statcounter

       

Mawrth 2004 March

This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Gwerthiant Tir Yr Eglwys Hen Garrog
Ysgol Carrog Croeso Weli’s a Berfa
Neuadd Cymdeithas Hanesdyddol Edeyrnion Efeillio / Plouyé
Clwb Sadwrn Canolfan Iechyd Snwcer
Rysait Mis Mawrth   Swyddfa’r Post

Golygyddol

Rydym wedi llwyddo i gael ein noddi ar gyfer y rhifyn hwn, a’r ‘ddau rifyn nesa’. Rydym wedi gwneud cais am grant iaith Gymraeg a fydd yn sicrhau ein dyfodol tymor hir, felly croeswch eich bysedd. Rydym erbyn hyn ar y we - www.ybontdeevalley.com diolch i Aled Brown sydd wedi dylunio’r safle yn rhad ac am ddim. Does dim llythyrau y Mis hwn sydd braidd yn siomedig. Efallai y bydd ein erthygl pennaf am werthiant tir yr Eglwys gan yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer adeiladu tai yn codi cwestiynnau. Mae tai rhad o fewn cyrraedd ariannol pobl ifanc yng Ngharrog a Llidiart y Parc yn dal i fod yn broblem. Dim ond ar y gwerthiant cyntaf y mae tai cychwynol yn rhad, mae’r farchnad yn golygu fod prisiau yn codi wrth iddynt gael eu gwerthu sydd yn eu gwneud yn rhy ddrud i’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Nid yw’r farchnad yn anelu’n uniongyrchol at bobol lleol ychwaith, sydd codi’r broblem o ymfudwyr sydd efallai a dim gwybodaeth neu gydymdeimlad a’r ardal a’i diwylliant, a dim diddordeb mewn ymuno a bywyd pentref. Mae adroddiad o’r cyfarfod cyhoeddus wedi ei gyhoeddi isod.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Gwerthiant Tir Yr Eglwys

Ar yr 22ain o Chwefror, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod gwerthiant Tir yr Eglwys, yn ymyl y ‘Smithy’ gan yr Eglwys yng Nghymru. Gwahoddwyd Eglwys Carrog i wneud sylwadau er nad ydynt yn elwa o gwbl. Mae’r canlynol wedi cael ei argymell i’r P.C.C:

Yn gyntaf - dim gwerthiant o’r tir ac iddo aros fel tir amaethyddol. Yn ail - os yw’r tir yn cael ei werthu, iddo gael ei ddefnyddio ar gyfer adloniant. Ac yn drydydd - Os yw’r tir yn cael ei werthu ar gyfer adeiladu, iddo gael amodau a chyfamod i sicrhau fod yr adeiladu o fudd i’r pentref:

1. Dylai Cymdeithas Adeiladu fod yn gyfrifol am y gwaith. 2. Ni ddylid adeiladu yn union wrth ochr y ‘Smithy’ gan fod hwn yn adeilad hanesyddol a fod perygl o lifogydd.

3. Dylai Pwyllgor yr Eglwys wneud yn glir fod perygl o lifogydd yma ac fod yr Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynnig nad yw’r tir yn addas ar gyfer adeiladu.

4. Dylai tai newydd fod yn rhad a dim ond ar werth i bobl sydd wedi byw yng Ngharrog neu Llidiart y Parc am o leiaf 10 mlynedd.

5. Dylid gwneud yn glir i’r Eglwys yng Nghymru fod tir mwy addas ar gael yng Ngharrog ar gyfer adeiladu.

6. Dylai arddull y tai fod yn gydymdeimladol a’r pentref.

Mae Pwyllgor y Neuadd wedi pasio’r sylwadau hyn i’r Eglwys yng Nghymru.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Hen Garrog

Wrth i ni barhau a’n cyfres o’r traethawd a ysgrifennwyd yn y 1950au y pwnc y Mis hwn yw Cymeriadau Lleol : Dyn y foment ar ddechrau’r ganrif oedd Mr Edward Jones, Siop y Parc. Fe weithiodd yn galed er budd y pentrefwyr, yn eu hannog i cynilo. Annogodd weithwyr y chwarel i gadw dau fochyn - byddai Mr Edwards wedyn yn rhoi blawd yn rhad ac am ddim iddynt i fwydo’r moch ac yn yr Hydref byddai’n prynnu mochyn am chwe cheiniog. Byddai’r chwarelwyr yn cadw un mochyn. Byddai hefyd yn eu hannog iddynt dyfu tatws mewn cae un o’r ffermwyr lleol am 6 hen geiniog am 20 llath. Cymeriad arall oedd Amos Williams - bu Mr Williams yn cadw tafarn, yn gwerthu glo ac yn bysgotwr o fri. Byddai’n gwneud ei ‘flies’ ei hun ac yn boblogaidd iawn gyda’r pysgotwyr a fu’n dod o Ganolbarth Lloegr i aros gyda theuluoedd yn y pentre’. Roedd gwraig Amos, sef Mary Williams yn adnabyddus am ei sgiliau ym myd meddyginiaeth. Roedd yn enwog am ei phlanhigion a’i llysiau. Roedd bechgyn y pentref yn mwynhau pysgota a byddai Amos yn gwerthu bachau iddynt - tri bachyn am geiniog ar gyfer llysywen ac un bachyn am geiniog ar gyfer brithyll. Byddai Mary yn rhoi ceinog neu ddwy i’r bechgyn am lysywen, yn ol ei maint, a byddai’n gwneud olew gyda hwy i wella pigyn clust. Dywed hefyd fod y lysywen yn cael ei chroeni a’i rhannu i wneud carau. Chwaraeodd teulu Rhaggat neu y “Lloyds” ran bwysig ym mywyd y pentre’ yn y gorffennol. Roeddent yn hael iawn gyda thrigolion y plwyf. Yn ol yr hanes roedd yn rhaid iddynt adael Rhaggat am dair blynedd gan eu bod wedi gwario gormod (a rhentu’r ty) Llongyfarchiadau i’r rhai a sylweddolodd fod awdur y traethawd wedianghofio rhestru’r “Swan” ynghyd a’r tafarnau eraill.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ysgol Carrog

