Rhagfyr 2003 December
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Rydym wedi ein plesio’n arw gyda’r ymateb ar cymorth sydd wedi ei dderbyn ar gyfer y 3 rhifolyn cyntaf o’r papur ac yn gobeithio ygwnewch barhau i roi cymorth yn y flwyddyn i ddod.Daliwch ati gyda’ch cyfraniadau! Mae llythyr Mis diwethaf yn son am beryglon yrA5 a’r angen am arwyddion wedi bod yn destun sgwrs garw. Mae’n debyg mae Llidiart y Parc yw’r unrhyw gymuned ynghlwm a’r A5 sydd a dim arwyddion o’r fath er diogelwch y trigolion. Mae hefyd ar ddiwedd ffordd hir a syth, sydd o bosib wedi cael ei gynllunio gan Thomas Telford ond yn amlwg nid ar gyfer ceir cyflym heddiw! A oes gan unrhyw un awgrymiad sut y gellir cynyddu diogelwch yn yrardal hon? Sut allwn ni gyflwyno cyfyngaid cyflymder?
Cofiwch - Mae angen eich cyfraniadau chi ar gyfer 2004 - hebddynt ni fedrwn argraffu!
Os oes gennych e.mail - gyrrwch eich cyfraniadau i train@astracg.com
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’r ateb yn amlwg i ni sydd yn byw yn neu ar gyfyl y pentref, ond a ydy ymwelwyr yn gwybod? Tra bod arwyddion yn dangos y ffordd I’r pentref nid oes unrhyw arwydd sy’n dynodi lle maer Carrog yn dechrau neu’n gorffen. Mae hyn yn od iawn gan fod gan bentrefi llai na Charrog arwyddion, felly - Ble mae ein harwyddion?
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Y mis diwethaf yr oedd yr hyrddod wrthi’n edrych ymlaen at eu hanturiaethau blynyddol Chwech wythnos yn ddiweddarach fodd bynnag mae eu brwdfrydedd wedi cilio a dogn ychwanegol ynghyd a 10 mis o R&R yw’r gofyn.
Mae’r gwartheg erbyn hyn wedi ymgartrefu yn y beudu 5 seren foethus a minnau fel ‘Head Chef’ gwas ystafell a dynes lanhau!
Mae’r Haf yn teimlo’n bell i ffwrdd lle, rhwng problemau (dynol a pheiriannol) bu’m yn llwyddiannus yn llenwi’r sied wair gyda chymorth bechgyn y pentre’. Wedi cwyno a chrinio arnynt i roi’r gwair yn dwt ac yn daclus mae’n biti gorfod dad-wneud y gwaith da a chario’r gwair i’r gwartheg!
Y broblem fwyaf o fwydo’r gwartheg o dan do yw’r hyn y mae’nt yn ei gynhyrchu o ganlyniad - y mwyaf sy’n mynd i mewn un pen - y mwyaf oll sy’n dod allan y pen arall! Unwaith eto mi fydd y fforch, y ferfa a minnau yn dod i adnabod ein gilydd yn bur dda. O ba fyddai’n Wanwyn!!
Gareth Llan
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mrs Fanning o Bryn Hyfryd, Y Forfydd, Carrog ar Ddydd Mawrth, Rhagfyr 2il 2003 yn 98 mlwydd oed.
Mrs Fanning oedd yr hynaf yn y pentref.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynhaliwyd cyfarfod agored yn Neuadd Carrog ar y 28ain o Dachwedd i drafod sefydlu cyfundrefn cyplysu swyddogol. Anfonnir gwahoddiad I Plouyé yn Llydaw yn gwahodd cyrycholion i ymweld a Carrog/Llidiart y Parc yn 2004. Mae munuda’’r cyfarfod ar gael i unrhyw un sydd a diddordeb.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae pobl yn cael eu twyllo gan ‘scam’ Loteri ffug sy’n cael eu rhedeg gan dwyllwyr ryngwladol. Os derbyniwch lythyrau tramor yn nodi eich bod wedi ennill loteri byddwch yn ofalus.
