statcounter

       

Gorffannef/Awst 2005 July/August


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

* Golygyddol Weli’s a Berfa Tir Yr Eglwys
Anna Culshaw Ysgol Carrog * Tri Chopa
Rhai dyfyniadau o Her y Tri Chopa... Marwolaeth Bu Pobl Manaw Yma
Llongyfarchiadau   Dyddiadur

* Golygyddol

Os na welsoch chi rifyn Gorffennaf o’r Bont, y rheswm am hynny oedd na fuodd yna un! Roedd yr holl olygyddion yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod ac ym musnes y Pentref (gyda Dick Cottage yn ail baentio’r tu allan i’r Neuadd - cymerwch sylw ohoni). Golygai hyn bod ein dedlein mor bell fe benderfynom wneud rhifyn mawr Gorffennaf/Awst. Doedd a wnelo hyn ddim o gwbl a’r ffaith na chafwyd unrhyw ymateb i apêl y mis diwethaf am syniadau ar gyfer y Bont. Felly mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn!

Erbyn hyn fe gwblhawyd her y tri chopa. Llwyddodd rhai o’r Carogwyr i gael amseroedd gwych, ac roedd y tîm hŷn wedi gwella’u hamser hwythau’n arw. Bydd Tŷ Gobaith, hospys plant, yn elwa o’r nawdd ac o’r loteri. Gwneir cyflwyniad yn Bont Bash ym Medi. Mae’r gronfa’n dal ar agor i unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu, mae ym meddiant y Bont.

Rydym yn mentro wrth ofyn hyn, yn enwedig ar ôl yr ymateb i’n hapêl am syniadau’r mis diwethaf, ond tybed fyddai unrhyw un yn gallu awgrymu’r math o adloniant yr hoffent ei gael yn y Bash eleni?

I gloi, bu pobl Manaw yn aros yn y pentref ac yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod. Dyma’r tro cyntaf mewn 59 o flynyddoedd i Grŵp Dawnsio Manaw gymryd rhan, a daethant yn drydydd parchus gan sicrhau y byddant yn ôl eto’r flwyddyn nesaf. Daeth y cerddorion hwythau yn bedwerydd, er i un aelod fod yn absennol.

Y mis yma rydym wedi dewis llun o gysylltiad rhwng Manaw a Charrog. Gwelir yma bump o bobl Carrog yn y Rasys TT yn Ynys Manaw yn gynnar yn y 1950au. Bydd £5 i’r un cyntaf ( ac eithrio’r rhai sydd yn y llun) am enwi bob un sydd yn y llun.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Weli’s a Berfa

Mae cneifio’n waith caled dros ben. Rydw i’n dueddol o’i osgoi cyn hired â phosib yn y gobaith bydd y defaid yn haws eu cneifio yn nes ymlaen.

Gan fod y rhan fwyaf o ddefaid y cymdogion wedi cael torri’u gwalltiau’n fyr, dyma fi’n penderfynu gwneud yr ymdrech i ddechrau arni. Felly aeth Gareth Blondie a finnau i dreulio un prynhawn ddigon didrafferth yn cneifio diadell fechan o ddefaid yng Nghae Pwll. A dweud y gwir, yr hyn a ddigwyddodd oedd bod Blondie wedi casglu’r cae ac wedi gorffen cyn imi gyrraedd, felly fues i’n ei helpio i bacio. Dim ond meddwl y dylwn i sôn roeddwn i.

Yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd byddaf yn gorfod cneifio yn fy nghorlannau yn Erw Seion ac yn cael fy llosgi yn yr haul, ond roedd mwy o le eleni felly mi benderfynais gneifio o dan do. Ar ôl treulio dipyn o amser yn codi corlan yn y sied fe wnes i ddrws ar sbring i gael y mamogiaid allan. Ges i afael ar waelod hen sied gardd i gneifio arno a rhoi siafins coed ( gan Brian Tawelfa) ar y llawr i gadw’r defaid yn lân. Roedd yn edrych yn reit broffesiynol ar y cyfan ac roeddwn ni’n ffyddiog byddai popeth yn mynd yn dda.

