statcounter

       

Tachwedd 2005 November


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Cais am Wybodaeth Troseddu
* Ysgol Carrog Cymdeithas Hanes Edeyrnion Arwyddion Twristiaeth
Eglwys Carrog Loteri’r Cyfeillion Hanes Sycamore Terrace
Sri Lanka   Marwolaeth

GOLYGYDDOL

Efallai ichi gofio, yn y rhifyn diwethaf inni geisio cychwyn rhestr o ddigwyddiadau sydd fisoedd i ffwrdd, yn ogystal â digwyddiadau yn ystod y mis i ddod. Rydym yn gobeithio bydd hyn yn caniatáu inni gynllunio o flaen llaw ac y bydd mwy yn mynychu’r digwyddiadau. Ond dim ond y digwyddiadau rydym yn gwybod amdanyn nhw y gallwn eu cynnwys yn Y Bont, felly os rydych chi’n cynnal unrhyw ddigwyddiad o ddiddordeb, gofynnir yn garedig ichi roi gwybod inni rai misoedd o flaen llaw, hyd yn oed os na fyddant yn cael eu cynnal am fisoedd lawer.

Mae mân fandaliaeth yn dal i fod yn bryder yn y pentref, yn arbennig yn y Neuadd. Mae hyn yn rhyfedd am mai eiddo cyhoeddus ydy’r Neuadd, ac mewn gwirionedd mae’n eiddo i bob un sy’n byw yng Ngharrog a’r Parc, ac mae’r pres a’r amser a dreulir i drwsio pethau yn amddifadu pawb o’r pres y gellid ei wario ar gyfer pethau eraill fydd er lles i’r gymuned. Mae’n ddealladwy bod tystion i’r drosedd, am nifer o resymau, yn amharod i ddweud wrth yr heddlu am y materion hyn, ond y mis hwn mae gennym erthygl ar Crimestoppers, sy’n elusen ar gyfer rhoi cyfle i bobl anfon adroddiad am drosedd yn ddienw. Gellir gwneud galwad ffôn am ddim ac ni chofnodir y rhif sy’n galw na gofyn i bobl roi manylion a gellir eu hadnabod o’u herwydd. Yn rhyfedd iawn, mae’n bosib derbyn gwobrau am unrhyw wybodaeth sy’n arwain at erlyniad.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CAIS AM WYBODAETH

Ysgrifennodd Bill a Kay Farr i’r Bont i ofyn a oes unrhyw un yn gwybod am hanes y plac sydd yn y wal ar ffordd gefn Corwen rhwng Plas Rhagat a phen y coed. Dyma’r geiriau sy ar y plac:

ROBERT HUTTON
PRIEST
DIED JAN 28TH, 1910

Anfonwch unrhyw wybodaeth at olygyddion Y Bont.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ELUSEN I GYNORTHWYO YN Y FRWYDR YN ERBYN TROSEDDU

Gall rhoi gwybod i’r heddlu am drosedd fod yn dasg anodd. Nid ydych yn sicr a yw’r hyn a welsoch neu a glywsoch yn beth priodol i’w riportio a dydych chi ddim yn hollol sicr a fyddwch yn cael eich cosbi am ddweud amdano. Ond mae ffordd (a fu’n bodoli ers degawdau) o adrodd am drosedd - Crimestoppers.

Mae’r elusen yn rhedeg gwasanaeth ffôn 24 awr am ddim er mwyn i bobl allu riportio trosedd heb roi eu henwau. Ni fydd staff y ganolfan yn gofyn am unrhyw fanylion amdanoch ac ni fydd rhif ffôn y galwr yn cael ei gofnodi na’i ddangos.

Ond efallai byddant yn gofyn am enw’r pentref neu’r ardal er mwyn cael gwybod ble digwyddodd y drosedd.

Os daw collfarn yn sgil y wybodaeth a roddwyd mae’n bosib hawlio gwobr heb ddatguddio pwy ydych chi.

Mae Crimestoppers yn dweud, “Elusen annibynnol rydym ni sy’n gweithio i atal troseddu. Nid ydym yn rhan o’r gwasanaeth heddlu nac unrhyw gangen o’r llywodraeth ychwaith. Rydym yn gweithio drosoch chi, eich teulu a’ch cymuned”.

Cafodd Crimestoppers Cymru lwyddiant mawr wrth gynorthwyo i ddatrys troseddau, a bydd hyn, gobeithio, yn help i ostwng nifer y troseddau.

