Mai 2004 May
This page contains all the articles in the
issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table
below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have
been removed.
If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.
* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file
Golygyddol | Hen Garrog | Pont Garrog |
Criced | Weli’s a Berfa | Finance |
Efeillio / Plouyé | Ysgol Carrog | Neuadd |
Etholiadau | Llongyfarchiadau | Llythyrau |
Dyddiadur |
Wel dyma ni gyda rhifyn wyth ac yn symud yn agosach at Mis Mai. Y Mis a fydd yn dangos frwyth ein gwaith ar gyfer efeillio a Plouyé. Mae erthygl yn amlinellu trefniadau ar gyfer y penwythnos yn y rhifynhwn. Penwythnos I’r holl bentref yw hwn a gobeithiwn y bydd llawer ohonoch yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Mae efeillio gyda cymunedc arall yn weithred anffurfiol, ond gyda llawer o fanteision yn cynnwys dysgu sut mae cymunedau tebyg yn byw. Mae’n anarferol I gymuned mor fach a ni ymgymryd ag efeillio ond mae Plouyé wedi gofyn I ni wneud hyn o ganlyniad I’r lletygarwch y meant wedi ei dderbyn yma dros y blynyddoedd. Gobeithio y gallwch adeiladu ar yr ymweliad yma a threfnu ymweliad I Lydaw yn y dyfodol agos lle bydd croeso I bawb.
Bu I’n Ffwl Ebrill weithio yn rhy dda! I ddechrau fe dwyllodd un o’n tim golygyddol ac yna nifer o’r gymuned. Teimlwn y dylem ymddiheuro am achosi pryder. Roedd ambell un yn poeni ddigon I fod eisiau cychwyn protest, ond yn barod I chwerthin ar ol deall mai Ffwl Ebrill oedd y cyfan. Dylem hefyd son am Staff y One stop Shop a fu’n brysur yn dilyn ymholiadau. Diolch am hynny, ond gwyliwch Mis Ebrill nesaf! Mae’r siop a’r bont yn parhau I achosi pryder yn y pentref. Mae gennym lythyr yhglyn a’r siop, ac mae llawer yn poeni am y bont gan ei fod yn debygol y bydd yn rhaid i Garrog a Llidiart y Parc gael eu gwahanu am yr ail waith mewn ugain mlynedd a ninnau wedi adeiladu pont gyda Llydaw!
Mae’r heddlu yn dal ar drywydd y difrod a gafwyd I’r Neuadd. Mae’r gost yn llai na’r hyn a feddyliwyd gan I York Carpets ddod I’r Neudd Ddydd Sul I gyweieio’r llawr am bris da. Fodd bynnag roedd yn rhaid cael ‘cistern’ newydd I’r toiled. Rydym yn aros am bris I gyweirio’r ffenest.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Dyma ddarn olaf traethawd y 50au, a’r pwnc y Mis hwn yw tyfiant y Pentref.
“Rhwng 1895 a 1905 fe godwyd nifer o adeiladau . Adeiladwyd Capel y Bedyddwyr, gan symud o Tancapel (Swan Cottages). Yn 1898 fe adeiladwyd Disgwylfa a Gorffwysfa Disgwylfa y drws nesaf I’r Capel Methodist ar gyfer y Gweinidog a Gorffwysfa ar gyfer Mr Edward Jones, Siop y Parc. Cost y ddau oedd £635. Yna fe adeiladwyd Pengwern, Fronheulog, Llanerch, Minffordd a Trem Afon, Cadogan, Crammond a’r Swyddfa Bost, a oedd arfer a bod yn Dewis Dyddyn ac yn gwerthu papurau newydd. Yn hwyrach ymlaen fe adeiladwyd Ty Coch (Berwyn Lodge) tua 1904/5 a Gwylfa Terrace, Capel Beulah a Tai Teg.