Mehefin 2005 June
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Gyda’r rhifyn hwn byddwn yn dathlu 21 o rifynnau “Y Bont”. Mewn sgwrs ar gwch ar draws y sianel dechreuodd y syniad, ac efallai erbyn hyn ei bod hi’n bryd ail- werthuso a gofyn “Ble rydyn ni?” a “Ble rydyn ni’n mynd?” a “Beth ydych CHI am ei gael o’r Bont?”
Ychydig iawn o adborth a gawn ni o’r gymuned. Yn gyffredinol, rydyn ni’n deall bod pobl yn mwynhau ac-yn bwysicach-yn darllen pob rhifyn. Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn mwynhau “Byd y Buarth”, ac os bydd Gareth yn colli rhifyn bydd pobl yn gofyn pam.
Ar y dechrau roedd hen luniau’n ennyn diddordeb ond ni ddaeth unrhyw ymateb o gwbl i’r lluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’n ymdrech fawr i gyhoeddi a dosbarthu pob rhifyn gyda phobl yn ysgrifennu erthyglau, anfon ffotograffau, cysodi, golygu a dosbarthu pob rhifyn. Felly mae gwir angen arnom wybod bod ein hymdrechion yn cael eu cyfeirio tuag at y nod iawn.
Yn wreiddiol, y syniad oedd cael taflen newyddion syml ar gyfer Carrog a’r Parc. Ond tyfodd yn fuan iawn i fod yn bapur newydd am fod cymaint o erthyglau ac yn y blaen yn dod oddi wrth bobl. Erbyn hyn mae yma erthyglau hanesyddol, Materion Iechyd, cerddi, eitemau newyddion cyffredinol, ymgyrchoedd a thudalen llythyrau, ar wahân i’r lluniau’r a’r ffermio. At hynny, yn y dechrau, cafodd y rhifynnau eu dosbarthu’n lleol yn unig ac argraffwyd 200 o gopiau ond erbyn hyn rydym yn argraffu 350 o gopïau ac rydym yn dosbarthu i Lyndyfrdwy a Chorwen oherwydd y galw. Anfonwyd nifer o gopiau ledled y byd a hyd yn oed i Ynys Manaw. Ar gyfer y dyfodol, gobeithiwn osod copiau llawn o’r Bont ar y Wefan, diolch i garedigrwydd Graham Hindley.
Gwnaed hyn oll am y nesaf peth i ddim, gyda chymorth costau printio isel iawn A5, ond rydym yn pwyso’n drwm ar noddwyr ac Y Bont Bash i’n cadw ni i fynd. Os fuoch chi’n ein noddi yn y gorffennol byddwch yn derbyn llythyr gofyn yn fuan iawn. Os nad ydych chi wedi’n noddi, ond yn dymuno gwneud, yna byddem yn falch o glywed oddi wrthych.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynhaliwyd cyfarfod o’r pwyllgor ar ddydd Llun 23 Mai, trafodwyd y materion canlynol:
• | Mae mân fandaleiddio’n dal i ddigwydd i’r Neuadd. Crafwyd y drysau sydd newydd eu paentio unwaith eto. Ond penodwyd Swyddog Cymuned Newydd a bydd y rhif cysylltu’n cael ei ddangos er mwyn adrodd ar fandaliaeth a chofnodi’r digwyddiad. |
• | Dechreuir rhaglen waith a fydd yn cynnwys ail-addurno’r tu mewn, trin y ffenest sydd wedi braenu a gosod llenni. Trafodir trefniadau mwy parhaol ar gyfer y siop/swyddfa’r post hefyd. Cytunwyd na ddylid chwarae gemau peli (ac eithrio tennis bwrdd) y tu mewn i’r Neuadd a dylid gwahardd defnyddio Blue Tack. Gosodir hysbysfyrddau iawn ar gyfer arddangos. |
• | Dylai pob sefydliad sy’n defnyddio’r Neuadd ofalu bod cynrychiolydd yn bresennol ymhob cyfarfod, neu fel arall gall materion sy’n effeithio arnynt gael eu trafod heb iddynt gael cyfle i roi eu barn. |
