Mehefin 2004 June
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Yn ol erthygl tudalen lawn mewn papur newydd lleol, mae Carrog yn bentref distaw iawn, sy’n ddel a’I brif atyniad yw, rhywle I ymddeol ynddo. Nid dyma’r argraff a gafwyd gan ein ymwelwyr o Plouyé, nag ychwaith gan ymwelydd arall a arhosodd yng Ngharrog dros nos ac a gafodd ei hysgogi I ysgrifennu atom. A oes gan unrhyw un ohonoch farn am hyn? Mi wnawn brintio eich sylwadau y Mis nesa’.
Ymddiheuriadau I’r rhai na dderbyniodd rifyn Mis Mawrth. Mae’r nifer o gwynion a gawsom yn dangos ein bod yn boblogaidd !Mae ein bechgyn papur yn derbyn hyfforddiant dwys cyn I ni ddosbarthu’r rhifyn nesa’.
Cofiwch y gall unrhyw un gyfrannu llythyrau neu erthyglau ar unrhyw bwnc cyn belled a bo lle gennym! Gyrrwch eich cyfraniad drwy e.bost I editor@ybont.deevalley.com neu ffoniwch 430397 neu 430625.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae Carrog a Llidiart y Parc yn awr wedi eu hefeillio’n swyddogol gyda Plouye yn dilyn seremoni llwyddiannus ar Ddydd Gwener Mai 14eg 2004.
Cafodd ein ymwelwyr daith o gwmpas Chwarel Pennarth a drefnwyd gan Keith a Tina Lloyd, gan gynnig golwg o Garrog , Llidiart y Parc a Dyffryn Dyfrdwy o ben mynydd Pennarth. Cafwyd lluniaeth ysgafn yng ngardd y fferm gan adael ein ymwelwyr yn fud ar ol y croeso a harddwch y golygfeydd o’u cwmpas.
Cafwyd ymweliad o gwmpas Ysgol Carrog cyn dychwelyd I’r Neuadd I ymuno a nifer o bentrefwyr I fwynhau adloniant gan blant Ysgol Carrog yn cynnwys taith hanesyddol o gwmpas Carrog yn Gymraeg, Saesneg a Ffrengig. Diolch I Marthe Whitehall am gyfieithu mor dda.
Fe arwyddwyd y papurau swyddogol gan y Cynghorydd Rhys Webb ar ein rhan ni a’r Maer Marcel Le Guern ar ran Plouyé. Cafodd y papurau eu harwyddo mewn pedair iaith, Cymraeg, Saesneg Bretoneg a Ffrengig, yn ogystal a derbyn anrhegion. Rhoddodd y Bretoniaid ddarn o bren wedi ei gerfio I Garrog a derbyniodd y Bretoniaid blat wedi ei pheintio gan Valmai Webb. Cafwyd lluniaeth ysgafn yn cynnwys caws a gwin Cymreig, a chacen gri. Yn ystod yr hwyr cafwyd cyngerdd gyda Chor Meibon Glyndwr, Charlotte Davies a Heather Blair a Bethan Scottford. Roedd yr ymwelwyr wedi eu plesio’n fawr gyda safon yr adloniant ac yn gobeithio y gallant roi croeso cystal I ni ryw ddydd.Mwynhaodd pawb fwyd wedi ei baratoi gan Y Grouse.
Aeth y Bretoniaid ar y ytren I Langollen Ddydd Sadwrn gyda thocynnau am ddim gan gwmni’r Rheilffordd. Cafwyd Rhost Mochyn Nos Sadwrn gyda adloniant gan Tonic ac Adam Kelly sy’n adnabyddus yn yr Eisteddfod.
Ddydd Sul roedd taith I Ewephoria lle mwynhaodd pawb arddangosfa cwn defaid. Mae defaid yn bethau prin iawn yn Plouyé, ac felly roedd gweld ci yn gweithio gyda defaid yn beth newydd.Daeth y diwrnod I ben gyda swper yn Y Grouse.
