Ionawr 2004 January
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Golygyddol | Carrog | Weli’s a Berfa |
Eglwys Carrog | Neuadd | Clwb Llansantffraid |
Canolfan Iechyd | Carrog & Llidiart y Parc | A Wyddoch Chi? |
Ysgol Carrog | Llongyfarchiadau | Llythyrau |
Dyddiadur | * Llun Festri |
Wrth I ni groesawu Blwyddyn Newydd gobeithiwn eich bod wedi cael Nadolig wrth eich bodd ac wedi ymadfer ar ol dathliadau’r Flwyddyn Newydd. Cawsom gryn dipyn o broblemau gyda’r Rhifyn diwethaf ond trwy ddyfalbarhad A5 Publishing fe gafodd Rhifyn Tri ei argraffu. Oherwydd y problemau hyn roedd yn ddigon posib i ni beidio a chael ateb i’r cwestiwn ‘A ydych yn adnabod unrhyw un?’ gan nad oedd ansawdd y llun yn glir iawn. Fodd bynnag, fe gawsom ddau ymateb. Y Mis hwn mae cyfraniad arall gan Gareth sydd wedi addo nad oes unrhyw eiriau sy’n mynd i greu anawsterau wrth gyfieithu!
Dylem hefyd dalu clod i’r tim sydd yn gweithio ar ac sydd yn rhannu’r papur (sy’n brysur droi yn Bapur Newydd) o gwmpas y pentref. Mae’r papur yn cael ei gyfieithu gan Sw Jones, gyda Tina Lloyd yn teipio. Mae’n cael ei ddosbarthu o gwmpas y pentref gan Bronwen Lebbon, a Staff a phlant yr Ysgol. Mae papurau Llidiart y Parc yn cael eu dosbarthu gan Jenny (Siop Ffrwythau) Jones, y ffermydd ar hyd yr A5 gan Tina Lloyd, Y Forfydd gan Jenny Jones a Steve Davies gyda Eddie Fisher yn dosbarthu papurau’r Fedw. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu gwaith caled ond mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom. Os nad ydym wedi llwyddo i’ch cyrraedd, mae papurau ar gael yn y Siop ac yn y Grouse.
Derbyniodd yr erthygl ‘Ble mae Carrog?’ ymateb dda iawn fel y gallwch ddarllen isod ac rwy’n siwr y bydd pawb yn falcho glywed fod ein Cynghorydd Cymunedol eisoes wedi codi’r mater. Rydym hefyd wedi derbyn dau lythyr gan Janet Fox sydd a diddordeb yn y broblem o gyfyngiad cyflymder. Da iawn Janet. Mae’r Golygyddion wedi bod mewn cysylltiad a Martin Jones, ein Aelod Seneddol Lleol sydd am roi sylw i’r mater.
Daliwch y yrru cyfraniadau - erbyn Ionawr 20fed y Mis yma. Ffoniwch Ian - 430625, Paul - 430397, neu Colin ar 430558 neu gyrrwch e.bost I paulfisher@mcb.net.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ble Mae Carrog?
Hen Gymraeg am cellif yw Carrog - sef llif sydyn o ddwr. Enw’r drefgordd ganoloesol a oedd yn rhedeg o’r bont yng Nglyndyfrdwy heddiw, i’r gorllewin ar hyd yr A5 ac yn cynnwys Carrog Isa, Carrog Ucha, Fferm Pen y Bont a’r Wern. I’r dwyrain o bont Glyndyfrdwy, ar ochr dde’r afon Ddyfrdwy oedd trefgordd ganoloesol Mwstwr. Bodorlas oedd enw pentref Carrog i’r gogledd o’r ffordd ac fe oedd y rhain i gyd yn rhan o Blwyf Corwen.
O dan y ffordd yng Ngarrog ar yr ochr dde ac yn mynd tua’r gogledd mewn stribed tenau rhwng ffordd Y Forfydd a Rhagatt tuag ayt Bwrdd y Tri Arglwydd oedd hen blwyf Llansanffraid Glyndyfrdwy sy’n deillio’n ol i’r ddeuddegfed ganrif. Erbyn hyn mae’n cael ei adnabod fel Plwyf Corwen. Pan ddaeth y rheilffordd i Ddyffryn Dyfrdwy yn 1864 galwyd y ddwy stesion yn Glyndyfrdwy a Carrog. Adeiladwyd tai, ac fe ddaeth Glyndyfrdwy yn Plwyf arwahan pan adeiladwyd Eglwys yno. O ganlyniad i hyn adnabyddwyd Carrog a Glyndyfrdwy fel yr ydym yn eu hadnabod heddiw. Mewn gwirionedd mae enw Carrog yn perthyn yn agosach i Llidiart y Parc nac i ni!