Llinell ffôn cymorth Crimestoppers ydy 0800 555 111.

Gallwch gael gwybod mwy ar y wefan www.crimestoppers-uk.org/wales/

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* YSGOL CARROG

Derbyniodd Ysgol Carrog y wobr yr Ysgol Seren am y drydydd gwaith yn y Gystadleuaeth gelf ym Mhafiliwn Llangollen. Bu’r holl blant yn brysur yn creu modelau a lluniau ar y thema ‘Affrica’. Derbyniodd yr ysgol siec £100, derbyniodd Eimear, Chloe a Sioned wobrau unigol am eu gwaith.

Arddangoswyd y gwaith celf yn y Neuadd ddydd Mercher Tachwedd 2 i godi arian at Eisteddfod yr Urdd.

Casglodd yr ysgol £150 ar gyfer apêl Gafr i Affrica. Bu’r plant yn cymryd rhan yn yr uyl ddiolchgarwch yn yr eglwys gan orchuddio gafr gyda darnau o arian mân. Rhoddwyd yr arian a godwyd yn y ddrama Cinderella i gronfa’r Afr hefyd.

Bu’r plant yn cymryd rhan yn y gwasanaeth diolchgarwch am y cynhaeaf yn y Capel Methodistaidd gan ganu ac adrodd yn y Gymraeg.

Bu tîm pêl droed y bechgyn yn chwarae yn yr uyl ryngysgolion gan chwarae 8 o gemau yn erbyn ysgolion cyfagos.

Mae dau fyfyriwr yn yr ysgol ar hyn o bryd. Sylvain o Ffrainc a Dawn, sy’n fyfyriwr yng Ngholeg Iâl.

Digwyddiadau’r Ysgol Rhagfyr 1st Bingo Nadolig 6:30 Neuadd Carrog
Rhagfyr 14th Cyngerdd Nadolig 6:30 Neuadd Carrog
Rhagfyr 16th Christingle 2:15 Eglwys Carrog

Does fawr ddim wedi newid ers 94 o flynyddoedd, nag oes? Dyma lun a gymerwyd yn 1909. Mae’n dangos Ysgol Carrog, ar ddiwrnod adeiladu efallai. Mae’r gweithwyr gyda’u hoffer.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CYMDEITHAS HANES EDEYRNION

Gyda’r hwyr ar 26 Hydref cawsom sgwrs ddifyr dros ben gan Mr. Gareth V Williams, Wrecsam. Ei bwnc oedd Camlas Ellesmere ac adeiladu pont cario dur ryfeddol yn y Waun gan Thomas Telford - y pensaer a’r peiriannydd ifanc oedd yn gyfrifol am adeiladu Ffordd Caergybi, ymysg nifer o bethau eraill.

Ladis Llangollen ddaeth i agor y bont ddwy ganrif yn ôl yn 1805 - yn agos at gyfnod Brwydr Trafalgar. Parodd Mr. Williams inni werthfawrogi pa mor rhyfeddol oedd y gwaith athrylithgar o beirianwaith a gyflawnodd Mr. Telford.

Dechreuodd y prosiect yn yr 1790 ar adeg pan roedd bywyd yn anodd dros ben i’r mwyafrif o bobl a’r unig drafnidiaeth oedd cerdded neu fynd ar gefn ceffyl a phan oedd cymorth mecanyddol ymhell iawn i’r dyfodol.

Fel arfer, pan ddaw pobl i Garrog am y tro cyntaf, cyfeiriodd Mr. Williams at ein neuadd bentref hardd, yn gynnes a chyfforddus, a ninnau’n gwerthfawrogi mor ffodus rydym.

Bydd ein cyfarfod nesaf yng Nghynwyd ar Dachwedd 22 gyda Mrs. Kathleen Webb yn siarad am Ysbyty Llangwyfan. Ar Ionawr 24, yn ôl yng Ngharrog, bydd Miss Jane Brunning yn rhoi gwybod inni am Roliau Llys Sir Ddinbych yn negawd olaf y ddeunawfed ganrif.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CYFARFOD YNGHYLCH ARWYDDION TWRISTIAETH

Cynhelir cyfarfod ar ddydd Mawrth 22 Tachwedd 2005 am 7.00pm yn y Neuadd i drafod gosod arwyddion twristiaeth glas newydd ar yr A5, a phethau eraill sy’n effeithio ar dwristiaeth yng Ngharrog a’r Parc. Os oes gennych unrhyw syniadau ynghylch yr arwyddion hyn o ran dylunio, lleoli etc, yna cofiwch ddod i’r cyfarfod.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

EGLWYS CARROG

Bydd cyfarfod o’r PCC ar Dachwedd 14 am 7.00 pm.

