statcounter

       

Rhagfyr 2004 December


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Materion Iechyd Difrod yng Ngharrog
Weli’s a Berfa Neuadd - Agwedd Un Llongyfarchiadau
Gwasanaeth Coffa Loteri’r Neuadd Snwcer
Apêl Popi Grouse Ysgol Carrog
Dyddiadur   ‘Bash’ Y Bont

Golygyddol

Nadolig Llawen I’n darllenwyr oll yn agos ac ymhell, a chan nad dim ond unwaith I ni lwyddo dosbarthu’r papur erbyn y cyntaf o’r mis - Blwyddyn Newydd Dda hefyd!

Rydym yn gobeithio parhau I berfformio gwasanaeth defnyddiol I’r gymuned trwy gydol 2005 - mae codi arian a noddi yn golygu fod ein bod yn ddiogel o ran arian am y misoedd sydd I ddod. Rydym wedi ceisio rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau’r wyl yn y rhifyn hwn ac os ydym wedi methu unrhyw beth, mae’n debyg nad ydym wedi cael clywed amdano. Ein haddewid Blwyddyn Newydd yw I gynnig newyddion am HOLL ddigwyddiadau Carrog a Llidiart y Parc.

A fedrwch chi ein helpu I gynnal hyn? Er mwyn cadw pawb yn ‘ffit’ dros yr wyl mae ein ysgrifennydd materion iechyd yn cynnig ychydig o feddyginiaethau ar gyfer gormod o hyn a’r llall.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Materion Iechyd

Wrth I’r Nadolig agosau a dod feddwol yn chwarae rhan yn rhai o’r dathliadau mae’n debyg y bydd ambell un ohonom yn dioiddef o ‘hangover’ nawr ac yn y man.Mae gan yr unigolyn ffyrdd o ddelio a hyn, ond a ydynt yn gweithio ? Os nad ydynt efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen y ‘top 10’ sydd gennyf I wella’r symptomau. I’w defnyddio gyda phwyll wrth gwrs !!

1. Llysywen wedi ei sychu - Yn ystod y canol oesoedd roedd meddwon yn llyncu platiaid o almwnd chwerw a llysywen wedi ei sychu. Nid rhywbeth a oedd yn blasu’n dda iawn y peth cyntaf yn y bore, ond yn llawn maeth ac yn newid o dwrci!

2. Llyfu halen - Roedd tylwyth Indiaid America yn rhedeg o gwmpas nes codi chwys ac yna’n llyfu’r chwys oddi ar ei cyrff a’I boeri allan I wared y corff o unrhyw wenwyn. Yn fy marn I, ni ddylid gwneud hyn yn gyhoeddus!

3. Voodoo - Roedd pobl voodoo Haiti yn argymell sticio tri a’r ddeg I binau yng nghorcyn y botel , gwerth rhoi cynnig arni ond dylai’r rhai sy’n yfed cryn dipyn brynnu mewn ‘bulk’. Dylid osgoi poteli sy’n cau gyda sgriw os ydych am roi cynnig ar hyn!

4. Rhwb Lemwn - Ym Mheuerto Rico byddant yn rhwbio lemwn o dal gesail y fraich yfed. Peidiwch a rhoi cynnig ar hyn ar ol eillio ferched! Cred rhai mai’r ffordd mae’r lemwn yn cael ei rwbio sy’n bwysig gyda’r cloc yn y Gogledd ac yn erbyn y cloc yn y De. Defnyddiol os ydych yn hoffi lemwn yn eich gin a thonic.

5. Huddygl - Yn ystod y 19eg roedd ysgubwyr simne yn coelio mewn cymysgedd o huddygl a llefrith. Roedd posib casglu huddygl mewn manau penodedig os nad oedd gennych dan glo.

6. Baw Cwningen - Yn ol yr hanes, yn y Gorllewin Gwyllt roedd y cowboys a oedd yn yfed whisgi yn yfed cwpanaid o faw cwningen. Rwy’n argymell ‘mouthwash’ go dda cyn cusanu neb ar ol hyn.

7. Llygaid Defaid - Yn ‘Outer Mongolia’ byddai meddwod yn llyncu llygad dafad wedi ei ‘fficlo’ gyda sudd tomato. Efallai y cawn weld potelaid o’r rhain ar y bar yn lle wyau wedi’i piclo!