Mae enw Llidiart y Parc yn golygu porth neu giat i dir hela Owain Glyndwr.
Valmai Webb.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dyn a’i gi yn gweithio mewn harmoni perffaith. Golygfa sy’n gyflun trwy Gymru gyfan. Gresyn nad yw hyn yn wir yn y Llan. Dim ots beth ddweda i mae Jill a Moses yn gwneud yn union fel y mynnent. Yr wythnos ddiwetha’ bu I ni ymdrechu gyda Houdini, yr oen a oedd yn mynnu dianc.
Roeddwn i am ei gael yn y cae, fodd bynnag roedd yn well ganddo fo’r ffordd ac ar ol awr o straen yn ei erlid i fyny ac i lawr Ffordd Cul, fe gafodd ei ddal a’i roi yn y sied. Mae’n rhoi dipyn o gysur i mi wrth feddwl na all pethau fynd yn llawer gwaeth ar ol cael fy nhwyllo gan oen.
Ar wahan i Houdini mae’r rhan fwyaf o wyn eleni wedi cael eu gwerthu sydd wedi rhoi digon o arian i mi fyw yn y modd pitw yr wyf wedi arfer ag e erbyn hyn.
Fel arfer ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae’r prisiau’n codi fel mae nifer yr wyn yn mynd yn llai. Mewn gair pan nad oes gennyf unrhyw beth i’w werthu mae’r prisiau’n codi. Dw’i wedi cael fy ngwneud eto!
Gareth Llan.
© Gareth Bryan - 2004
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Pel y gwyddoch nid yw eglwys Carrog yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd er yr holl arian sydd wedi cael ei wario’n adnewyddu’r adeilad. Yn anffodus, mewn archwiliad gan Yr Eglwys yng Nghymru, cafodd gwall ei ddarganfod. Mae’n ddigon drwg I arbenigwyr gynghori ir trydan gael ei ddat- gysylltu. Mae hyn yn golygu nad oes gwres na golau. Mae wedi bod yn bosibl cynnal rhai gwasanaethau gyda generadur ond mae hyn yn anodd iw drefnu yn rheolaidd. Mae’r pensaer yn gwneud pob ymdrech i atgyweirio’r broblem.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cafodd bobl o bob oed wledd ym mharti Nadolig y Neuadd ac roedd ‘Self titled’ yn wych. Codwyd £100 tuag at gronfa’r Neuadd
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Daeth 20 o aelodau’r clwb i’r Neuadd am ginio Nadolig ar y 4ydd o Ragfyr. Cafwyd cinio traddodiadol gwerth chweil gan y Grouse. Rhoddodd y Llywydd ddiolch i Drysorydd y Ffair Haf am eu cyfraniad o £100 ac i “Corwen Friendly Society” am £50. Dymunwyd Nadolig Llawen i bawb a oedd yn absennol ac fe gafodd bawb anrheg bychan i fynd adref.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Oriau Meddygfa
Llun 09.00 - 11.00 & 15.30 - 18.00
Mawrth 09.00 - 11.00 & 14.00 - 17.00
Mercher 09.00 - 11.00 & 15.30 - 18.00
Iau 09.00 - 11.00 & 14.00 - 16.00
Gwener 09.00 - 11.00 & 14.00 - 16.00
Sadwrn 09.00 - 11.00 (Argyfwng yn unig)
Ffon - 01490 - 412362
Os oes argyfwng y tu allan I oriau meddygfa (os oes angen geld doctor arnoch o fewn 4 awr) fFoniwch yr un rhif ac fe atebir eich galwad gan y gwasanaeth ambiwlans a fydd yn cysylltu gyda doctor ar eich rhan. Mae’’r gwasanaeth yma yn gallu bod yn brysur ac ar adegau gall gymryd amser I ateb eich galwad. Mewn argyfwng Ffoniwch 999. Cewch fwy o wybodaeth mewn taflen sydd ar gael yn y Feddygfa.
Ionawr 2004
A ydych wedi gwneud adduned Blwyddyn Newydd I roi’r gorau I ysmygu? Mae help llaw a gwybodaeth gwerthfawr ar gael ar therapi “Nicotine replacement” a Zyban un a’i yn unigol neu mewn grwpiau yn yr ardal.
Gellir cysylltu a Carol Anne Jones arbenigwr rhoi gorau i ysmygu Sir Ddinbych trwy ei hysgrifenyddes, Sue Lloyd Williams ar 01745 589788. Graddfa rhoi gorau i ysmygu yng Ngogledd Cymru yw 66% sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Rhoi’r gorau i ysmygu yw’’r peth callaf a fedr unrhyw un ei wneud er lles ei iechyd.
