Rhagfyr 2005
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
THIS MONTHS EDITION IS SPONSORED BY CARROG MILL COTTAGES
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA
Ar ddiwedd y flwyddyn 2005 hoffwn gymryd y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n darllenwyr o bell ac agos. Edrychwn ymlaen at eich cefnogaeth unwaith eto yn 2006.
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a fu’n cynorthwyo drwy gyfrannu, cyfieithu, cynhyrchu a dosbarthu’r papur hwn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Nid erthygl Ffúl Ebrill gynnar na hwyr mo hon. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig codi pwysau’r cerbydau sy’n cael croesi Pont Carrog. Rydym eisoes wedi gweld cau’r bont pan geisiodd un cerbyd mawr fynd drosti, a chafodd rhai o’r cerrig copin eu handwyo yn ystod y misoedd a aeth heibio gan gerbydau eraill oedd yn rhy fawr i’r bont. Bydd y niwed hwn i’r bont gan gerbydau trwm yn gosod symbol pwysicaf Carrog mewn perygl, ac mae’n golygu anghyfleuster i gymunedau Carrog a’r Parc pan fo rhaid cau’r bont i’w thrwsio.
Cynyddir y pwysau o 17 tunnell i 18 tunnell, efallai nad yw hyn yn ymddangos yn bwysau anferth, ac yn sicr mae’r bont a adeiladodd cyndadau’r pentref 400 mlynedd yn ôl yn ddigon cryf i ddal y pwysau. Ond mae codi pwysau cerbyd yn golygu cerbyd hirach, a hyd y cerbyd yw’r bygythiad parhaol i’r bont. Ni all cerbydau hir ddelio âr ongl sgwâr ar ddau ben y bont, ond ar ôl cychwyn croesi’r bont maent yn benderfynol o ddal ati heb feddwl am y bont ei hun. Gan fod cysylltiad rhwng y pwysau a’r hyd, o reidrwydd, beth sydd ei angen yw gostyngiad mewn pwysau a byddai hynny’n lleihau’r difrod parhaol a wneir i’r bont. Os rydych yn teimlo’n gryf ynghylch y mater yma, mae cyngor proffesiynol yn awgrymu ichi ysgrifennu at CADW Plas Carew, Uned 5/7 Cefn Coed, Parc Nantgarw, Caerdydd CF15 7QQ.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Rai misoedd yn ôl, gwnaeth Cyngor y Gymuned gais am i Gyngor Sir Ddinbych ddefnyddio’u pwerau i dacluso’r ardal ar ben Rhes Glyndur er mwyn gwella mwynderau’r pentref a safle hanesyddol y Carchardy. Rydym wedi cael ar ddeall eu bod am fynd gam ymhellach na hyn a’u bod yn arwyddo gorchymyn gorfodaeth i ddymchwel un o’r tai. Dylid cofio mai’r Cyngor Sir a dynnodd y to oddi ar y tw pen rai blynyddoedd yn ôl gan, yn ôl pob tebyg, olygu ei fod wedi dirywio’n raddol a bod hyn wedi effeithio ar y tai o’i gwmpas.
Mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fo’r un cyngor wedi dynodi prinder tai y gellir eu fforddio mewn cymunedau gwledig fel hon. Efallai bod llawer yn ein plith a fyddai’n croesawu’r syniad o fyw mewn bwthyn o’r fath petai modd ei adfer, ac mae’n sicr bod modd gwneud hynny. Yn bendant dyma beth ddylid ei wneud yn gyntaf, nid eu dymchwel a chreu hagrwch gwaeth a fyddai’n cael effaith andwyol ar yr eiddo o’i gwmpas.