Diolch yn fawr I bawb a fynychodd y gweithgareddau ac a gyfrannodd I wneud y penwythnos yn llwyddiant, gyda diolch arbennig I’r merched a fu’n paratoi’r salad ar gyfer y Rhost Mochyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae dau wobr heb eu casglu ar ol y Rhost Mochyn – tocynnau melyn rhifau 166 a 26.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Cyril a Marion Brown sydd wedi dathlu Penblwydd Priodas diamwnt. Maent I’w gweld yma gyda thelgram gan y Frenhines.
Diolch yn fawr iddynt hefyd am noddi’r rhifyn nesa’ o’r Bont fel rhan o’r dathliadau.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cafodd y bont ei archwilio gan CADW ar Fai 17eg ond nid oes unrhyw newydd hyd yn hyn ynghlyn a phryd y caiff y bont ei hatgyweirio.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’r Neuadd yn dal I gael ei defnyddio gan bob rhan o’r gymuned. Rydym wedi cael byrddau newydd ar ol 20 mlynedd o wasanaeth gan yr hen fyrddau, y tu mewn a’r tu allan I’r Neuadd. Mae hyn yn rhoi’r cyfle I ni gael gwared o sbwriel a chadw’r Neuadd yn daclus. Byddwn yn gofyn I chi gadw’r byrddau a’r cadeiriau ar ol eu defnyddio os gwelwch yn dda.
Tynnwyd y tocynnau cyntaf o’r Clwb 100 ar
Ddydd Sadwrn Mai 15fed.
Yr enillwyr oedd Mr Gren Teague £20,
Mrs Joan(Grouse)Jones £10.
Cynhelir y cyfarfod blynyddol ar Fehefin 21ain am 7 o’r gloch y.h.
Mae croeso I bawb ac mae gan bawb yr hawl I’w farn ynglyn a sut mae’r Neuadd yn cael ei defnyddio.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Nid wyf am roi’r argrtaff fy mod yn un diflas ond rwy’n siwr ei bod yn amser I ni gael glaw erbyn hyn.
Er fod yr haul wedi galluogi I mi ddal I fyny gyda llawer o waith anorffenedig, os na gawn ni law yn fuan mi fydd Y Llan yn debyg iawn I’r Sahara am gydo; y flwyddyn.
Mi fu’n rhaid I mi brynnu silwair gan gymydog I mi er I mi feddwl fod gennyf ddigon o wair hyd nes I’r gwartheg fynd allan.Wrth ddweud ‘prynnu’ mewn traddodiad ffermwyr nid wyf wedi talu amdano eto! Cefais gryn dipyn o drafferth gyda buwch yn dod a llo yr wythnos diwetha’ a bu’n rhaid I mi alw ar Vivien I roi help llaw, ond er gwaetha’r tynnu a’r tuchan bu’n rhaid I ni alw ar Keith a’I ‘ratchet’.Erbyn hyn roedd y fuwch wedi penderfynnu nad oedd hi am roi genedigaeth I’r llo ac yn gwrthod cydweithio.
A minnau bron a rhoi’r gorau I obeithio am gael llo byw, dyma’r fuwch yn penderfynnu gwthio unwaith eto, gan roi genedigeath I lo bach o’r diwedd.
Fe gyrhaeddodd Keith a Vivien I weld buwch a llo yn cyfarwyddo a minnau’n edrych fel fy mod wedi gwneud 12 rownd gyda Lennox Lewis.
Mae’r wyn wedi cael eu dos rhag llyngier a’r defaid wedi cael eu cynffona. Y dasg fawr nesa’ fydd cneifio y mis nesa’. Yn y cyfamser bydd yn rhaid I mi gario ‘mlaen gyda’r sied newydd. Jobyn bach ar gyfer y gaeaf oedd hwnnw ond fel arfer nid yw cynlluniau wedi mynd yn esmwyth yn y Llan. Effallai y byddaf wedi ei orffen erbyn yr erthygl nesaf.