Os am gymorth Ffoniwch Llinell Gymorth NHS 0800 169 0169.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae crynodiad byr o fywyd yn y pentref iw gael mewn traethawd gan awdur dienw, Bydd pigion o’r traethawd yn cael ei gyhoeddi yn “Y Bont” yn ystod y misoedd nesaf. Addvsg Adeiladwyd y “National School” yn 1858 ac agorodd y drysau yn 1860 (y Neuadd presennol). Roedd addysg y plant yn y dyddiau hynny yn nwylo’r Eglwys. Yn 1904 ennillodd yr anghydffurfwyr yr hawl i addysgu’r plant, ac yng Nharrog mynychodd y plant yr “ysgol” yn festrioedd y capeli nes i’r ysgol newydd gael ei hadeiladu yn 1909. Yn ol yr hanes roedd dynes o’r enw Susan Evans yn glanhau’r Eglwys a’r ysgol ar ddiwedd y ganrif- ond nid oedd hi’n mynd ir Eglwys ar Ddydd Sul. Pan soniodd y Rheithor nad oedd yn ei gweld yn yr Eglwys ar Ddydd Sul fe atebodd hithau ei bod yn yr Eglwys mor aml ag efond nid ar yr un diwrnod!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
• | Bronant, sydd gefyll gyferbyn a’r “Efail” heddiw oedd yr hen Efail. |
• | Mae’r “Efail” yn sefyll ar safle’r hen Reithordy. |
• | Yn y 1720au cafodd ei ddisgrifio gan y Deon Gwledig Fel ‘hofel tlawd gyda stabl “lean-to” athwlc mochyn. |
• | Fe adeiladwyd y Rheithordy newydd a elwir heddiw yn “Pentir” yn 1824 ac fe adawyd yr hen Reithordy yn wag. |
• | O gwmpas 1860 fe adneyddwyd yr adeilad a’l droi’n siop gof Yn hwyrach Fe adeiladodd dwy lawr ato. |
• | Y trigolion cyntafoedd John Hannan, gofo Wyddelwern, a’L deulu. |
• | James Morris oedd y gof erbyn 1910 - roedd hefyd yn eglwyswas ac yn arweinydd cor. Efe oedd yn berchen un o’r ceir cyntaf yn y pentref, ac fe’i redodd fel tacsi. |
• | Daeth ei Fab, Gruffudd Allan Morris yn of ar ol ei dad hyd at y 1960a pan adawyd y lle’n ddi-breswyl unwaith eto. |
• | Yn y 1980au prynwyd y EFail gan Mr Vaughan Edwards a adnewyddodd yr adeilad yn gyFan gwbl. |
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bu Staff a disgyblion Ysgol Carrog yn brysur iawn ar ddiwedd y Tymor. Roedd y plant yn gyfrifol am yr adloniant cerddorol yn noson Carolau o Gwmpas y.
Goeden’ yn y Neuadd gyda Charlotte Roebuck-Dolby yn goleuo’r goeden. Y diwrnod canlynol cafodd y plant syrpreis pan aethant i gyd am dro ir Stesion I gyfarfod Sion Corn ac i weld y goleuadau. Roedd anrheg i bawb ac ar ol diod a lollipop cafodd Sion Corn fwynhad with wrando ar y plant yn canu.
Cafwyd cyngerdd gwerth chweil yn y Neuadd o’r enw “Knock, Knock”, ac ar ddiwedd y cyngerdd derbyniodd Diana Keyes rodd a diolchiadau am ei chymorth parod i chwarae’r piano i gyngherddau’r ysgol ac am ei chyfraniad cerddorol ir pentref gan Bronwen Lebbon.
Cafodd y plant barti Nadolig a Disco wedi ei drefnu gan y “PTFA”, ac fe fwynhaodd pawb y daith i Landudno i weld “Snow White”. Death y Tymor y ben gyda Gwasanaeth Cristingl yn yr Eglwys. Cafodd y canwyllau eu cario gan blant Blwyddyn 6, Lauren, Angharad, Isobel, Gus a Sean.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llongyfarchiadau I Brian Fairburn a Trudi Williams a briododd yn Wrecsam ar Ddydd Gwener 19eg o Ragfyr. Dymuniadau gorau ir ddau ohonynt yn y dyfodol.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Annwyl Olygydd,
Rwyf newydd ddarllen y tryddydd rhifyn o “Y Bont”. Ar y dudalen gyntaf rydych yn gofyn ble mae’r arwyddion sydd dangos lle mae Carrog yn dechrau ac yn diweddu? Mae ambell un wedi gofyn yr un cwestiwn i mi, ac yn rhinwedd fy swydd fel Cynghorydd Cymunedol Carrog rwyf wedi codi’r achos yng nghyfarfod y Cyngor ym Mis Hydref yn ogystal ag arwyddion cyflymdra, gan fod y traffig sy’n teithio trwy’r pentref yn beryg i’n plant ac i anifeiliaid. Byddaf yn gadael i chi wybod am unrhyw newydd.