Mae’n ymddangos nad yw hyn yn enghraifft dda o ‘lywodraeth gysylltiedig’ yr ydym ar hyn o bryd i fod i elwa ohono!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
ROBERT HUTTON - Cofeb offeiriad
Yn dilyn ein herthygl y mis diwethaf, cynigiodd Beryl Hindley ac Annette Jones, y naill a’r llall, yr un wybodaeth. Mae’n ymddangos fod Robert Hutton wrthi’n cerdded rhwng Carrog a Chorwen mewn storm eira, cafodd ei ddarganfod yn farw yn y lle hwn, o hypothermia yn ôl bob tebyg. I raddau, mae hyn yn achosi mwy o ddirgelwch am nad yw ei enw ar y rhestr offeiriaid yn eglwysi Carrog na Chorwen, ac am iddo gael ei alw yn ‘offeiriad’ mae’n bur annhebyg iddo fod yn weinidog anghydffurfiol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar adeg pan rydym yn cofio’r golau’n dod yn ôl dros Ewrop ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, onid peth rhyfedd iawn yw gweld y golau’n cael ei DDIFFODD yng Ngharrog? Mae rhai lampau strydoedd Carrog heb eu golau, gan gynnwys y lamp bwysig ar ein pont (sydd o dan fygythiad arall oherwydd caniatáu gyrru pwysau trymach drosti). Efallai i’r Cyngor Sir benderfynu fod y bygythiad ynghylch prinder púer y gaeaf yma’n gwneud iawn am fethu trwsio goleuadau’r strydoedd, gan leihau’r llwyth ar y grid trydan ychydig a chynyddu’r anghyfleustra a’r perygl i’r trigolion yn fawr.
Anfonwyd nifer o gwynion i Gyngor Sir Ddinbych, ond heb unrhyw lwyddiant. Mae’n beth od iawn, ar ôl colli ein Cynghorydd Sir dylanwadol a mawr ei barch, drwy ymddeoliad, bod materion Carrog yn cael eu hanwybyddu erbyn hyn. Mae’r erthygl ‘Anodd ei Ddilyn’ a gyhoeddwyd pan ymddeolodd yn ymddangos yn rhyfeddol o broffwydol erbyn hyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dyma’r Neuadd yn cael ei hadfer yn 1981 ar ôl ei phrynu oddi wrth yr Eglwys yng Nghymru.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dechreuodd dydd Sadwrn Tachwedd 5 yn wael i mi. Roedd Melfyn a finnau’n mynd i Gaerdydd i wylio Cymru yn erbyn y Teirw Duon ac roedd angen trefnu i gychwyn am 7.00 yn y bore. Ond roeddwn i wedi dechrau dathlu’r noson gynt a doeddwn i ddim yn barod pan alwodd Mel. Ar ôl sgwrs fer ar y ffon (a minnau’n taeru fy mod wedi codi), dyma fi’n cropian o’r gwely, cydio yn fy mag a neidio i mewn i’r car. Roeddem ar ein ffordd.
Wrth inni fynd drwy Langollen a ‘mhen mawr’ i’n cael gafael o iawn dyma fi’n sylweddoli bod gen i deodorant a dim byd arall yn fy mag. Roeddwn wedi bwriadu pacio’r noson gynt ond heb gael amser i wneud rywsut.
Gan nad yw Melfyn yn un i golli cyfle i wneud ceiniog neu ddwy, roedd o wedi penderfynu mynd â llwyth y tu ôl i’r car i’r Bont Faen. Yn anffodus, doedden ni heb gyrraedd y Trallwng cyn i ran o’r llwyth benderfynu chwalu ar hyd y ffordd. Rydw i wedi trio ambell i ffisig at y pen mawr dros y blynyddoedd, a gallaf eich sicrhau bod ras 100 llath i fyny’r ffordd ar ôl canopi Ifor Williams yn un o’r goreuon.
Digwyddodd y broblem fach nesaf yn Llanfair ym Muallt. Roeddem yn mwynhau bwyd wedi’i ffrio yn y Little Chef a’r llanc o ddigrifwr y tu ôl i’r til oedd yn mynnu gofyn i bawb oedd yn gwisgo’r crys coch ‘mynd i’r gêm ie? Sylweddoli fy mod wedi gadael fy waled gartref a dim ond newid mân o’r noson gynt oedd gen i arna i.