Mae rhai wedi derbyn llythyr gan ‘clairvoyant’ yn cynnwys papur newydd ‘y dyfodol’ sy’n honni eu bod wedi ennill mwy na 12 miliwn yn y gem ‘Millions a Gogo’.
Mae’r llythyr yn cael ei anelu at bobl mewn oed sy’n dweud y bydd lythyr o lonngyfarchiadau gan y Prif Weinidog yn dilyn.
Fe all y gwybodaeth edrych yn ddilys ond yn aml iawn nid oes taliad.
Mae taliad blaenorol i sicrhau gwobr yn aml iawn yn dod cyn gais am daliad mwy ar gyfer costau treth cyn iddynt ryddhau unrhyw daliadau. Tra mae’r ennillydd yn aros am ei arian, mae’r twyllwr mewn gwirionedd wedi symud ymalen i dwyllo mwy o bobl diniwed.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Jo ac Alun Jones, Maes y Llan ar enedigaeth mab, Ethan Alex. Ganwyd 5.15pm ar Ddydd Mawrth Tachwedd 25ain ,yn pwyso 6pwys 15owns.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
| • |
Adeiladwyd y Capel Bedyddwyr ym 1895. |
| • |
Cyn hynny defnyddiwyd y ddau fwthyn i lawr y lon o’r ‘Swan’ (1853) |
| • |
Emma, merch fach Edward a Mary Jones Fron Newydd oedd y cyntaf I gae ei chladdu ym mynwent y Capel Bedyddwyr (ar y chwith wrth y giat) yn 1853 yn dri diwrnod oed. |
| • |
Gwrthododd y Rheithor ei chladdu ym mynwent yr Eglwys gan nad oedd hi wedi cael ei bedyddio. |
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae tim pel droed Ysgol Carrog wrth eu bodd gyda ‘strip’ newydd sydd wedi cael ei nodd gan “Y Grouse”. Enillodd y tim ddwy gem yn nhwrnament pel droed Corwen.
Rhedodd y plant cynradd yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Ysgolion yr Ardal ac fe aeth Gus Shaw a Rachel Davenport i gynrychioli’r Ysgol yn Rasus terfynol y Sir yn Ninbycg.
Cafwyd “Beetle Drive” llwyddianus gan y “PTFA” gyda Angharad, Isobel a Molly yn ennill gwobrau.
Bu’r disgyblion i gyd mewn Jambori yng Nghorwen a Rhuthun a gafodd ei drefnu gan yr Urdd gyda ymweliad arbennig gan Mistar Urdd.
Mae’r Ysgol yn gwerthfawrogi rhoddion gan Bwyllgor y Carnifal a hefyd gan Blas Hyfryd, Carrog a Pwyllgor Cyngerdd yr Eglwys y tymor yma.
Diolch i’r plant a gyfrannodd tuag at “Operation Christmas Child”. Casglwyd 24 o focsus yn yr Ysgol.
CYNGERDD NADOLIG - Nos Lun, 15fed Rhagfyr, am 6 or gloch hwyr
GWASANETH ‘CHRISTINGLE’ - Prynhawn Dydd Gwener Rhagfyr 19eg 2.15
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Oriau‘r Meddygfa
Llun - 9.00 - 11.00 & 3.30 - 6.0
Mawrth - 9.00 - 11.00 & 2.30 - 5.00
Mercher - 9.00 - 11.00 & 3.30 - 6.00
Iau - 9.00 - 11.00 & 2.00 - 5.30
Gwener - 9.00
- 11.00 & 2.00 - 4.00
Sadwrn - Argyfwng yn unig 9-10 y bore
Ymgynghoriad Trwy
Apwyntiad Ffoniwch - 01490 41 2362
Unrhyw broblemau y tu allan I oriau arferol (os ydych angen gweld meddyg o fewn 4 awr) ffoniwch yr un rhif a bydd eich galwad yn cael ei drosglwyddo i’r Adran Ambiwlans a fydd yn cysylltu a doctor ar eich rhan.
