statcounter

       

Medi 2005 September


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol * Efeillio Plouyé Marwolaethau
St David Llongyfarchiadau * “Y Bont” Bash
Cofeb y Rhyfel Loteri Neuadd Gwefan “Y Bont”
* Cystadleuaeth Llun Ffair Haf Ysgol Carrog
Dyddiadur   Letters

THIS MONTHS EDITION IS SPONSORED BY A. W. DOLBEN - PARC SERVICE STATION

GOLYGYDDOL

Gan fod yn Haf yn adeg prysur mae’n eitha’ tebyg mai un rhifyn fydd Gorffennaf/Awst yn y dyfodol ond rydym yn gobeithio fod pethau wedi dod yn ol I’r arfer erbyn hyn.

Mae Graham Hindley wedi bod yn gweithio’n galed iawn ar wefan “Y Bont” a gwelir erthygl ar ei waith yn y rhifyn hwn. Rydym wedi derbyn nifer o awgrymiadau ynglyn a sut I ddefnyddio’r wefan a sut y bydd o fudd I’r gymdeithas, felly darllenwch yr erthygl a byddwn yn croesawu unrhyw awgrymiadau newydd.

Hoffai’r golygyddion atgoffa pawb mai papur rhad ac am ddim yw’r Bont, ac yn gyntaf, I gadw’I fynd mae angen eich cefnogaeth yn y ‘Bash’ ar y 17eg o Fis Medi, ac yn ail, nid oes gennym amser I ddod o hyd I storiau ac erthyglau felly os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ei weld mewn print gwnewch yn siwr eich bod yn ei roi I’r golygyddin. Gan fod pawb mor brysur mae’n anodd cofio pethau sydd wedi ei basio ’mlaen ar lafar felly rhowch alwad ffon neu ei ‘sgrifennu os gwelwch yn dda.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* YMWELIAD EFEILLIO CARROG A PLOUYÉ

Erbyn hyn mae yna ‘Garrog’ yn Llydaw - “Place de Carrog” I fod yn fanwl a agorwyd ar y penwythnos olaf ym Mis Awst. Fe aeth 17 ohonom I Plouyé lle’r oedd ein gwesteion wedi creu darn bach ynghanol y pentre’ gyda maen o lechen Cymreig I goffau’r digwyddiad. Ceir mwy o hanes y daith yn y rhifyn nesa’.

Mae ein darlun yn dangos - o’r chwith I’r dde - Ian Lebbon - trefnwr yr ymweliad, Rhys Webb a gyflwynodd y ‘plaque’ ar ran Carrog, Marcel Le Guern - Maer Plouyé a Marc Parayre - Cadeirydd y Pwyllgor Efeillio.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

MARWOLAETHAU

Gyda thristwch rydym yn adrodd marwolaeth dau o fobllleol a anwyd yng Ngharrog.

Grenville Teague a fn farw ar yr 2il o Awst yn 77 mlwydd oed.Un a fuin weithgar ac yn dryw ir pentref.

Doris Jones a fu farw ar y 30 ain o Orffennaf yn 69,un arall a oedd yn weithgar yn y gymuned.

Bydd colled ar al y ddau gan eu teuluoedd a’r gymuned.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ST DAVID

O’r 22ain o Fis Awst 2005 bydd ‘Health Care Inspectorate for Wales’ yn gyfrifol am arolygu ysbytai preifat yn hytrach na ‘Care Standards Inspectorate’. Bydd ein Cynghorydd Cymdeithasol yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’n pryderon.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LLONGYFARCHIADAU

Mae papurau cenedlaethol yn dadlau a yw arholiadau wedi mynd yn haws dros y blynyddoedd - nid dyma ein barn ni ! Mae’r Bont yn estyn llongyfarchiadau mawr I’r bobl ifanc yn ein cymdeithas sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn arholiadau Ysgol neu Goleg a sydd yn barod I ymestyn eu haddysg ymhellach neu gychwyn ar waith newydd. Dylem fod yn browd iawn o’u hymdrechion ac yn dymuno’n dda iddynt yn y dyfodol.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

“Y BONT” BASH - Medi 17eg

Beth am noson allan yn y penrte’ gyda ffrindiau cyn I’r Hydref gyrraedd? I godi ychydig mwy o arian bydd ‘Tonic’ yn ein diddanu yn ogystal a lluniaeth a bar. Byddwn hefyd yn cyflwyno arian sialens y ‘Three Peaks’ I ‘Dy Gobaith’. Dewch I gefnogi eich papur lleol ar Fedi’r 17eg.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

COFEB Y RHYFEL

Mae trefniadau wedi eu gwneud I atgyweirio’r gofeb. Mae’r contractwr yn ymddiheuro na fydd y gwaith yn cael ei wneud tan 2006.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

NEUADD LOTTERY

July Winners

1st Prize - £20 - Mrs. R. D. Jones
2md Prize - £10 - Mrs. R. Tinniswood

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

GWEFAN “Y BONT”

Ymwelwch ar wefan ar www.ybont.co.uk

Mae’r wefan yn dod ymlaen yn araf. Rydym wedi bod eisiau rhoi gwybodaeth, lluniau, hysbysebion y.b ar wefan ers amser ac rydym wedi llwyddo gan ddefnyddio ffeil megis HTML. Mae’n cymryd tua 5 munud I brintio ffeil PDF os nad oes ‘Broadband’ gennych felly rydym am ddefnyddio HTML hefyd. Gallwch ddarllen neu brintio erthyglau yn gynt.

