Medi 2006
ER COF
Gyda thristwch mawr yr adroddwn am farwolaeth y rhain o fewn ein cymuned y mis hwn:
TREFOR “FEDW” ROBERTS
Trefor “Fedw” Roberts, Fedw Ucha, Carrog a fu farw ar Awst 22 yn Ysbyty’r Maelor. Mae’n gadael ei weddw, Morfydd, a thri o blant - Eira, Geraint a Gwynfor. Roedd Trefor wedi bod yn ffermio yng Ngharrog ar hyd ei oes. Bydd bwlch mawr ar ei ôl.
GWYNETH JONES
Mrs. Gwyneth Jones, yn ddiweddar o Bendyffryn a Phen Y Bont Carrog. Mam Eira a Hughie. O Landrillo daeth Mrs. Jones yn wreiddiol. Roedd hi’n gyn-athrawes yn Ysgol Carrog.
ELWYN ROBERTS
Elwyn Roberts, Ty’n Celyn, brawd y diweddar Tommy Roberts, Carrog Afon, tad Meirion Wynne a thad yng nghyfraith i Nerys Garthiaen, Llandrillo.
FRANK YAXLEY
Frank Yaxley, tad John, Carrog Ucha, Carrog. Bydd yr holl deulu’n cael colled mawr ar ei ôl.
© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.