Gorffennaf 2004 July
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Mewn oes lle nad yw llawer o bethau’n rhedeg I drefn a bo prosiectau’n costio llawer mwy nag a feddyliwyd, rhaid llongyfarch y contractwyr a fu’n gweithio ar y bont am eu gwaith trylwyr a chyflym. Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn pedwar diwrnod yn hytrach na thair wythnos gyda cymorth ‘cherry picker’. Gresyn na fedrwn ysgogi’r Cyngor I welthio’n gyflymach gyda’r arwyddion sy’n dangos lle mae Carrog yn dechrau ac yn darfod. Maw hyn yn bwysicach nawr ers I ni efeillio gyda Plouyé. Efallai y gall ei Cynghorwyr newydd fod o gymorth. Rydym wedi cael ymateb dda gan nifer o Gynghorwyr. O safbwynt arwyddion cyflymder rydym wedi cael tri llythyr ond dim urn llythyr ynglyn a’r arwyddion I ddweud ble mae Carrog, nac ychwaith ynglyn a phwysau ar y bont. Mae cyfle I chi I gyd leisio eich barn ynglyn a nifer o bynciau. Os nad ydym ni fel cymuned yn barod I leisio barn nid yw’n deg disgwyl I gynghorwyr wneud hynny drosom.
Gyrrwch gyfraniadau I’r golygydd editor@bont.deevalley.com neu ffoniwch 430397, 430625 neu 430558.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bu plant Ysgol Carrog yn ysgrifennu am hanesion a chwedlau Dewisiodd Lauren
Bourne ysgrifennu am Nant y Morwynion a sut y cafodd ewi enw.
‘Amser maith yn ol yn nyddiau’r ddraig a’r marchog roedd Arglwydd
o’r enw Dewi yn byw. Gwr gweddw oedd Dewi ond nid oedd yn byw ar ben ei
hun. Roedd ganddo dair morwyn o’r enw Moli, Holi a Poli. Roedd y dair wedi
gweini ar dad Dewi a’I Dad o o’I flaen felly fel y gallwch weld roeddynt
braidd yn hen. Roedd Dewi’n hoff o hela, a tra allan un noson fe chwythodd
storm fawr. “W” medd Moli, “Gadewch I ni baratoi pryd o fwyd
ffein”. “W” medd Holi, “Gadewch I ni frwsio’r llawr”. “W” medd
Poli, “Gadewch I ni lanhau’r ffenestri”. Wrth iddynt weithio
gwaeddodd Holi “Aaaaaaaaaaaaa, dwr, help”. Agorodd Poli’r drws
gan adael ton o ddwr I mewn I’r ty. Boddodd y dair ac ar y diwrnod trychinebus
hwnnw fe syrthiodd y ty yn y man lle mae’r nant heddiw a elwir erbyn hyn
yn “Nant y Morwynion”.
Lauren Bourne. BL 6.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bu plant CA2 ar daith I Theatre Ciwyd I weld perfformiad o’r Mabinogi gan gymryd rhan mewn gweithdy drama.
Bu Roman Whitehall a Molly Bourne yn cynrychioli Ysgol Carrog mewn cynhadledd Diogelwch Ffordd yng ngwesty’r Faenol Fawr. Fel rhan o Wyl Glyndwr death Ysgol Glyndyfrdwy I ymuno a ni am fore o arlunio gyda’r arlunydd amgylchedd Tim Pugh. Dangosodd Tim ddarluniau o’I waith yng Nghymru ac yn Tasmania cyn I’r plant fynd ati I greu gwaith eu hunain gyda defnyddiau a oedd ar gael o gwmpas iard a chae’r ysgol.
Fel rhan o’r prosiect Hanes bu CA2 yng Nghaer Gai, Bala I wrando ar Mr Bill Matthews yn son am y Rhufeiniaid.