Ar ôl gwahanu 50 o famogiaid oddi wrth eu hŵyn mi ddos i â nhw o’u corlannau i’r gadlas heb fawr o drafferth er nad oedden nhw’n ryw hapus iawn o orfod gadael yr wyn ar ôl, ac roedden nhw’n torri’n rhydd i fynd atyn nhw. Erbyn ces i’r defaid i’r sied ac yn barod i gychwyn mi gafodd y cŵn a finnau ddiffyg mawr mewn hiwmor.

Ar ôl cael ail-wynt, mi wisgais i’r mocasins a’r fest gneifio ( rhaid iti edrych y rhan), tynhau’r belt o dwll neu ddau, neidio i’r gorlan a chydio mewn dafad. Mi wnes iddi eistedd, codi’r gwellaif, tynnu’r cortyn a ¡­¡­ddigwyddodd dim byd. Roeddwn wedi anghofio troi’r trydan ymlaen. Unwaith fydda i’n mynd i’r arferiad o gneifio, dydy o ddim yn rhy ddrwg, dim ond mater o arfer sy wedyn.

Cydio mewn dafad, ei chneifio, pitsio, gollwng, lapio’r gwlân ac ailadrodd popeth nes (a) fydd yr holl ddefaid wedi’u cneifio neu (b) rwyt ti wedi syrthio o flinder.

Yr unig broblem mewn gwirionedd ydy - ar ôl clirio rhai o’r corlannau, mae’r drefn yn newid ychydig. Hercian o gwmpas y gorlan mor gyflym â mae dy gefn poenus yn caniat¨¢u a thrio dal dafad gan ei llusgo o gornel bellaf y gorlan lle rwyt ti’n gallu ei dal o’r diwedd. Cneifio, pitsio, gollwng, lapio gwlân, gweddi gyflym a dechrau o’r dechrau eto (mae wylo’n ddewisol). Mae’n dda gen i ddweud fod y cneifio wedi gorffen erbyn hyn, ac ar wahân i ychydig o friwiau ar y bysedd a thwll gwynt newydd yn fy nghlos, fe aeth popeth yn weddol dda.

Es i â’r wyn cyntaf i Gorwen yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn weddol fodlon ar y pris - nes i rywun ddigwydd sôn baswn i wedi gwneud £6 y pen yn fwy yr wythnos gynt!

Pan fydda i’n edrych beth mae’r cymdogion yn ei wneud, mae’n debyg mai fi ydy’r un olaf i orffen popeth bob tro, rhywbeth mae fy ffrindiau wedi bod yn dweud wrthyf ers tro. Pan fydda i wrthi’n trin cynffonnau mae pawb yn dipio a phan fydda i’n dipio mae pawb yn y cynhaeaf. Mae eglurhad digon syml am hyn. Pan fydd pawb arall yn dilyn Amser Haf Prydain mi fydda i’n dilyn amser Llan. Hwyrach ei fod yn arafach nag Amser Haf Prydain, ond cyrraedd rydyn ni yn y diwedd!

Gareth Llan.
(© Gareth Bryan 2005)

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Cais Am Gynllunio - Tir Yr Eglwys

Dosbarthwyd hysbysiad yr wythnos hon yn rhoi gwybod i drigolion ac i sefydliadau yn y pentref y tynnwyd yn ôl y cais am gynllunio ar gyfer chwech o dai ar Dir yr Eglwys. Credwn mai dros dro’n unig y bydd hyn tra bo’r ymgeiswyr yn gofyn am gyngor ynghylch materion yr amgylchedd o ran posibilrwydd llifogydd mewn rhan o’r ardal hon.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Croeso Adref Anna

