statcounter

       

Ar y dudalen hon ceir holl erthyglau’r rhifyn hun.
Gallwch naill ai sgrolio drwy’r dudalen neu gallwch ddewis yr erthygl rydych ei hangen o’r tabl isod.
Er mwyn lleihau amser llwytho i lawr fe dynnywyd yr holl hysbysebion, ffotograffau a graffigs.

Os oes ffotograff gydag unrhyw lun gellir ei weld drwy agor y ffeil unigol drwy’r ddewislen ddwyieithog,
neu drwy ddefnyddio’r teitl cyswallt.

* yn golygu bod ffotograff(au) neu graffog(au) ynghlwm wrth y ffeil unigol.

Bont Bash Sir Ddinbych Idwal Pritchard
Welis a Berfa Arddangosfa Gelf Ysgol Carrog
Llun yn Festri Er Cof A5

Tachwedd 2006

BONT BASH

Yn anffodus, ni ddaeth llawer o bobl i’r Bash eleni a bu’r digwyddiad ar ei golled. Ond fe gyfrannodd nifer o bobl roddion, gan achub y dydd. Llawer o ddiolch i’r rhai a ddaeth i’n cefnogi ac i’r rhai a gyfrannodd.

Fel y dywedwyd yn aml iawn, mae ein hincwm yn ddibynnol ar ein noddwyr naill ai drwy hysbysebu neu’n uniongyrchol o’r Bash. Mae’r diffyg arian o’r Bash a’r lleihad yn y nifer o fusnesau yn y pentref yn golygu y bydd diffyg ariannol am y flwyddyn sy’n dod. Byddwn yn dal i gyhoeddi nes bydd yr arian yn dod i ben.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

SIR DDINBYCH - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL

Bydd y cynllun Datblygiad lleol (CDLl) yn cael ei osod yn lle’r Cynllun Datblygu Unedol. Bydd y CDLl yn pennnu ardaloedd arfaethedig ar gyfer tai, cyflogaeth, a hamdden. Nodwyd Carrog o fewn y Sir yn Gymuned Wledig ac o’r herwydd bu ganddo ffin ddatblygu.

Mae’r Cyngor Sir yn nodi materion allweddol wrth gadw cymunedau gwledig fel ein cymuned ni.

Dyma nhw:
• Yr angen am gadw pentrefi’n gymunedau sy’n ffyniannus a bywiog.
• Swyddogaeth bwysig yr ysgolion, siopau, swyddfeydd post, eglwysi a chapeli’n ganolfannau cymunedol.
• Yr angen am roi’r cyfle i bobl allu prynu cartref a chael swydd yn y cymunedau hyn.

Ychydig iawn o ddatblygu fu yng Ngharrog a Llidiart y Parc yn ystod yr 30 mlynedd diwethaf ar ôl adeiladu Maes y Llan. Tri o dai newydd yn unig a godwyd yn ystod y cyfnod hwn. Daeth Carrog yn lle poblogaidd dros ben i fyw ynddo ac o’r herwydd mae prisiau’r tai ymhlith y prisiau uchaf yn yr ardal. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i bobl symud o’u cartref cyntaf i dai mwy, gan olygu nad oes tai ar gael i’r prynwyr cyntaf a fyddai’n cael trafferthion talu’r prisiau beth bynnag.

Mae’r Cynghorau Cymuned a’r Cyngor Sir wedi nodi nifer o ardaloedd yn y pentref ar gyfer datblygu tai eisoes ac os hoffai unrhyw un weld y cynllun a gynigir neu gynnig unrhyw dir arall ar gyfer y cynllun, dylent gysylltu â Chyfarwyddiaeth Amgylchedd y Sir (Cynllunio) , Trem Clwyd Rhuthun. Ffon: 01824 708057.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

PEN-BLWYDD HAPUS I MR IDWAL PRITCHARD, Maes Y Llan.

