statcounter

       

Mai 2006

This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

* Llandron yn y Parc Er Cof Cymorthdal i’r Neuadd
Croesi’r Bont Eisteddfod Rebecca Scott
Grwp Cyfranogiad Cleifion Corwen Joan “The Grouse” Apêl ”Y Bont”
Weli’s a Berfa Cymdeithas Hanes Edeirnion * Erfyl a Catherine Williams
Gefeillio/Plouyé * Rheilffordd Stem Ysgol Carrog
Dyddiadur Newyddion Diweddaraf Iechyd

* LLADRON YN Y PARC- LLOSGI BWRIADOL YNG NGHARROG

Yn oriau mân Llun y Pasg, bu dau ymosodiad ar eiddo yn y Parc ac yng Ngharrog.

Gyrrodd lladron gerbyd drwy ffenest siop Gorsaf Betrol y Parc gan achosi difrod mawr i flaen y siop oedd yn fwy o lawer na’r gwm cnoi a’r wyau pasg a gafodd eu lladrata. Yna aeth yr un bobl drwy Carrog a rhoi car Eileen Williams ar dân ar ôl methu’i ddwyn.

Rhwystrwyd gwneud difrod i gerbyd arall oedd wedi’i barcio yn ei ymyl pan ddeffrodd Eileen i weld bod tân yn ei char hi deffro Colin Roberts wedyn a symudodd yntau ei gar ei hunan cyn i hwnnw fynd ar dân.

Daeth y frigad dân a diffodd y fflamau ond, fel y dengys ein lluniau, roedd y car wedi’i ddifetha’n llwyr.

Tybir bod dau ddyn o Wrecsam wedi’u harestio am y drosedd, ond nid oedd modd cadarnhau hyn gyda’r heddlu.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ER COF

Gyda thristwch adroddwn am y marwolaethau canlynol:

Len Weston, Maes y Llan a fu farw ddydd Sul 30 Ebrill. Tan y llynedd roedd Len yn ymwelydd rheolaidd yn y Grouse. Bydd ei gyfeillion yn gweld ei golli’n fawr. Mae’n gadael ei wraig Joyce a’r teulu.

Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Llansanffraid ddydd Mercher, 10 Mai cyn y gwasanaeth yn yr amlosgfa.

ER COF

Alf Hughes, Glandwr, Carrog gynt ac yn ddiweddar o Aups, Provence, Ffrainc a fu farw ddydd Llun 1 Mai ar ol cyfnod hir o waeledd. Mae’n gadael ei wraig, Deanne.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

GWOBRAU CYMRU GYFAN - CYMHORTHDAL I’R NEUADD

Mae Carrog wedi elwa o’r cymhorthdal Gwobrau Cymru Gyfan am yr eildro. Rydym yn ddiolchgar dros ben amdano. Rhoddwyd y cymhorthdal i brynu cadeiriau newydd ac i gael ychwaneg o fyrddau a dodrefn i’r ardd. Bydd y rhain yn cael eu harchebu toc felly gallwn edrych ymlaen at gael eistedd yn gyfforddus.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CROESI’R BONT

Ein dymuniadau gorau i Ian, Nia ac Angharad a groesodd y Bont i fynd i fyw yn eu cartref newydd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

EISTEDDFOD RYNGWLADOL LLANGOLLEN

Eleni, mae Carrog yn croesawu dau grp - mwy na hanner cant o bobl i gyd - o Fanaw ac o Lydaw. Mae arnom angen llety, a rhoddir tâl amdano. Felly, os gallwch fod o gymorth gofynnir ichi gysylltu â Paul neu Christine ar 430397.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LLONGYFARCHIADAU

I Ben a Sarah Scott ar enedigaeth eu merch Rebecca (6 pwys 6 owns) ac i’r neiniau a theidiau a modrybedd ac ewythrod wrth gwrs.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