8. Past Assyria - Yn Ne Affrica dyma’r feddyginiaeth I bob ‘hangover’ - Un llwy de o big gwennol wedi ei dorri’n fan a’I gymysgu gyda un llwy de o fyrr (tymhorol iawn). Roeddent yn argymmell ei lyncu’n gyflym a’I olchi I lawr gyda gwydriad o ddwr. Rwy’n gallu dychmygu lle I hwn mewn sawl rhewgell dros yr wyl! Os nad yw un o’r rhain yn gweithio fe allwch roi cynnig ar rai mwy traddodiadol.

9. Tost wedi’I losgi - mae hwn I fod I weithio er nad ydwyf wedi rhoi cynnig arno fy hun. Os nad yw’n gweithio bydd y blas ofnadwy yn gwneud I chi anghifio am eich cur pen am dipyn.

10. Blewyn y ci - Mae gwydriad o alcohol clir e.e ‘vodka’ y bore wedyn wedi cael ei brofi’n wyddonol I greu rhwystr yn rhannau o’r ymennydd sy’n achosi ‘hangover’ - ma’e gweithio ond I chi gael un gwydriad yn unig!

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Pryder Ynglyn A Chynnydd Difrod Yng Ngharrog

Ynystod Cyfarfod Cyngor y Gyrnuned yn ddiweddar dangoswyd pryder ynglyn a’r difod sy’n cael ei achosi yng Ngharrog.

Mae’r bocs ffon y tu allan Fr ysgol wedi ei ddifrodi’n arw a drysau’r Neuadd sydd newydd gael eu peintio wedi cael en crafa gyda graffiti unwaith yn rhagor. Yn ogystal a hyn mae sloganau wedi ei ‘sgrifennu ar y wal y tu allan Fr Neuadd Mae’r Heddlu yn benderfynnol o ddal y troseddwyr ac yn gofyn am unrhyw wybodeath am ddifrod neu ymddygiad anghymdeithasol Ffoniwch 0845 6071001 (Cymraeg) neu 0845 607 1002 (Saesneg).

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Weli’s a Berfa

Yn ol bob son mae ‘Welsh Blacks’ I fod yn frid gwydn yn gallu byw a’r dir prin ac mewn tywydd drwg. Mae ffermwyr yn gyffredinol yn coelio hyn yn ogystal a unrhyw un sydd wedi gweld buwch mewn cae. Yn anffodus nid yw fy merched I wedi clywed am gymeriad eu brid. Yn dilyn un cawod o eira yn ddiweddar roedd bob un ohonynt yn sefyll y tu allan I’r ty yn rhoi datganiad o’r ‘Bohemian Rhapsody’ yn oriau man y bore. Doedd gwair yn fawr o gysur gan iddynt ddal ymlaen I ganu braidd yn uchel.

Rwyf wedi cael tipyn o drafferth gyda gwartheg dros yr wythnosau diwethaf. Wrth I mi fuddsoddi’n wirion mewn eitem yn Ocsiwn y Neuadd, roedd pedwar o’r bustuch yn hapus gwneud eu ffordd tuag at Corwen. Yn ffodus fe ddaeth Matthew Scott I ddweud wrthyf ac fe lwyddais I’w troi tuag adref heb ormod o drafferth. Cafodd Helga lo bach y noson o’r blaen.Roeddwn yn gobeithio na fyddai hi’n hir ond roedd yn ddigon hapus I aros tan 3.30 yn y bore. I fod yn deg fe weithiodd yn galed ar ei phen ei hun heb gymorth gennyf I gan gynhyrchu llo bach gwerth ei weld. Am ychydig ddyddiau wedyn nid oedd modd edrych ar y llo hyd yn oed heb I Helga wylltio’n gacwn. Roedd yn rhaid I mi daflu’r bwyd I mewn yn ddistaw a rhedeg am fy mywyd cyn I Helga fy nghornelu.

Mae’r rhan fwyaf o’r wyn wedi mynd erbyn hyn gyda 45 ar ol yn barod I’w pesgi. Rwyf wedi gwario ffortiwn ar fwyd a llwyth o wair. Maent yn llawn fitaminau a wedi cael dos yn erbyn llyngair.

Rwyf wedi gwneud popeth arwahan I ganu I’w gyrru I gysgu, ond er gwaethaf hyn nid ydynt yn dangos unrhyw arwydd o wella. Go brin y ca’I wneud fy ffortiwn efo’r criw yma.

