Chwefror 2006
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Efallai bod y rhifyn diwethaf ychydig yn denau ar ôl y Nadolig, ond gallwn wneud iawn am hynny’r mis hwn. Cawsom achos i feirniadu rhai o weithgareddau’r Cyngor Sir yn ddiweddar, ond ni fwriadwyd hyn yn adlewyrchiad drwg ar ein Cynghorydd Lleol ni mewn unrhyw ffordd. Rydym yn eich annog i ddarllen ei lythyr yn y rhifyn hwn, ynddo mae’n rhoi gwybodaeth am ei waith yn ystod ei ddeunaw mis cyntaf.
Yn y rhifyn hwn ceir colofn newydd - ‘Hanesion Glannau’r Afon’. Mae un o’n golygyddion (pwy tybed?) yn awyddus i’w barhau gan greu colofn o hanesion a anfonir atom gan aelodau ein cymuned. Felly os oes gennych stori, yna cysylltwch â ni.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Sefydlwyd yr Urdd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owain Edwards yn fudiad ar gyfer pobl ifanc Cymru. Yn ei flwyddyn gyntaf roedd yr aelodaeth dros 700 mewn aelwydydd gwahanol drwy’r wlad ac erbyn 1925 roedd yr Urdd yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Er ei bod yn gynnar yn hanes y radio, fe ddarlledwyd Neges Heddwch ac Ewyllys da oddi wrth Ieuenctid Cymru i Ieuenctid y Byd. Pery’r traddodiad hwn hyd heddiw.
Ers y dechrau bu’r mudiad yn annog pobl ifanc i deithio ac i gyfarfod â phobl eraill. Mae ganddynt dair o ganolfannau preswyl parhaol yn y Bala, Llangrannog a Chaerdydd sy’n cynnig nifer fawr o weithgareddau hamdden a chwaraeon ac sydd ar gael i dros 50,000 o aelodau o 8 i 25 mlwydd oed.
Mae gan yr Urdd gysylltiadau cryf gyda’n hardal ni. Yn 1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf yr Urdd ym Mhafiliwn Corwen. Mae lle pwysig gan yr Eisteddfod yng nghalendr yr Urdd, dyma penllanw cyfres o eisteddfodau lleol a rhanbarthol pan fydd aelodau’n cystadlu am y fraint o ‘gael llwyfan’.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw Guŵy Ieuenctid fwyaf Ewrop a’r unig un o’i bath yn y byd. Mae mwy na 460 o gystadlaethau, ac er mai’r Gymraeg yw’r iaith swyddogol darperir yn gyfartal ar gyfer y rhai Di-Gymraeg hefyd.
Mae’r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Crefftau, Y Pafiliwn Roc a Dysgwyr ynghyd â 150 o stondinau gwahanol, cyngherddau a chystadlaethau yn cyfrannu at y chwe diwrnod o adloniant. Bydd yr Eisteddfod yn symud o’r De i’r Gogledd bob yn ail ac eleni caiff ei chynnal yn Rhuthun ar ddiwedd mis Mai. Er mwyn cynorthwyo gyda’r costau sylweddol sy’n ymwneud â chynnal yr Eisteddfod mae’r pwyllgorau codi arian lleol wedi gosod targedau ac eleni gofynnwyd i Gorwen , Carrog a Glyndyfrdwy godi £7,000.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Glenda Edwards, Maes y Llan ar golli ei mam Gwyneth Mair Jones, Haulfryn, Rhuthun.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yn Ionawr cynhaliwyd Ocsiwn Addewidion yn y Neuadd gan godi dros £3,060 tuag at y targed. Diolch o galon i bawb a fu’n cefnogi’r achos drwy drefnu noson, cyfrannu addewidion, mynychu’r ocsiwn neu fidio am y nifer fawr o eitemau. Richard Jones, Arwerthwr Corwen, oedd yn llywyddu ac yn ei ddull dihafal ei hunan fe ofalodd na chollwyd unrhyw fid o gwbl a bod popeth wedi cyrraedd ei werth.