GRWP CYFRANOGIAD CLEIFION CORWEN

Ar ôl cynnig i ddechrau Grwp Cyfranogiad Cleifion, bu cyfarfod yn y Ganolfan Byw yn Iach yng Nghorwen ar ddechrau Ebrill. Mae rhai grwpiau mewn ardaloedd eraill y DU wedi bod yn codi arian ar gyfer anghenion iechyd lleol a chefnogaeth gymunedol ar gyfer datblygu cynlluniau - fel cyfleusterau newydd mewn syrjeris. Y gobaith yw y bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r gymuned yn cyfranogi. Ar ôl ei sefydlu, bydd yn hunan - gynhaliol ac yn annibynnol o’r syrjeri leol. Cydweithio rhwng y gymuned a’r syrjeri fyddai’r prif amcanion - drwy gyfrwng taflenni newyddion, grwpiau addysgu, celf mewn syrjeri, arolwg cleifion a hysbysfyrddau’r grp ac efallai lyfrgell ar gyfer grwpiau hunangymorth gwahanol. Byddai meithrin mwy o ddealltwriaeth rhwng y syrjeri a’r gymuned yn gymorth i chwalu camddealltwriaeth a rhoi beirniadaeth adeiladol. Ar yr un pryd, bydd cynnal trafodaeth rhwng y naill ochr a’r llall yn golygu y gellir casglu gwybodaeth er mwyn gwella gwasanaethau iechyd cychwynnol yn yr ardal. Gwneir ymholiadau i grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau lleol er mwyn mesur y diddordeb gan obeithio cynnal mwy o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

DIOLCH

Hoffai Alan, Gill a’r teulu ddiolch i’r holl gyfeillion a chymdogion am eu caredigrwydd ac am y negesau o gydymdeimlad a dderbyniwyd ar ôl colli Joan. Bydd bwlch mawr ar ei hôl.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

APÊL “Y BONT”

Mae’n ddrwg gennym am hyn, ond mae’r adeg honno o’r flwyddyn yma unwaith eto. At bwrpas penodol iawn y rhoddwyd y cymhorthdal ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer costau rhedeg y papur newydd - sy’n £80 y mis ar hyn o bryd. Felly byddwn, unwaith eto, yn gofyn i’n noddwyr gyfrannu eleni eto. Os rydych wedi ein noddi yn y gorffennol - yna gofynnir ichi wneud eto os gwelwch yn dda. Os nad ydych wedi ein noddi yna ystyriwch wneud. Mae £50 yn flwyddyn o hysbysebion a’r wybodaeth eich bod wedi cyfrannu at ein cymuned.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

WELI’S a BERFA

Bydd pob ffarmwr defaid yn Gymro, Sais, Albanwr neu Wyddel yn gwisgo dillad glaw pan ddaw’r oen cyntaf a ddim yn eu tynnu am wythnosau bwygilydd. Nid yw hyn yn ddim gwahanol yn y Llan.

Bûm yn treulio’r mis diwethaf yn ceisio cadw cynifer o wyn yn fyw ag y gallaf er gwaethaf rhai defaid ystyfnig a natur sy’n ceisio fy rhoi yn y wyrcws, er hynny mae’n ymddangos ein bod wedi cael amser gweddol lwyddiannus. Ac eithrio taflu ambell fforch dail a strancio a chwyno bob nos am ddefaid yn y sied aeth popeth yn ôl y cynllun - dyna fel dw i’n ei gweld hi beth bynnag.

Yn ôl yr arfer, pobl y pentref sy’n rhannol gyfrifol am lwyddiant yr wyna yn Llan am eu bod bob amser yn rhoi gwybod imi os oes rhywbeth o’i le. Felly diolch yn fawr i bawb a ffoniodd neu a alwodd yn y tŷ. Diolch arbennig i Alun Rhyd Onnen Isaf a neidiodd o’r bws ysgol a rhedeg i roi gwybod imi fod oen newydd ei eni yn gaeth i lawr y boncyn yn y Dorlas. Roeddwn yn arbennig o ddiolchgar, yn enwedig wrth imi feddwl i ddechrau fy mod ar fin cael fy mygio pan welais i nhw’n rhedeg tuag ataf.