Croeso I Imogen Cussick sydd wedi ymuno a’r Meithrin ac a fydd yn dod I’r Ysgol yn llawn amser ym Mis Medi.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gwaith ar bont Carrog gyda chymorth y ‘cherry picker’. Mae’r hun hefyd yn dangos y ffordd gwreiddiol a thrwch y ‘tarmac’ sydd wedi casglu dros y blynyddoedd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Marion a Cyil Brown yn torri’r gacen mewn parti yn y Neuadd I ddathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol. Diiolch yn fawr iddynt am noddi’r rhifyn hwn o’r Bont.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Neuadd ar Nos Lun 21 ain. Fe etholwyd y canlynol fel swyddogion:
Cadeirydd - Ian Lebbon
Isgadeirydd - Paul Fisher
Trysorydd - Colin Roberts
Is Drysorydd - Jayne Davies
Ysgrifennydd - Janicr Sheasby
Is Ysgrifennydd - Valmai Webb, Janet Jones.
Trafodwyd materion yn gysylltiedig a’r adeilad adnewyddu ffenest y gegin sydd wedi pydru. Cadeiriau newydd I’w cadw ar droli, lenni I’r ffenestri a’r drysau a chanopi I’r patio. Materion eraill Taliadau am logi’r neuadd a Ocsiwn Elusen.
Dangosodd adroddiad y Trysorydd fod £1,748 yn y cyfrifon ar 31 o Fawrth 2003 a £2,689 yn y cyfrifon ar y laf o Ebril 2004. Cafwyd £500 gan Mrs Fanning.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Nos Lun 16eg o Awst 2004 am 7.00 p.m.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mr a Mrs Bill Farr £20
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Fe gynhelir cyfarfod agored I holl drigolion Carrog a Llidiart y Parc yn yr Hydref I ethol pwyllgor ac I drafod rheolau ar gyfer y Gymdeithas:
1. Mae aelodaeth yn agored I holl drigolion Carrog a Llidiart y Parc yn rhad
ac am ddim.
2. Bydd aelodau yn cad mwynhau nifer o weithgareddau ac ymweliadau rhwng Carrog
a Plouyé.
3. Nid er mwyn gwneud proffid tdd y gymdeithas a bydd yr holl arian a wneir
yn cad ei ddefnyddio er budd y gymdeithas a’r aelodau.
4. Bydd yr holl arian yn cael ei warchod gan y Cadeirydd, ysgrifennydd, a’r
gymdeithas, ond gall unrhyw tin o’r gymdeithas bleidleisio.
Yn y cyfamser mae Jayne Davies wedi cytuno I warchod y £200 sydd ar ol o’r Rhost Mochyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynhelir y Camifal ar Awst l4eg. Bydd stondinau, tren bach a castell hwyl a sioe ffrwythau a llysiau. Brenhines y flwyddyn hon yw Angharad Roberts, gyda Lauren Bourne, Molly Westbury ac Elisha Nash yn gweini ac Oliver Knight yn ‘page’. Coronir y frenhines gan Bethan Scotford. Bydd yr orymdaith yn dechrau o Stesin Carrog am 1.30 p.m. a’r carnifal yn dechrau am 2 p.m. Bydd bar yn ystod yr hwyr gyda lluniaeth a cherddoriaeth Salsa gyda athro a fydd yn dysgu dawnsfeydd I ni.
Bydd holl arian yn cael ei roi I elusaenau Ileol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Fe gynhaliodd Max a Betty Gibbs ddiwrnod I ymweld a’r ardd I godi arian tuag at blant bach yn Tibet. Er fod y diwrnod braidd yn wlyb fe godwyd £814 a fydd yn galluogi mwy o gymorth I ddau blentyn ac arian tuagf at pentref yn Nepal.
Mae hwn yn achlysur blynyddol sydd yn werth ei gefnogi ac mae’r gerddi yn werth en gweld gyda phlanhigion o bob cwr o’r byd. Mae’r ddau yn diolch I bawb a ddaeth I weld y gerddi ac I’r rhai a helpiodd gyda’r raffl a gwerthu nwyddau.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae adnewyddu wal wedi body n cymryd Ile yng Ngorllewin Carrog yn ddiweddar. Llongyfarchiadau I’r waliwr sydd newydd gwblhau y tu allan I Glasfryn. Mae son fod pob carreg wedi ei osod ar ol meddwl yn ofalus a phaned neu larger rhwng bob un.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae amseroedd y gwasanaethau ar gael yn y Grouse, yn y Maes Carafanau a’r hysbysfwrdd wrth yr Eglwys. Fe gododd y Ffair Fai a’r Noson Goffi £489.00. Diolch I bawb a fynychodd y noson. Roedd y Noson Iechyd a Harddwch yn llwyddiant gyda 60 o bobi yno. Diolch I’r rhai a roddodd eu hamser I siarad a rhannu profiad. Fe godwyd £350.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Os ydych am roi neges o Longyfarch I unrhyw fyfyrwyr gallwch wneud hyn am
gost o £1.