Gareth Llan.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar Ebrill 1af fe newidiodd gwaith y GP. Bydd cleifion yn cael gwell sylw gan fod y meddygon yn cael eu talu yn ol y gwasanaeth y meant yn ei gynnig. Bydd rhai cleifon o cael mwy o sylw gofalus e.e bydd y rhai hynny sy’n dioddef o glefyd y siwgr asthma, neu glefyd y gallon yn cael eu monitor er mwyn ceisio osgoi problemau. Bydd meddygon hefyd yn penderfynnu yn erbyn cynnig ambell I wasanaeth ac fe fydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am hyn.Bydd oriau y tu allan I oriau’r feddygfa hefyd yn cael eu trin gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Gallwch ffonio’r rhif arferol ac fe wnaiff gwasanaeth ffon ddelio a’r alwad. Mae rhai yn poeni am y wasanaeth yma on mae wedi bod yn rhedeg yn Y Waun a rhannau eraill yn llwyddiannus. Mae gan Gymru brinder o dros 200 o feddygon teulu. Wrth geisio gwella gwaith a bywyd meddygon bydd nyrsus a chemist yn gwneud peth o’r gwaith. Bydd hyn yn rhyddhau’r doctoriaid I wneud y gwaith pwysig na all ei wneud gan eraill. Bydd taflenni yn esbonio’r newidiadau ar gael yn y Feddygfa, Optegydd mewn Cemist neu ddeintydd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bydd yr Eisteddfod yn dathlu ei phenblwydd yn 58 oed ym Mis Gorffennaf gyda llu o adloniant a chystadlu gwych fel arfer. Yn ogystal ac artistiaid megis Michael Ball, Aled Jones, a’r Opera Babes byddwn hefyd yn croesawu 20 o ddawnswyr Bretoneg, Kan Breizh a fu yma 2 flynedd yn ol I’r gymuned.Byddant yn awyddus I ail danio hen gyfeillgarwch.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yr ymgeisiwyr ar gyfer yr etholiadau yw –Cyngor Sir
Ddinbych – un lle.
Ymgeiswyr – David
Ellis Jones, Huw Llywelyn Jones, Nigel Paul Roberts, Lyn Silcox, Arthur Mark
Thomas.
Yn rhifyn Mis Mawrth roedd cyfle I’r ymgeiswyr esbonio yr hyn y meant
yn fwriadu ei wneud I helpu Carrog a Llidiart y Parc. Cawsom yr atebion canlynol
:–
“Rwyf yn croesawu’r cyfle I ddweud
wrth bobl Carrog a Llidiart y Parc am yr hyn yr ydwyf wedi ei wneud, ac am ei
wneud I’r gymuned. Bydd
y rhan fwyaf ohonoch yn fy adnabod fel Nigel Llaeth, rydych yn fy ngweld yn
rheolaidd ac yn gwybod fy mod wedi gweithio I’r Gwasanaeth Tan am dros
30 mlynedd. Os byddaf yn cael fy ethol byddaf yn cwffio dros faterion sy’n
bwysig I ni I gyd. Rwyf yn sefyll fel Aelod Annibynnol yn cynrychioli bobl
y gymuned sydd yn fy marn I yn bwysig.
Nigel Paul Roberts.
“Rwyf wedi bod yn byw yng Ngharrog am bron I 20 mlynedd bellach ac wedi bod yn rhedeg busnes insiwrans yng Nghorwen am y rhan fwyaf o’r amser.Rwyf yn gyfarwydd a digwyddiadau lleol a’r bobol sy’n cael eu heffeithio. Mae’r holiadur diweddar wedi dangos fod nifer o achosion sy’n poeni’r gymuned. Diolch I’r rhai a ddychwelodd yr holiaduron.Os ydych am anfon eich holiadur gallwch ei roi drwy’r drws yn ‘Glanaber’, Carrog neu Swyddfa Insiwrans yng Nghorwen.