Ar ddod yn 90 oed ar 8fed Tachwedd. Bydd nifer o drigolion Carrog sydd yn eu tri a phedwar degau’n cofio Mr Pritchard yn Brifathro yn Ysgol Carrog. Chwaraeodd ran allweddol o ran cael y Neuadd Bentref gyntaf a bu’n drysorydd yn ddiweddarach.

Diolch am y profiad o dynnu llun ar brynhawn Mawrth a’r sesiwn byrstio balwn adeg Nadolig! Hyderwn y cewch ddiwrnod hapus a nifer fawr eto yn y dyfodol. Oddi wrth drigolion Carrog sy’n 30 a 40.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

WELIS a BERFA

Ar ol treulio awr go lew yn rhedeg rhyw ddarpar Cassanova o’r defaid, meddyliais fod llawer iawn o amser yn cael ei dreulio’n rhedeg ar ol anifeiliaid sy wedi dianc.

Yn gynharach eleni dyma fi’n deffro a darganfod bod fy ngwartheg wedi penderfynu bod angen mwy o fwyd arnyn nhw, a mynd i bori yn un o’r caeau gwair. Doedd hynny ynddo’i hun ddim yn drafferth fawr gan mai dim ond eu troi allan a chau’r giât oedd angen. Ond wrth gerdded at y giât doedd dim giât yn y golwg. Tua’r adeg honno daeth y diffyg cyntaf ar fy synnwyr digrifwch y diwrnod hwnnw. Wrth imi fod wrthi’n rhegi a rhwygo a melltithio’r dihiryn oedd wedi ymdrechu ganol nos i gludo’r giât ar ei gefn, dyma fi’n sylwi ar rywbeth rhyfedd drwy gil fy llygad. Wrth imi droi i edrych, daeth yr ail ddiffyg ar fy syniad digrifwch y diwrnod hwnnw. Roedd Enid ( buwch enwog am ei mileindra) yn crwydro ar draws y cae gan wisgo’r giât am ei gwddf. Dwn i ddim a fu unrhyw un yn trio erioed, ond nid hawdd o beth yw tynnu giât oddi ar wddw buwch. Doedd Enid ddim am gydweithio o gwbl ac roedd hi’n hoff dros ben o’i bling newydd. Ar ol bod wrthi am bron fore cyfan yn ceisio tynnu’r giât dros ei phen dyma fi’n dioddef y trydydd diffyg digrifwch y diwrnod hwnnw. Dw i’n credu bod Enid wedi deall fy mod wedi cyrraedd pen fy nhennyn wrth imi dynnu at y giât, trodd ei phen a daeth y giât yn rhydd. Mae hynny’n profi fod nerth ac anwybodaeth yn gweithio o dro i dro.

Gyda’r gwartheg wedi’u cloi allan yn ddiogel fe adferodd y cae cyn pen dim ar ol yr annisgwyl ymwelwyr dros nos a chyn hir roeddwn yn lladd gwair.

Am y rhan fwyaf o’r cynhaeaf roedd fy mhen ôl yn dynn ar sêt y tractor (ffaith bydd llawer yn ei bwysleisio’n aml). Wrth imi ladd gwair neu feilio roeddwn yn poeni sut roeddwn yn mynd i gario’r bels. Roedd y bechgyn oedd wedi rhoi help imi yn y gorffennol wedi tyfu erbyn hyn a’r merched a’r ddiod yn apelio’n fwy na chwysu mewn cae llychlyd am bunt neu ddwy, tamaid o fwyd a min fy nhafod.

Ond doedd dim angen pryderu. Yn ffodus, daeth yr hen rai i’r bwlch ac achub y dydd. Dyma griw o ddynion oedd a’u dyddiau mercheta (os nad diota) wedi hen ddod i ben. Roedd yr ychydig ddyddiau hyn yn rhai drud imi gan eu bod yn gallu yfed eu pwysau o lager. Dw i’n dal i fynd â’r poteli gwag i’r banc ailgylchu ac mae bil y Grouse yn golygu bydd rhaid gwneud peth esbonio i’r cyfrifydd. Efallai ei fod yn ffortiwn ar y pryd ond roedd yn werth pob dimai. Diolch yn fawr iawn Foneddigion. Yr un amser y flwyddyn nesaf?

