This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Golygyddol | Ysgol Carrog (1) | Pont Carrog |
* Jac Dolben | Neuadd | * Efeillio |
Ymddiheuriadau Crwydrol | * Y Frenhines Cloe | * Ysgol Carrog (2) |
Mehefin 2006
Rydym wedi penderfynu, yn arbrofol, i gynnal cyfarfod golygyddion Mis Gorffennaf yng Nghyntedd y Neuadd ar ddydd Mercher 21 Mehefin am 7.00 p.m. er mwyn i aelodau’r gymuned gael dod â’u syniadau, erthyglau neu am sgwrs. Os bydd digon o ymateb yna gallwn wneud hyn yn fwy rheolaidd. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn trefnu cyrsiau hyfforddi ar gyfer y camera a’r cyfrifiadur ac wedyn bydd y ddau ar gael at ddefnydd y gymuned.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
YSGOL CARROG YN DATHLU ADRODDIAD RHAGOROL
Derbyniodd Ysgol Carrog adroddiad Estyn disglair unwaith eto. Roedd yr arolygwyr yn canmol y ffordd roedd dwyieithrwydd yn cael ei integreiddio i fywyd yr ysgol a bod gallu dwyieithog y disgyblion yn rhagorol yn y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1 a 2.
Roeddent yn nodi bod yr holl ddisgyblion wedi’u symbylu’n dda a chanddynt frwdfrydedd uchel tuag at yr ysgol a’r gweithgareddau perthynol. Disgrifiwyd ymddygiad y plant a’u hagwedd at eu gwaith yn rhagorol ac yn un o nodweddion gwych o’r ysgol.
Roedd hanner y gwersi a welodd yr arolygwyr yn cynnwys dysgu rhagorol, gan gynnwys tasgau oedd yn addas i allu’r disgyblion ac yn ysgogi dysgu drwy nifer o brofiadau dysgu cadarnhaol.
Mae’r athrawon yn defnyddio canmoliaeth ac anogaeth i gynorthwyo i godi hunan barch a hyder y disgyblion.
Canmolwyd yr ysgol am y cysylltiadau agos gyda’r gymuned ac am ddarparu cydlynrwydd sy’n galluogi ffyniant. Maent yn cydnabod bod Ysgol Carrog wrth galon y gymuned a bod yr holl rieni’n falch iawn o ysgol y pentref a’r hyn mae’n ei ddarparu i genedlaethau o blant.
Sylwodd yr arolygwyr ar ymddygiad rhagorol y plant yn ystod amser chwarae a gwnaed argraff arnynt gan y gemau buarth chwarae a’r offer oedd yn fodd i sianelu’r egni yn ystod y diwrnod. Gwelsant y disgyblion a’r Staff yn cydweithio’n dda gan sicrhau cytgord yn ystod y diwrnod ysgol.
Mae llywodraethwyr yr ysgol yn gwneud cyfraniad gwych tuag at redeg yr ysgol o dan arweiniad Pennaeth profiadol iawn, Dirprwy gweithgar a Staff ymroddedig. Mae gan yr ysgol amcanion pendant a gwerthoedd sy’n glir i’r Staff a’r Llywodraethwyr. Y nod yw gofalu am y disgyblion a chydraddoldeb i bawb.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Rydym yn siŵr bydd llawer ohonoch wedi sylwi bod y pwysau uchaf sydd i fod ar y bond wedi codi i 18 tunnell fetrig. A hwyrach eich bod wedi sylwi hefyd bod yna arwyddion mawr yn Groes Faen a Parc sy’n rhybuddio gyrwyr bod y bont yn anaddas i gerbydau hir. Gobeithio bydd hyn yn rhwystro mwy o ddifrod ac o anhwylustod.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yn yn llun ceir Jac Dolben sy’n hapus dros ben ar ôl ennill y raffl am Wy Pas Anferth yr Efeillio.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
NEUADD - CYFARFOD BLYNYDDOL CYFFREDINOL
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar ddydd Llun 15 Mai gyda’r Agenda’n cynnwys adroddiadau oddi wrth y Cadeirydd a’r Trysorydd ac ethol Swyddogion.
Adroddiad y Cadeirydd - Dechreuodd y Cadeirydd sy’n ymddeol drwy ddweud ei fod wedi cael cais i wneud y swydd am flwyddyn ac ymhen wyth mlynedd wedyn roedd yn dal yn y swydd. Roedd yn falch o gael dweud fod y neuadd ar sail ariannol gadarnach a bod yr archebion i fyny a mwy o arian yn cael ei ddarganfod. Roedd problem yn parhau gyda man fandaliaeth a graffiti. Roedd yr ardd yn cael ei hail greu y tu allan. Roedd hyn yn weithgaredd gwirfoddolwyr arall o’r pentref ac roedd gweithgaredd i fod i’w gorffen yn ystod y penwythnos dilynol.
Adroddiad Trysorydd
Hyd ddiwedd y flwyddyn 31/03/06.
Cyfanswm yr incwm am y flwyddyn oedd £6,791.43, roedd y gwariant ychydig yn llai sef £6,682. Erbyn hyn olew tanwydd yw’r eitem ddrutaf o wario sef £1,856.50. Gyda’r tueddiadau presennol bydd hyn yn debygol o godi eto.
Dyma’r arian ar y dyddiad uchod:
Y prif gyfrif - £4,549.06 Cyfrif yr Adeiladau £30.25, sy’n gynnydd o £108.58 ar y gronfa ariannol a ddaliwyd ar 31/03/05.
