Mawrth 2005 March
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
THIS MONTHS EDITION IS SPONSORED BY P. & J. V. JONES - FLORISTS AND FRUITERERS
Ar 11 o Chwefror cafodd 10 o ysgolion lleol, gan gynnwys ysgol Carrog, y newyddion brawychus eu bod yn cau yn 2006. Newyddion ‘Cyfrinachol’ oedd hwn i fod ac nid oedd i’w ddatgelu tan y 15 fed pan fyddai Datganiad I’r Wasg. Nid oes unrhyw syndod bod y Wasg wedi cael gwybod ar unwaith a lledodd y newyddion fel tân gwyllt ar hyd a lled y gymuned. Yn ôl a glywsom, mae’r ymatebion yn amrywio o ffieidd-dod i ddicter ac i fethu credu sut all y fath gynnig gael ei ystyried heb gynnal unrhyw ymgynghoriad a heb ddeall rhan hanfodol yr ysgolion lleol ym mywyd y gymuned.
Er hynny, bu ymateb y cyhoedd yn anhygoel. Anfonwyd dwsinau o lythyrau a gwnaed galwadau ffôn at Gynghorwyr, Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad. Bu eich golygyddion yn ystyried cyhoeddi rhifyn arbennig o’r Bont i roi mwy o gyhoeddusrwydd a chyfle i grynhoi sylwadau pobl.
Daeth yn amlwg iawn nad y rhieni, y disgyblion a’r athrawon yn unig oedd yn bryderus, ond pob rhan o’r gymuned - fel y dywedodd un llythyr at Brif Weithredwr Sir Ddinbych ’Bydd cau ein hysgol yn mynd â’r galon o’n cymuned wledig, ac ohonom ninnau.
Ar 22 Chwefror bu cyfarfod o’r Cyngor Sir i ystyried y cynigion, cynhaliwyd protest gyda’r holl gymunedau sydd o dan fygythiad yn mynychu. Yn wyneb y gwrthwynebiad hwn fe dynnodd y Cyngor eu cynigion yn ôl dros dro.
Croesawn y penderfyniad hwn ac, am y tro o leiaf, bydd Ysgol Carrog a’r ysgolion gwledig eraill yn dal i ddarparu’r addysg gymunedol wych maen nhw’n enwog amdani.
Ond nid dyma’i diwedd hi, ond y dechrau’n unig. Bydd brwydr ar droed yn y dyfodol a bydd rhaid inni fod yn effro i fygythiadau o ddau gyfeiriad. Yn gyntaf, codir y mater hwn eto; ac yn ail, un ffordd yn unig yw hon o’r nifer o ddulliau mae’r llywodraeth ganolog a’r llywodraeth leol yn eu defnyddio o’r hyd i erydu’r bywyd gwledig.
Rydym wedi cyhoeddi pob llythyr a dderbyniwyd sy’n cefnogi’r Ysgol er bod y bygythiadau wedi distewi, dros dro.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ers tua 9 mlynedd safodd potel heb ei chyffwrdd ar far y Grouse. Cafodd ei defnyddio i gasglu at nifer o elusennau gwahanol. Ers dydd Sant Steffan defnyddiwyd y botel i hel pres at Apêl Tsunami Carrog, a chasglwyd tua £150. Ar nos Iau 17 Chwefror cafodd y botel ei lladrata o’r bar, ac fe’i gwelwyd wedi malu a gydag ychydig o bres mân ar Ffordd Ty Nant.
Cafodd dyn oedd yn gwersylla yn y pentref ei arestio.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bu’r plant iau’n mwynhau eu hymweliad â Chwarel Galchfaen Aberdunna, noddwyd y daith gan Clwb Rotari Llangollen. Yn ystod eu diwrnod cawsant eu tywys ar daith drwy weithfeydd y chwarel, a chael cyfle ymarferol i falu mathau gwahanol o gerrig, a mynd i chwilio am ffosiliau. Uchafbwynt y diwrnod oedd cael eistedd mewn bwced anferth rhaw greigiau’r JCB.
Mae gan y plant nifer o ddigwyddiadau ar y gweill eleni. Bydd pawb yn cymryd rhan yn y Cyngerdd Cronfa Trychineb Tsunami ar Ddydd Gwener 4 Mawrth. Ar hyn o bryd, mae’r plant wrthi’n llenwi poteli llefrith gyda darnau 1c, 2c, a 5c at yr achos hwn. Os oes gennych chi bres mân yna rhowch nhw i’r plant os gwelwch yn dda.