• | Mynegwyd pryder ynghylch yr ystafell snwcer a’r balconi yn ystod digwyddiadau preifat a chytunwyd y dylai’r rhai sy’n hurio’r neuadd gael mynediad i’r cyfleusterau sydd ar y llawr isaf yn unig. |
• | Digwyddiadau i ddod - 17 Medi - Y Bont Bash. 12 Tachwedd – Noson y pedwardegau i ddathlu 60 ed pen-blwydd diwedd Rhyfel Byd II. |
• | Codi arian at yr Urdd - Bydd Brynle Hughes yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i godi pres ar gyfer Eisteddfod yr Urdd ac yn ystod y cyfnod hwn ni fydd unrhyw ddigwyddiadau codi arian ar gyfer y Neuadd. |
• | Mae’r Neuadd erbyn hyn mewn sefyllfa ariannol gadarnach, oherwydd Loteri’r Neuadd i rannau helaeth. Mae’r aelodaeth erbyn hyn yn 35, ond mae angen mwy o aelodau arnom. Os ydych chi’n aelod, anogwch aelodau eraill i ymuno. Os nad ydych chi’n aelod, ymunwch â ni. |
Cewch gopiau o gofnodion y cyfarfod oddi wrth Mrs Janice Sheasby, yr Ysgrifennydd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Eisteddfod Ryngwladol - Ymwelwyr o Ynys Manaw - angen llety
Bydd y parti dawnsio Ynys Manaw cyntaf erioed i gystadlu yn Eisteddfod Llangollen yn aros yng Ngharrog yn ystod eu hymweliad. Dyma’r parti arosodd yma’r llynedd gan ein difyrru ni mor dda. Bydd rhai o aelodau’r parti’n cyrraedd ar ddydd Iau 7fed Gorffennaf a’r lleill ar ddydd Gwener 8 fed gan aros tan ddydd Sul 10fed Gorffennaf. Rydym wedi gwneud trefniadau i rai pobl aros yn y Neuadd, ond byddai’n gymorth mawr petai pobl y gymuned yn gallu rhoi llety i rai aelodau’r parti yn eu tai. Yr Eisteddfod fydd yn talu am wely a brecwast yn uniongyrchol i’r “gwesteiwyr”. Os allwch chi gynnig cymorth gyda llety o’r fath, gofynnir ichi gysylltu ag unrhyw un o’r golygyddion.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Newyddion diweddaraf St. Davids
Sylwch y cynhelir cyfarfod cyhoeddus am 7.00 pm ddydd Gwener 17 Mehefin am 7.00 pm yn y Neuadd.
Gwrthododd Archwilwyr Safonau Gofal Cymru y cais oddi wrth Yr Athro David Jones am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ynghylch y cais gan St Davids am statws ysbyty. Rhoddwyd manylion ynghylch pam y gwrthodwyd y cais yn ddiweddarach mewn llythyr. Y rheswm yn sylfaenol oedd na fyddai rhyddhau gwybodaeth o les cyhoeddus i’r cwmni, sef Mental Health Care Uk Ltd. Cyflwynir apêl gerbron yr Ombwdsman.
Y broblem fu, ac sy’n parhau, yw bod diffyg llwyr o ran cyfathrebu gyda Mental Health Care UK na fynychodd y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf ac sy’n annhebygol o fynychu hwn. Pan ymddengys bod y fath ddiystyrwch yn bodoli ynghylch pryderon y cymunedau o gwmpas a’r diffyg gwybodaeth llwyr, yna nid oes unrhyw syndod mai gwrthwynebu yw’r ymateb cyffredin.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Erbyn hyn dewiswyd y rhoddwr mwyaf addas o’r tri ar gyfer Anna a aeth i Alder Hey ddydd Llun ble cafodd dyddiad arfaethedig ar gyfer y trawsblannu ar ddiwedd Mehefin. Bydd Anna yn cael pythefnos o driniaeth Chemotherapi ac yna trawsblaniad mêr yr esgyrn, a nifer o wythnos wedi’i harwahanu oherwydd perygl heintiau.
