Ebrill 2005 April
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Golygyddol | Cyngerdd Tsunami | 40 mya yn y Parc |
* Aelwyd Carrog | Newyddion Ysgol Carrog | Farming Life |
Efeillio / Plouyé | Yn Angen - Gwirfoddolwyr | Loteri Neuadd |
Neuadd | Weli’s a Berfa | St Davids |
Snwcer |
Rydym wedi goresgyn cau’r ysgol am y tro dim ond I wynebu bygythiad arall, hynny yw newid statws St Davids I Ysbyty breifat. Buasai hyn yn golygu y gallai unigolion o du allan I’r gymuned, ac efallai o’r tu allan I Gymru gael eu cartrefu yno, rhai ohonynt yn cael eu dal yn erbyn eu hewyllys oherwydd troseddau rhyw neu droseddau angerddol. Gweler adroddiad o’r cyfarfod diweddar yn y rhifyn hwn. Mae’r cwmni sydd am wneud y newidiadau hyn yn cael ei reoli gan ‘Care Standards Inspectorate Wales’. Gwneud proffid yw eu nod ac nid oes ganddynt ddyled I’r gymuned o gwbl. Mae’n debyg nad oedd gofyn am ganiatad adeiladu wrth wneud y cais. Buasai hyn yn effeithio’n arw ar Garrog a’r ardaloedd o’I chwmpas.
Rydym wedi dioddef ers amser o ddiffyg gwybodaeth gan ‘Mental Health Care Uk Ltd’ ac yn dioddef yn awr o ddiffyg gwybodaeth gan ‘Care Standards Inspectorate Wales’. Nid ydym wedi derbyn unrhyw wybodaeth gan y CSIW, ac roedd diffyg presenoldeb cynrychiolydd yn amlwg yn y cyfarfod.
Yn ffodus mae Karen Sinclair, AM, ar ein hochr ni ac wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r cwmni a CSIW er mwyn I ni gael gyfle I leisio ein pryderon a gofyn am esboniad o’r sefyllfa. Roeddem hefyd yn ffodus o gael Brynle Williams, AM, (ymgyrchydd brwdfrydig) yn bresennol, yn ogystal a chynrychiolwyr gobeithiol Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr.
Rydym I gyd wedi derbyn ein biliau treth sy’n uwch o gryn dipyn I’r rhai sydd wedi newid band. O rhan helaeth o hyn yn mynd tuag at presenoldeb yr Heddlu. Gobeithio I ni nawr fedru disgwyl lefel digon teg I ddelio gyda’r trafferthion anghymdeithasol a’r difrod maleisiol sydd wedi bod yn digwydd yn y pentref yn ddiweddar.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roedd ein Cyngerdd yn arddangosfa fendigedig o dalent lleol ac yn noson werth chweil. Cawsom ein diddanu gan blant yr ysgol I ddechrau a llu o dalentau lleol I ddilyn, yn ddigri ac yn seriws, yn broffesiynnol ac yn amatur. Roedd hyn yn gyfle bendigedig I fedyddio piano’r piano a’r meics newydd. Codwyd tua £450 tuag at Apel Tsunmai sy’n dod a swm o dros £600 I ni erbyn hyn. Mae’r apel yn dal I fod ar agor hyn at Ebrill 30ain os oes unrhyw un am gyfrannu, yna bydd yr arian yn cael ei yrru I’n hysgol dewisiedig.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Erbyn hyn mi fydd pawb wedi sylwi ar yr arwyddion cyflymder yn Llidiart y Parc . Bydd yr Heddlu yn atgyfnerthu hyn yn fuan iawn, felly peidiwch a chodi cywilydd ar eich hunain wrth fod yn un o’r cyntaf I gael ei dal!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
* AELWYD CARROG EISTEDDFOD YR URDD CORWEN 20fed o Ebrill 1952
Pwy sy’n adnabod y bachgen bach golyguss yn y rhes fegn gyda’I gyfeillion.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llongyfarchiadau I bawb a fu’n cystadlu yn Eiteddfod sir yr Urdd yn Ysgol Brynhyfryd Ruthin. Cafodd Alice, Eleanor a Sioned 3ydd yn y grwp Chwythbrennau. Bydd Pagan yn mynd ymlaen I Gaerdydd ar ol ennill 1af am Lefaru o dan 8I ddysgwyr.