Rwyf yn addo y byddaf yma I wrando,
I glywed ac I fod ar gael I chi beth bynnag yw eich barn boliticaidd.
Fy mwriad yw I weithio’n galed gyda Cyngor Sir
Ddinbych a’r bobl leol gan ddefnyddio barn leol a synnwyr cyffredin
ar achosion sy’n bwysig I ni. Rwy’n credu y dylai Cynghorwyr fod
yn barod I gynrychioli’r bobl ac nid eu hunain. Rydym I gyd yn talu
trethi, ac felly mae gennym hawl I’n barn, Trwof I fe gewch yr hawl.
Gobeithio yt gwnewch fy nghefnogi yn yr etholiadau lleol a helpu gwneud gwahaniaeth.”
Lynne Silcox
Ni fydd etholiad ar gyfer Cyngor Cymunedol Corwen. Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu hethol yn cynnwysss David Jones a Brynle Hughes.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Alotment ar gael yn Llidiart y Parc ar gyfer unrhyw un lleol. Yn rhad ac am ddim. Ar gyfer tyfu llysiau/cadw ieir y.b.
Cysylltwch a Faye neu Eric Lea ar 4302599
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Fe gynhelir y Carnifal ar Awst 14eg a’I agor gan Bethan Scottford a’I gwr .
Bydd nifer o stondinau, tren bach, castell hwyl a Sioe Llysiau a Ffrwythau gyda gwobrau.
Mwy o fanylion I ddilyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gobeithir cynnal ‘ocsiwn’ elusen yn yr Hydref I godi arian tuag at y Neuadd ag Eglwys Llansanffraid.
Os oes gennych unrhyw ddodrefn, teganau, offerynnau cerdd, lluniau, neu unrhyw beth arall nad ydych yn eu defnyddio, byddwn yn ddiolchgar iawn ohonynt.
Cysylltwch a Paul Fisher ar 430397 a wnaiff drefnu cludiant.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llu o bobl, lluniau wedi’I fframio, a bwyd da. Mae hyn yn golygu un peth – Arddangosfa ‘Carrog Crafters’. Ar yr 21ain o Fai bu plant CA2 yn ymarfer eu dawn greadiogol. Roedd nifer o paentiadau ar werth a gwerthwyd y rhan fwyaf ohonynt. Bu arlunwyr y dyfodol o Bl 6 yn brysur yn gweithio fel- Cadeirydd – Gus Shaw, Is-Gadeirydd – Isobel Cardwell, Trysorydd – Sean Allan, Cyhoeddusrwydd – Lauren Bourne ac Ysgrifennydd – Angharad Roberts.
Bu plant CA2 ar daith I Lerpwl I ymweld a galeri’r Tate a’r Walker a cafodd rhai eu hysbrydoli gan waith a welwyd yno. Agorwyd yr arddangosfa gan Dr Max Gibbs a trefnwyd raffl gan Nia Roberts a gododd £50. Roedd y mynediad am ddim a lluniaeth ysgafn I bawb. Rhoddodd y plant araith a diolch I Daniella a Louisa am eu gwaith.
Lauren Bourne
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bu grwp recorders ac unawdwyr yn cystadlu yng Ngwyl Caer yn ddiweddar Cafwyd marciau uchel a blesiodd yr athrawes recorders, Mrs Mavis Johns.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cig Oen wedi’I Rostio.
2 ddarn gwddf o gig oen oel llysiau
Stwffin – 1 nionyn, 2oz o seleri, 8oz o friwsion bara, 1 wy, 10z o fenyn, pupur a halen.
Grefi – 1oz o flawd, sudd o’r cig, 1 peint o ddwr tatws neu lysiau.