Ar ôl treulio awr neu ddwy rwystredig dros ben yn ceisio symud defaid gyda help Henson y ci rhyfeddol - dw i ddim yn meddwl! - dyma fi’n penderfynu cael cyngor ynglŵn â hyfforddi cuŵn. Trefnais gyfarfod â John Dyke (bugail oedd yn arfer gweithio yn Rhug) er mwyn iddo allu esbonio beth roeddwn i’n ei wneud o’i le wrth drin Henson.
Trefnu cyfarfod fore dydd Sul felly, ac ar ôl gollwng Henson oddi ar ei dennyn, treulio deg munud i’w gael i ddod yn ei ôl o ben pella’r cae lle roedd wedi cornelu’r defaid a gwrthod eu rhyddhau. Pan ddaeth yn ei ôl yn y diwedd penderfynodd John geisio drosto’i hun. Y tro hwn doedd Henson ddim am drafferthu rhedeg ar ôl yr holl ddefaid, ond mynnai ddewis un ddafad a’i rhedeg i fyny ac i lawr y cae. Ar ôl llwyddo cael Henson yn ôl a’i roi yn y Landrofer penderfynodd John mai digon yw digon a’i bod yn heb bryd dangos campau ei ast (chwaer gyfan i Henson). Dim ond un chwiban oedd angen ac roedd hithau’n rhedeg i ben pellaf y cae, hel y defaid, a dod a nhw’n ôl yn dawel i ble roeddem ni’n sefyll. Pan roedd y defaid wrth ein traed, chwibanodd John eto ac yna fe newidiodd hi ei chyfeiriad a mynd â’r defaid i’r giât. Chwiban arall a gorweddodd i lawr yn disgwyl inni agor y giât i ollwng y defaid i mewn i’r cae nesaf.
Yn ddiweddarach y dydd hwnnw roeddwn wedi argyhoeddi fy hun fy mod wedi prynu ci mwyaf dwl y dorllwyth, ac wedi digalonni’n fwy gyda Henson nag roeddwn cyn cychwyn y sesiwn hyfforddi. Ers hynny, gwnaed ychydig o gynnydd, diolch fyth, er ei fod yn dal yn draul ar fy amynedd bob dydd, yn wir bob awr weithiau.
Gydol fisoedd y gaeaf mae cyflymdra’r ffermio’n arafu a’r prif waith ydy bwydo’r anifeiliaid. Mae hyn yn golygu bod amser ar gael i wneud y cynnal a’r cadw, yn enwedig yn Llan. Ar un adeg rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd roedd tri o dractorau gennym yn cael eu trwsio - doedd pethau ddim yn rhy dda. Ond gan ddefnyddio peth crebwyll peirianyddol, tipyn o lwc, andros o forthwyl mawr a llwyth o’r iaith anweddus roeddwn wedi llwyddo’u trwsio a’u cael yn ôl ar y ffordd.
Cafodd y mamogiaid eu sganio dros y Nadolig a’u didoli ar gyfer y tymor wyna. Ar y cyfan, mae golwg bur dda arnyn nhw er fy mod wedi sylwi nifer yn colli graen yn ystod yr wythnos diwethaf. Dw i’n cymryd mai’r mamogiaid hynaf ydy’r rhain ac y dylwn fod wedi’u difa ar ddiwedd yr haf. Wnes i ddim am fy mod i’n meddwl gwasgu blwyddyn arall ohonyn nhw.
Mae hi wastad yr un fath - ar ddiwedd yr haf mae golwg reit da arnyn nhw, dw i’n eu cadw ac os ydyn nhw’n llwyddo beichiogi mae’n costio ffortiwn i’w bwydo ac yn y diwedd dim ond oen bach maint gerbil maen nhw’n ei gynhyrchu a hwnnw’n gorfod cael ei fwydo gen i am nad oes gan ei fam lefrith iddo.
