statcounter

       

This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Trefor “Fedw” Roberts Gwynneth Jones
Elwyn Roberts Frank Yaxley Dydiaddur
Joe Culshaw Cwrs Ffotograffiaeth Llongyfarchiadau
Symud Tŷ O Lan yr Afon * Sioe Carrog

Medi 2006

GOLYGYDDOL

Mis tawel yw mis Awst. Ond nid felly’r colledion i’n cymuned, gwaetha’r modd, fel y gwelwch yn y golofn goffa isod. Bydd atgofion tyner gan lawer yn ein cymuned am y rhai a enwir, ac rydym wastad yn barod i gyhoeddi atgofion llawnach os oes ar unrhyw rai eisiau rhannu’r atgofion gyda ni.

Ond ni fu’n fis tawel am dwristiaeth yn y Pentref, gyda niferoedd mawr o ymwelwyr yn dod am y dydd, yn mwynhau gwersylla a charafanio a cherdded yn ein cefn gwlad hardd. Mae llawer o’r ymwelwyr yn gosod lluniau Carrog ar wefan, gallwch eu gweld ar www.flickr.com (chwiliwch am ‘Carrog’).

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ER COF

Gyda thristwch mawr yr adroddwn am farwolaeth y rhain o fewn ein cymuned y mis hwn:

TREFOR “FEDW” ROBERTS

Trefor “Fedw” Roberts, Fedw Ucha, Carrog a fu farw ar Awst 22 yn Ysbyty’r Maelor. Mae’n gadael ei weddw, Morfydd, a thri o blant - Eira, Geraint a Gwynfor. Roedd Trefor wedi bod yn ffermio yng Ngharrog ar hyd ei oes. Bydd bwlch mawr ar ei ôl.

GWYNETH JONES

Mrs. Gwyneth Jones, yn ddiweddar o Bendyffryn a Phen Y Bont Carrog. Mam Eira a Hughie. O Landrillo daeth Mrs. Jones yn wreiddiol. Roedd hi’n gyn-athrawes yn Ysgol Carrog.

ELWYN ROBERTS

Elwyn Roberts, Ty’n Celyn, brawd y diweddar Tommy Roberts, Carrog Afon, tad Meirion Wynne a thad yng nghyfraith i Nerys Garthiaen, Llandrillo.

FRANK YAXLEY

Frank Yaxley, tad John, Carrog Ucha,Carrog. Bydd yr holl deulu’n cael colled mawr ar ei ôl.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

DYDDIADUR

BONT BASH - Sadwrn 21 Hydref. Adloniant gan Ruby’s Promise, ein grùp pop lleol llwyddiannus. Lluniaeth ysgafn a bar hwyr.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

JOE CULSHAW I YMUNO å SGWAD PÊL DROED IEUENCTID CYMRU?

Mae Joe Culshaw yn dal i symud i’r cyfeiriad iawn, neu’n dal i gicio i’r cyfeiriad iawn, yn hytrach. Yn ogystal â bod yn gapten ei Academi a Sir, derbyniodd wahoddiad oddi wrth Gymdeithas Pêl Droed Cymru i ymuno â Sgwad Rhanbarthol Ieuenctid Cymru. Pob lwc iddo.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CWRS FFOTOGRAFFIAETH AM DDIM

Gwahoddir aelodau’r Gymuned i ymuno mewn cyrsiau am ddim a gynhelir gan Alun Roberts, AJAR Photographics, a’u talu amdanynt gan Grant Y Bont o’r Gwobr i Gymru Gyfan. Y cyntaf i’r felin ... a deuddeg yw’r nifer mwyaf o leoedd sydd ar gael, felly RHAID ichi roi gwybod inni os ydych chi am ddod. Mae pob sesiwn yn para am 3 awr ac yn dechrau am 10.00 a.m. yn y Neuadd.