Oherwydd ei hagwedd gadarnhaol bu cynnydd Anna Culshaw yn eithriadol, a daeth gartref ddydd Sadwrn 16 Gorffennaf i bentref ac i dŷ roedd ei ffrindiau a’i theulu wedi’u haddurno gyda balwnau. Bu’r ferch arbennig a dewr hon yn meddwl am blant eraill yn ystod ei harhosiad yn yr ysbyty gan gyfrannu at gronfa’r Tri Chopa Tŷ Gobaith. Dymunwn wellhad buan a llawn iddi.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Ysgol Carrog

Bu’r holl blant yn cymryd rhan mewn digwyddiad sgipio a drefnwyd gan Geraldine a David Liddy gan godi £5 tuag at Sefydliad y Galon Prydain.

Siaradodd Kate Burgess, Swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych â’r plant ac yna ymwelwyd â’r feithrinfa Eucalyptus leol ble bu’r plant ar daith gyda Marthe Whitehall. Cafodd pob un o’r plant goeden fach i fynd adref. Rhoddodd Samanthe Williams, Swyddog Amgylchedd Sir Ddinbych, sgwrs i’r ysgol am lwybrau troed a’r Cod Cefn Gwlad, ac yna aeth y plant am dro natur o gwmpas y pentref.

Bu aelodau Band Chwyth Corwen yn perfformio mewn cyngerdd ym mhafiliwn y Rhyl gyda phlant eraill o ysgolion lleol.

Mwynhaodd y plant eu hymweliad blynyddol ag Eisteddfod Llangollen gan fynd am daith cwch ar y gamlas. Ar y dydd Gwener, ymwelodd y Grŵp Dawnsio o Ynys Manaw â’r ysgol a dawnsio gyda’r plant. Ar y dydd Mercher, gwisgodd Bethany Smith ei ffrog orau a mynd ar y llwyfan i gyflwyno blodau i Leslie Garret, llywydd y dydd.

Llwyddodd Rachel, Hollie, Jack a Charlotte yn y prawf seiclo. Mwynhaodd yr holl blant a’r rhieni’r haul ar eu dydd mabolgampau blynyddol. Y tîm Coch enillodd eleni. Yn y Gala Nofio yng Nghorwen, enillodd llawer o’r plant dystysgrifau a chafodd Harry Pooler fedal am ennill y ras i fechgyn blwyddyn 6.

Mwynhaodd Disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ddiwrnod o weithgareddau yn Hostel Ieuenctid Llangollen gan gael cyfle i gymryd rhan mewn abseilio, dringo wal ddringo, saethyddiaeth, B.M.X. seiclo a gemau datrys problemau i dimoedd.

Aeth plant y Blynyddoedd Cynnar i Ewephoria gan fwynhau gweld y ci defaid yn gweithio gyda’r mathau gwahanol o ddefaid ar y llwyfan. Yn ôl yr arfer, roedd cynulleidfa dda yng nghyngerdd yr ysgol pan fu’r disgyblion yn dwyn atgofion yn ôl i’r gynulleidfa. Ar ddiwedd y cyngerdd fe gyflwynodd Mr. Huw Griffiths, y Cyfarwyddwr Addysg a benodwyd yn ddiweddar, eiriaduron i 9 disgybl o flwyddyn 6 a gwobr Sgiliau Sylfaenol i’r Pennaeth Bronwen Lebbon. Enillodd yr ysgol y wobr hon am yr eildro. Ar ddiwedd y tymor fe fwynhaodd y plant Ddisgo a pharti a drefnwyd gan rieni disgyblion blwyddyn 6.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* Tri Chopa - y Carogwyr

Roeddwn ym maes parcio Pen-y-Pass erbyn 9.30 a.m. Penderfynodd Iwan Edwards a Barry Wilson (y gyrwyr) eu bod am ddringo. Roeddem yn gwerthfawrogi’u cefnogaeth wrth ddechrau i fyny’r Pyg Track am 10.00 a.m. gan adael y gyrwyr eraill i gael eu brecwast mewn caffi.