Oherwydd y pryder cyhoeddus a ddeilliodd yn sgîl gwaeledd Anna bu nifer cynyddol o bobl yn gwneud cais am fod yn rhoddwyr mêr esgyrn, ac mae Ymddiriedolaeth Anthony Nolan a Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed Cymru wedi gweld cynnydd. Yn arferol, 200 o geisiadau y mis bydd y Gwasanaeth Trallwyso’n eu derbyn, a chododd y nifer hwn i 1000 ym mis Mawrth yn unig.
Gall unrhyw un sy’n dymuno bod yn rhoddwr gysylltu ag Ymddiriedolaeth Anthony Nolan drwy ffonio 09018 822234.
Mae Anna yn dal yn fywiog ac yn weddol dda ar hyn o bryd. Hoffa ei rhieni, Eddie a Siân, ddiolch i bawb am yr holl anrhegion, cardiau a dymuniadau da a lifodd i mewn. Daeth llawer o’r rhain oddi wrth bobl hollol ddieithr ledled Ynysoedd Prydain. Gwyddom bydd yr holl gymuned yn dymuno’r gorau i Anna.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Oherwydd fandaliaeth ac am mai ychydig o ddefnyddio sydd iddo, rhoddodd British Telecom rybudd bod y blwch ffonio’n mynd i gael ei dynnu. Os oes unrhyw un yn gwrthwynebu iddo gael ei dynnu, yna dylent anfon y gwrthwynebiadau yn ysgrifenedig at y Cyngor Cymunedol gynted ag y bo modd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cerddodd 20 o drigolion lleol o Lidiart y Parc i Foel Fferna ac ymlaen i Lanarmon am ginio i ddathlu Gwyl Banc mis Mai. Roedd y daith yn gyfle i rai newydd i’r ardal ymweld â rhai o fryniau harddaf Cymru a’u gwerthfawrogi - Mynyddoedd y Berwyn, sydd ar garreg ein drws.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Erbyn hyn mae’r apél, a gaeodd ar ddiwedd mis Ebrill, yn sefyll yn £750. Rhoddir y pres hwn i Jean Mosley, therapydd galwedigaethol yn Ysbyty Bronllys. Yn rhinwedd ei swydd bydd hi a chydweithiwr iddi yn ymweld â Sri Lanka yr haf yma a bydd yn rhoi’r arian yn nwylo elusen gofrestredig sydd wrthi’n ailadeiladu ysgolion. Bydd yn dod â ffotograffau a manylion y cynllun yn ôl gyda hi.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Joe Culshaw a etholwyd yn Beldroediwr Y Flwyddyn dan 12 oed gan Dîm Ieuenctid Tref Rhuthun.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Daeth Kate Poyner, o’r Comisiwn Coedwigaeth, i ymweld â’r ysgol a rhoi sgwrs ddiddorol dros ben am goed i ddisgyblion CA2. Roedden nhw’n dysgu sut i adnabod coed gwahanol ac yn chwarae gêm oedd yn ymwneud â beth oedd ei angen ar goeden iddi allu tyfu. Cerddodd yr holl blant filltir Carrog ar ddydd Gwener Mai 20 fed a chodi £33. Gwagwyd y poteli llefrith gan gyfrif £33 ychwanegol, gan wneud cyfanswm o £66 ar gyfer Cronfa Tsunmai. Llwyddodd Alice Gonzales, Sioned Roberts ac Eleanor Sansom yn eu harholiad Graddfa 1 Chwythbrennau gyda theilyngdod. Roeddent yn cyd-chwarae yn y Band chwythbrennau gydag Amber Boydell a Cody Jones yn agoriad Gwyl Glyndwr yng Nghorwen. Bu’r holl blant cynradd yn mwynhau sioe bypedau am Sigeric yn yr Oriel yng Nghorwen. Cafodd y plant gyfle i holi Heather Burley, y trefnydd, am y sioe ac i drin y pypedau ffyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gan fod y mwyafrif o fy ngweithwyr wedi ymddeol ac yn mwynhau pensiwn o 365 bowlen o Pero y flwyddyn, penderfynais innau ei bod yn hen bryd imi ddod â gwaed newydd i’r busnes, ac felly i ffwrdd â fi i brynu ci bychan. Am wythnosau cyntaf ei fywyd o dan ei reolwr newydd Siôn oedd ei enw. Ond gan fod neb (gan gynnwys y ci bach ei hun) yn rhyw hoff o’r enw, dyma fi’n rhoi enw newydd arno - Henson-. Yr unig benbleth ydy, mae Siôn/Henson wedi drysu’n lân ac yn dioddef o ryw argyfwng hunaniaeth cwn.