Wrth inni adael maes parcio’r Little Chef roedd dwy oedd yr un ffunud â Jemima Nichols yn ceisio newid olwyn eu car. Mae’n ddrwg gen i ddweud na chynigiodd yr un ohonom eu helpu. Roeddem yn trafod ein diffyg sgiliau sifalri ar ein taith a phenderfynu y byddai’r ddwy ferch wedi deall ein hamharodrwydd i gynnig help llaw - wedi’r cwbl roedd yna gêm a ninnau ar frys.
Ar â cael gwared â llwyth Mel yn y Bont Faen, dyma ni’n cyrraedd Caerdydd ar waethaf darllen y map yn bur wallus ar fy rhan i, a chyrraedd ein gwesty o’r diwedd.
Ar ôl peint neu ddau yn y bar dyma ni’n ymuno â môr o liw coch a cherdded tuag at y stadiwm gan aros mewn bar ar y ffordd. Roedd côr byrfyfyr wrthi’n canu ac felly dyma ni’n ymuno, fi yn fy llais tenor gorau a Mel yn fariton sigledig.
Yn sydyn dechreuodd rhywun ganu Swing Low Sweet Chariot a rhaid imi gyfaddef imi gael fy nychryn - cefais fraw cyn sylweddoli mai tôn ar gyfer Iechyd a Diogelwch oedd hi er lles dilynwyr rygbi Lloegr, gan eu cynghori ble i roi eu cerbydau. Roedd y canu’n dyblu o ran ei nerth yn ystod y gân arbennig hon.
Aethom i’n seddi yn y stadiwm am hanner awr wedi tri, ac am chwarter i bedwar allan â nhw. Y Teirw Duon i ddechrau ac wedyn, gyda rhu byddarol, daeth Cymru ac wedyn Katherine Jenkins. Yn anffodus fe drodd ei chefn arnom i ganu, ond doedd ei phen ôl ddim yn annymunol ac felly fe gafodd faddeuant.
Daeth y gêm ei hun i ben ymhen chwinciad, a’r Teirw Duon yn llwyddo i ennill, ond cael a chael fuodd hi. Wedi’r gêm, aethom i gyfarfod â Jack a Judith am bryd o fwyd ac ychydig mwy o ddiod ac yna - Duw a uyr beth ddigwyddodd wedyn. Dwi’n cofio cyfarfod â Big Dave a Rhys ac yna golli Mel ac ymhen ychydig colli Big Dave a Rhys hefyd!
Ar wahân i hynny, roedd y noson ychydig yn niwlog imi. Gwn imi fwyta kebab rywbryd gan fod saws chili ar fy nghrys y bore wedyn.
Y bore wedyn, ar ôl brecwast wedi ffrio yn y gwesty a thro o gwmpas Bae Caerdydd, dyma ni’n gadael Caerdydd a mynd adre i Garrog gyda rhaglen y gêm a chyfrif banc tlotach o lawer i gofio’r daith.
Gareth Llan
© Copyright Gareth Bryan
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
HANES SYCAMORE TERRACE (Parhad)
Yn ystod y blynyddoedd rhwng 1861 & 1871, roedd
Margaret Jones yr hynaf, a gur Margaret ei merch wedi marw.
Cyfrifiad ar gyfer
Rhif 4 Sycamore Terrace, 1871
Pennaeth Margaret Jones 53 oed, gweddw, siop
wraig.
Merched Elizabeth 17 oed, Margaret 12 oed, Mab, David 8 oed. A lletywyr
hefyd.
Cyfrifiad ar gyfer rhif 4 Sycamore Terrace, 1881
Pennaeth Margaret Jones 63
oed gweddw, siop wraig.
Mab David 18 oed, saer coed.
Ym mis Tachwedd 1890 priododd David, yn 27 oed,â Jane Evans yn y Capel Methodistaidd yn y pentref a oedd, ers dyfodiad y rheilffordd yn 1864, yn dod i gael ei adnabod fel ‘Carrog’.