Heather Scott
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Olygydd,
Mewn cysylltiad a’r llythyrau yn son am gyflymder traffic yng Nharrog a Llidiart y Pare rwyf wedi bod mewn cysylltiad ag lan Miller Pennaeth Gweithiol Cyngor Sir Ddinbych a hefyd Mr Neil Fenby o’r Cynulliad ynhglyn a’r broblem. Dywed Sir Ddinbych mai’r Cynulliad Cenedlaethol sy’n gyfrifol am yr A5 . Maent wrthi’n trafod y mater gyda’r Cynulliad ac meant yn cynnig cyfyngiad cyflymder o 40milltir yr awr yn yr ardal hon. Rwyf wedi siarad gyda Mr Neil Fenby ac mae e’n sicrhau fod rhywun yn delio a’r mater, nid oedd yn meddwl fod angen deiseb. Mae Mr. Miller yn ein sicrhau ei fod am bwyso ar y Cynulliad. Ar ol darllen eich rhifyn diwethaf o’ “Y Bont” rwyf wedi ysgrifennu at y Cynulliad yn gofyn am gadarahad fod rhywun yn delio a’r mater, Rwyf wedi anfon rhifyn Mis Tachwedd o “Y Bont” I Mr Fenby sy’n cynnwys llythyr Mr Lea ac rwyf hefyd wedi dyfynnu o rifyn Mis Rhagfyr.
Janet Fox
Rwyf newydd dderbyn yr ateb canlynol gan y Cynulliad cenedlaethol:
“The possibility of introducing a Speed Limit Zone within Llidiart y Parc has previously been the subject of several discussions beween officers within this branch of the Transport Directorate and a decision to initiate further investigation has already been made.
The investigations comprise the measurement of existing vehicle speeds, the identification of the most appropriate terminal points and liaison with North Wales Police into whether a new Speed Limit would meet the UK National requirements of being reasonably self enforcing.
Our Agents, Denbighshire County Council, as Service Provider to the NE Wales Trunk Rod Agency have previously been instructed on this matter and a further instructions will now be sent out.
In regards to time scale I would estimate that taking into account all the statutory consultations and legal documentation that is required, the introduction of a speed limit could take between 9 and 18 months.
The introduction of a speed limit will improve conditions being faced by schoolchildren who use the bus laybys on the way to Llangollen however your concerns on this matter will be investigated further in conjunction with the North Wales Police and DCC/NEWTA.”
Janet Fox
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
“Ffrindiau ar draws y mor”
Ym Mis Tachwedd fe arhosodd cwpl o America (Sean a Mary Alice) yng Ngharrog tra ar eu gwyliau yng Nghymru. Cafodd y ddau bryd o fwyd yn y Grouse ac roeddent wedi eu plesio cymaint gyda’r croeso a gawsant gan y bobl leol nes iddynt yrru e.bost Ini.
Eric Lea
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Oil,
Roeddwn am adael i chi wybod gymaint i ni fwynhau cyfarfod pawb. Cafodd Mary-Alice a minnau daith arbennig a’r darn gorau oedd aros yng Ngarrog am ddiwrnod/noson. Gresyn na fuasem wedi cael aros yn hwyrach a dod i adnabod pawb yn well. Roedd y gweddill o’n taith yn gret. Gobeithio y cawn ddod yn ol ich ardal rywbryd, Am le braf sydd gennych.
Rwyf yn sgwennu ir sgrin, ac wedi dod o hyd i bethau diddorol iawn yng Nghymru, yn hanesyddol a chyfoes. Pwy a wyr mi feddylia i am rywbeth. Efallai fersiwn Gymreig o “Cheers” !!! Gobeithio y cewch i gyd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.
Sean a Mary-Alice
Efrog Newydd. USA
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Clwb Llansantffraid
Cyfarfod nesa’ Ionawr 29ain, 2004
Cyfarfod Hanesyddoi Edeyrnion
Ddydd Mawrth, lonawr 27ain, Darlith ddarluniol ar Chwarel Penarth gan Valmai Webb. Croeso i bawb.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Os nad oeddech wedi adnabod unrhyw un, mi wnaeth Dyfyr Roberts a Valmai Webb:
Rhes gefn - Canon Goronwy (Owen or Davies?), Rector of Corwen Gillian Roberts, Phillip Davies, Nora Ann Hughes, Gruffudd Allan Morris, Olwen ? Ty Cynnes, Susan Isbell, Gwenda Jones.
Rhes flaen - Dorothy Jones, Gwenda Jones, Phillip Jones, Dyfyr Jones, Margaret Morris, Martin Jones, Gareth Jones, Kenneth Webb. Rydyn yn aras am newyddion aduniad a chyngerdd gan yr aelodau sy’n goroesi!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article