Ni waeth pa mor anodd fu’r tymor wyna, wrth iddi gynhesu a’r glaswellt yn dechrau tyfu a’r wyn yn chwarae yn y caeau mae’r holl drafferthion yn mynd yn angof, oni bai bod gennych chi wyn fel fy rhai i sy’n well ganddyn nhw bori wrth ymyl y ffordd, a phan dw i’n trio’u cael nhw’n ôl i’r cae dydyn nhw ddim yn gallu dod o hyd i’r lle daethon nhw allan yn y lle cyntaf.

Â’r wyna wedi gorffen bellach a’r tir yn sychu dyma fi’n penderfynu chwalu’r domen dail cyn iddi chwalu’i hunan ar y ffordd. Bob blwyddyn, drwy draul, neu drwy beth fyddai fy nhad yn ei alw’n gamdriniaeth, mae un neu ddau o ddannedd wedi plygu ar y loder, ac felly fu eleni hefyd. Doedd hyn ddim yn broblem ynddo’i hunan a dyma fi’n tynnu’r dant cyntaf, ei boethi’n chwilboeth, ei sythu ar yr einion ac yna’i roi o’n ôl ar y loder. Yna tynnais y dant nesaf a dechrau poethi hwnnw. Doeddwn i heb sylwi ar yr arogl llosgi i ddechrau nes imi edrych dros fy ysgwyd a chael braw o weld pen blaen y loder yn mygu. Roedd y dant poeth wedi cynnau olew oedd wedi bod yna am dros ddeugain mlynedd. Ar ol eiliad o banig, iaith anweddus a rhuthro am fwcedaid o ddr fe ddiffoddodd y tân a heb unrhyw ddifrod mawr wedi digwydd.

Pan lwyddais o’r diwedd i chwalu’r tail aeth pethau’n iawn er bod yna ddau dwll newydd ar ochr y sbredar lle daeth fy nhroed oddi ar y cydiwr ar adeg anffodus. Dywedodd Arwel Bach wrthyf i unwaith “Mae rhai sy’n gyrru tractor a rhai sy’n gyrru sgriws”, doeddwn i ddim erioed yn hollol sir o’i ystyr ond dw i’n weddol sicr mai un o’r rhai olaf ydw i a doedd o ddim yn bwriadu canmol fy sgiliau fel gyrrwr.

Erbyn hyn mae’r cyfnod cur pen gyda defaid wedi mynd a thro’r gwartheg ydy hi i gael hwyl am fy mhen i. Gan fod y gwair sy wrth gefn yn rhedeg yn isel, penderfynais roi ychydig o loi allan yn Cae Dan Ty (cae gwyrdd ffrwythlon). Ar ol pum mis o dan do aethon nhw o’u co’ a finnau’n eu gwylio nhw’n chwarae a mwynhau’r rhyddid newydd. Unwaith roedden nhw wedi setlo a rhedeg allan o stem, gadewais i nhw iddi. Ymhen hanner awr pan ddois i’n ôl roedden nhw wedi torri ffens, croesi’r afon ac ar eu ffordd i gae cymydog. I fod yn deg iddyn nhw fe ddaethon nhw’n ol heb unrhyw drafferth. Ond wedi imi drwsio’r ffens dyma nhw’n gwneud union yr un peth drannoeth . Penderfynais fy mod wedi cael digon a’u symud ar draws y ffordd i Cae Ysgol.