Torrwch y nionyn a’r seleri yn fan.Cymysgwch yr wy. Cymysgwch gynhwysion y stwffin gyda’I gilydd. Tynnwch yr asgwrn tennau o bob darn o gig. Torrwch ar draws pen asgwrn y cig tua 1 a hanner modfedd o’r pen. Tynnwch y brasder ac yna’r cig oddi ar yr asgwrn. Gwniwch y ddau ddarn o gig at eu gilydd fel bo’r esgyrn yn troi tuag allan ac yn ffurfio coron. Sefwch mewn tin rhostio a’I frwsio gyda saim. Gosodwch y stwffin yng nghanol y goron. Gosodwch ffoil coginio drosto I gadw’r stwffin rhag sychu, a’r esgyrn rhag llosgi.Rhostiwch mewn popty (350F neu 177C , marc nwy 4) gan adael 30 I bob pwys. Tua 20 munud cyn diwedd y coginio, tynnwch y ffoil coginio gan adael darn bach dros y stwffrouxin.
Y Grefi – gwnewch allan o’r blawd a’r sudd o’r cig. Rhowch y dwr tatws neu lysiau I mewn gan ei ferwi am 2 I 3 munud.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae argraff gyntaf yn gallu twyllo fel a ddarganfyddais wrth I mi ymweld a pentref bach yng Nghymru. Roedd Alan, fy nhymar gwaith am I mi gyfarfod ei bartner busnes I drafod gwaith . Nid oeddwn wedi bod yng Nghymru ers I mi fod yn blentyn bach. Roeddwn yn cofio mor llwyd charafannau a gwynt.
Roedd yr awyr yn llwyd wrth I ni adael Leeds ond wrth I ni gyrraedd Caer fe gododd y cymylau ac fe wennodd yr haul arnom wrth I ni gyrraedd Carrog ar lanau’r Afon Ddyfrdwy. Cefais y cip olwg cyntaf o Garrog dros yr afon. Clwstwr bach o dai a thafarn, wrth I ni ddod dros y bont.Y tu ol I ni roedd y niwl yn rolio dros y mynyddoedd yn wahanol I’r olygfa o’r man yr oeddem yn mynd I aros. Fe syrthiais mewn cariad a’r hyn o’m cwmpas, y stesio fechan, yr afon yn troelli trwy’r dyffryn a’r heddwch, dim traffic, a’r ffordd yr oedd yr adeiladau’n nythu yn y tir yn union fel eu bod yn ceisio cuddio.
Roeddem yn aros yn Dewis Dyddyn gyda phartner busnes Alan sef Paul, a’I wraig Christine. Yn sydyn roedd gennyf ofn eu cyfarfod, roeddem dair awr yn hwyr, a minnau’n ddieithryn. Nid oedd yn rhaid I mi boeni, cefais groeso fel hen ffrind I’r teulu. Fel Paul a Christine roedd y pentref yn gewnud I ni deimlo ein bod yn ‘perthyn’. Roedd yr amgylchedd yn hudolus. A mynyddoedd o’n cwmpas, a’r niwl yn dod I lawr dim ond y Grouse a fedrodd ein denu allan. Cawsom groeso cynnes, bwyd da a chwmni gwerth chweil. Roedd yn fendigedig cael ymlacio, ac edrych allan ar olygfa hardd a distaw a oedd yn hollol wahanol I fywyd y dinas.
Wrth I mi orwedd yn y gwely yn hwyrach y noson honno, yn gwrando ar yr afon yn rhuthro o dan y bont ac yn sisial rhwng y cerrig roeddwn yn teimlo fel fy mod wedi bod yma o’r blaen. Roeddwn yn ysu am aros ond roedd yn rhaid dychwelyd I’r gwaith. Wrth I mi ysgrifennu’r llythyr yma yn ol yn Leeds meddyliaf am yr amser byr ond bendigedig I mi fod yng Ngharrog, a gobeithiaf gael dychwelyd yn fuan I’r pentref sydd wedi dwyn fy nghalon.
Jayne Ogier. Leeds.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article