Gareth Llan

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Neuadd Carrog - Agwedd Un - Pwrcasu

Erbyn hyn mae’r gwaith caled a oedd ynghlwm a chreu ein Neuadd yn dechrau talu ac rydym yn gweld ffrwyth ein gwaith. Efallai bod yn amser wedi dod I ni edrych yn ol ar hanes y Neuadd a sut iddi gychwyn. Rydym yn falch iawn ohoni ond yn 1977 hen adeilad Ysgol yr Eglwys oedd y Neuadd, yr Ysgol ei hun wedi cau ers 1923. Ers hynny mae wedi cael ei defnyddio fel Neuadd Eglwys ac hefyd fel ystafell fwyta I ddisgyblion y ‘National School’. Trwy lwc roedd dynes yn y pentref yn digwydd bod yn darllen y ‘London Gazette’ pan welodd hysbyseb fod ‘the old Church School and Adjoining Masters House of Carrog’ ar werth. Cafodd y cynghorwyr lleol wybod ac fe aeth tri o drigolion Carrog I weld Esgob Llanelwy. Yn anffodus cafwyd atebiad negyddol, ond yn hwyrach cafodd Cyngor Eglwys Llansanffraid Glyndyfrdwy wybod fod Comisiynwyr yr Eglwys yn fodlon gwerthu adeilad yr ysgol heb y ty am £1250.

Galwyd cyfarfod cyhoeddus ar 27ain o Hydref 1977 I drafod y posibilrwydd o brynnu’r hen ysgol a’I droi’n Neuadd Bentref. Daeth rhwng 40 a 50 o bobl I’r cyfarfod ynghyd a chynrychiolydd o Wasanaeth Gwirfodol Clwyd a oedd yn awyddus I roi cymorth. Heb ormod o ffwdan penderfynnwyd creu pwyllgor I fynd ati I brynnu’r hen ysgol.

Rhoddodd cynrychiolydd y Sir gymorth - sut I gofrestru fel elusen gyda enwau pawb, ceisio am grantiau y.b Roedd yn rhaid I’r gymuned dod o hyd I 25% o gost y grant. Nid yw £1,250 yn swm mawr heddiw ond yn 1977 roedd yn dasg go arw I’r trigolion - tua 300 ohonynt - I godi’r swm yma.

Oedd cyfarfod arall wedi ei drefnu cyn gynted a bo pob grwp wedi penderfynnu ar gynrychiolydd I ymuno a’r pedwar cynghorydd o Gyngor Sir Clwyd, Glyndwr, Corwen a Llansanffraid I fod yn aelodau o’r pwyllgor fel a ganlyn - Capel Methodist, Bedyddwyr ac Annibynnwyr Yr Eglwys, Yr glwys Gatholig, WI, Groes Goch y WEA, ymddiriedolwyr Sioe Carrog a.r Henoed. Ar yr 23ain o Dachwedd daethant at eu gilydd I ethol Cadeirydd a swyddogion. Agorwyd Cyfrif ym Manc National Westminster yng Nghorwen, a trafodwyd modd o godi arian - Canu Carolau , Whist ac arwerthiant nwyddau. Aethant ymlaen I wneud rhestr o gyn-drigolion Carrog a chyn- ddisgyblion yr ysgol gyda’r bwriad o ofyn iddynt am gyfraniad . Yn ystod y cyfarfodydd nesa’ ysgrifennwyd cyfansoddiad, ac fe apwyntiwyd cyfreithiwr. Dewisiwyd saith ymddiriedolwr a gwnaethpwyd geisiadau am grantiau. Roedd yn ofynnol cael yswiriant hefyd. Erbyn Mis Ionawr fe gyrhaeddodd grantiau gan Llansanffraid a Chorwen yn ogystal a nifer o gyfraniadau.

Roedd £40 ar ol yn dilyn dathliadau Jiwbili Arian a cafwyd £150 gan ymddiriedolwyr Sioe Carrog ar ol I’r Sioe ddod I ben. Cafwyd £113 gan ddwy ddynes ar ol iddynt fynd o gwmpas yn casglu papur wast I’w werthu. Gwnaeth un gwilt a’I werthu am £50. Roedd cystadleuthau yn y Grouse a cychwynwyd Clwb 100. Cowyd £242 mewn arwerthiant a £61 mewn Gyrfa Whist. Cafwyd Bore Goffi mewn un ty tra roedd eraill yn canu carolau o gwmpas y pentref gan godi £33. Roedd nifer o bobl yn hael iawn gyda’I rhoddion. Mewn cyfarfod ar y 4ydd o Fis Ebrill cyhoeddodd y Trysorydd fod £905 mewn llaw ar ol talu am yr adeilad. Y rhan nesaf oedd I adnewyddu’r adeilad gan gynnwys toiledau, cegin y.b er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel Neuadd Bentref. Roedd yn rhaid trefnu cyfarfod gyda pensaer ac yna mynd ati I feddwl am fwy o syniadau I godi arian.

