statcounter

       

Tachwedd 2006

WELIS a BERFA

Ar ol treulio awr go lew yn rhedeg rhyw ddarpar Cassanova o’r defaid, meddyliais fod llawer iawn o amser yn cael ei dreulio’n rhedeg ar ol anifeiliaid sy wedi dianc.

Yn gynharach eleni dyma fi’n deffro a darganfod bod fy ngwartheg wedi penderfynu bod angen mwy o fwyd arnyn nhw, a mynd i bori yn un o’r caeau gwair. Doedd hynny ynddo’i hun ddim yn drafferth fawr gan mai dim ond eu troi allan a chau’r giât oedd angen. Ond wrth gerdded at y giât doedd dim giât yn y golwg. Tua’r adeg honno daeth y diffyg cyntaf ar fy synnwyr digrifwch y diwrnod hwnnw. Wrth imi fod wrthi’n rhegi a rhwygo a melltithio’r dihiryn oedd wedi ymdrechu ganol nos i gludo’r giât ar ei gefn, dyma fi’n sylwi ar rywbeth rhyfedd drwy gil fy llygad. Wrth imi droi i edrych, daeth yr ail ddiffyg ar fy syniad digrifwch y diwrnod hwnnw. Roedd Enid ( buwch enwog am ei mileindra) yn crwydro ar draws y cae gan wisgo’r giât am ei gwddf. Dwn i ddim a fu unrhyw un yn trio erioed, ond nid hawdd o beth yw tynnu giât oddi ar wddw buwch. Doedd Enid ddim am gydweithio o gwbl ac roedd hi’n hoff dros ben o’i bling newydd. Ar ol bod wrthi am bron fore cyfan yn ceisio tynnu’r giât dros ei phen dyma fi’n dioddef y trydydd diffyg digrifwch y diwrnod hwnnw. Dw i’n credu bod Enid wedi deall fy mod wedi cyrraedd pen fy nhennyn wrth imi dynnu at y giât, trodd ei phen a daeth y giât yn rhydd. Mae hynny’n profi fod nerth ac anwybodaeth yn gweithio o dro i dro.

Gyda’r gwartheg wedi’u cloi allan yn ddiogel fe adferodd y cae cyn pen dim ar ol yr annisgwyl ymwelwyr dros nos a chyn hir roeddwn yn lladd gwair.

Am y rhan fwyaf o’r cynhaeaf roedd fy mhen ôl yn dynn ar sêt y tractor (ffaith bydd llawer yn ei bwysleisio’n aml). Wrth imi ladd gwair neu feilio roeddwn yn poeni sut roeddwn yn mynd i gario’r bels. Roedd y bechgyn oedd wedi rhoi help imi yn y gorffennol wedi tyfu erbyn hyn a’r merched a’r ddiod yn apelio’n fwy na chwysu mewn cae llychlyd am bunt neu ddwy, tamaid o fwyd a min fy nhafod.

Ond doedd dim angen pryderu. Yn ffodus, daeth yr hen rai i’r bwlch ac achub y dydd. Dyma griw o ddynion oedd a’u dyddiau mercheta (os nad diota) wedi hen ddod i ben. Roedd yr ychydig ddyddiau hyn yn rhai drud imi gan eu bod yn gallu yfed eu pwysau o lager. Dw i’n dal i fynd â’r poteli gwag i’r banc ailgylchu ac mae bil y Grouse yn golygu bydd rhaid gwneud peth esbonio i’r cyfrifydd. Efallai ei fod yn ffortiwn ar y pryd ond roedd yn werth pob dimai. Diolch yn fawr iawn Foneddigion. Yr un amser y flwyddyn nesaf?

Roedd y cneifio eleni’n debyg i bob blwyddyn arall sef cyfuniad o losg haul, poen cefn, hwyliau drwg, iaith anweddus a dadrithiad llwyr gyda byw. Fel y gallwch ddychmygu, pan gneifiwyd y ddafad olaf a’r cnu’n ddiogel dan do yn barod i’w gasglu roedd bywyd yn bleser unwaith eto. Tuag wythnos yn ddiweddarach daeth glaw mawr i Garrog ac wrth imi fod wrthi’n sgubo’r dŵr o’r tŷ, heb imi wybod roedd un o ddraeniau’r buarth wedi blocio ac roedd y sied wlân yn bwll nofio dan do. Pan beidiodd y glaw ychydig a’r bygythiad i’r tŷ drosodd mi es i lawr y buarth a darganfod y difrod. Yn ffodus roedd hi’n dal i daranu a fy ymateb llai na rhesymol i i’r gwlân gwlyb yn cael ei foddi gan y twrw.

Cleddyf dau finiog bu’r haf eithafol o sych eleni. Daeth cynhaeaf da er yn wael ei gynnyrch gan ganiatáu imi orffen y defaid yn gynharach yn y flwyddyn yn weddol hawdd. Ond wrth i’r sychder gychwyn o ddifrif a Llan yn edrych fel Serengetti, roedd y diffyg glaw yn broblem fawr.

Oherwydd aildyfiant gwael ar ôl y cynhaeaf ychydig o bori glân oedd ar gael i’r ŵyn pasgedig oedd wedi’u diddyfnu. O ganlyniad i hyn mae mwy o wyn ar ol ar y fferm eleni nac yn y blynyddoedd a fu. Wrth i’r dydd fyrhau a hithau’n oeri gall yr wyn hyn fod yn fwy anodd eu gorffen a bydd angen mwy o faeth na all y borfa yn unig ei gynnig, felly yn ol bob tebyg mi fydd y bil bwyd yn uwch nag arfer eleni.

Roedd angen gohirio’r cynlluniau i hau cae gyda rêp eleni i besgi’r defaid am fod y sychder yn golygu bod y cnwd yn wael o ran sefydlu. Er bod sefydlu’r cnwd yn un ffactor wrth ohirio’r gwaith, y prif reswm oedd bod y cae yn galed a sych ninnau’n methu’n lan a chael yr aradr yn y pridd.

Roedd ffensio’n job arall a gafodd ei effeithio gan y tywydd sych. Treuliais wythnos ar ôy cynhaeaf yn ceisio gwneud darn, ond roedd y ddaear yn galed a sych ac angen ymdrech eithriadol i daro’r pyst i mewn. Roeddwn i bron yn teimlo rhyddhad pan dorrodd yr ordd a minnau’n gorfod cymryd seibiant.

Wrth wylio rhagolygon y tywydd ddydd Sul roeddwn yn falch gweld fod wythnos wlyb yn cael ei haddo. Felly, gyda lwc, bydd y ddaear yn meddalu a gallaf ffensio’n haws. Yn anffodus, unwaith bydd y glaw yn cychwyn y duedd ydy iddi beidio stopio felly gallaf ragweld bydd fy erthygl nesaf yn melltithio’r tywydd gwlyb.

Gareth Llan
© Gareth Bryan 2006


© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.