Gyrrwch eich neges erbyn 2Ofed o Orffennaf os.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Poen cefn, llosg haul, a diffyg hwyl a chneifio. Am ychydig ddyddiau roeddwn yn paffio gyda defaid, ac yn ceisio tynnu eu cotiau heb golli bysedd. Mae’n edrych yn hawl wrth wylio’r bobl broffesiynol. Fodd bynnag wrth fy ngwylio I fe welwch pa mor anodd ydy cneifio. Fe ddaeth y glaw o’r diwedd ond ychydig yn rhy hwyr oedd hi mae arna’I ofn. Rwy’n gobeithio am dywydd bra far gyfer y cynhaeaf. Cawsom dipyn o drafferth y mis yma pan benderfynnodd bustych David Blair nofi’r afon a cyflwyno en hunain I’m bustych i. Fe gymerodd fore cyfan I geisio en troi am adre’ ond roeddynt yn gyndyn o fynd. Fe benderfynnodd pedwar ohonynt neidio’r ffens I Dy Mawr ond nid oedd y lleill mor ffit ac fe aethon nhw yn syth trwy’r ffens I’r ffordd ac mi chwerthais. Yn ffodus fe eathant yn o! I’r cae heb ormod o ffwdan ond nid oeddynt am groesi’r afon yn oil Ben y Bont. Dyna pan ddaeth Paul Fisher I’m helpu. D’wn I ddim be’ ddwedodd o wrthynt ond fe drodd pob un ohonynt are u sawdlau ac I ffwrdd a nhw ar draws yr afon gan fynd a un o’m bustych I gyda nhw (unwaith eto un cam ymlaen, a dau yn ol). Ar ol dod o hyd II wyn a chanddynt gynthron, fe benderfynnais roi ‘dip’ iddynt. Mae’r cemegau a ddefnyddir yn un gwych ac yn lladd bob math o gynthron a’r creadur druan sy’n ei ddefnyddio os nad yw’n ofalus. Felly gan wisgo fel gofodwr fe roes ddos I’r defaid a’r wyn a fydd yn en gwarchod am sbel a rhoi tipyn o lonydd I mi, os nad wyf yn cael amser I fynd o’u cwmpas yn ystod y cynhaeaf. O, a gyda llaw dyw’r sied dal ddim wedi ci gorffen.
Gareth Llan.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Fe wyr pawb fod ‘glas’ yn golygu y lliw sef ‘blue’ yn y Saesneg ond pan mae’n cael ei ddefhyddio mewn enw ile neu dy mae’n gallu golygu gwyrdd ex Glasfryn hefyd yn y gair glaswellt. Mae glas hefyd yn gallu golygu arian neu lwyd gleision. Mae’r enw neu’r gair ‘Glesni’ yn ol y cyfieithiad yn y geiriadur yn golygu ‘blueness’ neu ‘verdure’ sy’n cyfieithu’n ol I’r Gymraeg fel ‘gwyrddlesni’. Yng Ngaeleg ‘glass’ yw’r gair ac mae’n golygu ‘gwyrdd’ o hyd. Mae’r gair ‘glas’ hefyd yn gallu golygu rhywbeth neu rywun sy’n ifanc, newydd neu’n anaeddfed ex Geiwir yr wythnos gyntaf ym mywyd Coleg yn ‘Wythnos y Glas’ Fr myfyrwyr newydd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Clwb Bowlio Cynwyd. Bydd noson gymdeithasol ar Nos Wener 23ain o Orffennafyn Neuadd Carrog am 7 o’r gloch y.h. Tocynnau £5 I oedolion a £3 I blant, yn cynnwys bwffe ac adloniant.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dewch I ddathlu Penblwydd Iaf “Y Bont” yn y Neuadd. Nos Sadwrn 2i1 o Hydref, lie bydd cawl a noson o adloniant.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Nos Sadwrn l6eg o Hydref 2004 am I o’r gloch, y nwyddau I’w gweld o 11 o’r gloch ymlaen. Fe fydd yr elw yn mynd tuag at Y Neuadd ac Egiwys Carrog, felly os oes gennych unrhyw beth I’w gynnig, cysylltwch a Paul Fisher ar 430397 neu unrhyw aelod o Bwyllgor y Neuadd neu’r Eglwys.
