Hydref 2006
Ar y dudalen hon ceir holl erthyglau’r rhifyn hun.
Gallwch naill ai sgrolio drwy’r dudalen neu gallwch ddewis yr erthygl rydych ei hangen o’r tabl isod.
Er mwyn lleihau amser llwytho i lawr fe dynnywyd yr holl hysbysebion, ffotograffau a graffigs.
Os oes ffotograff gydag unrhyw lun gellir ei weld drwy agor y ffeil unigol drwy’r ddewislen ddwyieithog,
neu drwy ddefnyddio’r teitl cyswallt.
* yn golygu bod ffotograff(au) neu graffog(au) ynghlwm wrth y ffeil unigol.
Golygyddol | Glyndwr Terrace | Cofeb Rhyfel Carrog |
Cwrs Photograffiaeth | Thomas Hutton | Bash “Y Bont” |
Croeso - Boydell | Ysgol Carrog | Rhai Diarhebion Cymraeg |
Dyddiadur | Jayne Knight | Heather Scott |
Treth Cyngor |
TAIR OED.
Rydym yn dair blwydd oed ond rydyn ni’n dal yn hwyr. Pob mis rydym yn meddwl fod popeth yn barod ar gyfer argraffu ar y cyntaf o’r mis ond wedyn mae nifer o bethau yn codi i achosi i’r cyhoeddi fod yn hwyr ac unwaith eto dyma ni’n cyrraedd ar ganol y mis. Un o’r problemau yw fod erthyglau yn cyrraedd y funud olaf neu ddim o gwbl ac felly rydym yn dal yn ôl rhag anfon at yr argraffwyr. Gawn ni yn garedig ofyn i’r holl gyfranwyr geisio sicrhau ein bod yn derbyn yr erthyglau mewn da bryd a hynny yn ddiffael erbyn yr 20fed o bob mis.
Mae tair blynedd yn gyfnod sylweddol i bapur cymunedol sy’n cael ei gynhyrchu gan wirfoddolwyr ond rydym yn gwbl ddibynnol ar gyfraniadau unigolion, erthyglau, lluniau ac eitemau ar gyfer y dyddiadur. Gofynnodd nifer o bobl ynglyn â’r symbol doniol oedd ar dop y rhifyn diwethaf. Wel dyma logo y cynllun ‘Gwobrau i Gymru Gyfan’. Y mudiad yma roddodd y nawdd i ni ar gyfer y camera, cyfrifiadur, meddalwedd a’r argraffydd ar gyfer y cyrsiau hyfforddi.
Bydd ‘Bash y Bont’ yn cymryd lle unwaith eto ar Hydref 21ain ac fe hoffem atgoffa pawb na ellir defnyddio arian y nawdd i dalu am gynnal “Y Bont” felly mae gwir angen eich cefnogaeth. Bydd cyflwyniad ffurfiol o siec y nawdd yn ystod Y Bash eleni. Fel cofnod o’r dyddiau cynnar hynny rydym wedi adgynhyrchu copi o’r rhifyn cyntaf hanesyddol hwnnw.
Fe gawn ddathlu dychweliad ‘Bwtias a Berfa’ y mis nesaf ac rydym wedi cael addewid o lond trol o hanesion.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’n braf gweld fod to y tß pen erbyn hyn wedi cael ei ail doi a’r waliau wedi eu paentio. Gallwn gymryd yn ganiataol felly fod y bygythiad o ddymchwel ty, a fyddai yn ardderchog ar gyfer cartref cyntaf, wedi cael ei anghofio. Fodd bynnag mae tomen o arwyddion ‘Ar Werth’ wedi ymddangos o gwmpas y pentref gan gynnwys y cyfle ar gyfer adeiladu tß newydd!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Derbyniodd Bwyllgor y Neuadd Bentref lythyr gan Gyngor Bro Corwen yn trafod adleoli y gofeb o’r man presenol sydd ar dir preifat i safle cyfagos i’r neuadd bentref.
Bydd trafodaeth ynglyn â hyn ar agenda Pwyllgor y Neuadd Dydd Llun Tachwedd y 6ed am 7.30. Gofynnir i unrhyw aelod o’r gymuned sydd a sylwadau ynglyn â’r bwriad yma i ddod i’r cyfarfod.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae rhan cyntaf y cwrs bellach wedi ei gwblhau ac mae pawb sydd wedi ei ddilyn wedi mwynhau yn fawr ac yn llawn edmygedd o’r hyfforddwr.
