statcounter

       

Tachwedd 2004 November


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Ocsiwn Elusen * Carrog 1925 ?
Stesion Carrog Ysgol Carrog 1950
Myfyrwyr Blwyddyn Gyntafm Dyddiadur Llythyrau
Loteri Neuadd   Ocsiwn ‘Etiquette’

Golygyddol

Does dim golwg o oleuadau Nadolig yng Ngharrog nac yn Llidiart y Parc hyd yn hyn felly mae hyn yn arwydd fod gennym ychydig o wythnosau i paratoi ir Nadolig. Mae gennym dwll mawr yng nghalendr gweithgareddau’r Neuadd, felly rydym am gynnal ‘Y Bash’ blynyddol ar Nos Sadwrn Tachwedd 13eg. Bwriad ‘Y Bash’ yw i bawb fwynhau ac i godi digon o arian i gadw’r ‘Bont’ i fynd yn 2005.

Dewch i ymuno a ni wrth i ni ddathlu ein penblwydd (braidd yn hwyr) ac fel diolch i bawb am eu cefnogaeth bydd raffl am botel o ‘Famous Grouse’ i bawb sy’n gallu dangos set cyflawn o’r ‘Bont’ - 14 i gyd - ar y noson. Ar ol cyfnod distaw lle nad oedd tai ar werth yng Ngharrog fe welwn fod tri ty ar werth a rydym yn dal i aros am fwy o wybodaeth ynglyn a tir yr Eglwys.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ocsiwn Elusen Carrog / Parc

Bu nifer o bobl yn hael iawn wrth roi a phrynnu yn yr ocsiwn a buasai’n anodd iawn enwi unigolion heb adael rhywun allan. Er hyn rhaid rhoi diolch arbennig i rai o’r tu allan i Garrog a Pharc. Roedd eu cyfraniad yn werthfawr iawn. Dick ‘Auctioneer’ a roddodd ei amser a’i wasanaeth yn rhad ac am ddim, bu bron iddo werthu popeth, ar adegau, i bobl nad oeddent yn gwybod eu bod wedi bidio. I Gordon ac Ann Jones am eu cymorth wrth drefnu’r noson, ac am y syniad gwreiddol. I Tina ‘Post’ am hysbysebu’r noson ac am helpu ar y diwrnod, ac yn olaf i Nicola tustain am gyfrannu ei siwmper a’I chap Olympaidd a roddodd hwb i’r arian a godwyd.

Rhaid diolch hefyd i’r tim a fuodd yn brysur ar y diwrnod yn rhedeg y sioe ac o flaen llaw yn paratoi - yn casglu yn labelu a phrisio, yn gosod y Neuadd ac yn paratoi lluniaeth. Does dim lle i enwi pawb ond mae pawb yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am y gwaith.

Fe godwyd cyfanswm o £1,706 sy’n cael ei rannu fel a ganlyn -

Printio a chyhoeddusrwydd - £75
Grwpiau Ynys Manaw a Llydaw - £50 yr un am gefnogi Carrog yn ystod penwythnos Glyndwr.
Neuadd Carrog -£726 Eglwys - £726

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* Carrog 1925 ?

Llun neis o Garrog ond beth ddigwyddodd i Maes y Llan? Pryd gafodd y llun ei dynnu. Llun gan Edgar Jones. Os edrychwch yn ofalus mae’r Carchardy yn dal i sefyll ar yr adeg hwnnw. Golchi yw’r darn gwyn wrth yr afon ger ‘Riverdale’.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Stesion Carrog 2

Daeth dyfodiad Rheilffordd Corwen a Llangollen ar y 6ed o Awst 1860 trwy’r Senedd. Mae Carrog wedi ei leoli ar y lein hon. Gorffennodd y gwaith gan Thomas Brassey yn gynnar yn 1865 ac fe agorwyd y lein ym Mis Mai y flwyddyn honno. Cafodd y lein o Riwabon i Bermo ei gwblhau yn 1869 a’i redeg gan y GWR. Roedd hyn yn galluogi I bobl deithio o Ddinasoedd megis Llundain a Manceinion I arfordir Cymru.