Derbyniodd y Clwb Ar ôl Ysgol gymhorthdal o £1,564 oddi wrth y Gronfa Cyfleoedd newydd, defnyddir hwn i brynu mwy o offer ar gyfer y Clwb. Mae Dawn Boydell a Sue Hilton wrthi’n brysur yn trefnu gweithgareddau crefftau ar gyfer plant sy’n mynychu’r Clwb, mae’r Clwb yn cyfarfod bob dydd ac eithrio ar ddydd Iau.
Bu cefnogaeth dda i Sêl Atig y Gymdeithas Rhieni Athrawon, codwyd £118. Ac i bawb o bob oed sy’n colli pethau o’r hyd; ysgrifennodd Molly Bourne y pennill sydd ar y dudalen nesaf wrth iddi fod wrthi’n chwilio am ddarn o linyn tra roedd yn gorffen ei model.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
STRING! A poem by Molly Bourne
It’s a terrible thing when you can’t
find your string,
It leaves you all of a dither,
When you want to tie bows it’s right under your nose,
But you’re running hither and thither.
It’s a terrible thing when you can’t
find your string,
It leaves you all bothered and hot!
You look red from all sides when your string goes and hides,
It should be your string that’s tied in a knot!!!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Erbyn hyn mae cyfraniadau unigolion dros £100. Mae gennym Gyngerdd Amrywiol a drefnwyd gan Ysgol Carrog, ac maen nhw hefyd yn casglu darnau 1c, 2c a 5c. Felly, os oes arian rhydd yn digwydd bod yn gorwedd o gwmpas byddai’r ysgol wrth eu bodd yn ysgafnhau eich baich.
Cofiwch, er bod yr Apêl DU ar gau bellach, byddwn yn dal i gasglu’r arian a dargedwyd at un ysgol arbennig, ac mae nifer o ysgolion nad ydynt wedi gallu ailagor oherwydd diffyg ariannol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roedd aelodau’r Ysgol Sul yn awyddus i helpu’r rhai a ddioddefodd y Tsunami. Cynhaliwyd taith feic noddedig ar fore Sul Ionawr 30 o bentref Bryneglwys i Garrog. Codwyd cyfanswm o £163.74. Dymuna’r holl aelodau ddiolch i bawb a gyfrannodd. Da iawn chi’r plant!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llawer o ddiolch i’r Pwyllgor Carnifal a gyfrannodd £300 at y Neuadd.
Codwyd £140.55p yn y Bore Coffi a drefnodd Mrs R.D.Jones. Bellach, fe gyfrannodd Loteri’r Neuadd £1,000.
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar 25 Ebrill 2005 am 7.00 pm.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Jac Dolben ganed 25 Ionawr 6phwys 12owns
Heidi Alice Legge ganed 7 Chwefror 8pwys 8owns
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I gael gwybod mwy tarwch olwg ar ‘O Gwmpas yn Sir Ddinbych 2005’ - llyfryn am ddim o’r llyfrgell.
Dydd Gwener 25 Mawrth
Llwybr Hanes Llangollen 10 am - 4 pm 6 milltir Ymunwch â ni ar y daith gerdded dywysedig gyntaf ar hyd Llwybr Hanes Llangollen a agorwyd yn ddiweddar. Dilynwch y llwybr drwy gefn gwlad syfrdanol ardal Llangollen a darganfod hanes yr ardal. Cyfarfod Llantysilio. SJ198433. 3
Dydd Mercher 30 Mawrth
Corwen Hanesyddol 11 am - 3 pm 5 milltir Dewch i ddarganfod cefn gwlad ardal Corwen a’r hen hanesion, ymweld â Phen y Pigyn a Chaer Drewyn -Caer Oes yr Haearn. Man cyfarfod - prif faes parcio, Corwen. SJ079436. 2.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Defective Security System
A new security system installed at a Carrog Farm is proving effective despite commissioning problems. The system, unfortunately, is over sensitive and as a result identifies passing pedestrians as intruders. This has resulted in attacks upon several people. Every effort is being made to rectify the fault, but in the meantime the operators suggest that a handful of corn thrown at the system or the showing of a packet of PAXO stuffing will turn the system off for long enough for a safe passage to be made.