Aeth bechgyn blwyddyn 6 I Langollen I greu tim Rygbi gyda bechgyn Ysgolion Glyndyfrdwy a Llantysilio. Mae pawb ym Mlwyddyn 6 wedi pasio eu ‘Personal Survival’ ym mhwll nofio Corwen.
Roedd 6 Bwni Bach a 1 Bwni Mawr yn Ysgol Carrog cyn y Pasg ac roedd pawb yn sidro lle cafoodd Anti Jan y clustiau smart yna!
Aeth Bl 5 & 6 I Ruthin I weithdy beics yn ddiweddar. Roedd cyfle I ddysgu am ofalaeth beics yn ogystal a chael reidio beics go ryfedd. Cafodd Bethany a Sioned grys-T a sticeri am am ennill gwobr mewn cystadleuaeth Diogelwchh Ffordd y Sir.
Cafwyd Gwasanaeth Pasg yn yr Eglwys gyda’r plant yn canu emynau Pasg ac yn adrodd cerddi. Cyflwynwyd tair gardd Pasg I’r Eglwys, wedi eu gwneud gan y Clwb ar ol Ysgol, a bu’r plant cynradd yn brysur yn creu lluniau I’w harddangos yn Eglwys Corwen.
Daeth Sali Mali I’r Ysgol I ganu caneuon gyda’r plant bach tra bu’r plant Iau yn gwrando ar y grwp Epitaph yn y Neuadd. Cafodd y gweithgareddau eu trefnu gan y Bwrdd Iaith.
Trefnwyd Noson Grefft llwyddiannus iawn yn y Neuadd gan y PTFA . Roedd 6 o wahanol grefftau yn cael eu harddangos gyda chyfle I bawb droi ei llaw arnynt. Ennillwyd yr hamper Pasg gan Mandy.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Working outside in the clean, fresh air,
The sound
of birdsong everywhere,
To the passer-by
it seems, he hasn’t a care.
The
farmer’s life is such a pleasant one.
Up through the night when the world’s asleep,
Trying
his best from harm to keep
The newborn lambs
and the labouring sheep.
The
farmer’s life is such a lonely one.
Yes, lambing then shearing then harvest to do,
Mending
and maintenance, the work is never through.
That
passer-by just doesn’t have a clue.
The
farmer’s life is such a hectic one.
There’s plenty to do to keep him fit,
Mucking
out the cows then spreading it,
It seems
the poor farmer’s always in the
... midst of it!
The farmer’s life is such a mucky one.
Meeting at the market, discussing trade,
Wondering
what sort of prices he’s made,
He
tries to keep his hopes up, there are bills to be paid.
The farmer’s life is such a troubled one.
Passports, IACS and VAT.
Insurance and taxes, it’s
plain to see,
He
surely needs the help of a secretary.
The farmer’s
life is such a stressful one.
A gofer, a fetcher, a carrier of hay,
A midwife
at lambing without any pay.