Roeddwn wedi bod yn ymarfer y llwybr hwn nifer o weithiau gan lwyddo i gyrraedd ein targed cyntaf, y gamfa ar ben y llethr cyntaf, mewn 20 munud; a’r ail, lle mae llwybr y mwynwyr a’r pyg yn cyfarfod, mewn 55 munud. Roedd y ddringfa i’r copa braidd yn anodd, ond roeddwn wedi cyrraedd erbyn 11.18 a.m. (1 awr 18 munud) gydag ysbryd y tîm yn para’n uchel.

Ar ôl seibiant byr roeddwn yn ei chychwyn hi ar i lawr am 11.28 a.m. gan ennill amser drwy loncian yn araf gan osgoi anafiadau. Ar ein ffordd i lawr aethom heibio’r tîm A oedd ar eu ffordd i fyny. s

Roeddwn wedi cyrraedd y copa cyntaf o fewn dwyawr a 17 munud gan gychwyn am Scafell am 12.30 p.m., a dechrau dringo am 4.55 p.m. Daeth Iwan a Barry efo ni, gan ddringo am y tro cyntaf. Ond bu rhaid iddyn nhw droi’n ôl er mwyn rhoi cymorth i Daz a Hywel ar ôl derbyn y newyddion bod Hywel wedi cael gwrthdrawiad car yn y car a logwyd. Fel y digwyddodd, roedd wedi bacio i mewn i ryw ffos wrth wneud lle i gerbyd oedd yn dod i’w cyfarfod. Ond ni wnaed unrhyw ddifrod i’r car.

Aeth y gweddill ohonom yn ein blaenau o dan beth straen. Er inni redeg o’r blaen nid oeddem wedi rhagweld effaith y gwres a’r ffaith ein bod wedi dringo un mynydd yn barod. Ond roedd yr ysbryd yn frwd ac yn fuan iawn roeddwn yn cerdded yn gyflymach.

Am 6.45 p.m. (1 awr, 50 munud) dyma ni wedi cyrraedd copa’r mynydd mewn amser ychydig yn hirach na’r disgwyl. Dim ond amser i weld yr olygfa a chael ein gwynt oedd cyn disgyn i lawr y mynydd. Roedd yma dirwedd garw i redeg ac roedd gofyn am fynd yn ofalus. Roedd gweld y terfyn yn gwneud inni gyflymu, ac roeddem wedi cyrraedd troed y mynydd am 7.40 p.m., gan gwblhau’r ail gopa mewn 2 awr a 45 munud.

Am fod ei gorff yn brin o ddŵr neu halen, teimlai Huw’n wantan wrth ddisgyn ar y diwedd, ac roedd Andy’n dioddef ychydig oherwydd cramp. Ond ar wahân i hynny, roedd y tîm yn dal mewn ysbryd da.

Gadael Troed Scafell am 7.45 p.m. - nesaf Ben Nevis.

Wrth nesu at Ben Nevis gwelsom ba mor uchel oedd brig y mynydd. Roeddwn yn gobeithio fod digon o nerth wrth gefn gennym i fynd i fyny ac i lawr.

Gan gychwyn o’r hostel ieuenctid am 12.25 p.m., penderfynodd Iwan a Barry unwaith eto eu bod am roi eu cyrff drwy’r rhwystr poen a cherdded i fyny mynydd uchaf Ynysoedd Prydain. Am ei bod yn oer ac yn dywyll, roedd angen gwisgo cotiau am y tro cyntaf a gwisgodd Andy a Chris eu lampau pen (gan edrych y rhan wrth gerdded yn y nos). Gan gychwyn am 12.37 a.m. gadawsom ein gyrwyr Hywel a Daz i gysgu ychydig. O ystyried yr amser roedd hi’n rhyfeddol o olau, gan adael inni weld y llwybr yng ngolau’r lleuad.

