statcounter

       

Chwefror 2005 February


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Apêl Tsunami St. David’s
Cymdeithas Carrog Llongyfarchiadau Cyngo ar Gynllunio
Grouse Snwcer Dyddiadur
Ysgol Carrog Clwb 100 Her y Tri Chopa
Weli’s a Berfa   Trwydded

* GOLYGYDDOL

Dyma hi’n Chwefror yn barod, mis Ionawr wedi mynd, a’r Nadolig yn hen hanes erbyn hyn. Yn draddodiadol, mae Ionawr yn fis tawel, a dyna’r rheswm pam mae rhifyn y mis hwn ychydig yn llai nag arfer. Gallwn ninnau, fel y Times, wneud hynny hefyd. Yn ystod Ionawr, cafodd y pentrefwyr y cyfle i ddod at ei hunain ar ôl pwysedd y misoedd blaenorol ac i ddiwenwyno hefyd (er na thrafferthodd rhai i ddiwenwyno chwaith).

Yn llun y mis hwn gwelir Carrog fel yr oedd sawl fis Ionawr yn ôl. Wyr unrhyw un pa mor bell yn ôl yn union? Fyddwn i ddim yn gweld golygfeydd fel hyn bellach - peth da neu ddrwg tybed?

O daro golwg ar fywyd y pentref a’r Bont yn ystod y misoedd nesaf yma, gallwn edrych ymlaen at dreialon a thrafferthion wyna yn Llan, ac anfonir un o’n golygyddion i faes Murrayfield (dan brotest) i roi adroddiad arbennig ar y gêm rhwng Cymru a’r Alban yn Nhwrnamaint y Chwe Gwlad. O Ebrill i Fehefin bydd ymdriniaeth o Her y Tri Chopa, a bydd hynafiaid y pentref yn dewis tîm o bobl Carrog yn ofalus dros ben (chi sy’n gwybod pwy ydych chi).

Wedyn daw Eisteddfod Llangollen, heb y Llydäwyr eleni gwaetha’r modd, ond daw grwp o ddawnswyr o Ynys Manaw yma, heb y pibgorn - a bydd hyn yn rhyddhad mawr i rai aelodau’r gymuned. I gloi, edrychwn ymlaen at y sacheidiau o lythyrau rydych chi am eu gyrru atom yn ystod eleni, er mwyn inni gael cyhoeddi rhifynnau anferthol o’r Bont. Cofiwch gadw golwg ar y dyddiadur a cheisiwch gefnogi o leiaf rhai o’r digwyddiadau yn y pentref ac o gwmpas - wedi’r cwbl dyma beth sy’n creu cymuned.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

APÊL TSUNAMI - NOSON O DDONIAU LLEOL - NOS WENER 4 MAWRTH - MAE ARNOM EICH ANGEN!

Gallwch naill ai ddatguddio’ch doniau- ac mae llawer ohonynt ar gael, gan bob oedran - neu gallwch helpu i drefnu noson o dalentau lleol er mwyn noddi pentref ac ysgol mewn un o’r ardaloedd a ddioddefodd fwyaf, ardal a ddewisodd plant Ysgol Carrog.

Os nad oes gennych unrhyw ddawn o gwbl, neu’n cuddio’ch golau o dan lestr, neu os na allwch roi help llaw, yna cofiwch ddod i roi eich cefnogaeth. Dewiswyd y dull hwn o godi arian er mwyn rhoi cyfle i’r Pentre dargedu’r arian a godir at ryw bentref ac ysgol benodol. Petawn yn rhan o ymgyrch codi arian mwy, ni fyddai modd gwneud hyn, a gobeithio y bydd y ddwy gymuned yn gallu elwa o hyn yn y tymor hir. Dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu naill ai ag Ysgol Carrog, ebostio - ybont@deevalley.com, neu ffonio’r golygyddion.