Os ydych yn barod I roi help llaw ar/neu cyn y dydd byddwn yn ddiolchgar iawn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
* Plant Blwyddyn 6 sy’n gadael Ysgol Carrog at ddiwedd y Tymor hwn gyda myfyrwraig o’r Eidal - Erica Brossa.
Rhes gefn o’r chwith - Isobel Cardwell, Erica Brossa, Angharad Roberts
a Lauren Bourne.
Rhes Flaen - Sean Allan a Gus Shaw.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Barn yr ysgrifennydd y’wr hyn a geir mewn Ilythyrau a dderbynnir gan “Y Bont” ond mae’r golygydd yn dal yr hawl I olygu’r llythyrau.
Annwyl Olygydd,
Mae Pentref am fywyd ac nid yn unig at y Nadolig.
Mae Carrog yn bentref bach Cymreig wedi ei leoli yn Nyffryn Dyfrdwy. Mae’n
le hudolus I fod, neu feely y dywed mewn erthygl yn ddiweddar.. Mae wedi bodoli
ers dyddiau Owain Glyndwr. Mae gan y pentref bach hwn dafarn brysur, Neuadd
fendigedig, Ysgol lwyddiannus a tn man I addoli. Hyd yn ddiweddar roedd ganddo
Slop a Swyddfa Bost a oedd yn galon Pr gymuned and yn anffodus nid yw’r
galon honno’n curo mwyach, a’r siop wedi cau.
Mae’r dafarn yn brysur yn yr Haf on beth am Fisoedd y Gaeaf? Nid oes liawer o ymwelwyr ac mae’r penrtef yn ddistaw. Nid yw Carrog mor boblogaidd pan ddaw’r nosweithiau tywyll.
Mae digon o blant yn yr ysgol ar y funud I'w chadw ar agor, a chanddi’r Staff orau yn gwneud gwaith bendigedig. Ond beth fydd hanes yr ysgol mewn blynyddoedd I ddod ? A oes lie I bobi ifanc yng Nharrog I gadw’r ysgol I fynd?
Mae son am adeiiadu tai newydd ar gae’r Efail. Buasai hyn yn creu bywyd newydd. Cam fawr ond un fydd yn angenrheidiol efallai os ydym am ddenu pobi newydd I’r pentref, yn lie gweld rhai yn ei adael. Gobaith ar gyfer y dyfodol efallai?
Byddai’n wych caei 11 o deuleuoedd newydd yn y pentref 22 a oedolion a 22 a blant ? 22 o blant ychwanegol I’r ysgoi I sicrhau dyfodol addysg a safon uchel yr hyn a geir yno ar y funud.
Pe buasai 11 o gwsmeriaid newydd ar gael a fuasai drysau’r siop yn au agor? A oes bygythiad I’r Egiwys ac I’r Capeli ? Pe bai mwy a bobi yn mynychu’r dafarn yn ystod misoedd y Gaeaf a fuasai llai o fygythiad I’r dafarn yn y gaeaf. A beth am Neuadd 2000 ? Calon y gymdeithas yn aros I gael ci hymestyn.
Ond pam adeiladu tai newydd ar gae hardd a dinistrio ardal brydferth pan fo digon a adeiladau ar gael? Pam adeiladu tai newydd pan fo posib gwneud defnydd o’r hyn sydd gennym yn barod? Pam fod rhaid adeiladu I gymryd lle?
A fydd arwydd ‘Canol y Dref’ yng Ngharrog yn ddigon o fygythiad?