Dw i’n gwybod mai ffordd negyddol o feddwl ydy hyn ond dw i wedi bod yn gweithio gyda defaid ers blynyddoedd ac wedi deall o’r diwedd eu bod yn treulio’u hoes yn meddwl am ryw ffordd i siomi’r bugail pan ddaw hi’n adeg wyna. Pan rydych chi’n ffyddiog eich bod wedi gweld pob trychineb posib dyma un arall yn digwydd i’ch cadw ar flaenau’ch traed.
Gareth Llan
© Copyright Gareth Bryan 2006
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Paul, Lorraine a Hollie Edwards, trigolion newydd y pentref, sydd wedi symud i fyw i’r Hen Lythyrdy.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
10/01/06 Carrog 2 - Corwen B 4
17/01/06 Carrog
6 - Cerrig B Nil
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roeddwn wrthi’n defnyddio fy hen archwilydd metalau yng ngardd Dewis Dyddyn gan ddod o hyd i lawer o’r pethau arferol fel nobiau a fframiau gwelyau a hen bethau rhydlyd eraill pan ddechreuais feddwl am sut y dysgais i ddefnyddio’r peiriant hwn.
Yn 1972 cefais fy nerbyn i’r heddlu ac roedd gennyf dri mis yn rhydd cyn dechrau ar yr hyfforddiant. Gan fod gen i awydd gwella fy sgiliau iaith dyma fi’n penderfynu cael swydd yn yr Almaen. Gyda help cyfaill oedd yn byw yn ardal hardd Eifel cefais waith yn y pyllau ac roedd y swydd ar gael ar unwaith. Wrth imi ymadael roedd darlun gen i yn fy meddwl am weithio o dan y ddaear.
Yn y cyfarfod cyntaf gyda fy rheolwr cefais fy siomi pan roddodd nifer o lyfrau yn yr iaith Saesneg imi oedd yn son am sut i adnabod a thrin bomiau a ffrwydrau Prydain ac America. Mae’n swnio’n annhebygol ond roeddynt yn tybio y byddai darllen y llyfrau hyn yn fy ngwneud i’n rhywfaint o arbenigwr yn y maes.
Bu ymladd trwm yn yr ardal hon ar ffiniau’r Almaen yn ystod y ddau Ryfel Byd ac nid oedd modd torri coed mewn llawer o goedwigoedd oedd yn barod ar gyfer eu torri am fod nifer fawr o ffrwydrau rhyfel yn dal yma. Roedd ein gwaith ni’n golygu bod rhaid marcio llwybrau hir drwy’r coedwigoedd a’u hysgubo’n systematig i chwilio am yr holl wrthrychau metal. Roeddem yn gweithio fesul dau gydag un ohonom yn defnyddio’r peiriant archwilio a’r llall yn cloddio gyda rhyw arf tebyg i fatog. Mae hyn i gyd yn swnio’n amrwd, ond gyda phrofiad daeth yn arf sensitif gan ganiat¨¢u tynnu llawer neu ychydig o bridd yn ôl y galw. Am y rhan fwyaf o’r amser roeddem yn codi shrapnel, casys bomiau a bwledi ac arfau bach fel greneds bach oedd heb ffrwydro ac weithiau casys o ffrwydron gyda’r beltiau gynau yn dal mewn iraid.
Dro arall, daethom o hyd i danc Prydeinig cyfan oedd wedi suddo i gors, a lansiwr greneds (yn dal i weithio), bomiau mawr iawn ac - yn drist iawn- nifer fawr o gyrff pobl. Roedd y cyrff yn ysgerbydau cyfan weithiau gyda darnau o iwnifform arnynt, a thro arall roedd nifer o esgyrn mewn darnau. Un diwrnod sy’n aros yn fy nghof oedd pan
ddaethom ar draws milwr mewn ffos gyda’i helmed dur yn dal ar ei ben. Y tu mewn i’w helmet, yn dal yn weladwy, roedd twll ac yn ei ben roedd twll oedd yn cyfateb iddo gyda’r darn shrapnel a’i laddodd yn dal ynddo. Waeth i ba genedl roeddynt yn perthyn cafodd y gweddillion eu trin gyda pharch mawr a’u cymryd i geisio’u hadnabod ac yna i’w claddu.