Roedd popeth yn dawel am ychydig o ddiwrnodiau - yr haul y tywynnu a’r defaid a’r gwartheg yn hapus, a finnau’n llai blin nag arfer. Yn anffodus, chwalwyd y rhith o wynfyd gwledig pan ffoniodd Tina i ddweud bod y lloi yn derfysglyd ac yn dawnsio’r tango yn un o erddi Maes y Llan. Afraid dweud eu bod wedi symud i gae arall ble maen nhw i’w gweld i fod yn byhafio’u hunain.

Gareth Llan
© hawlfraint Gareth Bryan 2006

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CYMDEITHAS HANES EDEIRNION

Credwn bydd pawb yn mwynhau ein rhaglen ar gyfer 2006. Ddydd Mawrth 23 Mai bydd gwibdaith gyda’r hwyr i Fasn Trefor a Phont dd?r Pontcysyllte, gan ei chroesi mewn cwch. Gareth Vaughan Williams fydd yn ein tywys, ac wedyn cawn bryd o fwyd mewn bwyty yn Llangollen. Cyfarfod yn y basn am 6.15 p.m.

Ddydd Mercher 28 Mehefin, bydd gwibdaith i Albert Dock yn Lerpwl i ymweld â’r Amgueddfa Forwrol yn Amgueddfa Bywyd Lerpwl, Oriel Tate o Gelfyddyd Gyfoes a mwy. Bydd y bws yn gadael Maes Parcio Corwen am 9.30am yn brydlon ac yn dychwelyd tua 5.30 p.m.

Mae bwcio’n angenrheidiol i’r ddau ddigwyddiad. Gofynnir ichi gysylltu ag Anne Jones, Plas Isaf Glyndyfrdwy, - Ffon:- 01490 430224.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

GEFEILLIO / PLOUYÉ

Mae’r penwythnos gefeillio’n cychwyn gydag ymwelwyr o Plouyé yn hwyr nos Iau Mai 25.

Ar y dydd Gwener byddant yn mynd am daith dros fynydd y Berwyn gan gael cinio yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog.

Bydd cyngerdd am 3.00 p.m. yn y Neuadd ac estynnir gwahoddiad i bawb. Bydd adloniant gan ddisgyblion Ysgol Carrog

derbyniad swyddogol.

Dydd Sadwrn bydd yr ymwelwyr yn mynd i Langollen am daith ar y gamlas (dylai unrhyw un sydd am ymuno fod yn y lanfa am 11.30 a.m.). Ar ôl dychwelyd byddant yn ymuno yn yr orymdaith o Orsaf Carrog am 3.30 p.m. Bydd un o’r ymwelwyr yn agor y Carnifal.

Ar nos Sadwrn bydd rhostio mochyn a disco yn y Neuadd. Bydd yr ymwelwyr yn ymadael fore dydd Sul.

Bydd y Grwp Gefeillio’n cynnal Stondin Tombola yn y Carnifal a bydd raffl yn y Rhostio Mochyn. Byddant yn gyfrifol am y salad. Os gallwch fod o gymorth mewn unrhyw ffordd ymarferol, rhoi gwobr neu wneud salad yna gofynnir ichi gysylltu â Bronwen neu unrhyw aelod arall o’r Pwyllgor gefeillio/Carnifal.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* PEN-BLWYDD AGOR Y RHEILFFORDD STEM

Dechreuwyd adnewyddu’r lein o Langollen yn 1975 pan gymerodd The Flint & Deeside Preservation Society, - i’w alw’n ddiweddarach yn Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen - yr hen orsaf adfeiliedig ac ychydig o lathenni o’r trac. Y cynllun oedd cyrraedd Corwen yn y diwedd.

Ymhen ugain mlynedd fe ddechreuodd y trenau redeg unwaith eto i Orsaf Carrog a bu agoriad mawreddog ar 2 of Mai 1996. Yn ystod y cyfnod hwn fe osodwyd wyth milltir o’r trac ac adnewyddwyd gorsafoedd Glyndyfrdwy a Charrog.