Erbyn hyn, mae’ r tymor wyna wedi dod i ben, fwy neu lai, gydag ychydig yn unig o’r merched ar ôl. Mae gen i ryw deimlad ei bod nhw wedi deall po hiraf fydda nhw’n feichiog yna po fwyaf o fwyd y cân nhw, felly does dim brys o gwbl gyda’r gwaith. Yn anffodus iddyn nhw, pan fydd y bwyd yn gorffen fydda i ddim yn prynu mwy felly bydd rhaid iddyn nhw ddioddef bwyta’r glaswellt.
Gan fod Arwel Bach wedi’i fwcio i deilio roeddwn ni’n meddwl byddai’n syniad reit da i roi’r fforch deilio ar y lodar. Roeddwn i wedi treulio rhyw awr yn trio sythu’r dannedd oedd wedi plygu ac wedi prynu rhai newydd yn lle’r rhai oedd wedi plygu gormod, felly gyda’r holl ddannedd ar y lodar roeddwn i’n hollol ffyddiog byddai popeth yn gweithio’n wych.
Ar y diwrnod, daeth yn amlwg yn o fuan y byddai’n well imi ddysgu gyrru yn lle treulio’r amser yn trwsio’r dannedd. Gall unrhyw ffwl lwytho sbredar, dydy o ddim yn beth dyrys iawn, ond imi mae’n amhosibl. Nifer o weithiau roeddwn i wedi llwyddo gyrru’r tractor yn syth at y sbredar a bob rhyw ddau neu dri llwyth roeddwn i’n llwyddo methu’r sbredar yn gyfan gwbl a gollwng y tail ar y buarth. Dyma fi’n digwydd taro golwg ar Arwel- roedd yntau yn ei ddyblau. Dydw i ddim yn hollol sicr ai dagrau crio, chwerthin, neu anobaith oedd ganddo. Ond ar ôl dal ati am ychydig o ddyddiau roedd y jobyn wedi’i orffen.
Ac eithrio dwy, mae pob un o’r gwartheg wedi dod â llo ac wedi mynd allan i fwynhau’r haf. Mae’n dda gen i ddweud nad oedd angen fy noniau fel bydwraig eleni.
Gan nad oedd unrhyw arwydd o’r pasbort newydd i’r lloi yn y post dyma fi’n penderfynu ffonio Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain yn Workington i weld ble roedden nhw. Yn union pan atebodd y ffôn dyma fi’n adnabod y llais ar unwaith - llais Aled Jones. A dyma ni’n cael sgwrs am ryw ddeg munud a minnau’n rhoi’r newyddion lleol iddo. Dim ond ar ôl dweud “ta ra' gofiais i mod i heb ofyn am y pasborts!
Tyfu’n araf wnaeth y glaswellt oherwydd y tywydd oer eleni. Ond dydy hynny ddim fel petai’n effeithio ar yr ysgall a’r dail poethion a’r dail tafol, maen nhw’n ffynnu yn y Llan. Waeth faint fydda i’n chwistrellu’r caeau, dydyn nhw byth yn lân. Felly bydd unrhyw un sy’n cludo’r gwair eleni’n gorfod buddsoddi mewn pâr o fenig da.