Gan gerdded yn bur gyflym, deuthum i’r targed cyntaf pan benderfynodd Huw a Barry ar lethr mwy serth ond byrrach a aeth yn agos at y llyn a throi’n ôl ar ei hun. Ond roedd y rhai a benderfynodd ar y llwybr hirach yn edrych yn llai blinedig wrth i bawb gyfarfod ei gilydd.

Erbyn hyn roedd angen cychwyn ar y rhan igam-ogam, y rhan waethaf o’r holl her efallai. Gallwch ennill gobaith gwag wrth agos¨¢u at frig y mynydd ond gyda thipyn mwy o ffordd i fynd eto mewn gwirionedd.

Cyrhaeddwyd y copa tua 3.20 a.m. (2 awr 43 munud). Am ei bod hi’n ddiwrnod clir roedd yma olygfeydd rhyfeddol, ond byddai’n lle peryglus dros ben mewn cwmwl, ac roedd rhaid inni wybod ein cyfeiriant map drwy’r amser rhag ofn iddi ddod yn niwl. Roedd hi’n oer iawn, ac ar ôl egwyl dyma ni’n cychwyn yn ôl i lawr; roeddwn wedi dysgu yn ystod y dydd ¨C po hiraf yr arhoswch chi, po anoddaf fydd ailddechrau.

Penderfynodd Chris a Barry geisio am amseroedd personol gan redeg i ffwrdd ar eu pennau eu hunain. Dechreuodd Andy, Dan, Iwan a Huw ar y daith hir i lawr wrth eu pwysau eu hunain nes i Dan gyflymu a mynd yn ei flaen. Er mwyn codi calon ei gilydd, penderfynodd y tri arall orffen yr her gyda’i gilydd mewn un grŵp. Ar y ffordd i lawr, aethom heibio’r Tîm A oedd yn dringo’r rhan igam ogam.

Cymerodd Chris a Barry un awr i gyrraedd y gwaelod gan olygu fod Chris wedi cwblhau pob un o’r tri chopa mewn 18awr 12 munud. Cwblhaodd Dan yr her mewn 18awr a 58 munud

Fel grŵp, rhaid inni osod yr amser terfynol ar yr amser y croesodd pawb y llinell, sef 19 awr a 40 munud.

Gorffennodd Tîm A rhyw 2 awr ar ein holau gan roi amser parchus o 20 awr a 58 munud. Roedd hyn yn welliant o 15 munud rhagor 5 mlynedd yn ôl.

(* Y ddau dîm yn mwynhau gwydrau haeddiannol o lemon yn Fort William.)

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Rhai dyfyniadau o Her y Tri Chopa...

Ian Lebbon, “Blydi mynyddoedd!”
Peter Roberts, “Na, Mynyddoedd hardd”
(tua 0500hrs ar Ben Nevis y mynydd olaf.)

~~~~~~~

Eric Lee, “Be ydy’r sŵn crafu?”
Colin Roberts, “Y brêcs”.
Eric Lee, “Pa frêcs?”
Colin Roberts, “Yn union!”
(Wrth i Colin yrru i lawr bwlch serth yn yr Alban)

~~~~~~~~~~

Paul Fisher, “Mae’r badell ffrio gen i. Gan bwy mae’r cyllyll a’r ffyrc?” Yr ateb oedd - Neb. A bu rhaid gwneud brecwast i un ar bymtheg efo cyllell boced.

~~~~~~~~~~

Colin Roberts, “Dwi’n edrych am y fuwch lle droesom i’r chwith". Dyma enghraifft o sgiliau mordwyo unigryw Colin, ond bu inni lwyddo cyrraedd Scafell er hynny.