Ar 2 o Fai 2006 dathlwyd degfed pen-blwydd yr agoriad gyda thaith trên o Langollen gan wahodd gwesteion i Garrog i fwynhau llymaid o Champagne a darn o deisen a addurnwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan aelod yr ymddiriedolaeth. Erbyn hyn Carrog yw’r lleoliad ar gyfer y darn olaf i Gorwen. Llwyddwyd i wneud hyn i gyd drwy frwdfrydedd ac ymdrechion medrus gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* LLONGYFARCHIADAU

Llongyfarchiadau mawr i Erfyl a Catherine Williams, Ty Newydd ar ddathlu eu Pridas Aur ar Fehefin 2ail.

Daeth Catherine (Owen gynt) o Talsarnau ger Harlech yma i Garrog yn athrawes i’r ysgol dros hanner can mlynedd yn ol, abu iddi gyfarfod ag Erfyl (Troed-yr-Allt) a phriodi yng nghapel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth ac yna ymgartrefu yn Nhy Newydd. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonoch oddi wrthy teulu a’ch ffrindiau i gyd. XXX

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

YSGOL CARROG

Roedd yr holl blant wedi mwynhau diwrnod yng Ngholeg Llysfasi yn ddiweddar. Yn ystod y diwrnod gwelsant gneifio defaid, trin c?n a phlannu coed a daeth myfyrwyr cyfeillgar i ddweud wrthynt am y cyrsiau sydd yn y Coleg.

Bu Amber a Holly yn cymryd rhan yn y diwrnod cyfoethogi mathemateg yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen yn ddiweddar gyda disgyblion eraill yr ardal.

Mae band yr ysgol a’r gr?p recorders wrthi’n ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Mae’r rhagbrawf cyntaf am 7.45 a.m., sy’n golygu bydd angen cychwyn yn fuan er mwyn twymo’r offerynnau.

Mae Alice, Amber, Cody, Chloe, Sioned ac Oliver wrthi’n brysur yn ymarfer dawns y glocsen a fydd yn rhan o’r seremoni yn yr Eisteddfod dydd Mercher.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

DYDDIADUR

Dydd Sadwrn 13 Mai - Eglwys Carrog “Arwerthiant pen bwrdd” 10.00 a.m. yn Sgwâr Corwen .

Dydd Iau 25 Mai - Ymwelwyr o Lydaw yn cyrraedd - llymaid yn y Grouse.

Dydd Gwener 26 Mai - 3.00 p.m. Cyngerdd am ddim yn y Neuadd gan Ysgol Carrog Derbyniad swyddogol.

Dydd Sadwrn 27 - 3.30 p.m. Carnifal -gorymdeithio o’r Orsaf i’r Neuadd 8.00 p.m. Rhostio Mochyn a Disco

Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf - Saethu colomennod clai a band byw gyda’r hwyr.

Dydd Sadwrn 8 Gorffennaf Celadagh yn y Neuadd - manylion yn ddiweddarach

Trydydd dydd Sul y Mis - O fis Mehefin ymlaen bydd Llansantffraid yn dechrau cynnal gwasanaethau teuluol unwaith eto. Bydd y cynnwys yn ysgogi plant a phobl ifanc (a’r rhai ifanc o galon) i fynychu’r eglwys ac i gymryd rhan yn y gwasanaethau. Dewch i roi cynnig arni!

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

NEWYDDION DIWEDDARAF AR Y WEFAN

Os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, mae yna adran newyddion hwyr am newyddion neu ddigwyddiadau a ddaeth rhyng y rhifynnau papur. Cyfeiriad y wefan yw Os oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, mae yna adran newyddion hwyr am newyddion neu ddigwyddiadau a ddaeth rhwng y rhifynnau papur. Cyfeiriad y wefan yw. Os oes gennych fynediad ir rhyngrwyd, mae yna adran newyddion hwyr am newyddion neu ddigwyddiadau a ddaeth rhwng y rhifynnau papur. Cyfeiriad y wefan yw www.ybont.co.uk

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

MATERION IECHYD EBRILL 2006, at Dr IAN WILLIAMS

Gwyliaddwriaeth Achlyst

Gwahanu yf yd oddiwrth y manus cyn i’r felin achlyst gael amser f w brosesu ac ychwanegu cemegau a stwff drwg arall.