Wrth i drafnidiaeth brysuro fe wnaethpwyd nifer o newidiadau ar y lein mewn Stesion. Cafwyd platfform ychwanegol, ystafell aros, ac estyniad i’r platfform gwreiddol yng Ngharrog. Newidwyd y ‘sidings’ ond fe arhosodd popeth arall yr un fath hyd nes i’r Stesion gau yn 1964.

Caewyd y lein ar Ragfyr 13eg 1964 gan lifogydd rhai wythnosau cyn iddo gau’n swyddogol. Ni agorodd wedi hyn o dan Rheilffyrdd Prydain. Cafwyd gwasanaeth bws ‘Crosville’ yn ei le sy’n dal yn debyg iawn heddiw.

Cafodd y Stesion ei gau, symudwyd y ‘tin sheds’ ac cafodd y lein ei chodi yn 1968.Cafwyd y ‘trackbed’ a’r adeiladau gan Rheilffyrdd Prydain trwy’r Cyngor lleol. Cafodd y bocs ac ystafell aros platfform 2 ei dynnu I lawr gan y Cyngor gan nad oeddent yn saff. Fe newidwyd Ty’r stesion yn dy Cyngor a oedd yn cynnwys y prif adeiladau a rhan o blatfform i a gafodd ei newid ychydig gan y tenant. Defnyddiwyd y ‘trackbed’ yr iard a’r platfform arall gan ffermwr lleol a fu’n gymorth i sicrhau goroesiad y maes wrth I natur gymryd drosodd. Cafodd y ‘Flint and Deeside Preservation Society( ac yn hwyrach y Llangollen RailwayTrust)ei sefydlu ym Mis Gorffennaf 1975 gyda’r bwriad o ail gor 10 milltir o reilffordd gwreiddiol Cwmni Rheilffordd Corwen a Llangollen. Cafodd y Rheilffordd ei agor mewn rhannau gan gychwyn gyda Llangollen.

Roedd y ty, adeiladau’r stesion, y tir a rhan o blatfform i wedi ei bwrcasu gan denant y Cyngor a’i roi ar y farchnad yn 1989. Prynnwyd y cwbl gan aelod o’r ‘Llangollen Railway Trust’ fel cartref preifat. Cychwynodd weithio ar adnewyddu’r adeiladau gan gynnwys lloriau newydd,ail ‘rendro’r’ waliau, ffenestri newydd a gwres canolog y.b y.b. Ffurfiwyd ‘Friends of Carrog’ ar y 15fed o Ionawr 1992 gan aelodau o Reilffordd Llangollen i sicrhau gwarchodaeth rhannau gwreiddiol o’r Stesion, ac i sicrhau ei fod yn cael ei adnewyddu mor agos i’r hyn a oedd yn bodoli yn y 50au. Defnyddiwyd lluniau, hanesion gan haneswyr a phobl lleol a llenyddiaeth briodol i hel gwybodaeth cyn cychwyn ar y gwaith. Roedd angen defnyddiau ac adeiladau cyflawn a gafwyd o gwmpas y wlad a’i ail- adeiladu yng Ngharrog. Roedd yn rhaid gwneud ambell i arwydd neu lamp lle nad oedd posib cael gafael mewn un gwreiddol. Roedd yn rhaid cael caniatad y perchennog er mwyn cael defnyddio’r adeiladau a’r mynedfa sy’n gwneud y Stesion hon yn un unigryw. Fe agorwyd Stesion Carrog ar ol arolwg gan HMI y Rheilffordd ar 2il o Fai 1996 gan Ddug ‘Westminster’. Cafodd y Rheilffordd wobr Ian Allan fel y Rheilffordd annibynnol orau yn 1998. Rydym yn edrych am wirfoddolwyr, ac mae croeso i unrhyw un o Garrog neu Llidiart y Parc gysylltu a ni os oes gennych ddiddordeb. Galwch yn y Stesion am sgwrs.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ysgol Carrog