Dywedodd y Trysorydd bod £800 wedi’i dderbyn o Loteri’r Neuadd ar ôl diwedd y flwyddyn ond ei fod wedi’i gasglu yn ystod y flwyddyn sy’n dod i ben ar 31/03/06 felly dylid ei gynnwys yn y ffigyrau. Golyga hyn fod y lotri wedi codi £1300 yn ystod y flwyddyn gan wneud gwahaniaeth o £908.58.
Ethol swyddogion - Etholwyd y
swyddogion canlynol:
Cadeirydd - Paul Fisher
Is gadeirydd - Jayne Knight.
Ysgrifennydd - Janice Sheasby
Is-ysgrifennydd - Valmai Webb
Trysorydd - Colin Roberts
Swyddog Archebu - Nia Roberts
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dyma lun o Rhys Webb O.B.E. a Marc Parayre, Llywyddion ar y cyd o’r Gymdeithas efeillio Carrog/Plouyé yn agor y Gornel Plouyé, ein gardd gymunedol newydd. Gwnaed y rhuban mewn lliwiau cenedlaethol Cymru a Llydaw.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roedd ychydig o gamgymeriadau yn y gosod y mis diwethaf:
-Yn y golofn Er Cof i Len Weston llwyddais i alw Joyce yn Marjorie. Peth rhyfedd am nad wyf yn adnabod unrhyw Farjorie ac wedi adnabod Joyce ers blynyddoedd. Oherwydd hyn bu rhaid i fy ngwraig newid y 350 o gopiau drwy ysgrifennu arnynt. Pan ddywedodd rhywun nad oedd hi wedi newid yr ochr Gymraeg fe awgrymodd hi y gallant hwy ei wneud ei hunain.
Wel, dyna beth ddywedodd hi’n gryno.
-Rhywle rhwng y teipio a gosod colofn Gareth Welis a Berfa fe gollais i Dan ‘The Grouse’ yn niolchiadau Gareth am help. Ymddiheuriadau Dan. Roedd hyn yn beth rhyfedd am fy mod yn cofio teipio’r rhan hon.
-Wedyn ar ben hyn i gyd fe newidiais y trefniadau am yr Efeillio yn y rhan Dyddiadur, ond nid yn yr erthygl, gan olygu bod rhaid i’r wraig druan osod 350 o ychwanegiadau.
Wna i ddim dweud beth ddywedodd hi.
Ond efallai bod hwn yn bla. Mewn ebost oddi wrth ein pentref gefeillio - Plouyé - roedd cyfeiriad at un o’n hymwelwyr a’i galw’n Virginie - er mai Valerie oedd ei henw.
Hoffwn fwrw’r bai ar y cyfrifiadur, ac yn ôl y gerdd gan Margaret Roark, efallai y gallaf wneud !
Eye halve a spelling checker
It came with my pea
sea
It plainly marques for my revue
Miss steaks eye kin knot sea.
Eye strike a key and type a word
And weight four
it to say
Weather eye am wrong oar write
It shows me strait a weigh.
As soon as a mist ache is maid
It nose bee fore
two long
And eye can put the error rite
It’s rare lea ever wrong.
Eye have run this poem threw it
Eye am shore your
pleased two no
It’s letter perfect awl the weigh
My checker tolled me sew.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
* Y FRENHINES CLOE, FY NIWRNOD I
Roeddwn yn gyffrous iawn ar ddiwrnod y carnifal. Yn y bore es i gael gwneud fy ngwallt gan Barber Ann. Pan wisgais fy ffrog a fy esgidiau arbennig. Dywedodd mam fy mod yn edrych yn lyfli.
Yng Ngorsaf Carrog roedd yna gerbyd a phedwar o geffylau’n disgwyl amdanaf a fy ngweision. Dringasom i gyd i mewn ac roeddwn yn nerfus am yr araith roedd rhaid imi ei gwneud.
Mwynheais y daith drwy’r pentref ac i’r ysgol gan godi llaw ar bawb wrth fynd heibio. Roeddwn yn nerfus ac yn gyffrous wrth gerdded i lawr y neuadd i’r llwyfan. Rhoddodd Valeri o Plouyé y goron ar fy mhen ac roeddwn yn teimlo fel Y Frenhines Cloe!! Roedd y Frenhines Ffion o Gorwen a’r holl weision yn edrych yn hardd yn eu gwisgoedd. Diolch i bawb a drefnodd y carnifal. Cefais ddiwrnod i’r brenin a mwynhau’r Rhostio Mochyn a Disgo gwych gyda’r hwyr. Roedd hwn yn ddiwrnod arbennig iawn imi ac un fyddaf yn ei gofio am byth. Thank you very much.
Queen Chloe
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llawer o ddiolch am y talebau Sainsbury a Tesco rydym wrthi’n eu cyfrif ar hyn o bryd.
Treuliodd Eleanor a Sioned y diwrnod yn y Faenol Fawr, Bodelwyddan, yn rhinwedd eu swydd yn Swyddogion Diogelwch Ffordd yr ysgol.
Cafodd y grwp recorder, y band a’r dawnswyr y glocsen amser da yn yr Eisteddfod yn Rhuthun. Rydym yn falch i weld un o’n cyd-ddisgyblion, Bryony Keyse, yn chwarae’r piano ar y llwyfan yn yr Eisteddfod a byddwn yn anfon ein llongyfarchiadau ati.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.