Cleaning,
washing, ironing, cooking - four meals a day
The farmer’s wife is such a patient one.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bydd cyfarfod efeillio ar Ddydd Llun 11eg o Ebrill I drafod materion cyffredinol a’r ymweliad I Plouye ym Mis Awst. Peidiwch ag anghofio, mae’r cyfarfod ar agor I bawb.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae angen 2 o wirfoddolwyr o Garrog ar Grwp Cymorth Ty’r Eos yn ardal Corwen, I ymuno a’r Pwyllgor Codi Arian. Os oes diddordeb gennych rhowch cysylltwch a Mrs. E. Williams ar 412521.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
NEUADD CARROG 100 CLUB - March draw
1st Prize No. 34 - Chris and Dave Bentley - IOM £20
2nd
Prize No. 20 - Mrs Morag Gonzales £10
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Rydym wedi cael ein pinao nweydd o’r diwedd, diolch I’r diweddar Mrs Fanning, ffrind I nifer yn y pentre, am ei chyfraniad tuag at y Neuadd. Bydd Cyfarfod Blynyddol y neuadd yn cael ei gynnal ar Nos Lun 25ain o Ebrill am 7 y.h lle bydd etholiadau Swyddogion newydd yn cael eu cynnal. Mae hwn yn gyfarfod agored I’r holl gymuned.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae defaid yn greaduriaid lletchwith, yn enwedig ar adeg wyna. Nid ydynt yn gwerthfawrogi dim. Mae dyn yn eu bwydo trwy gydol y gaeaf er mwyn iddynt fod yn holliach ar gyfer magu wyn dim ond iddynt ein gadael I lawr unwaith yn rhagor. Dim ond ddoe fe lwyddodd dafad a oedd yn edrych yn enfawr roi genedigaeth I ddau oen bach a oedd yr un maint a ‘gerbil’, ac er ei bod yn meddwl y byd ohonynt, ar ol I mi eu rhoi mewn ‘pen’ fe lwyddodd I eistedd ar un a’I ladd o fewn yr awr. I wneud pethau’n waeth fe benderfynnodd y llall nofio yn y twb dwr ac erbyn iddo ddeall nad oedd hyn yn syniad da iawn roedd yn rhy hwyr. Pan gyrhaeddais roedd y fam yn brysur bwydo ar y gwair, a prin wedi sylwi ei bod wedi colli’r ddau fach. Mae cerdded o gwmpas y caeau ar yr adeg yma o’r flwyddyn yn gallu bod yn bleserus, wrth weld oen bach newydd ei eni, gyda’r fam filch yn sefyll wrth eu hochr, neu yn hulle, gyda trychineb ym mhob cornel neu o dan bob gwrych. Fe lwyddais helpu un fam a oedd yn cael trafferth y bore o’r blaen, a chadw’r oen yn fyw. Ar ol aros I sicrhau fod y fam yn iawn , ac yn llyfu’r bychan, fe droes fy nhefn dim ond I’w gweld yn rhuthro I lawr y cae gan adael yr oen bach ar ei ben ei hun. Ar ol rhedeg ar ei hol daethais I’r cqanlyniad ei bod wedi bod yn gwylio’r rygbi gan ei bod yn camu o un ochr I’r llall yr un fath a Shane Williams wrth I mi agosau ati. Heb yn wybod iddi, roeddwn I wedi bod yn gwylio’r rygbi hefyd, a death ei gem I ben wrth I mi roi un tacl GavinHenson cyn ei dal.
Wedi dal y fam a’r oen bach a’u rhoi mewn ‘pen’ darganfyddais fod yn gas gan y fam ei merch, a’r ferch ei mham, ac roedd yn gas gan y ddwy y fi. Wrth I’r defaid wneud eu gorau I’m gyrru o ngho, ma’e gwartheg ar y llaw arall wedi bod yn ddylanwad tawel. Yr unig beth sydd ei angen arnynt yw ychydig o wellt o dan draed a bwyd o’u blaen ac meant yn hapus. Yr unig anfantais yw’r llond berfa ar ol berfa o dail sydd angen cael ei symud o’r sied bob dydd, a’r cynffonau budr sy.n rhoi slap I mi ar draws fy nghwyneb bob gafael. ( mae’n debyg eu bod yn haeddu tipyn o ddiddanwch ar ol gwrando arna I yn cwyno amser bwyd)
O, ac rydym wedi rhoi gorau I’r system diogelwch wedi I un rhan o’r tim gael ei gario I ffwrdd gan lwynog !
Gareth Llan.
© Copyright Gareth Bryan - 2005.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
CYFARFOD CYHOEDDUS ‘ST DAVIDS’
Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus llwyddiannus iawn ar Nos Wener Mawrth 18fed, ynglyn a’r cais gan ‘Mental Care UK’ I newid statws St Davids I ysbyty breifat.Yn bresennol roedd Karen Sinclair AM , Brynle Williams, Tom Biggins a Mark Strong, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Nigel Roberts Cynghorwr Sir a Chymuned.