Quacking Security Co.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
ST DAVIDS - CYFARFOD CYHOEDDUS
18 Mawrth 2005 - Neuadd Carrog.
Galwodd y Cyngor Cymunedol gyfarfod cyhoeddus ynghylch y cais gan Mental Health Care UK Ltd i ennill statws ysbyty ar gyfer St Davids. Gofynnwyd i aelodau’r Cwmni, ein AC, AS a Chynghorwyr y Cyngor Sir i fynychu’r cyfarfod hwn. Ond mae’n bwysig dros ben bod holl aelodau’r cymunedau’n mynychu os ydynt yn bryderus ynghylch y mater hwn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Carrog children arriving at Dolgellau for the Urdd Eisteddford 1961
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dwi wedi cael gwared â’r un olaf o’r wyn y mis yma, mewn pryd i’r rhai newydd gyrraedd. Rhaid imi gyfaddef nad y rhain oedd y goreuon imi’u gwerthu erioed. Roeddwn i braidd yn swil o weld pob un prynwr yn yr ocsiwn yn taro golwg, tynnu wyneb a symud ymlaen i’r nesaf. Ond gwerthodd Dic Ocsiwnïar nhw am bris rhesymol o’r diwedd ac roeddwn innau’n falch iawn cael gadael.
Drysau’n unig sydd eu hangen rwan cyn gorffen y sied newydd, felly dyma fi’n mynd ati i ddatrys y bath o fwd sydd yn y buarth cefn. Daeth y ddau Arwel (Dolben a Davies) i ddechrau cloddio’r safle. Cludodd Arwel Bach y pridd i’r Felin ac roedd popeth yn mynd rhagddi’n dda tan agorodd y nefoedd a threlar Arwel yn dechrau troi’r cae yn gors.
Daeth oen cynta’r tymor ar fore dydd Sul. Gwaetha’r modd roedd wedi marw, ond nid yn farw’n unig ond yn hollol ddrwg. Hyd yn oed ar ôl golchi fy nwylo nifer o weithiau, roedd aroglau’r oen yn dal i ddrewi ar ddiwedd y dydd. Ar ôl cael pigiad o benicillin roedd y ddafad yn iawn ar ôl ei thrafferthion, yn wir, roedd golwg o ryddhad arni - fydd dim rhaid iddi fagu oen eleni. Cafodd pob un o’r mamogiaid eu chwistrelliad heptovac at yr wyna. Fel arfer, llwyddais innau i roi pigiad imi fy hun ar yr un pryd. O leiaf fydda i ddim yn dal dysentri wyn, arennau mwydionog, tetanws, coes ddu na metritis clostridiaidd eleni.
Rhannwyd yr wyn yn grwpiau ar wahân ar gyfer y tymor wyna. Bydd yr efeilliaid a’r rhai salaf o dan do a’r rhai cryfion y tu allan. Os fydd y tywydd yn dal, gobeithio bydd y mwyafrif yn wyna’r tu allan, ond mae gen i ryw syniad bydd y tywydd yn troi’n ddrwg pan fydd tymor yr wyna ar ei anterth.
Mae’r bustych wrthi’n bwyta’n dda ac yn edrych yn dda, yn cadw fy merfa’n brysur. Er nad ydw i wedi dweud wrthyn nhw eto, fe fyddwn i’n gwahanu’n o fuan.
Gareth Llan.
© Copyright Gareth Bryan - 2005.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Happy Birthday David, from all at Ysgol Carrog - “You can do it now”!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
League
Carrog 1 - Ysbyty Ifan 5
Llandrillo B 4 - Carrog 2
Corwen C 5 - Carrog 1
Carrog 0 - Cerrig A 6
Team Knockout (2nd Round)
Corris B 225 points - Carrog 245 points
Carrog winning by 20 points go through to the semi final
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
1st - Tina Wombwell £20
2nd - Edwin Davies £10
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Chwilair y Gwanwyn
Chwiliwch am y heiriau hyn y chwilair wyau adar cywion Pasg briallau gwynt gwanwyn
Dewi dail cwningen siocled blodau glaw Mawrth Mai
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.