~~~~~~~~~~~

Steve Davies, “*$%*#uffern, fe gymrodd hwnnw’n rhy hir.” wedi ailadrodd ar droed pob mynydd.

~~~~~~~~~~~

Anthony Davies, “Mae nillad i gyd yn y tŷ a finnau wedi nghloi allan” Anthony’n profi fod yn well iddo gael goriad pan fydd ei chwaer allan.~

~~~~~~~~~~~

Dick Sheasby, “Eich cyflymdra ar gyfartaledd ydy..., eich defnydd o danwydd ar gyfartaledd ydy..., eich amcangyfrif eich amser cyrraedd ydy..., mae gennym o filltiroedd eto.”. Dick yn dangos gydol y daith pan fo ydy mordwywr gorau Carrog, os nad y byd!

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* Priodwyd David a Renate (o’r diwedd) yn Swyddfa Cofrestru Rhuthun gyda nifer fawr o’r Pentref yn bresennol.

* Priodwyd Ben a Sarah ar 4 Mehefin 2005 yn Eglwys y Santes Ffraid, Cilgwri. Cynhaliwyd y neithior briodas yn Neuadd Carrog. Bydd y mis mêl ar ynys Ciprys(Picture caption)

* Priodwyd Paul McGrath a Claire Ventre yn Llansanffraid ar Ddydd Sadwrn 23 Gorffennaf. Cynhaliwyd y neithior briodas yng Nghastell Rhuthun.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Marwolaeth

Adroddwn gyda thristwch am farwolaeth Nesta Karen Williams ar 28 Mai 2005 yn 77 oed. Gadawa Idris ei gwr, a’r plant Nia ac Iwan a’u teuluoedd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Bu Pobl Manaw Yma!

Ni fu’r Llydâwyr yma eleni, ond daeth pobl Manaw yn eu lle.

Yn y llun gwelir Ian Lebbon yn croesawu Grŵp Dawnsio Peree Bane (siacedi gwynion) a’r cyfeilwyr, King Chiaulee, a ddaeth yn drydydd yn yr Adran Ddawns a Goreograffwyd yr Eisteddfod. Enillodd King Chiaulee - grŵp Manawaidd enwog yn eu rhinwedd eu hunain - y drydedd wobr yn yr adran Grwpiau Bach Cerddoriaeth Geltaidd. Roedd y ddau grŵp wedi mwynhau eu profiad yn fawr iawn, a chytunodd pawb mai eu harhosiad yng Ngharrog oedd y profiad gorau oll. Un o’r dawnswyr oedd Quintin Gill, aelod o Senedd Ynys Manaw (the House of Keys), a oedd yn ddiolchgar dros ben i drefnwyr yr Eisteddfod ac yn arbennig i bobl Carrog am yr ymweliad bythgofiadwy.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llongyfarchiadau

Julie Powell Groes Faen ar ennill ei BSc (anrh) mewn Astudiaethau Nyrsio o Brifysgol Stafford.

Samantha Scott a fu’n llwyddiannus yn ei harholiad canu graddfa 4 ym mis Mawrth. Gyda llawer o ddiolch, oddi wrth Mam a Dad. Rydym yn falch eithriadol ohonot ti. X

Jayne Davies ar ei phenodiad yn bennaeth Ysgol Caer Drewyn

David a Iris Jones ar enedigaeth eu hwyr bach

Croeso

I Michael a Susan Lawley a symudodd i Fryn Afon.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Dyddiadur

Dydd Sadwrn 6 Awst Ffair Haf Carrog gyda Brenhines y Carnifal, gemau a stondinau. Bydd yr orymdaith yn gadael yr Orsaf am 1.30 p.m. Os oes unrhyw deganau gan unrhyw un ar gyfer stondin Ysgol Carrog yna gofynnir ichi ffonio Jayne ar 430350.

Hefyd, os oes unrhyw drugareddau gan bobl ar gyfer stondin yr Eglwys ffoniwch 430325

Dydd Sadwrn 17 Medi - Y Bont Bash

Dydd Iau, 22 Medi - noson gosod blodau Llansanffraid yn y Neuadd, mynediad £4 gan gynnwys gwydraid o win.

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd. Noson y 40 degau i ddathlu 60ed pen-blwydd dydd VE a VJ.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.