Mae rhai achlystau rhyfedda o gwmpas y mis yma! Yn ychwanegol i’r hen gastanwydden fy mod i yn gadael i fod yn “beintiwr ac addurnwr”, mae’n debyg y dywedir fod meddygon (ddim yn sicr os yw hyn yn golygu meddygon Corwen yn benodol) yn cael eu talu symiau mawr o arian gan gwmniau sydd yn ymuneud a fferylliaeth fel arogaeth i darnodi eu cyffuriau penodol.

Mmmmmm - ‘Rwyn ofni eich bod wedi ei chael hi’n anghywir. Mae cynrychiolwyr cwmniau sydd yn ymwneud a fferylliaeth yn rhoi ysgrifbinau plastig rhad mewn ymdrech I berswadio meddygon i ddarnodi eu cynnyrch, nid amlenni yn llawn o arian. Fel matter o ffaith mae gennym polisi yn y Meddygfa i beidion gweld cynnychiolwyr y cwmniau yma ac hefyd osgoi digwyddiadau addysgiadol noddir ganddynt.

DISPENSIO

Fel y crybwyllwyd yn y llythyr newyddion dwytha, mae y meddygfa yn gwneud cais arall i gael yr hawl i ddosbarthu moddion i rai o’r clefion (y rhai sydd yn byw mwy na milltir o ganol y dre). Fyddai hyn yn dod a’r meddygfa I weithredu yr un fath a’r rhai cyfagos sef Rhuthun, Dinbych, Cerrigydrudion, Betws-y-Coed a’r Bala. Yr rheswn ein bod yn gwenud cais rwan yw bod y llywodraeth yn Lloegr wedi rhwystro ceisiadau newydd ac mae y Cynulliad Cymraeg yn meddwl ar yr un llinellau, felly “rwan neu byth” Mae pethau yn y dyddiau cynnar a bydd y trafodaethau yn cymeryd amser, ond teimlwn fyddai hyn o fantais i’r clefion ac yn diogelu dyfodol y Meddygfa yng Nghorwen.

GRWP CYFRANOGIAD CLEIFION

Dydd Llun Mawrth 27ain yn y Pafiliwn yng Nghorwen, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf i drafod creu Grwp Cyfranogiad Clefion yn cael ei redeg mewn cydweithrediad a’r Meddygfa. Nid oedd y presenoldeb yn dda - 14 ddaeth yno. Rhoddais cyflwyniad byr ar y syniad o GCC a bu rhyw gymaint o drafod. Gobeithir bydd grwp o’r math yma yn gweithredu fel sianel ddwyffordd am wybodaeth a dylanwad yng nghyswllt datblygu gofal elfennol a chymunedol yng Nghorwen. Byddai yn cael ei redeg gan y clefion, ddim gan y meddygfa. Mi fyddai grwp o’r math yma yn gallu trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd addysgiadol, cyhoeddi llythyr-newyddion neu cynorthwyo i sefydlu grwpiau hunan gynorthwyol. Rhiad bod llawer o bobol yn y gymuned gyda’r gallu, egni neu’r amser i allu fod yn gysylltiedig. Gan obeithio ffurfio pwyllgor, cynhelir ail gyfarfod yn y Ganolfan Byw yn lach, Dydd Llun, Ebrill l0fed.

Os ydych yn dymuno cael llais yn y datblygiadau, neu os hoffech weithredu ar y Pwyllgor, a wnewch chi bresenoli plis. Os oes gennych cwestiynau cysylltwch a mi, Dr Williams, yn y meddygfa.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.