Llongyfarchiadau I’r pplant a gymerodd rhan yng nghystadleuaeth Celf Pafiliwn Corwen. Cafodd Ysgol Carrog y wobr gyntaf o £100 am yr ail flwyddyn yn olynnol gyda Sioned Roberts yn ennill gwobr arbennig am ei Phabell Syrcas. Codwyd £100 tuag at Nyrsus Macmillan, ac rydym wrthi’n codi mwy o arian gyda sillafu noddedig. Mae’r plant yn brysur hefyd yn llenwi bocsus ‘sgidie tuag at ‘Operation Christmas Child’.

Llongyfarchiadau i Jack Matischok a Chloe Jones a fydd yn cynrychioli’r ysgol yn y rasus traws gwlad y Sir.

Roeddem yn falch iawn o glywed fod Lauren Bourne a Gus Shaw, cyn-ddisgyblion Ysgol Carrog yn y 10 uchaf ym mlwyddyn 7 yn Ninas Bran.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Myfyrwyr Blwyddyn Gyntafm

Pob lwc i Michael Blair sydd yn Telford yn astudio Graffeg Cyfrifiadur ac i Richard Hughes sydd yn Brighton yn astudio’r gitar.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Dyddiadur

‘Bash y Bont’ - Tachwedd 13eg - 8 y.h

Cyfarfod pwyllgor y Neuadd - Tachwedd 15ed (DS - mae angen cynrychiolydd o bob grwp sy’n defnyddio’r Neuadd ar hyn o bryd)

Ffair Nadolig yr Eglwys - Tachwedd 24ain - 7 y.h

Carolau o Gwmpas y Goeden - Rhagfyr 2il - 6.30 y.h

Gwasanaeth’ ‘Christingle’ - Eglwys Carrog - Rhagfyr 14eg - 2.15

Cyngerdd Nadolig Ysgol Carrog - Rhagfyr15ed - 6.30 y.h

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

I’r Rhai a Anwyd Cyn 1950 (A rhybudd i’r rhai na anwyd cyn hyn)

Nawr fy mod yn hyn ond yn gwrthod tyfu i fyny dyma’r

hyn yr wyf wedi ei ddarganfod:

  1. Dechreuais gyda dim, ac mae’r rhan fwyaf ohono’n dal gennyf.
  2. Mae fy ‘wild oats’ wedi newid i mewn i ‘All Bran’ ac eiren sech.
  3. Ar ol sortio fy mhen mae fy nghorff yn syrthio’n ddarnau.
  4. Gyda’r adroddiadau i gyd i mewn - mae’n swyddogol fod bywyd yn anheg.
  5. Os nad yw popeth ar goll - lle mae o?
  6. Mae’n haws heneiddio na thyfu’n ddoeth.
  7. Biti nad yw’r ‘buck’ yn stopio yma- buaswn yn gallu gwneud hefo rhai.
  8. Mae’n anodd gwneud ail-ddyfodiad pan nad ydych wedi bod yn unman.
  9. Yr unig amser mae’r byd yn curo ffordd i’ch drws ydy pan ydych yn y bathrwm.
10. Os oedd Duw yn bwriadu i mi gyffwrdd fy nhraed mi fuasai wedi eu rhoi ar fy ngliniau.
11. Pan fyddaf yn gafael yn y cardiau i gyd o’r diwedd pan fod pawb arall yn penderfynnu chwarae ‘chess’
12. Nid yw’n anodd cyrraedd costau - maen’t ym mhobman.
13. Yr unig wahaniaeth rhwng twll a bedd yw’r dyfnder.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llythyrau

All letters must be accompanied by name and address of the writers. Opinions expressed in letters to Y Bont are purely those of the writers, however the editors reserve the right to edit letters submitted.