Derbyniwyd sieciau o £50 hyd yn hyn. Os ydych yn dymuno cyfrannu gofynnir ichi wneud y siec yn daladwy i “Y Bont”, ac ysgrifennu Apêl Tsunami ar gefn y siec. Rowch eich cyfraniadau i unrhyw un o&rsquor Golygyddion - Janice Sheasby neu Alan Dolben.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ST. DAVIDS - CYFARFOD CYHOEDDUS

Mae’r diffyg gwybodaeth ynghylch unrhyw gynigion ar newid defnydd St Davids yn parhau. Ar ôl i’r erthygl ymddangos yn rhifyn mis diwethaf y Bont bu nifer o alwadau am gynnal cyfarfod cyhoeddus ar y mater. Felly, gofynnir i’r Cyngor Cymunedol alw cyfarfod yn ffurfiol, a gofyn i’r Mental Health Care UK Ltd ei fynychu ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych. Ceir hysbysiad o&rsquor cyfarfod hwn yn fuan.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CYMDEITHAS CARROG

Dymuna aelodau’r gymdeithas ddiolch i bawb a gyfrannodd, pan aethom o amgylch y pentref yn canu carolau eleni, a hefyd diolch i John a Jane yn Riverdale am y lluniaeth dderbyniol iawn. Casglwyd £120 tuag at Ty Gobaith. Diolch yn fawr iawn i bawb.

CYMDEITHAS CARROG

A night to celebrate St. David in the company of "MEIBION LLYWARCH"

Saturday 26th February at 7.30 pm at the Neuadd Carrog.

Entrance £8 including supper.

Telephone 01490 430324 for reservation.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LLONGYFARCHIADAU

I Phil a Jenny Jones ar fod yn nain a thaid ar ddydd Mawrth 18 Ionawr.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~

I Mathew Jones am lwyddo yn ei NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bar a Diodydd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CYNGOR AR GYNLLUNIO

Croeso i unrhyw un sydd am gael cyngor ar faterion cynllunio lleol i’r Syrjeri Cynllunio yn y Siop un Alwad yn Llyfrgell Corwen. Dyma&rsquor dyddiadau:

10 Chwefror 2005 - 10.00 a.m. tan 1.00 p.m.

24 Chwefror 2005 - 10.00 a.m. tan 1.00 p.m.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

GROUSE POOL TEAM

The team have had a very consistent start to the year, losing against
The Bridgend (5 - 2),
The Bull (4 - 3) and
The Ponsonby (5 - 2).

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

SNOOKER

Llandrillo A - 6 Carrog - 0

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

DYDDIADUR

26 Chwefror. Noson Dydd Gwyl Ddewi yn Neuadd Carrog - mwy o fanylion yn “Y Bont”.

8 Chwefror - Dydd Mawrth 9.30 a.m. tan 11.00 a.m. - Bore Coffi yn Nhy Mrs. R. D. Jones.

4 Mawrth. Noson o Ddoniau Lleol yn y Neuadd - manylion yn “Y Bont””.

a CHOFIWCH :

Bob dydd Iau - Tai Chi am 7.00 p.m.

Dosbarth Dawnsio i Blant ar ddydd Gwener am 4.30 p.m. a 7.30 p.m. Y Clwb Ieuenctid.

Gwasanaethau Eglwys - dangosir yr amseroedd ar yr hysbysfwrdd y tu allan i’r Eglwys a’r Grouse.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

YSGOL CARROG

Bu’r plant hyn yn mwynhau drama: “Why Did The Chicken Cross The Road?”, a berfformiwyd yn Neuadd Carrog ar gyfer plant Ysgol Carrog, Ysgol Glyndyfrdwy ac Ysgol Llantisilio.

Bydd yr Urdd yn cyfarfod ar âl ysgol bob dydd Iau. Dyma gyfle gwych i blant gymryd rhan mewn gemau a chaneuon Cymraeg.

Bu’r holl blant iau yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth draws- gwlad rhwng ysgolion Yn Ysgol Dinas Bran.

Yn rhan o’r arddangosfa Goya yn Oriel Corwen bu’r plant yn ymweld â gweithdy storïau gyda Fiona Collins yn defnyddio’r gwaith celf oedd yn cael ei arddangos.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CLWB 100

!st Prize - David Taylor - £20
2nd Prize - Paul Fisher (again!) £10

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

HER Y TRI CHOPA. 2005

Mewn cyfarfod yn y Grouse ar 16 Ionawr cytunwyd y dylai&rsquor digwyddiad fynd rhagddo, gan gychwyn wrth droed yr Wyddfa am 11 ar fore dydd Gwener 10 fed Mehefin a gorffen wrth droed Ben Nevis tua 9 ar fore dydd Sadwrn.