(Pan adeiladodd Henry Robertson y rheilffordd ar hyd Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy, ‘Berwyn’ oedd yr orsaf gyntaf a grëwyd. Roedd yr un nesaf yng nghanol trefgorddau’r Mwstwr a Thir Llannerch a’r enw ar honno oedd ‘Glyndyfrdwy’. Bron dair milltir ymhellach, yn ymyl fferm Pen-y-bont, a phlwyf Llansantffraid Glyndyfrdwy adeiladwyd yr orsaf nesaf. Yn lle defnyddio enw hir ac ailadrodd y gair Glyndyfrdwy, mabwysiadwyd enw’r drefgordd gyfagos, sef ‘Carrog’. Yn ystod y blynyddoedd diweddar unwyd plwyf bach Llansantffraid Glyndyfrdwy gyda phlwyf Corwen a diflannodd yr hen enw bron yn gyfan gwbl, a hyd yn oed yr eglwys yn cael ei galw’n ‘Eglwys Carrog’.
Yn y Cyfeiriadur strydoedd am 1895 roedd Margaret Jones yn dal yn groser. Roedd ei mab David Richard Jones yn dal yn saer ond roedd hefyd yn cadw’r Grouse Inn ac yn fardd gyda’r enw barddol ‘Berwynfa’. Bu’n llwyddiannus ac agorodd siop groser cyfanwerthol ac adeiladu Brynteg y drws nesaf i rif 4, i fod yn gymorth i’w deulu efallai.
Priododd, Elizabeth, merch Margaret â Dafydd Edwards ac ar ôl codi Brynteg yn 1900, symudasant iddo, pan roedd Elizabeth yn 47, a rhedeg swyddfa’r post a siop groser lawer crandiach.
(Heddiw, mae Brynteg mewn dwy ran - y Swyddfa Bost yw un rhan, a’r unig siop bentref sydd ar ôl, gyda llety uwchben. Y rhan arall, drws nesaf, yw’r twú, Brynteg.)
Roedd gan Elizabeth ddwy ferch, Beatrice ac un arall oedd yn dioddef o’r ddarfodedigaeth ac a fu farw’n ifanc.
Yng nghapel y Bedyddwyr yng Nghorwen y priododd Beatrice â phrifathro Ysgol yr Eglwys, Carrog. Ni chawsant blant. Mae’n debyg i Beatrice etifeddu Brynteg, yn ei blynyddoedd olaf roedd yn anabl ac mewn cadair. Yn ôl y sôn roedd tymer drwg iawn ganddi ac roedd rhaid i’w gur gorthrymedig ofalu amdani yn ogystal â rhedeg y siop. Daeth ei swydd dysgu i ben ar ôl i Ysgol yr Eglwys gau yn gynnar yn y 1920au.
Erbyn hyn mae pedwar bwthyn Sycamore Terrace yn eiddo i un unigolyn. Gwnaed tri yn un a galwyd rhif 4 yn ‘Berwynfa’ ar ôl Dafydd y bardd.
Valmai Webb.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roedd dydd Gwener, 18 Tachwedd yn ddiwrnod heb wisg ysgol i godi pres i Blant mewn Angen. Yn ystod egwyl y bore, prynwyd y bisgedi Pudsey a wnaeth Aunti Yvonne. Cynhaliodd y Clwb ar ’l Ysgol noson fideo a mwynhau creision a diod. Codwyd cyfanswm o £91 yn ystod y diwrnod.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf bu’r plant wrthi’n casglu ac yn prynu eitemau i’w rhoi mewn bocsys esgidiau ar gyfer Ymgyrch Plentyn y Nadolig. Mrs. Marion Roberts sy’n casglu’r bocsys o’r ysgol bob blwyddyn a’u cymryd i’r ganolfan yn Wrecsam. Eleni, casglwyd 42 o flychau a fydd yn gwneud 42 o blant yn hapus mewn rhannau eraill o’r byd. Bu’r ysgol gynradd yn mwynhau diwrnod yn y ganolfan dechnoleg yn Ninbych gan gwblhau’u hymchwil i olau a sain. Yn y prynhawn, cawsant daith o gwmpas Castell Dinbych gyda Fiona Gale, Archeolegydd Sir Ddinbych, a darganfod ffynhonnau a thyllau diddorol ym muriau’r castell.