Mae ii a fythynod yng Ngharrog a oedd yn gartref I deuluoedd, 11 a deuluoedd yn cyfrannu I fywyd y pentref, 11 o deuluoedd yn bwydo’r siop, yr ysgol, y Neuadd, a’r dafarn. Beth yw hanes y bythynod heddiw? Mae’t yn perthyn I fywyd rhywun arall erbyn hyn, yn rhan o gymuned rhywun arall, and maent yn dal I fod yma. Yn wag yn dai haf! Yn brysur yn ystod y ac. ambell I adeg arall yn ystod y fiwyddyn yn unig.. Mae’r tai yma yn llyncu ei cymuned yn araf bach. A fuasai Carrog yn le mor ddeniadol heb ysgol, tafarn, Neuadd a chymuned, yn bentref diwyneb gyda ambell I ‘fore da’ bob nawr ac yn y man, wrth I rywun gyfarch rhywun arall sy’n byw yn rhywle arall.. Sialens I’r cynulliad. Arhoswch a meddyliwch cyn I chi ladd cymunedau Nadolig.
Nid dim and er ein mwynni and er mwyn cymunedau bach ymhobman sy’n dioddef fei hyn.
Enw a chyfeiriad ar gad.
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Olygydd,
Carrog rhywle I ymddeol ....
Os mai prif atyniad Carrog yw ei fod yn fan braf I ymddeol, am unwaith yn fy mywyd nid wyf yn rhy hwyr . Yn wir ‘rwyf 30 mlynedd yn gynnar (mwy os yw’r llywodraeth yn codi’r oedran ymddeol) Daethais I Garrog am y tro cyntaf tua 3 mlynedd yn ol ar oil nhad brynnu ty yma a syrthio mewn cariad a’r prydferthwch yn syth. Symudodd fy nhad I Tawelfa’ ac ‘rwyf wedi ymweld a Charrog yn aml ers hynny, Nadolig, Y Flwyddyn Newydd a gweid y teulu y.b. Ar ol nifer a ddigwyddiadau teuluol fe sylweddolais ei fod yn amser symud yn oil Gymru. Wedi r cwbl roeddwn mewn perygl a fad wedi byw mewn gwlad estron (Lloegr) am fwy a amser nag oeddwn wedi byw yng Nghymru. Daeth hysbyseb am swydd yn Wrecsam ac wedi ymgeisio a bod yn llwyddiannus roedd yn rhaid darganfod rhywle I fyw. Roedd yn rhaid I mi hefyd wneud yn siwr fod fy nhy yn Sheffield yn barchus ar gyfer rhywun arall gan nad oeddwn wedi bod yn byw yno mwy na 4 miynedd roedd ambell I jobyn bach heb ci orffen e.e cegin newydd a pheintio. Felly doedd dim liawer a amser I chwilio am rywle I fyw. Fe gynnigodd fy nhad I mi aros efo fo (dros dro meede fo) tra n edrydh am dy (ydw I’n rhy hen I fodyn byw gyda rhiant ? Mae pawb yn gwneud ar Eastenders ) Y broblem yw fy mad yn hoff iawn o fyw yng Ngharrog ydy mae n ddistaw iawn (arwahan I’r adar, defaid, gwartheg, plant ysgol, digwyddiadau yn y Neuadd, clychau’r eglwys, y tren srem y.b) mi faswn I’n dweud ei fad yn lie distaw; rwy’n gailu mynd I gerdded a beicio mewn amgylchfyd ysblennydd yn syth a’r ty. Mae yma dafarn sy n gwerthu peint o ‘Guinness parchus a bwyd da. Mae’r bob! yn gyfeillgar a dim and 10 munud ychwanegol o siwrne I r gwaith er ei fod 15 milltir yn bellach. Yr unig siom yw fad siop y pentrefwedi cau. Mae Sheffield yn Brif Ddinas hyfryd ac rwyf wedi mwynhau byw yno ond ar ol 10 mlynedd a fyw yno roeddwn wedi blino teithio I Gymru ac ati .Mae Carrog yn le ilawer mwy pleserus I fyw ynddo ar oi diwrnod called o waith
Ruth Price.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article