Roedd yn dda gen i glywed na chafodd neb eu lladd wrth wneud y gwaith ers tair blynedd ar ddeg. Nid oedd neb yn gwerthfawrogi pan ddywedais pa mor lwcus roedd hynny.
Ar un achlysur yn unig bu angen defnyddio fy sgiliau i adnabod ffrwydron. Roedd un model arbennig (Americanaidd, tybiaf i ) yn achosi peth braw. Roedd iddo gaead a hinj gan edrych fel hen stof Primus, roedd hwn yn troi drosodd ar ôl cael ei sathru gan adael i grened saethu hyd uchder fforch y goes cyn ffrwydro. Fy mhartner oedd yn defnyddio’r detector ac ar ôl codi shrapnel bomiau drwy’r dydd roedd yn ddi-hid gyda’r fatog pan welais gaead fel stof Primus yn troi drosodd. Rhedodd y ddau ohonom i lawr ochr y mynydd mewn 2 eiliad gan edrych ar ein gilydd wrth inni’n dau sylweddoli bod dianc hyd yn oed mor gyflym â hyn yn dda i ddim petai am ffrwydro. Gyda’n cydweithwyr yn edrych arnom gyda difyrrwch daethom yn ôl i godi’r stof Primus yn ofalus, er nad oedd angen.
Ar ôl inni ddatgan fod rhyw ardal yn ddiogel byddai’r coedwigwyr yn symud i mewn i ddechrau torri’r coed a ninnau fel teithwyr modern gyda rhes o gytiau, cerbydau, a phobl yn symud i’r ardal nesaf i’w glirio.
Ar ôl ymuno a’r Heddlu manteisiais mewn dwy ffordd o’r profiad - yn y lle cyntaf cefais ychwaneg o dâl am fy mod yn gallu siarad Almaeneg ac yn ail, am rai blynyddoedd, fi oedd yr un oedd yn cael ei anfon ar gyrsiau bomiau.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Y cyntaf i’r felin caiff falu wrth fwcio’r Neuadd. Felly cofiwch fod angen edrych ydy’r dyddiad sydd ei angen arnoch ar gael a chwblhewch y Ffurflen Archebu a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Archebu, Mrs. Janice Sheasby. Os bydd y Neuadd wedi’i bwcio eisoes (e.e. cyfarfodydd rheolaidd y Clwb Ieuenctid ar Nos Wener) yna eich cyfrifoldeb chi fydd trafod unrhyw newidiadau.
I fyny’r grisiau, mae’r Ystafell Cyfarfodydd ar gael ar gyfer digwyddiadau bychain. Gellir ei defnyddio ar yr un pryd ag y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn y neuadd fawr.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Taflwyd peth goleuni ar y mater hwn gan Nia Morris, gohebydd Rhuthun. Yn ystod ei hymchwil, darganfu adroddiad am gwest yn y Cambrian News a’r Farmers Gazette, Chwefror 4ydd, 1910.
“Dywedodd Mr. Guthrie Jones, Crwner, mai clerigwr oedd yr ymadawedig a’i fod wedi dal bywoliaeth yn Swydd Stafford yn flaenorol, ac wedi ymddeol i fyw yn ardal Corwen. Roedd yr ymadawedig yn bedwar ugain oed. Ddydd Sadwrn, roedd ei fab wedi torri’i ben yn ddifrifol wrth sglefrio a dechreuodd ei dad gerdded i Gorwen am gymorth meddygol. Roedd y tywydd yn oer ac yn aeafol. Robert Jones, Corwen, a ddarganfu ei gorff yn gorwedd yn yr eira yn ymyl Rhagatt, aed ag o adref. Dywedodd Dr. Edwards, Corwen, mai llesmair a waethygwyd gan sioc oedd yr achos. Dyfarnodd y rheithgor i’r perwyl hwnnw.”
Dylid darllen unrhyw gwynion am dywydd oer Ionawr 2006 gan gofio’r uchod.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Siop
Atgoffwn ein darllenwyr bod siop a Swyddfa Bost Tina ar agor yn y Neuadd bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 9.00 a.m. a 12.00 ganol dydd.