Bu Emily, Elisha, Lewis a Tom i gyd yn llwyddiannus yn y Gwobrau Nofio Camp Un a bu Laura, Oliver, Chloe a Callum yn llwyddiannus yng Nghamp Dau.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
8 Cyngor am Nadolig Iach
1. Annwyd y Nadolig
Adeg wych i rannu’ch
germau yw’r Nadolig! Os oes annwyd arnoch chi, ceisiwch fod yn gyfrifol
ac osgoi mynd yn rhy agos i bobl eraill. Peidiwch â chusanu pobl o dan yr
uchelwydd ar ôl parti’r swyddfa!
2. Osgoi Straen
Gall y Nadolig fod yn adeg o straen.
Os yw’r teulu’n eich gyrru’n wallgof yna peidiwch ag ymuno,
ewch ar wyliau i ddianc neu trefnwch Nadolig tawel gartref i chi yn unig.
Mae rhai pobl yn cael y Nadolig yn amser digalon iawn o’r flwyddyn, os
rydych chi neu rywun agos atoch chi’n teimlo’n ddifrifol isel cofiwch
beidio â chadw pethau ichi’ch hunan ond siaradwch gyda’ch
meddyg teulu neu’r
Samaritans www.samaritans.org. Os bydd
y Nadolig yn drychineb, cofiwch mai dau ddiwrnod yn unig fydd o a dylech feddwl
am y flwyddyn newydd sydd o’ch
blaen.
3. Osgoi effaith alcohol
I lawer o bobl mae’r
Nadolig yn golygu yfed diodydd alcohol. Gall alcohol fod yn llesol ichi, gan
helpu pobl i ymlacio, gall ychydig ohono ysgogi’r sudd treulio a llifeiriant
y gwaed i’r iau, a’ch helpu chi i dreulio gwledd y Nadolig. Os rydych
chi am leihau’r posibilrwydd o gael pen mawr, dyma ychydig o gyngor. Mae
gan y gwirodydd tywyll, melys fwy o ‘r moleciwlau cymhleth sy’n
achosi syched, cur pen, blinder, cyfog, cryndod ac edifeirwch sy’n nodweddiadol
o ben mawr nag sydd gan y diodydd golau, clir. Mae chwisgi, er enghraifft,
yn achosi ddwywaith mwy o symptomau pen mawr na’r un faint o fodca. Mae’r
gwirodydd rhatach yn waeth, yn enwedig sieri - felly gwariwch eich pres!
4. Os oes pen mawr arnoch....
Yfwch ddigonedd o
hylif i wrthweithio tueddiad alcohol i’ch sychu. Ceisiwch yfed ddwywaith
mwy o ddu’r na’r alcohol rydych wedi’i yfed. Bwytwch
rywbeth sydd â siwgr
ynddo i wrthweithio lefelau isel o siwgr yn y gwaed (dyma beth sy’n eich
gwneud i deimlo’n gyfoglyd yn y bore). Dewiswch eich hoff dabled atal
poen, cymerwch ofal o Asbirin gan ei fod yn effeithio ar y stumog, ac Iboprofen
hefyd i raddau llai. Cymerwch ffisig camdreuliad sy’n cynnwys alinate
(sy’n creu leinin i’r stumog) Gall Fitamin c a fitamin B fod o gymorth
hefyd.
