statcounter

       

Ebrill 2006

O Lan yr Afon

“Systemau mordwyo lloeren yn dinistrio ein cymunedau gwledig’” dyna oedd neges nifer o erthyglau mewn papurau newydd y mis hwn. Mae nifer cynyddol o gwynion oddi wrth y cymunedau gwledig ynghylch gyrwyr loriau mawr sy’n dilyn y systemau mordwyo hyn heb feddwl. Mae’r systemau’n eu gyrru ar y ffyrdd byrraf. O’r herwydd, daeth nifer o wagenni mawr ar ffyrdd oedd yn rhy gul a throellog o lawer iddynt gan ddod i drafferthion ac achosi tagfa draffig a llawer o helynt i bobl leol. Mae effaith hyn mor fawr mewn rhai ardaloedd nes iddynt alw am dynnu’r ffyrdd bach oddi ar y mapiau a ddefnyddir gan y systemau hyn. Ddwywaith o leiaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu loriau mawr yn achosi rhwystr ar ffyrdd yn ardal Carrog. Y tro cyntaf, bu lori anferth yn aros y tu allan i Dewis Dyddyn gan ollwng gwynt o’r breciau cryfion. Roedd y cerbyd yn llenwi’r ffordd yn gyfan gwbl gan rwystro’r holl draffig ac eithrio cerddwyr a beicwyr. Almaenwr oedd y gyrrwr â nwyddau ganddo ar gyfer y stâd ddiwydiannol yng Nghorwen. Roedd y cwmni roedd y gyrrwr yn gweithio iddynt wedi rhoi cyfesuryn GPS iddo, nid ar gyfer Ystâd Llidiart ond ar gyfer Llidiart y Parc ar hyd y ffordd gefn.

Sylweddolodd yn fuan iawn na all ei lori, oherwydd y pwysau a’r hyd groesi’r bont. Roedd hefyd yn amheus ynghylch mynd ymlaen ar hyd ffordd Ty Nant tua Glyndyfrdwy. Cytunais innau na allai cerbyd mor fawr deithio ar y troeon cul. Roeddem yn anghywir yn hyn, ond adroddaf yr hanes hwnnw eto.

Gan ddefnyddio medrau rhyfeddol llwyddodd i facio drwy’r pentref gan osgoi nifer o geir oedd wedi’u parcio a llwyddo o’r diwedd i ddod ‘nôl i’r ffordd tua chyffordd Maes y Llan gan gau’r ffordd unwaith eto.

Yr ail dro, wrth ddod yn ôl o Lyndyfrdwy ar hyd y ffordd gefn gwelais fod y ffordd wedi’i chau gan lori arall anferth gyda gyrrwr o Ffrancwr yn defnyddio GPS ar hyd y ffordd gefn o Langollen gan barhau i ddilyn ei gyfarwyddiadau wrth iddo fynd i fyny i gyfeiriad ffordd Bwlch Goch i Fryneglwys. Llwyddodd i fynd ar hyd y canllath cyntaf cyn i’r trofeydd a’r ffordd serth ei rwystro a llithrodd yn ôl gan stopio yn y triongl o laswellt ar waelod y ffordd a bron cau’r ddwy ffordd. Roedd wedi’i ddal yn y clawdd mor dynn fel nad oedd modd symud o gwbl.

Bu rhaid galw am lori torri - i - lawr ac ymhen oriau wedyn daeth y tryc a’r lori i lawr Ffordd Ty Nant ac i’r Pentref, gan brofi fod y gyrrwr o’r Almaen a finnau y naill a’r llall yn anghywir gan gredu na allai cerbyd mor fawr fynd ar hyd y ffordd gefn. Mae nifer o fannau ym Mhrydain nad oes fapiau cyfrifiadurol ar eu cyfer - Ynys Manaw yn un. O geisio defnyddio’r system ar ffyrdd yr Ynys ceir y neges’ Ewch i’r fordd agosaf’ Tybed ai ffordd gwrtais o ddweud ‘ ewch o ma!’ ydy hwn.


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.