Cytunodd y Carrogyddion ymuno gyda Dalwyr y Record yn yr her, y brif nod fydd gwella ar yr amser blaenorol sef 22 awr 13 munud. Bydd pedwar cerddwr yn y naill dîm a’r llall. Bydd pedwar o gerbydau wrth gefn a thîm o wyth o yrwyr. Penderfynodd rhai aelodau o’r ddau dîm geisio codi arian drwy gael noddwyr, ac i’r un elusen â’r tro diwethaf, Hospys Plant Ty Gobaith. Cartref yng Nghroesoswallt yw hwn ar gyfer plant sy’n derfynol wael, mae’n elusen leol sy’n arbennig o haeddiannol.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

O’R BUARTH (Weli’s a Berfa)

Diwrnod sych oedd hi ddydd Gwener ac felly dyma finnau’n mynd ati i chwalu tail rhag i’r hen domen dail acw ledu ar draws y ffordd. Rhaid imi gyfaddef mai hen Salopian ydy’r chwalwr tail roddais i at ei gilydd o ddau chwalwr tail brynais i gan Keith ‘Penarth’ am y swm mawreddog o ugain punt. Ar ôl mynd â llwyth neu ddau heb unrhyw drafferth a finnau’n dechrau canmol fy hun ar fy muddsoddiad call ac yn llawn hyder yn nhechnoleg y 1950au aeth popeth ar chwâl; torrodd y gadwyn wely a dyna fi â chwalwr tail oedd yn cau chwalu tail. Credwch chi fi, does dim yn y byd yn bychanu dyn yn fwy na bod yn ei chwalwr tail yng nghanol y cae yn prysur wagu&rsquor tail ohono â fforch dail.

Daeth Mr Woodhall (y fet) i daro golwg ar y gwartheg cyflo yn gynharach yn yr wythnos. Gan nad oedd y canlyniadau’r rhy addawol y tro diwethaf, roeddwn i braidd yn bryderus, ond doedd dim problem o gwbl ac roedd pob buwch o 4 - 6 mis yn feichiog. Y diwrnod canlynol, daeth y Weinyddiaeth i wneud arolwg o’r gwartheg. Roedd hyn yn golygu bod rhaid edrych ar bob un o dagiau clustiau pob anifail a holl gofnodion symudiadau’r anifeiliaid. Roedd popeth yn iawn ar wahân bod pob un fuwch yn mwynhau sathru ar fy nhraed neu fy ngwasgu yn erbyn y corau.

A dyma fi’n cychwyn plygu gwrychoedd yr union amser darodd gwyntoedd 70 mya ar Gymru. Roedd hi’n frwydr rhyngof finnau a grym natur wedyn ac er bod y frwydr yn un o agos, rhoddais innau’r ffidil yn y to nes i’r gwynt ostwng cyn dal ati. Dwi wrth fy modd yn plygu gwrychoedd, ond heb fawr o gyfle i wneud chwaith, felly rhaid imi gael dipyn o amser cyn dechrau twymo a dod i’r arfer eto. Roedd y darn cyntaf dipyn yn amheus a dweud y gwir, bechod hefyd am ei fod i’w weld o’r Morfydd. Mae’r darn olaf yn edrych yn o dda, er mai fi sy’n dweud hynny, ond mae hwnnw o’r golwg ar waelod Cae Pwll felly fydd rhaid ichi gymryd ngair i, on’ fydd?

Gareth Llan

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CAIS AM DRWYDDED ADLONIANT CYHOEDDUS

Rwyf i, I D. C. Roberts, yn hysbysu fy mod wedi gwneud cais i Gyngor Sir Ddinbych am adnewyddu Trwydded Adloniant Cyhoeddus mewn perthynas â Neuadd Bentref Carrog, Corwen Sir Ddinbych LL21 9AW, rhwng yr oriau 7 p.m. a 11.45 p.m. o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Rhaid i’r sawl a ddymuna wneud cynrychiolaeth ynghylch y cais hwn ei wneud yn ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, yr Adran Drwyddedau, Cyngor Sir Ddinbych, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1YN, o fewn 14 diwrnod ar ôl i&rsquor hysbysiad hwn ymddangos.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.