aeth y swp o doriadau mewn fflamau tua’r awyr. Neidiais yn ôl i’r cwt gan weld Ray yn sefyll yn ei unfan mewn sioc wrth i’r toriadau lawio’n gawod ar ei ben. Am y tro cyntaf erioed gwelais Ray heb ei gap gwlân. Doedd dim anaf o gwbl arno ond nid oedd angen imi holi pa fath o ddamwain gafodd pan roedd yn iau.


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.