Hydref 2003
Ar y dudalen hon ceir holl erthyglau’r rhifyn hun.
Gallwch naill ai sgrolio drwy’r dudalen neu gallwch ddewis yr erthygl rydych ei hangen o’r tabl isod.
Er mwyn lleihau amser llwytho i lawr fe dynnywyd yr holl hysbysebion, ffotograffau a graffigs.
Os oes ffotograff gydag unrhyw lun gellir ei weld drwy agor y ffeil unigol drwy’r ddewislen ddwyieithog,
neu drwy ddefnyddio’r teitl cyswallt.
* yn golygu bod ffotograff(au) neu graffog(au) ynghlwm wrth y ffeil unigol.
Neuadd | Ysgol Carrog | |
Efeillio/Plouyé | Saethu Clai | |
Eglwys St Ffraid | Carnifal | |
Clwb Snwcer | Dyddiadur | |
Ar Werth / Yn Eisiau |
Croeso i’r rhifin cyntaf o “Y Bont.” Dewiswyd yr enw fel symbol i uno Carrog a Llidiart Y Parc, ac fel Pont dwy-ieithog.
Mae’rdaflen newyddion hon yn rhad ac am ddim, ac yn ymgeisio i ddarparu crynodeb o newyddion Pr ddau gymuned, a rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau. Cyn belled ac y gwyddwn, nid yw taflen o’i fath wedi cael ei chynhyrchu o’r blaen, a gobeithiwn fydd ei gynhyrchiad yn cadw mewn cysylltiad gwell hefo’r digwyddiadau yn em cymuned. Os oes gennych eitemmau neu syniadau yr hoffech gael ei argraffu mewn rhifrnnau yn y dyfodol, (neu os dymunwch helpu!) cysylltwch a ni yn union os gwelwch yn dda.
Em bwriad yw i gynhyrchu “Y Bont” yn yr wythnos gyntaf o bob mis, a gofynwn am eitemau erbyn y 22fed o’r mis blaenorol. Croeshawn llythyrau, ond cadwch nhw yn fur os gwelwch yn dda. Os teimlwch fod unrhyw beth wedi cael ei adael allan a ddyled fod wedi ei gynwys, maddeuwch i ni a, rhowch wybod i ni cyn y rhifyn nesaf.
Cyhoeddwyd a golygwyd gan Ian Lebbon, Paul Fisher, Cohn Roberts.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gofynnwyd i’r Pensaer gyfarfod ar adeiladwyr ar fater o anghenrhaid, i sicrhau fod y system gwresogi wedi cael ei orchymu yn iawn, er mwyn osgoi problemau’r gaeaf diwethaf. Mae’r matter yma yn bwysig iawn oherwydd bod y neuadd yn cael ei defnyddio yn fwyfwy o hyd.
Cytynodd y pwyllgor i ddechrau apel mawr yn yr hydref i sicrhau incwm barhaol i dalu am y gost flynyddol o gynnal y neuadd. Gall unrhyw un gefnogi’r apel yma, naill a’igyda cyfamod, sbonsor, neu danysgrifiad ir Clwb 100 newydd.
Diolch i Mrs R. D. Jones am fore goffi llwyddianus unwaith eto. Codwyd £140 at achosion y neuadd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar ddechrau’r tymor newydd croesawyd tri disgybl newydd llawn amser; Abbie, Charlotte & Pagan, a 6 disgybl newydd ir dosbarth meithrin; Barra, Harry, Bryn, Imogen, Julian a Sam.
Yn ystod cyngerdd, ar diwedd tymor yr haf, cafodd chwech o ddisgyblion o flwyddyn chwech, sef Sammy, Jenny, Tilly, Portia, Stewart, William, Mikey, Johnathan a Bryony eicyflwynoa geiriadur ac eu llongyfarch ar ganlyniadau rhagorol yn y tasau. Gobeithiwn y byddant yn llwyddianus yn ei hysgolion newydd.
Mwynhaodd y plant cynradd ymweliad a’r Pafiliwn yn Llangollen i glywed y “Mungenkyo Taiko Japanese Drummers”
Cymerodd y plant i gyd ran yn y cyfarfod diolchgarwch yn yr eglwys, ac fe gasglwyd £50 at achos y “Macmillan Nurses”.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llongyfarchiadau A phob lwc i holl bobl ifanc yr ardal sydd wedi symud i ddilyn cyrsiau mewn addysg bellach ac uwch, yn bell , ac yn agos i‘r ardal.
I Joseph Culshaw ar gael ei ddewis i ymuno a‘r academi pel droed i blant dan 11 yn Wrecsam.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dros y 4 blynedd diwethaf fe fydd grwp dawnsio gwerin o Llydaw yn aros gyda teuluoedd yn y cymuned, er mwyn cymryd rhan yn Eisteddfod Gerddorol, Llangollen. Fel canlyniad o hyn, teithiodd 9 o drigolion y cymuned i Plouyé yn Llydaw ar ddiwedd Awst.