Roedd y cneifio eleni’n debyg i bob blwyddyn arall sef cyfuniad o losg haul, poen cefn, hwyliau drwg, iaith anweddus a dadrithiad llwyr gyda byw. Fel y gallwch ddychmygu, pan gneifiwyd y ddafad olaf a’r cnu’n ddiogel dan do yn barod i’w gasglu roedd bywyd yn bleser unwaith eto. Tuag wythnos yn ddiweddarach daeth glaw mawr i Garrog ac wrth imi fod wrthi’n sgubo’r dŵr o’r tŷ, heb imi wybod roedd un o ddraeniau’r buarth wedi blocio ac roedd y sied wlân yn bwll nofio dan do. Pan beidiodd y glaw ychydig a’r bygythiad i’r tŷ drosodd mi es i lawr y buarth a darganfod y difrod. Yn ffodus roedd hi’n dal i daranu a fy ymateb llai na rhesymol i i’r gwlân gwlyb yn cael ei foddi gan y twrw.

Cleddyf dau finiog bu’r haf eithafol o sych eleni. Daeth cynhaeaf da er yn wael ei gynnyrch gan ganiatáu imi orffen y defaid yn gynharach yn y flwyddyn yn weddol hawdd. Ond wrth i’r sychder gychwyn o ddifrif a Llan yn edrych fel Serengetti, roedd y diffyg glaw yn broblem fawr.

Oherwydd aildyfiant gwael ar ôl y cynhaeaf ychydig o bori glân oedd ar gael i’r ŵyn pasgedig oedd wedi’u diddyfnu. O ganlyniad i hyn mae mwy o wyn ar ol ar y fferm eleni nac yn y blynyddoedd a fu. Wrth i’r dydd fyrhau a hithau’n oeri gall yr wyn hyn fod yn fwy anodd eu gorffen a bydd angen mwy o faeth na all y borfa yn unig ei gynnig, felly yn ol bob tebyg mi fydd y bil bwyd yn uwch nag arfer eleni.

Roedd angen gohirio’r cynlluniau i hau cae gyda rêp eleni i besgi’r defaid am fod y sychder yn golygu bod y cnwd yn wael o ran sefydlu. Er bod sefydlu’r cnwd yn un ffactor wrth ohirio’r gwaith, y prif reswm oedd bod y cae yn galed a sych ninnau’n methu’n lan a chael yr aradr yn y pridd.

Roedd ffensio’n job arall a gafodd ei effeithio gan y tywydd sych. Treuliais wythnos ar ôy cynhaeaf yn ceisio gwneud darn, ond roedd y ddaear yn galed a sych ac angen ymdrech eithriadol i daro’r pyst i mewn. Roeddwn i bron yn teimlo rhyddhad pan dorrodd yr ordd a minnau’n gorfod cymryd seibiant.

Wrth wylio rhagolygon y tywydd ddydd Sul roeddwn yn falch gweld fod wythnos wlyb yn cael ei haddo. Felly, gyda lwc, bydd y ddaear yn meddalu a gallaf ffensio’n haws. Yn anffodus, unwaith bydd y glaw yn cychwyn y duedd ydy iddi beidio stopio felly gallaf ragweld bydd fy erthygl nesaf yn melltithio’r tywydd gwlyb.