Mae Tina yn dosbarthu papurau newydd yng Ngharrog a Llidiart y Parc hefyd. Os hoffech gael unrhyw beth ychwanegol o’r siop yna ffoniwch Tina ar 01490 430221.
Cyngerdd Gwyl Ddewi
Cynhelir yn Neuadd Carrog am 2.00 p.m. ar Fawrth
1af.
Croeso cynnes i bawb - Lluniaeth a Raffl
PTFA
Sel pen bwrdd - Dydd Mawrth 7fed Mawrth am 3.15
p.m. yn yr ysgol.
Parti Body Shop - Dydd Llun, 13 Mawrth am 7.00 p.m. yn y Neuadd
Stondin Deisennau
l - Sadwrn 25 Mawrth am 10.00 a.m yn Sgwar Corwen
Carnifal Carrog
Dydd Sadwrn 27 Mai bydd dyddiad newydd y carnifal.
Byddai
Pwyllgor y Carnifal yn ddiolchgar petaech i gyd yn nodi hyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cynhaliodd ‘Saethu Colomennod Clai Carrog’ ei Saethu Nadolig ar dir saethu Fferm Llan.
Tony ‘Taxi’ a enillodd y Gystadleuaeth Agored a daeth Alan “Boxer”, Dai “Butch” a Steven Davies yn ail, trydydd ac yn bedwerydd.
Keith Lloyd a enillodd y gystadleuaeth i ddechreuwyr a daeth Ian Lebbon, David Lloyd a Matte Pierce yn ail, trydydd ac yn bedwerydd.
Llawer o ddiolch i bawb a fynychodd y digwyddiad ac a wnaeth y diwrnod yn un mor llwyddiannus.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’r plant wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llangollen ar Fawrth 11eg.
Bu Amber a Rachael yn sgwad sgwennu’r Gymraeg (Ail Iaith) yng Nghorwen i wella’u sgiliau.
Ar 26 fed Ionawr cynhaliodd yr ysgol Wasanaeth Holocost a gwrandawodd y plant ar ddarlleniadau o Ddyddiadur Ann Frank a chynnal un munud o dawelwch i gofio’r rhai a ddioddefodd.
Mae P.C. Chris Davies, Swyddog Cyswllt Ysgolion, yn parhau gyda’i wersi ar ddiogelwch yn yr ysgol a’r cartref.
Cafodd Pen y Pigyn , Corwen, ei glirio o goed yn ddiweddar. Caiff coed caled brodorol eu plannu yn eu lle. Ar Chwefror 7fed gwahoddodd y Comisiwn Coedwigaeth blant Carrog i ymuno mewn plannu coed newydd ar gyfer y dyfodol.
Mae’r disgyblion yn dal i fwynhau’r clwb ar ôl ysgol, yn enwedig ar ôl gosod carped ac offer newydd yn yr ystafell.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bydd ein cyfeillion o Plouyé yn cyrraedd am ymweliad pedwar diwrnod ar ddydd Iau, 25 Mai. Bwriedir adfer yr ardd sydd o flaen y Neuadd i greu Cornel Plouyé, yn debyg i’r Cornel Carrog sydd ganddyn nhw. Y gobaith yw y bydd yr ardd yn barod i’w hagor yn y seremoni.
Bydd y dylunio’n aros yn debyg i’r cynllun sydd yn bod ar hyn o bryd, fel teyrnged i waith Grenville Teague,ond gan ychwanegu seddau a ffensio efallai. Mae llawer o’r planhigion presennol wedi gordyfu a bydd rhaid plannu rhai yn eu lle. Bydd croeso i roddion o blanhigion a thoriadau, yn arbennig rhai parhaol.
Os all unrhyw aelodau’r gymuned gynnig cymorth mewn unrhyw ffordd - drwy noddi twb o blanhigion er enghraifft, basged grog, mainc, gwneud plac i osod enw’r llain arno, rhoi ffens biced fach, compost neu sglodion llechi - neu drwy gynnig awr neu ddwy o lafur yna ffoniwch 430625 neu 430644.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.