Valmai Webb Rhagfyr 2004

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llongyfarchiadau

Bu Joseph Culshaw ar gwrs Pel Droed yn y Gymuned am 2 ddiwrnod gyda chlwb peldroed Everton lle cafodd wobr fel y chwaraewr gorau. Ceir llun ohono gyda’I wobr a phel droed wedi ei harwyddo gan dim Everton.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Gwasanaeth Coffa

Bu nifer o bobl yn y gwasanaeth ger maen coffa’r penref gyda gweddiau yn cael eu harwain gan Alison Goldstein a’r enwau gan Steven Davies.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Loteri’r Neuadd

1af - Tina Wombwell - £20 - rhif 31

2il - Sandra Jones - £10 - rhif 6

Bydd loteri Mis Rhagfyr yn un arbennig gyda gwobr gyntaf o £50 ac ail wobr o £25. Cysylltwch a Dave Jones os ydych am ymuno.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Snwcer

Owain Glyndwr League

9th November Cerrig ‘B’ 1 - Carrog 5

16th November Carrog 4 - Llandrillo ‘B’ 2

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Apêl Popi

Eleni fe godwyd £270.10, Diolch I bawb a weithiodd mor galed I gasglu’r arian.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Grouse Xmas Opening

Xmas Eve - 12 noon to 11.30 pm
Xmas Day - 11 am to 1 pm - Drinks Only
Sunday 26th - Thursday 30th 12 noon - 11.30 pm
New Years Eve - 12 noon till closing
New Years Day - 12 noon to midnight
Sunday 2nd onwards 12 noon to 11.30 pm

Digwyddiadau’r Grouse Yn Ystod Yr Wyl

Noswyl Nadolig - 8.30 y.h - Carolau a mins peis I bawb.
Dydd Mawrth - 28ain o Ragfyr - Cwis Nadolig - 9.00 y.h - gwobrau I bawb
Dydd Iau - 30ain o Ragfyr - ‘Knockout Pwl - 8.30 y.h - mynediad £2 gyda gwobr o £50 yn ogystal a mwy o wobrau.
Noson Calan Gaeaf - Bwffe a ‘punch’ I bawb yn rhad ac am ddim.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ysgol Carrog

Cododd yr Ysgol £300 tuag at yr NSPCC ac mae’r pplant wedi bod yn llenwi bocsus ‘sgidie ar gyfer ‘Operaton Christmas Child’ Cafodd pawb hwyl yng nghynerdd ‘Black Umfolosi’ ym Mhafiliwn Llangollen gyda dawnswyr o Zimbabwe yn perfformio mewn weli’s. Cafodd y plant a’r athrawon gyfle I ddawnsio hefyd. Croeso I bedwar disgybl newydd - Adam a Hannah Galloway sydd wedi ymgartrefu yng Ngharrog Newydd a Callum a Poppy Edwards (sydd yn perthyn I Pagan ac Amber Boydell).

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Dyddiadur

Rhagfyr 14eg - Gwasanaeth Cristingl yn yr Eglwys - 2.15 y.p.

Rhagfyr 15fed - Cyngerdd Nadolig Ysgol Carrog - 6.30 y.h.

Noswyl Nadolig - Gwasanaeth Ddwyieithog o Garolau a Darlleniadau yn yr Eglwys - 7 y.h.

Diwrnod Nadolig - Dim Gwasanaeth.

Dydd San Steffan - Gwasanaeth Foreuol - amser I’w gyhoeddi.

Ionawr 17eg - Nicola Tustain, ennillydd medal efydd yn siarad am ei llwyddiant yn y ‘paralympics’ - mynediad £2.

Ionawr 25ain - Cymdeithas Hanesyddol Edeyrnion- Problemau Ffermio yn y 19 Ganrif yng Nghymru.

Chwefror 1af Darlith gan Commander Bradshaw ar ei brofiad fel morwr ar y ‘Royal Yacht Brittania.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

‘Bash’ Y Bont

Diolch I bawb a gefhogodd y ‘Bash’. Codwyd £343 ar y noson ar ol costau sef 4 rhiiyn o’r Bont Yma ceir llun o rai yn gloddesta gyda Idris a Geraint yn y cefndir.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article