Cynhaliwyd ‘The Big Hush’ ar Ddydd Gwener 13eg o Chwefror i godi arian tuag at nyrsus MacMillan. Trefnodd Blwyddyn 6 gemau a chystadleuathau ac fe godwyd £87. Gwisgodd y plant ddillad rywun arall. Bu Cyfnod Allweddol 2 yn Dinas Bran i redeg ras Traws Gwlad yn erbyn ysgolion eraill yn yr ardal ar Ddydd Mercher 25ain o Chwefror. Da iawn i’r disgyblion i gyd am gwblhau’r ras. Cafodd y plant berfformiad o ‘Spinning a Yarn’ gan gwmni ‘Ramshackle Theatre’ y bore hwnnw, ac fe fwynhaodd y plant y perfformiad yn fawr iawn. Mae Clwb yr Urdd yn brysur yn cwblhau eitemau Celf a Chrefft ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yn Dinas Bran ar y 6ed o Fawrth. Roedd yn bleser gweld cynddisgyblion o Ysgol Carrog mewn perfformiad o ‘Alice’ gan y ‘Young Uns’. Roedd Charlotte Davies yn wych fel ‘Alice’ a cafwyd berfformiad bendigedig gan, Kath, Heather, Gemma, Lydia a Lliy yn y cast.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Croeso’n ol i Garrog i Sarah Nash (neé Edwards) a’i theulu a llongyfarchiadau ar enedigaeth merch fach, Mia Isabella a anwyd ar 24ain o Chwefror (8 pwys 1 owns).

Llongyfarchiadau i Tina Lloyd ar enill ei N.V.Q Lefel 3.

Llongyfarchiadau i Ike Dolben ar gyrraedd ei bedwar ugain y Mis diwethaf, a dathlu gyda grwp o ffrindiau a theulu.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Weli’s a Berfa

Oherwydd pwysau wyna, a’r ffaith ei fid wedi colli ei offer pen tywydd anffafriol, mae colofn ein gohebydd materion gwledig wedi ei ohurio tan y mis nesaf.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Neuadd

Mae’r Neuadd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o grwpiau lleol, ac mae gan bob grwp berson sy’n gyfrifol am allwedd. Mae’r defnydd o’r Neuadd yn rhad ac am ddim ond byddwn yn croesawu cyfraniadau ariannol! Os ydych am logi’’r Neuadd fel unigolyn neu fel grwp neu gymdeithas gallwch gysylltu a Mrs Janice Sheasby, “Y Cottage” - Ysgrifennyddes Llogi - ar 01490 430644 neu e.bost - neuaddcarrog@hotmail.com. Yn anffodus mi fydd yn rhaid gofyn am dal o flaen llaw gan i ni gael digwyddiad yn ddiweddar lle ffaelodd rhywun dalu am logi’r Neuadd ar gyfer priodas. Mae gan y Neuadd gostau rheolaidd e.e Gwres Canolog - £600 y flwyddyn yn ogystal ac arolwg trydanol er mwyn i ni geal cadw ein trwydded adloniant - £500. I’n helpu gyda hyn rydym yn ail ddechrau’r Clwb 100. Cysylltwch a Dave Jones am fwy o fanylion am sut i danysgrifo - bydd y rhifau cyntaf yn cael eu tynnu ar Ddydd Sadwrn, Mai 15fed. Mae’r cynllun Cymorth Rhodd yn barod, a gall unrhyw un sydd a diddordeb gysylltu a Paul Fisher ar 430379.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Cymdeithas Hanesyddol Edeyrnion

Cafwyd darlith ddiddorol dros ben ar Chwarel Pennarth gan Mrs Valmai Webbyn y cyfarfod diwethaf. Bu Pennarth yn chwarae rol bwysig yn Hanes Carrog ac yn cynhyrchu o 1850 hyd at 1930. Bu nifer o berchnogion, a rhai o’r teuluoedd yn dal yn bodoli yn yr ardal hyd heddiw. Roedd lawer o’r gweithwyr yn aros yn y pentref ac roedd tua 200 o weithwyr yn gweithio yno. Daeth 70+ o fobl i wrando ar y ddarlith, sy’n adlewyrchu diddordeb mewn hanes lleol.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Efeillio / Plouyé