Ceir manylion y Gwasanaethau Nadolig yn rhifyn Rhagfyr o’r Bont.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LOTERI’R CYFEILLION

Mrs. D. Lunsford oedd enillydd raffl Hydref.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

HANES SYCAMORE TERRACE

- a elwir yn Glyndur, Dolwar a Berwynfa

Yn 1841 dengys Map y Degwm un o’r tai ym mynwent yr eglwys o’r enw Tan Llan (y tu isaf i Fferm Llansantffraid ).

Y preswylydd oedd Margaret Jones, Groser. Yn ôl cyfrifiad ar gyfer Tan Llan yn 1851mae’n dangos mai Margaret Jones oedd pen y teulu, 73 oed, Groser (Gweddw David Jones). Hefyd yn byw yma roedd ei merch Margaret Jones.

32 oed, Gwniadwraig ddibriod. (Priodwyd yn Ebrill 1852 i Edward Jones. Labrwr) Tua’r adeg hon roedd Eglwys Llansantffraid Glyndyfrdwy am ymestyn y fynwent ac mae’n debyg iddynt dalu’r rhai oedd yn byw yn y tai, gan gynnwys Margaret Jones, i adael eu cartref. Wedyn dymchwelwyd y tai a chafodd y fynwent ei hymestyn yn sylweddol.

Cafodd Margaret fenthyg mwy na £400 o’r banc (North & South Bank, ar sgwâr Corwen) ac adeiladu, erbyn 1858, bedwar o dai o’r enw Sycamore Terrace. Galwyd y tai wrth yr enw hwn am fod masarnen anferth yn sefyll o flaen rhif 1.

Efallai mai’r hyn a’i hysgogodd oedd Chwarel Penarth a oedd newydd agor yr ochr arall i’r dyffryn. Gan ei bod hi’n wraig fusnes roedd Margaret â llygad tua’r dyfodol. Cododd sied hefyd (sy’n dal y tu cefn i rif 4) ar gyfer rhoi llety i nifer o letywyr- dynion a heidiodd i’r pentref i chwilio am waith.

Trodd Margaret yr ystafell ffrynt yn rhif 4 yn siop groser.

Ymhob un o’r tai bach, a osododd Margaret ar rent i deuluoedd eraill, roedd o leiaf un lletywyr yn byw, yn ogystal â theulu.

Cyfrifiad 1861 ar gyfer 4 Sycamore Terrace Penteulu: Margaret Jones 83 mlwydd oed. Gweddw/Groser Merch: Margaret Jones 43 mlwydd oed Mab yng Nghyfraith: Edward Jones 43 mlwydd oed Labrwr Wyres: Elizabeth 7mlwydd oed Wyres: Margaret 2 flwydd oed A lletywyr. (i’w barhau).

Valmai Webb

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* NEWYDDION O SRI LANKA

Anfonwyd yr arian a godwyd yng Ngharrog i Apêl Ailadeiladu Sri Lanka De Powys. Maent yn casglu arian i godi ysgolion newydd.

Daeth yr adroddiad, a nifer o luniau i’r ysgol oddi wrth Jean Moseley o Gelli Gandryll a fu ar ymweliad â’r ardal ym mis Gorffennaf.

Roeddynt wedi cyflwyno ffolder o luniau a storïau o Ysgol Carrog i’r athro ym Matara, ac rydym yn gobeithio derbyn gohebiaeth oddi wrthynt. Yn y llun gwelir rhai o’r plant a elwodd o’n rhoddion yn y seremoni agor yn yr ysgol. Bydd adroddiad llawn o’r Elusen Ailadeiladu Sri Lanka ar Hysbysfwrdd y Neuadd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

MARWOLAETH

Er cof

Cyhoeddwn gyda thristwch farwolaeth NANCY JONES, Maes y Llan gynt, a fu’n byw’n ddiweddar yng Nghysgod y Gaer. Bu farw ar 18 Hydref yn Ysbyty’r Maelor. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Carrog ar 21 Hydref.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.