Dear Editor’s of Y Bont

The Summer Fayre was a success this year and raised £1,102 22p which is now being distributed to various organisations within the village. The committee had a meeting at the end of September and decided to donate £225.00 to Y Bont to cover 3 months printing. We hope this is of help to you with the costs and we wish to congratulate you on all your hard work in getting Y Bont out each month.

We wish you well and hope that Y Bont will continue.

Yours sincerely

Nia Roberts Chairman

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Dear editor

Thank you for a year of Y Bont, we always look forward to receiving it and catching up with the news of the community. I am writing in response to your picture of Carrog Juvenile Choir. I too, have a copy of the photograph that was given to you by Mrs Brown. My copy is inscribed on the back, with the date 1922. My copy of the photograph belonged to my Grandmother, Olwen Utting (nee Evans), who is the girl in the centre of the second row (behind the two girls holding the placard). Olwen was born in 1908 at No 9, Gwylfa Terrace, Llydiart-y-Parc and would be 14 in the photograph. She was the second child with two sisters and two brothers.

Olwen married a Liverpudlian, Harry, and moved to Liverpool in 1932. They finally settled in London after the war with their young son Dafydd, my father, and the family remained in London until a few years after Harry’s death. In the mid 1970’s Olwen returned to Carrog and lived at No. 2 Tai Teg. Her brother Brynle returned to live at No 9 Gwylfa, and her youngest sister Marion came to live at Llaburnum Cottage. Brynle died in 1995 and Olwen in 1997. No 9 Gwylfa, where they were all born has remained with my family, finally passing to me last year. I have very happy memories of Carrog from when I was a child. We would come in the summer and play by Carrog bridge. Throughout my life I have continued to visit the village, more so these days as we now have a house to look after. For the moment we are still based in Bristol, but we hope that will change! For those who have noticed the new house name, you will understand why I have called it Ty Fy Hen Nain (my great grandmother’s house).

Carrog is a very special place, Olwen always called it home, and I am proud and delighted to continue the family connection here.

Best regards

Nikki Potts (nee Utting)

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Loteri Neuadd

1st Sarah Nash £20
2nd Grenville Teague £10

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Auction Etiquette

The Neuadd clock it chimed at two,
The hall was full of bidders who
With pounding hearts and loadsa cash
Looked out for bargains midst the lots
Around the room displayed so well
Tables, chairs - a bike with bell!

There are some rules of auction sales,
Observed by farmers throughout Wales
Keep very still or you may be
The owner of much property!
For Dick our man with gavel ready
Will note each twitch so keep quite steady
A nod is worth two pounds a hike
Thats how you’ll buy that old dead bike!

The sale went on throughout the day
With prices fair so most would say
White coats ran up and down the aisles
Moving goods and raising smiles
Not much left now and most had gone
To generous bidders every one.

Then, “What have we here” says auctioneer?
A wedding dress - its size unknown
In white, no veil or matching shoes
Worn but once and ready now
For pastures new, so who will choose?
“What am I bid?” All heads look down
Save one bidder at the back
Who with his mates was taking tea
And nodding very vigorously
The bid’s with him but does he know?
That’s how he bought a pi-an-o!
No other bids, a gavel fall!
A whisper runs around the hall
All heads turn round to see who’s got
Such a bargain wedding lot.
“Me?” the question. “Is it mine?”
“Did I make a bidding sign?”
“You did our friend and if you’re able,
Then please to pay at our front table!”

The moral of this story plain
When auction going think again
’Fore nodding head or winking eye
At mates around or sat nearby
In case our auctioneering friend
Considers that to be the end
And leaves our farmer with the shock
Of having bought a Wedding Frock!

ANON E. MOUSE

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article