Gareth Llan
© Gareth Bryan 2006

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ARDDANGOSFA GELF Y GYMUNED

Mae Carl a Lorraine, ein hartistiaid preswyl, yn dangos paentiadau o Garrog ar hyn o bryd mewn arddangosfa yn Y Capel Llangollen, ynghyd ag artistiaid eraill. Cofiwch eu cefnogi ac efallai gael eich temtio i brynu.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

YSGOL CARROG

Dewiswyd aelodau Cyngor Ysgol Carrog i wneud cyflwyniad yng Nghynhadledd y Bobl Ifanc yn Nhŷ’r Oriel, Llanelwy. Rhoddodd yr aelodau wybodaeth i’r gynulleidfa o 150 am eu cyfarfodydd a’u penderfyniadau ynghyd a ffotograffau o’r digwyddiad a phrojectau cyngor yr ysgol.

Bu’r disgyblion yn cymryd rhan yn y Capel ac yn y Gwasanaethau Diolchgarwch. Canmolodd y cynulleidfaoedd hwy yn y ddau wasanaeth. Casglwyd £32 at Nyrsys Macmillan yng ngwasanaeth y Capel, gan godi cyfanswm o £132 at elusennau y tymor hwn.

Cynhaliwyd arddangosfa gelf ar y thema Awstralia yn y Neuadd. Roedd y gwaith a gafodd ei arddangos yn enillydd y gystadleuaeth Pafiliwn Llangollen. Derbyniodd 27 o blant fedalau a thystysgrifau oddi wrth y llyfrgellydd lleol am iddynt gymryd rhan yn rhaglen ddarllen yr haf.

Aeth y plant ifanc i gyfarfod a’r awdur Malachy Doyle yn Llyfrgell Corwen a mynychu Jambori yn Neuadd y Dref, Llangollen.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Y LLUN YN FESTRI’R EGLWYS

Roedd Mrs Valmai Webb wedi adnabod fy chwaer, Olwen.

Williams oedd ei chyfenw. Enw fy mrawd oedd Trevor, a Betty oedd fy mam.

Ciper oedd Hugh (Hughie) ein tad. Fel y dywedodd Mrs Webb, yn Nhy Cynnes roeddwn yn byw. Mi fues i’n mynychu gwersi bale am gyfnod gyda’i merch Elspeth. Roeddwn yn arfer aros am i Mrs Webb fy nghodi wrth y stand lefrith gyferbyn â’r Efail.

Roedd fy nhaid Sam Williams yn byw yn Erw Dala. Ciper oedd yntau, a fy nhad hefyd. Roedd fy hen ewythr Llew ( Llywelyn ) yn byw yn Nhy Gwyn, gorsaf feistr oedd o ar un cyfnod, cyn imi ei adnabod. Roedd fy Hen Ewythr Tegid yn byw ar ben yr allt ar y briffordd. Un campus oedd o am hyfforddi cŵn.

Roedd gen i ewythrod eraill (roedd tua 12 o fechgyn ac un ferch yn y teulu, dw i’n meddwl) ond nhw oedd y rhai oedd yn byw’n lleol.

Bu farw gwraig Sam Williams (fy nain) yn ifanc, 32 mlwydd oed, o’r ddarfodedigaeth. Ar y pryd roedden nhw’n byw mewn bwthyn rhwng Carrog a Chorwen, i fyny’r bryn ar y ffordd gefn. Dw i’n methu cofio enw’r tŷ. Mae hanes fod Owain Glyndŵr wedi cuddio yno yn yr eiddew. Mae’n rhaid ei fod wedi cuddio mewn llawer iawn o eiddew.

Ailbriododd Sam a chael Ôail nythaid’ o blant. Priododd Jean ei ferch â Glyn, Williams?? arall, neu efallai mai Roberts oedd o. Roedd y ddau’n rhedeg bar llefrith yng Nghorwen am nifer o flynyddoedd.

Pan fu farw’i fam, roedd Sam ei dad yn anabl oherwydd y Rhyfel Cyntaf ac roedd fy nhad, y plentyn hynaf, yn cofio gwarchod ei ddau frawd bychan a mynd â nhw i’r ysgol. Roedd yn gofalu bod eu pengliniau’n lan, o leiaf. Un diwrnod, aethant i’r ysgol drwy gerdded drwy’r nant, gan feddwl na fyddai neb yn gwybod nes iddyn nhw adael rhes o ol traed ar lawr yr ystafell ysgol- roedd eu hesgidiau’n llawn o ddŵr.