Mae‘r gwasanaeth amser yn medru cymeryd amser yn ystod cyfnodau prysur.
Mewn argyfwng Ffonwch 999
Mae tafllen wybodaeth ar gael yn y Feddygfa.
Rgafgyr
Ar ol 3 blynedd distaw mae ‘Influenza A’ yn y gymuned yn gynharach na’r arfer. Mae’n achosi problemau yng Ngogledd a Chanolbarth Prydain. Mae’r Pigiaid sydd ar gael gennym yn cynnwys straen sy’n cynnig amddiffyniad yn erbyn y salwch. Mae’n bwysig I bawb dros 65 dderbyn y Pigiaid yn ogystal ag oedolion a phlant dros 6 mis oed gyda’r problemau iechyd canlynol:
Afiedchyd Anadlu
Afiechyd y Galon
Afiechyd yr Arennau
Clefydd Siwgr
Mae hyn yn cynnwys obl sydd a system wan o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth a phobl sydd wedi cael tynnu’r ddueg.
Mae Stoc O Bigiadau’r Ffliw Dalar Gael
Ffoniwch am apwyntiad fyda’r nyrs. Gadewch i ni wybod os ydych yn daeth i’r ty.
D.S. - Nid yw’r Pigiaid yn cynnwys gwenwyn gweithredol felly ni allwch ddal y ffliw o ganlyniad.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar Ragfyr 8fed bydd siaradwr adnabyddus Dave Hingsberger yn ymweld a Charrog ac yn cynnig sesiwn cyfathrebu ar gyfer pobl sydd a phroblemau ymddygiad. Sesiwn ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Iechyd a Gofalwyr fydd hwn. Dyma‘r sesiwn olaf y flwyddyn hon sy’n cynnig golwg fodern ar gynnig gwasanaethunigol I bobl a phroblemau dysgu.
Mae‘n cael ei drefnu a’I redeg gan y Ling Trust, yn Neuadd Carrog sydd wedi bod yn safle ardderchog ar gyfer y darlithiau a hefyd sydd wedi bod yn arian defnyddiol I‘r Neuadd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae lle I ddau o’r ardal hon. Os ydych am fynychu cysylltwch a Jayne Knight neu Nia Roberts ar 430571.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae David a Judith Blair wedi cael tymor llwyddianus unwaith eto yng Ngwersyll y Stesion. Cafwyd mwy o bebyll eleni, efallai gan fod y tywydd wedi bod mor ardderchog! Mae gwe-fan I’r Gwersyll sy’n cael ei adnewyddu’n gyson - www.stationcampsite.8k.com - lle ceir lluniau o olygfeydd lleol.
Gadewch I ni wybod am unrhyw luniau lleol neu syniadau os gwelwch yn dda.
Codwyd £100 mewn Arwerthiant Planhigion yng Ngwersyll y Stesion yn stod yr Haf tuag at “Diabetes UK”.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cyflym
Ymunwch a’r ymgyrch i gael cyfnewidfa deleffon 430 ar yr ‘internet - ‘BROADBAND’ - Mae angen 78 o ddefnyddwyr ychwanegol I gofrestru gyda Broadband ac wedyn buasai pawb yn cael defnyddio’r ‘Internet’ yn ddi-gyfyngedig. Mae’r gost yn amrywio o £25.00 - £30.00 y mis os os ydych yn defnyddio’r @Internet’ yn aml mae’r gost yn debygol o fod yn rhatach na’ch gwasanaeth presennol. Mae defnyddio ‘Broadband’ yn 10 gwaith cyflymach na systemau modem cyffredinol, a hefyd mae’’n arbed arian ar filiau ffon.