Amlinellodd yr Athro David Jones y sefyllfa hyd yn hyn gan nodi fod cymunedau lleol wedi byw ochr yn ochr a St Davids ers iddo newid yn gartref I fobl ifanc tua 8 neu 9 mlynedd yn ol a bod y cymunedau hyn yn awyddus I ddarganfod beth yn union yw bwriad y cais I newid y statws. Mae llawer o waith wedi ei wneud a nifer o’r bobl a oedd yn breswyl yno wedi gadael. Y broblem fwyaf yw’r diffyg gwybodaeth gan y cwmni neu ‘Care Standards Inspectorate Wales’, ac mae’r sefyllfa yma yn dal I sefyll. Nid oedd cynrychiolydd o’r ddau yn y cyfarfod er fe gafwyd ymddiheuriad gan CSIW. Nid oes gan CSIW ddyletswydd I’r gymuned on d yn hytrach I’r Cynulliad. Mae Deborah Russell o’r CSIW wedi cadarnhau fod cais wedi ei dderbyn I newid statws St Davids I un o ysbyty breifat art gyfer cleifion a salwch meddyliol.
Golyga hyn y gallent ofalu am bobl wedi eu dal o dan Weithred Salwch Meddyliol 1983 sydd yn berygl I’w hunain neu I eraill. Fel arfer mae pobl sy’n cael eu dal gan y Llys o dan sectiwn 37 o’r weithred yn cael eu dal mewn sefydliadau megis Broadmoor neu Rampton. Er hyn mae’r Llywodraeth am symud cleifion o’r sefydliadau mawr hyn I unedau llai gyda’r bwriad o’u cyfannu I mewn I’w cymuned. Mae’n anhebyg y buasai bobl sy’n cael eu cartrefu yn St Davids yn hannu o’n cymuned ni ond yn hytrach o’r tu allan, ac yn bosib o ganoedd o filltiroedd I ffwrdd.
Yn ol Cyngor Sir Ddfinbych a’r CSIW nid oedd gofyn am ganiatad cynllunio I nweid y statws, ond y byddai angen caniatad ar gyfer gwaith adeiladu. Does dim disgwyl I’r CSIW gysylltu a’r cyhoedd a does dim modd I’r cyhoedd apelio yn erbyn y penderfyniad er fe all y rhai sy’n ymgeisio iddynt hwy apelio yn erbyn eu penderfyniad.
Dangoswyd consyrn ynglyn a’r canlynol. Roedd y ddefddwriaeth a achosoddd y sefyllfa hwn yn un eilradd sy’n golygu fod y Cynulliad yn atebol. Mae ‘Mental Health Care UK’ eisies wedi cael trafferthion wrth recriwtio staff, ac o ganlyniad, wedi recriwtio staff cymwysiedig o’r Philippines. Mae rhai wedi son am y newidiadau helaeth mewn staff ac a fyddai’n bosib ceal pobl gymwysiedig I weithio mewn ardaloedd gwledig. Hyd yn hyn nid oes ymateb gan y CSIW I gais o dan Weithred Rhyddhad Gwybodaeth.
Roedd pryder hefyd ynglyn a’r effaith a fyddai hyn yn ei gael ar yr Ysgol ac ar Dwristiaeth.
Dywedodd Brynle Williams fod unrhyw le sy’n cadw cleifion yn ol eu hewyllys yn achosi pryder a bod rhywbeth seriws iawn ar goll yn y sefyllfa.
Nododd Mark Strong, Plaid Cymru ei fod yn pryderu am y poisi, sy’n symud cleifion o ddinasoedd yn ol I gymunedau cefn-gwlad yn ddistaw bach. Dywedodd nad oedd hyn yn foesol gywir.
Dywedodd Karen Sinclair, sydd wedi bod a diddordeb yn y sefyllfa o’r dechrau, ei bod wedi cael sicrhad gan y CSIW nad oedd unrhyw gais wedi ei gwblhau gan St Davids ac y byddai’n trefnu cyfarfod brys gyda ‘Mental Health Care UK’ a’r CSIW ynghyd a’r Athro David Jones.
Bydd cyfarfod cyhoeddus arall mewn pythefnos.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
22/02/05 - Carrog 4 - Glyndyfrdwy ‘B’ 2
01/03/05
- Corwen ‘A’ 4 - Carrog 2
02/03/05
- Carrog 3 - Cerrigydruidion ‘B’ 3
08/03/05
- Carrog 4 - Glyndyfrdwy ‘A’ 2
10/03/05 - Team Knockout Semi-final.
Corwen ‘C’ 208
- Carrog 227. Carrog winning by 19 points.
Carrog are through to the final to be held on 24th April at Corwen British Legion against winners of Llandrillo ‘A’ and Ysbyty Ifan.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.