Pwrpas hyn oedd i ymchwilio i’r posibilrwydd o wneud y trefnient efeillio yn swyddogol. Roedd yr ymweliad yn llwyddianus ac fe fydd cyfarfod agored yn y dyfodol agos i ffurfio pwyllgor efeillo swyddogol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Aeth 2 dim o’r Grouse i gymryd rhan mewn cystadleuaeth saethu 100 aderyn, wedi ei drefnu gan y Berwyn Arms yn Llandegla. Cafodd ‘Grouse A’ drydydd lle allan a saith mewn tywydd oedd yn gynnwys mwllt a tharannau, cenllys, glaw a heulwen glir. Fe fydd yr un tim yn cymryd rhan mwen cystadleuaeth arall i godi pres at achos Hope House yn ystod mis Tachwedd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynhalwyd helfa drysor yn mis Medi, wedi ei drefnu gan Edwin ac Erian Ty Mawr. Criw y car ag enillod oedd Nick, Bethan, Megan ac Iwan. Dilynodd swper yn y “Plough” Llandegla ar ddiwedd y noson.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’n dda gael cofnodi fod y rhan fwyaf o’r gwaith adnewyddu wedi gael ei gwbwlhau. Mae’r eglwys dal rhiwfaint yn fur o’r cyfanswm sydd angen i dalu am yr holl waith, ond hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd at achos “cymorth rhodd”. Codwyd dros mil o bunnoedd gan pobl y cymuned at yr achos yma.
Daeth llawer iawn o bobl i’r gwasanaeth diolchgarwch ac ail gysegriad ar y diwrnod olaf o Hydref, i groesawu yr Esgob y Parchedig John Davies ac i wrando arno yn pregethu.
Roedd pawb a oedd yn bresennol wedi ei plesio efo ymddangosiad y tu mewn a oedd wedi ei arddurno gyda blodau, llysiau a ffrwythau, ac wedi ei oleuo gyda canwyllau a goleuadau newydd wedi ei gosod yn y to.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfranodd chymorth a cyfraniadau i ffair yr haf.
Wedi taliadau codwyd £600 ar y diwrnod.
Mae hyn i'w chael ei dosparthu fel y ganlyn:
Ysgol Carrog - £100,
Neuadd - £100,
Eglwys Carrog - £100,
Clwb Dros Trigain - £100,
Capeli Methodist a Bedyddwyr - £50 yr un.
Fe fydd £100 yn cael ei chadw at gynnal y ffair flwyddyn nesaf.
Cofiwch y mwy maer ffair yn cael ei gefnogi, y mwy o arian gallwn ei rhoi yn ol ir cymuned.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae son yn y pentref fod y sioe dalent llwydianus ar fin cael ei ail adrodd. Gwyliwch y daflen hon am fwy of fanylion.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Chwaraewyd y gem gyntaf yng ngynghrair Owain Glyndwr ar Dydd Mawrth y 7fed o Hydref, lle roedd Carrog yn chwarae i ffwrdd yng Nglyndyfrdwy. Enillodd Glyndyfrdwy o 4 pwynt i 2. Maer gem nesaf iw chware yng Ngharrog, yn erbyn Llandrillo ar Dydd Mawrth y 14 o Hydref am 7.15yh.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cyngerdd Mawredog. Fe fydd cyngerdd yn cynnwys Cantorion Rhos, Pedwarawd Llansilin, ac artistiaid lleol yn cael ei gynnal yn y neuadd am 7.30yh ar Dydd Sadwrn 18 o Hydref. Tocynnau £4 ar gael or Siop, Pam Hendreforfydd neu Tina Penarth.
Capel y Beduddwyr. Fe fydd 2 gwasanaeth diolchgarwch yn cael ei gynnal ar Dydd Llun yr 20 o Hydref. Am 2o’r gloch fe fydd gwasanaeth i’r plant ysgol, a gwasanaeth fin nos am 7o’r gloch. Y pregethwr fydd Elwyn Ashford Jones.
Cymdeithas Hanesyddol. Fe fydd cyfarfod ar Nos Fawrth y 21 o Hydref yn y Neuadd am 7o’gloch . Fe fydd son ddarluniadol am Carchardy - carchar Owain Glyndwr.
PTFA Ysgol Carrog. Fe fydd PTFA Ysgol Carrog yn cynnal sioe ffasiwnau plant yn neuadd y pentref am 7.30yh, ar Nos Iau y 23 o Hydref, lle fydd cyfle i brynu dillad plant ar ddisgownt.
Cymdeithas Carrog Fe fydd Mr Gwyn Williams yn rhoi araith gyda lluniau ar Nos Fercher y 26 o Tachwedd am 7.30yh yn y neuadd.
Eglwys Amser y Gwasanaethau yn ystod unryw fis yn Eglwys Sant Ffraid:
Sul 1af 9.30 y.b Cymun Bendigaid
2il Sul 11.00 y.b Boreuol Weddi
3ydd Sul 11.00 y.b Cymun Bendigaid
4ydd Sul 11.00 y.b Boreuol Weddi neu Wasanaeth Teuluol
5ed Sul gweler hysbys; gwasanaeth undebol gyda Eglwys Glyndyfrdwy
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Jim Flawn, 1 Swan Cottages, Carrog. Estynwn ein cydymdeimlad i Buddug ar farwolaeth ei gwr Jim ar y 25 o Medi. Roedd Jim yn aelod gweithredol or Clwb dros 60 tan yn ddiweddar, fe fydd colled ar ei ol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gall unrhyw un sydd am hysbysebu eitemau iw werthu, neu yn eisiau, wneud yn y golofn hon am ddim. Mae’r golygydd yn neilltuo’r hawl i ail eirio neu i newid maint unrhyw hysbyseb.
Eglwys Carrog. yn eisiau organydd i wasanaethau’r Sul. Am rhagor o fanylion cysylltwch a’r rheithor ar 01490 412278, neu un o wardenau’r eglwys ar 01490 430397 neu 430357.
Yn eisiau, Sied arddio - ystyreid unrhyw faint 430397.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.