Y Mis hwn mae Cyhoeddiadau A5 yn rhedeg ymgyrch I ddod a ‘Broadband’ I’n cyfnewidfa ffon lleol gyda thaflen wybodaeth. Gallwch gofrestru eich diddordeb ar www.btopenworld.com/votebroadband, neu os ydych yn brysur gallwch yrru’r wybodaeth gan ddefnyddio’r ffurflen ar y we-fan ar http://glyndwr.deevalley.com a bydd eich pleidlais yn cael ei gofrestru I chi gyda BT Broadband. Am fwy o wybodaeth gyrrwch ebost I glyndwr@a5publications.com neu ffoniwch 430667.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Carrog
Dymuna David, Sue ac Ian Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Hapus a Diogel i’w cwsmeriaid
Llun 22ain - Mercher 24ain - 7.30 - 12.30
Iau 25 ain a Gwener 26ain - AR GAU
Sadwrn 27ain a Sul 28ain - 8.30 - 11.30
Llun 29ain - Mercher 31ain - 7.30 - 12.30
Iau 1af Ionawr - AR GAU
Gwener 2il - 7.30 - 12.30
Sadwrn 3ydd - 8.30 - 12.30
Sul 4ydd - 8.30 - 11.30
Llun 5ed - Oriau arferol
Llun - Gwener - 7.30 - 12.30 & 2.00 - 5.00
Sadwrn - 8.30 - 12.30
Sul - 8.30 - 11.30
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Oriau Agor Nadolig
22ain a 23ain o Ragfyr -12.00 y.p -11.00y.h
24ain o Ragfyr - 12.00 y.p - 11.00 y.h
25ain o Ragfyr -11.00y.b - 1.00 y.p (Diodydd yn unig)
26ain a 27ain o Ragfyr -12.00 y.p -11.30y.h
28ain 0 Ragfyr - 12 y.p - 11.00 y.h
29ain o Ragfyr - 12.00 y.p - 11.30 y.h
30ain o Ragfyr - 12.00 y.p - 11.00 y.h
31ain o Ragfyr - 12.00 y.p - 2.00 y.b
1af o Ionawr - 12.00 y.p - 11.30 y.h
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Digwyddiadau’r Nadolig yn “Y Grouse”
Noswyl Nadolig - 7 o’r gloch ymlaen - Carolau ‘sherry’ a mins peis. Sul, 28ain o Ragfyr - 8 o’r gloch ymlaen - Cwis Nadolig gyda gwobrau I bawb.
Mawrth, 30ain o Ragfyr - 8 o’r gloch ymlaen - Noson Rasus Elusen - Elw tuag at Ty Gobaith.
Mercher, 31ain o Ragfyr - “Buffet’
Ysgol Carrog
Cyngerdd Nadolig - Nos Lun 15fed o Ragfyr am 6.00 y.h Gwasanaeth ‘Christingle’ - Dydd Gwener 19eg o Ragfyr am 2.15 y.p
Carolau o Gwmpas y Goeden Yn y Neuadd - Rhagfyr 9fed am 6.30 y.h
Capel Methodist
Parti Nadolig yr Ysgol Sul - Dydd Gwener 12fed o Ragfyr Gwasanaeth - 2.00 y.p - Dydd Sul,14eg o Ragfyr.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’r llun hwn a Gor Eglwys Carrog yn y Festri ond yn anffodus nid oes dyddiad na enwau arno.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yn Eisiau: Person i lanhau’r Neuadd. £80 y Mis. Oriau I siwtio’r ymgeisydd llwyddiannus. Rhif Ffon - 430625
Yn Eisiau: 3 ‘Kayak’ mor - 430397
Ar Werth: Peiriant Fax ‘Muratec F-48. Cyflwr ardderchog, yhghyd a phapur ychwanegol. £25 o.n.o 430259.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article