5. Peidiwch â bwyta gormod
Os digwydd ichi gael
camdreuliad (llid leinin y stumog), yna peidiwch â mynd heb brydau bwyd. Bwytwch
yn rheolaidd ac osgoi bwydydd sy’n uchel mewn braster. Dewiswch brydau
bach am ddiwrnod neu ddau a pheidiwch â gorfwyta. Yfwch ddigon o ddur gyda’ch
bwyd. Peidiwch â bwyta yn yr oriau cyn ichi noswylio. Cymerwch ofal o
fwyd poeth a adawyd mewn ystafell boeth am gyfnod hir, yn enwedig bwyd m’r,
cyw a bwydydd sy’n cynnwys mayonnaise. Byddwch yn westai cyfrifol. Does
ar neb eisiau rhoi gwenwyn bwyd i’r gwesteion.
6. Diogelwch yn y gegin
Mae pawb yn cael gormod
o fwyd i mewn yn ystod Tymor y Nadolig, gan orlenwi’r oergell a’r
rhewgell. Gall hyn olygu nad yw’r bwyd yn cael ei gadw’n ddigon
oer i rwystro’r bacteria rhag lledu. Os yw eich oergell yn llawn i’r
ymylon, trowch o i’r rhif uchaf. Os rydych yn llosgi eich hunan, rhowch
y rhan a losgwyd mewn dur oer iawn ar unwaith am o leiaf 10 munud. Rhowch ‘haenen
lynu’ drosto. Os daw swigen fawr neu os bydd haen uchaf y croen wedi’i
golli dylech gael cyngor meddygol.
7. Ffitrwydd yn y gaeaf
Ceisiwch fynd am dro cyflym
bob dydd, gall hyn helpu i rwystro iselder y gaeaf.
8. Diogelwch y Goeden Nadolig
Bob blwyddyn mae
tua 1000 o ddamweiniau’n digwydd oherwydd Coed Nadolig a goleuadau. Mae
trydaneiddio, syrthio oddi ar ysgolion, a niwed i’r llygaid oherwydd ganghennau’n
ffyrdd cyffredin o gael niwed. Peidiwch â mentro na chymryd y ffordd agosaf
............ a chofiwch fod yn ofalus dros ben yn ymyl simneiau!
Sian Dolben.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yn anffodus bydd Celtica yn cau ar ddiwedd mis Chwefror. Dyma arddangosfa wych ac unigryw ym Machynlleth sy’n dangos hanes y Celtiaid. Mae’n dangos y cysylltiad rhwng y gwledydd Celtaidd o Galicia yn Sbaen i Lydaw, yr Iwerddon ac Ynys Manaw a’r Alban, gan ymdrin yn arbennig a’r Cymry. Mae llawer o’r arddangosfa’n rhyngweithiol neu’n defnyddio fideo ac effeithiau arbennig ond ni allai Cyngor Powys ei ariannu bellach ac ni ddaeth unrhyw arian o leoedd eraill. Os na fuoch i’w weld eto yna byddwch yn colli cyfle gwych i ddeall gwreiddiau diwylliant y Celtiaid.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yn y llun gwelir Nicholas Webb, wwr Rhys a Falmai, sy’n 14 mlwydd oed ac a ddaeth yn ail yn y rhestr Cerddor Ifanc y Flwyddyn, Norfork. Wynebodd wrthwynebiad cryf a chael a chael iddo gael ei guro gan fyfyriwr 21 mlwydd oed o’r Coleg Cerddorol Brenhinol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dymuna Dave Manweb ddiolch i bawb a gyfrannodd ac yn arbennig i’r casglwyr Graham Hindley, Chris Fisher, Keith James, Ysgol Carrog a Grouse Inn. Y cyfanswm a gasglwyd oedd £303.16.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dyma ddau lun o Noson y Pedwardegau pan aeth nifer o’r rhai a fynychodd y noson i drafferth fawr i wisgo mewn ffasiwn y 40au, neu iwnifform.
Daeth nifer fawr i’r noson a chafodd y rhai oedd wedi bod yn dilyn gwersi dawnsio eu plesio gan gerddoriaeth wych y pedwardegau gan ‘Moondance’.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Lynne a Sion Powell, Fron Newydd, ar enedigaeth ei merch Anna Lois, a aned ar 10 o Dachwedd, chwaer i Rhian.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated.