Ebrill 2004 April
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Argraffiad saith Y daflen newyddion i Garrog a Llidiart y Parc Wel, rydym yn dal I fod yma mewn print ar ol saith mis! Mae’r genhinen Pedr wedi blodeuo o’r diwedd a’r eira wedi mynd Bu dyfrgi yn chwarae yn yr afon Ddyfrdwy ger y bont. Mae’r wyna ar ddarfod a’r charafan gyntaf y gwanwyn wedi dod i’r pentref.
Gobeithio y bydd y Bont yn parhau I fod yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol I’r gymuned. Mae’n bwysig i ni gael eich cyfraniadau a sylwadau sydd, rydym yn siwr, yn cael eu darllen gan ein cynghorwyr. Ers yr rhifyn cyntaf rydym wedi rhoi hanes am, y peryglon ar yr A5, prinder arwyddion yn y pentre, dyfodol siop y pentre ac yn awr mae digwyddiadau difrifol o fandaliaeth. Mae’r ffaith fod lori enfawr wedi croesi hen bont Carrog yn achosi pryder, ond yn fwy fyth fe wnaed pethau yn waeth gan yr hwn a daflodd rhan o’r wal a’r rhwystrau amddiffynol I mewn i’r afon yn hwyr nos Sadwrn. Mae prinder goleuadau ar y bont (cwyn arall!) ac mae’r perygl a achoswyd yn amlwg i unrhyw un.
Mae’n rhaid i ni fel trigolion aros i weld a fydd yr awdurdodau yn penderfynu cau y bont er mwyn ei atgyweirio. Ugain mlynedd yn ol fe atgyweirwyd y bont a cofiwn i hyn beri llawer o drafferth i’r bawb.
Anfonwch eich cyfraniadau i Ian Colin neu Paul. Email editor@ybont.deevalley.com
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Wrth I ni barhau a’n cyfres o’r traethawd a ysgrifennwyd yn y 50au y pwnc y Mis hwn yw Cyflogaeth:
“Ffermio oedd y prif ddiwydiant, arwahan I grefftwyr lleol, megis torrwr cerrig, crudd, cyfrwywr, torrwr llechi, gof, melinwr a theiliwr. Yn 1850 roedd dwy Efail yng Ngharrog. Un yn Llidiart y Parc, ac un yn y ‘Smithy’ sydd gyferbyn a Bronant , a oedd yn cael ei adnabod fel ‘Yr Hen Efail’. Roedd yr Efail yn Llidiart y Parc yn cael ei redeg gan ddau frawd, ac Efail Carrog gan Evan Jones a wnaeth glwydi’r Eglwys gan law. Roedd y rhain yn pwyso hanner tunell. Efe a wnaeth y rheiliau sydd o flaen y tai sy’n rhedeg o’r Capel Methodist hyd at “Sycamore Terrace”. Ar ddiwedd y Ganrif roedd 300 o geffylau ar lyfrau’r Gof.
Roedd y Felin hefyd yn brysur iawn yn y dyddiau yma. Y Felin a Felin Isa. Roedd yr un ‘Mill Race’ yn gweini’r ddau. Teulu o’r enw Price oedd yn rhedeg y Felin. Roeddent yn perthyn I’r teulu Price o Langollen, Maerdy a Chorwen.
Roedd gan Mr Price dri asyn I gario sachau o flawd yn ol I’r ffermydd.Roedd y bechgyn lleol wrth eu bodd yn mynd a’r asyn I’r fferm er mwyn cael reid yn ol ar ei gefn ar ol cludo’r blawd.
Adeg chwyldroadol I’r pentref oedd dyfodiad y tren o gwmpas 1865. Ceffyl a chart, neu drol oedd y prif fodd o drafnidiaeth cyn hyn. Agorwyd Chwarel Pennarth yn 1860 a bu hyd at 300 o fobl yn gweithio yno yn ei anterth. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd Park Terrace, Berwyn Street a Quarry Terrace, Siop y Parc eu hadeiladu yn ogystal a 9 ty yn ymyl y Chwarel. Cafodd y Chwarel ei chau yn 1928.
Man arall o ddiddordeb oedd siop y Teiliwr. David Jones oedd y Teiliwr lleol. Bu’n byw yng Nharchardu (Glyndwr Terrace) yna yn y Swan, ac yna yn Crammond. Roedd dau deiliwr yn gweithio iddo. Fe wnaeth drowses I’r chwarelwyr, y ffermwyr, a’r Cipars. Roedd hefyd yn golchi thrwsio dillad.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ymgais Cynllunio (Rhif 404010)
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cais ar ran Rheilffordd Llangollen a Oparofill Construction Ltd. Ar gyfer y gwaith canlynol - I symud 30,000 medr ciwbig o bridd a gwastraff ffordd o’r hen reilffordd yn Bonnwm, Carrog er mwyn hwyluso gwaith estyniad y Rheilffordd hyds. at Gorwen.
I I symud y gwastraff hwn I dir yr Eglwys, Carrog. (Wrth ochr B5104) I ddyfnder o 2.1 medr. Mae cynnluniau ar gael yn y One Stop shop o’r cyntaf o Ebrill. I godi cyfyngdra pwysau Pont Carrog I 30 tunellgvw er mwyn galluogi cludiant o ddefnyddiau I dir yr Eglwy
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I David ac Iris Jones ar ddathliad eu priodas rhuddem ar dydd Sadwrn Mawrth 20fed yn y Neuadd gyda teulu a ffrindiau.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae nifer o drigolion y pentref wedi bod yn wael a rhai yn yr ysbyty. Dymunwn adferiad buan i chi i gyd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roeddem yn meddwl fod Chris a Paul Fisher yn cael rhyw argyfwng canol oed pan glywsom am eu cynlluniau, gan obeithio y buasai’r holl beth yn chwythu drosodd. Ond na, roedd y ddau wedi cynllunio I werthu eu cartref bendigedig mewn coedwig o Glychau’r Gog yn Ynys Manaw a symud I fyw rhwng capel a thafarn yn Nhir y ddraig a’r cennin.
Beth bynnag, I ffwrdd a nhw are u Safari Celtaidd. Gan ein bod yn poeni amdanynt, roedd yn rhaid derbyn y gwahoddiad I ymweld a’u cartref newydd yng Nhymru. Roeddem yn lawn o breeder am ein ffrindiau wrth I ni hedfan o Ynys Manaw I Lerpwl. Diflannodd yr holl ofidion a oedd gennym yhghylch eu penderfyniad I symud I le a oedd yn fwy hwylus I Paul a’I Fusnes Hyfforddi. Roedd Carrog yn fan hudolus, gyda’I gaeau gwyrdd a’r afon Ddyfrdwy yn sgleinio trwy’r pentref.
Roeddem wedi ein swyno. Roedd fy ngwaed Celtaidd wedi cyffroi ac fe gefais yr un teimlad ar hyn a gefais wrth ymweld a Llydaw am y tro cyntaf. Ond roedd gwell I ddod. Cawsom groeso mawr lle bynnaf I ni fynd. Lle oedd y bobl Gymraeg a ddaeth Ann Robinson are u traws? Yn bendant nid yng Ngharrog! Os oedd unrhyw un yn siarad yn y Gymraeg wrth I ni gyrraedd, troi I’r Saesneg a wnaethant yn syth er ein lles ni. Buom yn chwerthin yn y “Grouse” gyda’r pentrefwyr, ac yn canu yn yr Eglwys gyda’r gynulleidfa. Cefais “Benblwydd Hapus” yn y Gymraeg hefyd ym Mis Medi. Rydym yn ymweld a Charrog yn aml, yn syml gan fod y lle mor hardd. Nid ydym yn poeni am Paul a Christine yn rhagor. Maent ymysg bobl croesawgar ac mewn lle hudolus. Rydym yn gobeithio y bysdd mwy o ymweliadau I Garrog er mwyn I ni ail-gydio mewn cyfeillgarwch y trigolion a rhannu mwy o brofiadau Paul a Christine ar eu taith o Fronnag I Fara Brith.
Christine Bentley, Port St Mary, IOM ( Bonnag yw’r bara traddodiadol yn Ynys Manaw. Rhysait ar y dudalen nesa)
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Gall trigolion lleol deithio ar y rheilffordd gyda Cherdyn Teithio £10 . Rhaid cael llun diweddar a ‘bil’ I’w rhoi I Reilffordd Llangollen. Yr unig gyfyngiad yw’r Santa Special, arwahan I hyn fe allwch deithio am ddim gydol y flwyddyn.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Hunllef Caws
Aydy caws yn achosi hunllefau? Mae hyn yn dibynnu ar y math o gaws a metaboleg y person sy’n ei fwyta. Mae dau fath o gemeg mewn caws, un sy’n effeithio ar yr ymenydd a’r llall yn effeithio ar gwsg. Mae caws aeddfed yn dueddol o achosi breuddwydion cas a hunlle.
Dywed rhai arbennigwyr mai arwydd o anghydfod ywbreuddwydio am gaws. Mae breuddwydio am gaws megis Brie yn arwydd o anghydfod ariannol neu gymdeithasol. Mae breuddwydio am wneud caws yn arwydd o lwyddiant mewn antur newydd!
Arolwg Newydd
Mae ymchwiliad yn y Ffindir (lle mae pobl yn yfed mwy o goffi nag unman arall yn y byd) wedi darganfod fod yfed coffi yn gallu gwarchod rhag Diabetes, math 2 sy’n trawo’r henoed a phlant. Mae yfed tair neu bedair cwpanaid o goffi y dydd yn gallu lleihau’r tebygrwydd o’I ddal. (29% mewn marched a 27% mewn dynion). Roedd yr arolwg yn cynnwys 14,000 o oedolion dros 12oed. Gall Math 2 o Diabetes redeg mewn teuluoedd ac mae bobl sy’n cario gormod o bwysau yn fwy tebygol o ddioddef. Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl, gwnewch apwyntiad gyda’r nyrs.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae tymor pysgota brithyll wedi cychwyn ar y 3ydd o Fawrth ond hyd yn hyn does dim adroddiadau ar gyflwr y dwr neu o unrhyw ddaliadau. Mae lefel yr afon a’r tymheredd wedi newid gryn dipyn yn yr wythnosau diwetha ers y llifogydd ym Mis Chwefror. Ni fydd tymor Salmwn yn cychwyn tan yn hwyrach yn y flwyddyn, gan fod rhediad y Gwanwyn wedi diflannu. Nid dyma’r achos yn y llyfr “Od in Hand” 1954 a ysgrifennwyd gan Charles Hancock, Gohebydd y Birmingham Evening Post. Bu’r awdur yn aros am flynyddoedd yn Penlan ac fe ddaliodd ei Salmwn cyntaf (13 a hanner pwys) o dan Bont Carrog.
Bu hefyd yn y Grouse “I gael gwydriad I fedyddio gwialen bysgota newydd” gan ddychwelyd mewn 15 munud gyda pysgodyn 11 pwys mewn cyflwr da. Fe ddaliodd un arall 15 pwys ar ol te! Mi fuasai’n anodd curo’r 45 a ddaliodd yn 1939 heddiw. Y record o’r Salmwn mwyaf yw gwedillion cawr o bysgodyn 58 modfedd o hyd a gafodd ei ddarganfod ym Mis Mehafin 1954 gan Hwsmon y Bwrdd Afonydd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bonnag Ffrwythau.
2 a hanner cwpan o flawd
1 cwpan o siwgr
1 cwpan o gyraints
1 llwy bwdin o fargarin
1 llwy de o ‘bicarbonate of soda’
1 llwy de fawr o sbeis cymysg
ychydig o rinflas fanila
1 cwpan neu fwy o laeth enwyn
Cymysgwch y blawd a’r menyn. Adiwch y cynhwysion sych. Cymysgwch a’r llaeth enwyn. Craswch am ryw awr mewn popty cymhedrol.
Broth Manx
3 chwart o ddwr
Cig Oen
Darn o gig eidion
1 cwpan o haidd perl
1 moron wedi ei dorri’n fan
1 sleisen o feipen
Parsli, teim seleri
Pupur a Halen
Berwi’r dwr. Rhowch y cynhwysion I gyd arwahan I’r persli I mewn I’r dwr, a’I ferwi’n araf am 2 awr. 10 munud cyn gorffen tynnwch y cig allan a’I dorri I mewn I ddarnau bach gan ei osod yn ol yn y sosban Rhowch y persli I mewn a’I ail ferwi.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Diolch yn fawr I Brian Tawelfa am y Byrddau Hysbysebion newydd sydd yn y Neuadd.
Bydd y Clwb 100 yn tynnu’r rhif cyntaf ar Fai 15fed.
Cefnogwch eich LOTERI lleol os gwelwch yn dda trwy gysylltu a Dave Jones, Tan y Ffordd am docyn, neu cyfrannwch yn rheolaidd trwy gysylltu a Colin Roberts neu Paul Fisher.
Yn anffodus, oherwydd fandaliaeth nid yw toiledau’r dynion I gael ei ddefnyddio. Mae cryn dipyn o ddifrod wedi cael ei wneud I’r toiledau sydd wedi achosi llifogydd. Mae un o’r toiledau wedi cael ei dorri yn ogystal a ffenest a gafodd ei dorri wrth I’r troseddwyr ddianc drwyddo. Rydym wedi bod mewn cysylltiad a’r heddlu a buasem yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth am y rhai a achosodd canoed o bunoedd o ddifrod.
Pwyllgor Neuadd nesaf - 7.30pm - Dydd Llun 5ed o Ebrill. Cofiwch logi’r Neuadd trwy Janice Sheasby.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae angen cymorth ar gyfer y Carnifal os yw am ddal I fynd. Llwyddodd Pwyllgor y Carnifal I godi arian at nifer o achosion ac elusenau y flwyddyn diwethaf a oedd o fudd I‘r gymuned. Bydd y Carnifal yn cael ei gynnal ar Awst 14eg eleni, sy’n swnio‘n bell I ffwrdd ond mae angen help arnom RWAN er mwyn cwblhau’r cynlluniau. Os ydych yn fodlon helpu cysylltwch a Sarah yn y Grouse neu Nia ar 430325.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
I Fiona Collins sydd wedi dod I fyw yn Ty Cynnes. Storiwr yw Fiona sydd wedi diddori ymwelwyr yng Nghastell Caernarfon a sydd yn ymweld ag ysgolion gan gyflwyno storiau o’r Mabinogi.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Clwb Hwyl Dydd Sadwrn (Ar gyfer plant 14 ac iau)
Ar ol dechrau bendigedig, mae’r Clwb Sadwrn yn parhau I ffynnu a nifer fawr o blant yn mynychu’r sesiynau. Mae’n ofynnol I chi adael I’r Clwb wybod os yw eich plant am fynychu er mwyn nodi’r nifer.
Ffoniwch 01490 430571. Bydd posteri yn hysbysebu gweithgareddau’r Clwb o gwmpas y pentref yn wythnosol.
Dyddiadur y Clwb
Dim Clwb ar y 3ydd a’r 10fed o Ebrill oherwydd fod y Neuadd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau eraill, a Gwyliau’r Pasg.
Bydd y Clwb yn ail-ddechrau ar y 17eg o Ebrill gyda sesiwn dawns I blant hyd at 7 oed, a crefft a chwaraeon I’r rhai dros 7. Bydd canu a sesiwn stori ar y bore hwn yn ogystal.
Ebrill 24ain - Dawns Lladin ar gyfer 7+ gyda athro dawns proffesiynnol. Bydd hefyd weithgareddau beicio, crefft a sesiwn Byw yn Iach gyda Ann Morris, Ymwelydd Iechyd.
Mai 1af - Crefft, ffotograffiaeth a chwaraeon.
Mai 8fed - Crefft, beicio a chwaraeon.
Mai 15fed - Dim Clwb oherwydd ymweliad Plouye.
Mai 22ain - Sesiwn Fawr I’w drefnu, a’I hysbysebu.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Lefel ‘BROADBAND’ Wedi Ei Gyrraedd
O ganlyniad I’r ymgyrch diweddar mae 120 o bobl o Garrog, Glyndyfrdwy a Llidiart y Parc wedi rhoi eu manylion ar gyfer trosglwyddiad BT A Broadband. Mae hyn yn golygu y byddwn yn medru cael Broadband er nad yw’r dyddiad wedi ei benderfynnu hyd yn hyn. Llongyfarchiadau I Steven Fox sydd wedi body n weithgar iawn yn ystod yr ymgyrch. I Bob Barton, Cynghorydd Sir a argraffodd y Posteri ac a fu’n hel gwobrau raffl. Diolch I’r Grouse, Y Berwyn, Dave Butcher, Siop Carrog a Glyndyfrdwy am y gwobrau, ac I Ysgol Carrog a Glyndyfrdwy am eu cymorth.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cafodd Blwyddyn 5 & 6, Bronwen Lebbon a Tina Lloyd dri diwrnod wrth eu bodd yng Ngwersyll yr Urdd Glanllyn, Y Bala. Cafodd pawb hwyl yn hwylio ar Lyn Tegid a Dawnsio Llinell ymysg llawer o weithgareddau eraill.
Bu plant Cyfnod Allweddol 2 ar daith I Lerpwl ar Ddydd Gwener Mawrth 12fed er gwaetha’r tywydd. Bu’r criw yng Ngaleri’r ‘Tate’ a’r ‘Walker’ cyn mwynhau cinio yng Nghaffi ‘Est,Est,Est’. Roedd y daith yn rhan o brosiect Celf Daniella Hughes. Cafodd Daniella grant Mileniwm ar gyfer cwblhau’r prosiect.
Llongyfarchiadau I’r ddau grwp o Ysgol Carrog a ddaeth yn gydradd Gyntaf mewn cystadleuaeth Tap Sain.
Hoffem ddymuno adferiad buan I Mr Paul Johns, Gwyddelwern. Rydym yn filch fod Mrs Johns yn parhau I ddod I Ysgol Carrog I roi gwersi recorder yn wythnosol.
Yn Eisteddfod yr Urdd, Llangollen yn ddiweddar cafodd yr Ysgol nifer o dystysgrifau am gystadleuthau llwyfan a Chelf a Chrefft. Lwc dda I Eleanor a Molly a fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn Llanelwy.
Gwasanaeth Y Pasg - Ebrill 2il am 2.30 y.p. yn yr Eglwys.
Mae plant Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn derbyn hyfforddiant Rygbi’r Ddraig gan Anthony Davies sy’n gyn ddisgybl. Mae Anthony ar hyn o bryd yn NEWI yn Wrecsam yn dilyn cwrs Gwyddoniaeth Addysg Gorfforol. Buodd y plant mewn twrnament Rygbi yng Nghorwen ar Ddydd Gwener 26ain o Fawrth.
Llongyfarchiadau I Charlotte Davies sydd hefyd yn gydddisgybl ar ei llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd yn Ruthun. Bydd Charlotte yn cynrychioli Ysgol Dinas Bran yn yr Eisteddfod yn Sir Fon.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cafwyd cyfarfod gan Bwyllgor Efeillio Carrog a Plouye ar y 15fed o Fawrth I barhau gyda‘r trefniadau ar gyfer yr hyn sydd yn mynd I fod yn benwythnos brysur iawn. Bydd digon o gyfle I gyfarfod ein ymwelwyr dros y penwythnos. Ceir mwy o fanylion am ddigwyddiadau’r ymweliad yn y Rhifyn nesaf.
Cyfarfod Pwyllgor nesaf, Dydd Mawrth 20fed o Ebrill am 7 o‘r gloch.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mawrth 2004
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article