Mae gen i deimlad bod y pwerau sy’n bodoli wedi cael fy enw i ynghlwm yn y cyfrifiadur ac yn methu’i ddileu. Yn ystod y chwe mis olaf daeth DEFRA i archwilio’r tagiau gwartheg a’r pasborts, Safonau Marchnata’n archwilio Cofnodion Symud yr anifeiliaid, Asiantaeth yr Amgylchedd yn ffansio diwrnod allan o’r swyddfa’n i edrych ar y dip defaid a’r cyfleusterau gwaredu dip, ac ar ben y cyfan i gyd daeth y fet o’r cynllun yswiriant ffermydd i archwilio popeth oedd heb gael ei archwilio. Gan fod popeth fel y dylai fod dwi’n gobeithio na wela i neb am amser hir eto.
Ar ddydd Sadwrn, Mawrth 19 digwyddodd rhywbeth rhyfeddol – Cymru’n ennill y Gamp Fawr a minnau’n gosod dau ddrws sleidio ar y sied i orffen y gwaith o’r diwedd. Roeddwn yn ystyried torri potel o siampaen yn erbyn y sied i’w hagor yn swyddogol, ond meddwl hwyrach byddai hynny’n niweidio’r paent.
Gareth Llan
© Gareth Bryan - 2004
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynllun Gweithredu Twristiaeth
Mae Jeremy Knibbs, Cydlynydd Gweithredu Gwledig Sir Ddinbych, wedi comisiynu Cynllun Gweithredu Twristiaeth ar gyfer Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy, ac yn amlwg mae hynny’n ein cynnwys ni!
Y nod yw cynhyrchu cynllun i hyrwyddo ac i farchnata treftadaeth Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy. Dylai hyn ddenu beth a elwir yn “Ymwelwyr mwy chwaethus o’r DU a thu hwnt!” Gan ein bod yng nghanol yr hyn gafodd ei farchnata rai blynyddoedd yn ôl yn ‘Gwlad Glyndwr’ rydym yn sicr y bydd atyniadau naturiol a threftadaeth gyfoethog yr ardal hon yn ffurfio rhan bwysig o unrhyw gynllun o’r fath. Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori eisoes rhwng Partneriaeth Corwen (sy’n ein cynnwys ni) a Parkin Heritage &Tourism, a fydd yn cynhyrchu’r cynllun. Gall unrhyw un sy’n dymuno cael mwy o wybodaeth neu gyfrannu at yr astudiaeth gysylltu â Jeremy ar 01978 861785.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bu aelodau’r ddau dîm yn gwella’u ffitrwydd yn raddol ar gyfer yr her hon a fydd yn digwydd ymhen ychydig o ddiwrnodiau. Gwnaed teithiau archwilio i’’r tri mynydd, ac mae’r amser a gymerwyd i ddringo a hyd yn oed y llwybrau a ddefnyddiwyd yn gyfrinach glos. Pan fydd y timoedd yn cychwyn o droed yr Wyddfa ar ddydd Gwener 10 Mehefin byddant yn ceisio curo neu gadw at yr un amser a osodwyd yn 2000 gan yr hen lawiau hynny a lwyddodd i orffen yr her o fewn 22 awr a 13 munud,sef amser oedd yn gyfforddus o fewn y targed o 24 awr. Bydd y timoedd yn talu am eu hunain, ond, yn ysbryd Her 2000, maent yn ceisio am noddwyr ar gyfer eu helusen a enwebwyd - Ty Gobaith. Gellir cyfrannu unrhyw roddion at yr achos hwn i unrhyw aelod y tîm.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llongyfarchiadau ar Eich Priodas
I David a Renate, Y Felin, a fydd yn priodi yn Rhuthun ar ddydd Gwener 10 fed Mehefin. Nid oes unrhyw sail i’r sibrydion y dewiswyd y dyddiad hwn am fod aelodau mwyaf afreolus y gymuned yn brysur yn cyflawni Her y Tri Chopa ar y diwrnod.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae croeso mawr i unryw un ohonoch ymuno mewn pwyllgor apel a fydd yn trefnu a chynnal gweithgareddau i gasglu arian tuag at Eisteddfod yr Urddd a fydd yn cael ei gynnal yn Rhuthun yn 2006. Fydd y pwyllgor nesaf yn cael ei gynnal nos Fawrth Mehefin 7fed am 7:30 yn neuadd bentrof Carrog, neu ffoniwch 10490 430324 am fwy o fanylion.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.