Trueni fod y genhedlaeth honno wedi marw i gyd, mi faswn wrth fy modd yn cael sgwrs am hen hanesion Carrog. Roedd fy nhad ac Ewythr Vaughan yn adroddwyr stori penigamp, llawn hwyl. Un tro, rhoddodd Ewythr Vaughan regen yr yd ym mhiano’r ysgol. Sam oedd enw’r mab ieuengaf a fu farw’n 13 mis oed. Rydw i’n byw yn Perth Western Australia.

Talais ymweliad â Charrog ychydig o flynyddoedd yn ol gyda fy ngŵr a dau fachgen. Roeddynt wedi’u syfrdanu gan yr harddwch. A finnau hefyd. Roeddwn yn meddwl efallai fy mod wedi gorliwio’r harddwch yn fy absenoldeb, ond roedd bobman yn harddach na fy atgofion ohono hyd yn oed. Efallai mai ar y gwyliau hwn y cyfarfyddais â hen ffrind ysgol imi Elin Robson, Ty Canol.

Gwelais “Y Bont” ar y rhyngrwyd ac rydw i’n edrych ymlaen at bob rhifyn. Daliwch ati gyda’r gwaith da!

Cofion.

Di Jacoby

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ER COF

Am Amanda Jane Williams a fu’n farw’n ddisymwth yn ei chartref, Carrog Isa, ar Hydref 15. Estynnwn ein cydymdeimlad dwys i’w gwr Iwan a’i thri phlentyn Gruff, Jac a Lowri. Roedd Amanda yn ysgrifenyddes yn Ysgol Glyndyfrdwy. Bu’r angladd yng Nglyndyfrdwy ar ddydd Mercher 25 Hydref.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

FFRWYDRO CREIGIAU I DDIOGELU’R A5

Bydd gwaith ffrwydro creigiau yn dechrau fis nesaf er mwyn diogelu rhan newydd yr A5 yn Nhy Nant, ac ail-agor y ffordd yn barhaol.

Bydd cyfres o ffrwydriadau yn cael eu gwneud dros y misoedd nesaf er mwyn i gontractwyr Llywodraeth y Cynulliad gael gwared â tua 250,000 o dunnelli o graig sy’n sefyll uwchben rhan o’r ffordd rhwng Corwen a Cherrigydrudion. Bydd cwblhau’r gwaith hwn yn golygu na fydd perygl i greigiau gwympo ar y ffordd, fel y cwymp a arweiniodd at gau’r ffordd newydd yn y lle cyntaf.

Bydd yr hen A5 a gafodd ei hailagor i’w defnyddio fel dargyfeiriad yn gorfod cael ei chau am gyfnodau byr rheolaidd rhag peryglu defnyddwyr y ffordd yn ystod y ffrwydro.

Dim ond am yr amser sydd ei angen ar y contractwyr i fwrw golwg dros yr ardal o amgylch y ffrwydrad cyn ac ar ôl pob ffrwydrad y bydd y ffordd ar gau. Ni ddylai hynny bara mwy na 30 munud.

Ar hyn o bryd, y bwriad yw cau’r hen A5 rhwng 2 p.m. a 2:30 p.m. bob dydd Llun - Gwener bob wythnos gan ddechrau ar 6 Tachwedd. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn gobeithio y bydd y gwaith ffrwydro wedi ei orffen erbyn Pasg y flwyddyn nesaf, ac y bydd rhan newydd yr A5 ar agor eto erbyn diwedd y Gwanwyn.

Cyn i’r gwaith ffrwydro ddechrau, mae Llywodraeth y Cynulliad yn bwriadu cynnal cyflwyniad yn Ysgol Dinmael i esbonio manylion llawn y gwaith i gymunedau a busnesau lleol. Bydd dyddiad ac amser y cyflwyniad yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –


© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.