Dyma fydd trefn y cyrsiau:

Dydd Sadwrn      Medi  9 - Gwers 1 - Sgiliau Sylfaenol y Camera
Dydd Sadwrn     Medi 16 - Gwers 2 - Tynnu lluniau
Dydd Sadwrn  Hydref 14 - Gwers 3 - Nodweddion camera SLR
Dydd Sadwrn  Hydref 21 - Gwers 4 - Nodweddion uwch y camera SLR

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LLONGYFARCHIADAU

I Sarah Grouse am gwblhau deg mlynedd o wasanaeth yn dafarnwr. Rydym yn sicr fod yr holl gymuned yn dymuno diolch iddi am gadw Tafarn y Pentref pan fo cymunedau eraill yn colli eu tafarnau. Diolch hefyd am y parti 10 fed pen-blwydd y bu hi mor garedig â’i gynnal.

I’r holl fyfyrwyr TGAU a Lefel A, gyda dymuniadau gorau am y dyfodol.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

SYMUD Tŷ

Croeso cynnes i Elfyn a Frances Davies a symudodd o Lyndyfrdwy i Faes y Llan

Gobeithio hefyd fod Gwil wedi setlo erbyn hyn yn y ei gartref newydd ym Maes y Llan o Fronnant.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

O LAN YR AFON

Yn ôl rhyw arwydd ffordd, y Cymraeg am “Cyclists dismount”, yw “Llid y bledren dymchwelyd”, sef rhyw anhwylder go boenus fel cystitis. Adran Briffyrdd Bro Morgannwg oedd yn gyfrifol am hyn, ac mae’n sicr eu bod hwythau’n edifaru defnyddio peiriant cyfieithu ar-lein erbyn hyn.

Daeth i gof y nifer o weithiau rwyf innau wedi drysu a chamddefnyddio ieithoedd. Pan roeddwn yn byw yn yr Almaen, gofynnais i ffrindiau fy merch, oedd tua 17 ar y pryd, a oedd hi’n boeth. Roedd y cyfieithiad i’r Almaeneg yn ymddangos yn syml i mi - “Bis du heiss?” gofynnais iddi. Efallai na fyddai’r effaith lawn mor ddramatig petaswn i heb fod mewn bwyty llawn ar y pryd, Daeth distawrwydd llethol a phawb yn syllu arnaf i. Beth y dylwn i fod wedi’i ddweud oedd “Es ist dir warme?” (Yn llythrennol - Ai’n gynnes wyt ti?) Ond ystyr fy ngeiriau i oedd ‘Wyt ti’n barod i ddod i’r gwely efo fi?’ Chefais i erioed ateb, ond ar ôl 35 o flynyddoedd, rydym ni’n dal yn ffrindiau felly mae’n rhaid nad oeddwn wedi tramgwyddo’n ormodol.

Un tro, roedd fy mam wedi ynganu’r Almaeneg ychydig yn anghywir gan ddweud, mewn bar llawn pobl, ei bod wedi mynychu ysgol ‘noeth’ yn lle ysgol ‘nos’. Ar adeg arall fe ddymunodd i i griw o helwyr ‘Saethu da’, ond fe achosodd ei geiriau beth dryswch iddyn nhw, gan ei fod yn swnio fel rhywbeth yn ymwneud â rhedeg i’r toiled ar frys.

Dw i’n dal i deimlo embaras ar ôl fy nghamgymeriad pan ddois i yma i Gymru yn y dechrau. Roedd gen i beth grap ar ynganu’r Gymraeg, a gofynnais beth oedd ystyr ‘wru’ . Edrychodd pawb arnaf yn hurt. Pan ofynnodd rywun imi ble roeddwn wedi gweld y gair daeth popeth yn glir - dyma’r gair ar flaen rhyw grys rygbi coch arbennig. Yna daeth popeth yn eglur.

Triskel

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* SIOE CARROG

Roedd mis Awst yn adeg brysurach o lawer yng Ngharrog yn 1938 a 1956, fel y gwelwch o gloriau taflenni Sioe Carrog.
(With thanks to Valamai and Rhys Webb)

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.