Bydd yr ail ran yn cychwyn Dydd Sadwrn Hydref 21 am 10.00 o’r gloch ac mae cyfle i chi ymuno os y dymunwch. Gawn ni atgoffa pawb unwaith eto oherwydd gwerth y camera mae’n rhaid i bawb sydd yn dymuno ei ddefnyddio fod wedi derbyn yr hyfforddiant hwn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Hwyrach y cofiwch i ni derbyn llythyr sawl mis yn ôl bellach yn holi ynglyn â’r gofeb i Thomas Hutton sydd wedi ei gosod yn y wal ar y ffordd gefn i Gorwen. Doeddem ni ddim yn ymwybodol ar y pryd bod bedd Thomas Hutton, a fu farw mewn lluwch eira, tra’n ceisio cerdded i Gorwen i gael cymorth meddygol i’w fab, wedi ei lleoli yn Llansanffraid. Mae geiriad a gwneuthuriad y garreg yn union yr un fath yn y ddau leoliad.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bydd y Bash yn cael ei gynnal Nos Sadwrn Hydref 21 am 8.00 o’r gloch yn y Neuadd. Eleni fe fydd y band lleol RUBYSPROMISE sydd yn tyfu mewn poblogrwydd yn dilyn rhyddhau un albwm ac maent ar fin recordio albwm arall. Gallwch eu gweld a’u clywed ar eu gwefan www.rubyspromise.com. Bydd tocynnau yn £5 yn cynnwys swper. Bydd y bar ar agor ac fe fydd cyflwyniad swyddogol o’r siec nawdd gan Gwobrau i Gymru gyfan. Gwnewch eich gorau i fod yn bresenol gan mai’r arian yma ynghyd â hysbysebion sydd ond yn cadw pileri’r ‘Bont’ uwchben y dwr.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gobeithio bod Dawn, Paul, Amber a Pagan Boydell yn ymgartrefu ym Mronant.
Estynnir gwahoddiad cynnes hefyd i bump o’r teulu Lama sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nhy’n Llwyn. Diolch nad yw eu meistr tir wedi eu gadael yn rhydd yn y pentref hyd yma!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Croeso cynnes i Lowri, Eleri a Rhian sydd wedi dod atom y tymor hwn o ysgol Pentrecelyn.
Mae plant y Feithrinfa Cara, Jacob, Thomas, Caolan, Amber, Rhian Haf a Morgan i gyd yn mwynhau eu cyfnodau boreol yn yr ysgol.
Enillodd yr ysgol gystadleuaeth gelf ym Mhafiliwn Llangollen am y bedwaredd tro gyda Poppy, Barra, Sioned ac Alice yn ennill gwobrau unigol. Fe ddefnyddir y wobr o £100, a gafodd ei chyflwyno gan Westy’r Wild Phesant, Llangollen ar gyfer cyfraniad yr ysgol orau, i brynu adnoddau celf i’r ysgol. Fe fydd yr holl waith Celf Awstraliaidd a gynhyrchodd y plant yn cael ei arddangos yn Neuadd Carrog Dydd Mawrth Hydref 17 am 3.30 p.m.
Mwynhaodd holl ddisgyblion Cam Allweddol 2 eu taith i Wyl Gerdd Llanelwy i wrando ar ddatganiad Evelyn Glennie. Roedd yn chwarae pob math o offer taro o ddrwm i ffôn ddŵr.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Unwaith yn ddyn, dwywaith yn blentyn
Once a man,
twice a child
Haws twyllo maban na gwrachan
A boy is easier cheated
than a witch
Cadw ci a chyfarth ei hun
Keep a dog and bark yourself
Gwyn ei fyd
Blessed his world (in his element)
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Hydref 10 Dydd Mawrth - Beetle Drive am 6.30 yn Ysgol Carrog
Hydref 13 Gwener Cynger Côr Merched Edeyrnion yn Llansanffraid. Tocynnau £4
Hydref 16 Dydd Llun - Gwasanaeth Diolch garwch Ysgol Carrog yng Nghapel Seion.
Hydref 17 Dydd Mawrth Arddangosfa Gelf Ysgol Carrog yn y Neuadd am 3.30 p.m. Mynediad £1
Hydref 18 - Gwasanaeth Diolchgarwch am 2.15 yn yr Eglwys
Hydref 21 Dydd Sadwrn - Cwrs Photograffiaeth yn y Neuadd am 10.00 o’r gloch
Hydref 21 Dydd Sadwrn - 8.00 ‘Bash y Bont’ Tocyn £5 yn cynnwys adloniant , swper a bar hwyr
Hydref 23 Dydd Llun - Noson ‘Body Shop’ yn y Neuadd am 7.30.
Hydref 26 Yr ysgol yn cau dros hanner tymor. Yn ail agor Tachwedd y 6ed.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Marchog yn Nhy’r Arglwyddi.
Bu Jane Knight (Marchog!) mewn derbyneb yn Nhy’r Arglwyddi ar y 14eg o Fedi i ddathlu ail-gyhoeddiad o’i llyfr ‘Reach Standards’
Llongyfarchiadau hefyd i Heather Scott ar lwyddo yn ei arholiadau i gymhwyso ei hun ar gyfer bod yn Ysgrifenyddes Feddygol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
YN CAEL EICH TRETH CYNGOR YN DDRUD?
Wel, dydy llawer o bobl Cymru ddim, achos dydyn nhew ddim yn talu! Yn Nghymu mae 30,459,000 o drethi 2004/2005 heb eu casglu a 29,523,000 ar gyfer 2005/2006. Yn Sir Ddinbych mae’r symiau yn £824,000 ar gyfer 2004/05 a £776,000 ar gyfer 2005/06. Mae’n ymddangos fod Sir Ddinbych yn llawer gwell na nifer o siroedd eraill wrth sicrhau eu bod yn derbyn y taliadau. Gellir gweld y ffigyrau ar gyfer y cyfan o Gymru ar y wefan: http://www.gmb.org.uk/templates/PressItems.asp?NodeID=94546 Ymddiheurwn am y cyfeiriad hir. Wedi cyrraedd y safle fe gewch y dewis i sgrolio i lawr ac yna dewis yr opsiwn ‘cliciwch yma i weld manylion perthnasol i Gymru’.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.