Mae cryn dipyn o waith yn mynd I mewn I greu ‘menu’ a ‘map safle’ bob tro mae rhifyn yn cael ei osod ar y wefan. Hyd yn hyn gellir gweld Rhifynau 1-12 (Hydref 2003 - Medi 2004) a rhifynau 21 a 22 ( Mehefin 2005 a Gorffennaf/Awst 2005).

Ar hyn o bryd mae’r wefan yn cael ei defnyddio ar gyfer “Y Bont” ond mae wedi ei awgrymu y gellir ei ddefnyddio I hyrwyddo’r pentref, y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma. Byddai hyn yn ei wneud yn safle ‘byw’ ac o fudd I’r gymuned.

Syniad arall yw I greu cyswllt rhwng safleoedd eraill yn y pentref, felly os oes gennych safle a bod diddordeb gennych cysylltwch a ni.

Mae hefyd wedi cael ei awgrymu fod “Y Bont” yn rhoi lle ar eu safle, am gost bychan, I’r rhai nad oes ganddynt wefan eu hunain, neu sydd am symleiddio eu trefniant presennol. Os oes gennych awgrymiadau ynglyn ar wefan cysylltwch a Ian Lebbon, Colin Roberts neu Paul Fisher. Neu’n uniongyrchol at wr y wefan ei hun sef Graham Hindley.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* CYSTADLEUAETH LLUN

Ennillwyd y gystadleuaeth gan Valmai Webb - hi oedd y cyntaf I enwi’r rhai yn y llun. O’r chwith I’r dde: David Nelson Jones - Tan Llan, Bob Bryan - Llan Farm, Idris Williams - Carrog Isa, Grenville Teague, Maes y Waen a Trevor (Esso) Jones, Dolwar. Anrhegwyd y wobr o £5 I’r Bont gan Mrs Webb.

Dyma’r Ysgol Sul yn 1982. Ydych hci’n adnabod y bobl yn yn llun? Dyma gliwiau -

Mae’r ddwy eneth ar y chwith yn chwiorydd. Priododd un y llynedd a’r llall eleni. Mae’r eneth fach nesaf ar y chwith wedi gwneud ei rhieni yn Nain a Thaid unwaith eto. Mae gan y bachgen bach del yn y llun broblem y dyddiau hyn ynglyn a faint o amser mae’n gymryd I ddringo mynydd ac mae ei chwaer ar y chwith iddo.. Mae’r ddwy eneth arall wedi gadael y pentref. Yr athrawes yw Mrs Scott.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

FFAIR HAF

Fe godwyd £549.65 yn y Ffair Haf. Rhannwyd £950 rhwng y pentref:

Neuadd - £250
“Y Bont” - £200
Dros 60 - £100
Eglwys - £100
Capel Bedyddwyr - £50
Clwb Ieuenctid - £50
Clwb Snwcer - £50
Eisteddfod - £50

Hoffai pwyllgor y Ffair Haf ddiolch I bawb am eu cymorth.

Dyma flwyddyn olaf Nia ar y Pwyllgor ac rydym yn estyn diolch iddi am ei gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r Fair/Carnifal wedi bod yn werthfawr I godi arian I’r pentref.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

YSGOL CARROG

Mae’r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac wedi’u ar gyfer pwy bynnag y cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi ei dderbyn drwy gamgymeriad yna gadewch i’r rheolwr systemau wybod drwy ddefnyddio’r manylion isod.

Mae cynnwys yr e-bost hwn yn cynrychioli barn y sawl a enwir uchod, felly nid ydyw’n dilyn ei fod yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

DYDDIADUR

ARDDANGOS BLODAU - Iau 22ain o Fedi - 7 o’r gloch yn y Neuadd - Tocynnau - £4. Elw tuag at eglwys Carrog.

“Y BONT” BASH -Sadwrn 17eg o Fedi am 8 o’r gloch yn y Neuadd. Tocynnau - £4.

SWPER DIOLCHGARWCH - Sadwrn Medi 24ain am 7.30 o’r gloch Cerddoriaeth a chanu gyda ‘Triglwm’ - Tocynnau - £8 tuag at yr Eisteddfod.

DIGWYDDIADAU YN Y DYFODOL

Bore Llun - 9.15 - 11.00 - Cylch Ti a Fi yn y Neuadd (Mother & Toddler).

Bore Mawrth a Iau - Swyddfa Bost 9 - 12 o’r gloch.

Bob yn ail Ddydd Iau o’r 8fed o Fedi 2 - 4 o’r gloch - Clwb dros 60.

Nos Iau - 19 - 21 o’r gloch - Tai Chi.

Nos Wener - 4 - 6 o’r gloch - Dosbarth Dawns - Balet, Tap a Disco.

Nos Wener - 7 - 9 o’r gloch - Clwb Ieuenctid.

Mercher 12fed o Hydref - 7 - 9 o’r gloch - Merched y Wawr Corwen.

Mawrth 25 Hydref - 7.30 - 9.30 - Cymdeithas Hanesyddol Edeyrnion.

Mercher 26ain o Hydref - Capel Bedyddwyr (cysylltwch a Lil Powell).

Llun Tachwedd 7fed - 7-9 o’r gloch - Pwyllgor y Neuadd.

Sadwrn 12fed o Dachwedd - Noson 1940au.

Nos Lun - 14 o Dachwedd - Darlith Blas ar Fyw Corwen.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LLYTHYRAU

Dear Editor,

We want to say a big ‘thank-you’ to everyone in Carrog for making us feel so welcome.

This is such a special place and we are very happy to be here. Does the novelty ever wear off?

We fear we may soon gain a reputation as ‘weirdos’ as we are forever standing in night attire at ridiculous hours taking in the stunning views, heron sptting, etc.

Kind regards to all.

Mike and Sue Lawley.
Bryn Afon.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.