Cafwyd cyfarfod efeillio llwyddiannus ar y 9fed o Chwefror i drafod yr ymweliad swyddogol cyntaf o Plouye, Llydaw rhwng Mai 13eg - 17eg. Dylai fod tua 12 o gynrychiolwyr yn y parti ac fe fydd angen llety arnynt gan bobol yn y pentref. Mae’r pwyllgor yn trefnu rhaglen o adloniant a ddylai roi blas o Garrog/Parc ac ardal leol. Bydd adloniant i’r holl bentref ar Ddydd Sadwrn Mai 15fed gyda “Hog Roast” - Tocynnau - £5.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Clwb Sadwrn

Bydd Clwb Sadwrn ar gael i blant ifanc y pentref hyd at 14 oed, diolch i grant a gafwyd gan y Loteri Cenedlaethol. Bydd y Clwb yn cychwyn ar y 6ed o Fawrth yn y Neuadd gyda nifer o weithgareddau yn cynnwys dawns, gemau, crefft, y.b Mwy o fanylion ar bosteri o gwmpas y pentref - neu ffoniwch 430571.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Canolfan Iechyd

Corwen Edrychwch Ar Ol CalonA ydych mewn penbleth ynglyn a braster da a braster drwg? Ydy eichcolesterol yn rhy uchel? Mae 20% o’r coleserol yn ein gwaed yn dod o’r hynyr ydym yn ei fwyta, ac yn cael ei wneud o “lipid” dwysedd isel (LDL) sy’n tagu’r rhedweli - BRASDER DRWG - a “lipids” dwysedd uchel(HDL) -BRASDER DA - sy’n cario’r LDL yn ol i’r iau i gael ei wastraffu ac felly i lanhau’r rhedweli. Mae braster anifeiliaid sy’n cael ei ddarganfod mewn cig achynyrch llaethdy yn cynnwys lefel uchel o LDL, yn ogystal a corgimwch. Ceir braster HDL mewn pysgod fel brithyll, salmwn, sardin, a phennog. Os nad ydych yn hoffi pysgod, cymerwch dabledi olew pysgod. Mae prynnu olew coginio a menyn yn gallu bod yn gymleth. Mae olew gwyn caled e.e., lard yncynnwys braster uchel a llawer o LDL. Dylai Flora ac olew llysiau gael eudefnyddio’n gymhedrol.Y brater gorau i’w ddefnyddio yw’r hyn a geir mewn bydydd megis Olew Olewydd a “Rape Seed”. Gll Flora “pra active” a Benecolleihau eich coleserol rhwng 10% a 15% wrth ei ddefnyddio’n gyson. Mae ymarfer corff am 20 munud tair gwaith yr wythnos (cerdded yn gyflym) yn cryfhau’r galon ac yn codi lefel yr HDL yn eich gwaed. Mae gwin coch mewn cymedroldeb yn amddiffynol hefyd. Os oes rhywun yn y teulu wedi bod ac angina neu wedi cael trawiad ar y galon cyn bod yn 60 oed, buasai prawf colesterol o fudd. Cofiwch mai’r ffordd orau i rwystro clefyd y galon yw i beidio a dechrau ysmygu, neu roi gorau i ysmygu.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Snwcer

Curo Llandrillo B 4 - 2, ond colli i Landrillo A 6 - 0

Gemau

Alun Jones i chwarae Rob Pierce Ysbytu Ifan Alan Davies a John Reardon i chwarae Dewi Jones a Rob Pierce Ysbytu Ifan cyn Chwefror 27ain.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Rysait Mis Mawrth

Mae ein gohebydd ‘Cornish’ (John Burn) yn gyndyn o ddatguddio rysait Pastai Cornish gan ddweud ei fod yn gyfrinach. Mae wedi fodd bynnag gyrru rysait sy’n cynnwys blodfresych, sy’n ardderchog gyda cig rhost:

Torrwch flodfresych a’i roi mewn dwr berwedig gyda halen am 3 munud. Rhowch y blodfresych (heb y dwr) ar ddysgl, gyda halen a phupur du. Taenellwch gyda caws ac olew olewydd. Craswch mewn popty poeth 185C am 10/15 munud. Oes gan unrhyw un rysait lleol i’w rhannu gyda’n darllenwyr? Buaswn yn falch o unrhyw gyfraniad!

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Swyddfa’r Post, Carrog

Bydd Swyddfa’r Post, Carrog yn cau ar 31ain o Fawrth. Gobeithio y bydd gwasanaeth cyfyngedig ar gael. Bydd y Siop yn cau ar y 3ydd o Fis Ebrill. Dyma fydd y tro cyntaf i drigolion Carrog fod heb siop yn y pentref!

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article