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’r Cyngor wedi derbyn amcangyfrif ar gyfer adnewyddu’r bont ac yn trafod y mater gyda CADW oherwydd pwysigrwydd hanesyddol y bont. Mae’n debyg y bydd y bont ar gau am ychydig o ddyddiau I gerbydau ond nid I gerddwyr, tra mae’r gwaith yn cael ei wneud. Dylid rhoi arwyddion wrht y Stesion ac wrth y Neuadd fel bo cerbydau yn gallu troi. Ni allwn ddisgwyl I yrrwyr sydd wedi cyrraedd y bont gan nad oes arwyddion priodol I yrru’n ol yr holl ffordd. A beth am leihau’r cyfyngiad I 7.5 tunell gvw? A symud yr arwyddion hyll oddiar bont hardd sy’n cael ei ffotograffio a’I pheintio’n gyson.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Yn y gorffennol roedd gan Carrog a Llidiart y Parc dim criced o dan gapteiniaeth Dennis Wyn Jones. Er fod y tim hwnnw wedi chwalu mae diddordeb mewn gem gyda chwaraewyr o dim Corwen. Mae hyn yn cynnwys chwaraerwyr o bob oedran bu Michael Jones, 58 o Garrog yn batio yng Nghorwen yn ddiweddar!. Nid yw’r sgor wedi ei gadarnhau eto ond mae pawb yn y Grouse a oedd yn amau ei dalentau wedi talu eu harian ar gyfer Hope House.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Rywdro tua diwedd Mis Chwefror cefais fy neffro gan swn a roddodd gryndod I mi. Roedd oen cyntaf 2004 Llan Farm wedi cael ei eni, a’I fam wedi ei wrthod gan ddychwelyd yn ddi-niwed at y praidd. Fe ddwedais bader sydyn gan geisio adunaid rhyngddynt, ond dal I’w wrthod a wna’r fam wythnos yn ddiweddarach.
Tra ynghanol yr wyna fe benderfynnodd rhywun o Wasanaeth y Cyngor alw heibio I wneud cyfrif swyddogol o’r defaid. Er ei fod yn ddyn ffeind a fod y defaid I gyd yno roedd yn gur pen y gallwn fod wedi gwneud hebddo.
Ar y cyfan fe aeth yr wyna yn iawn. Diolch I’r rhai a ffoniodd I adael I mi wybod am oen mewn trafferth rwyf yn gwerthfawrogi eich cymorth. Gyda’r domen daily n mynd yn agosach at y ffordd bob dydd, fe benderfynnais ei chwalu ar y caeau, ond cefais dipyn o starch. Daeth Arwel Bach I lawr, ac ar ol dyddiau o geisio osgoi’r glaw fe lwyddodd I chwalu’r cyfan.
Gan fod y tywydd yn sych, penderfynnais rdroi teirw allan ar Y Ddol, wrth y Grouse. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, death y glaw mawr ac fe drodd y tywydd yn oer, er gwaethaf golygon y tywydd.
Mae’n debyg fod digon o wair nes I bopeth adael y siediau, ond y cwestiwn mawr yw pryd fydd hynny?
Mae’r gwartheg ar fin dod a lloi dros yr wythnosau nesaf, felly diffyg cwsg unwaith eto. Os oes unrhyw un sy’n cael trafferth cysgu yng Ngharrog ac yn mwynhau tipyn o “Tug of War” cysylltwch a mi.
Gareth Llan.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Blwyddyn dreth newydd, a chyfrif cynilo unigol newydd (ISA). Ond sut mae dewis yr un iawn? Gall hyn fod yn ddewisiad anodd gan fod cymaint o rai gwahanol. Rydym wedi nodi pwyntiau I’ch helpu wrth wneud penderfyniad.
1.PERFFORMIAD GORFFENNOL
Nid yw perfformiad
yn y gorffennol o angenrheidrwydd yn golygu perfformiad da yn y dyfodol. Er
enghraifft, ar ddechrau 2000 fe fuddsoddodd nifer o bobl arian gyda cwmniau
technoleg a oedd wedi enill swm mawr dros y dair blynedd blaenorol.Fodd bynnag,
roedd cwymp mawr yn 2000. Ond peidiwch ac anwybyddu perfformiad gorffennol
yn gyfan gwbl.
2.PERYGLON
Mae
rhai cronfaoedd yn fwy anwadal nag eraill, mewn gair meant yn cario mwy o
berygl o golli arian. Wrth I chi drafod buddsoddi gyda Cynghorydd Ariannol
gwnewch yn siwr eich body n hapus gyda lefel y peryglon.
3.CWESTIYNNAU I’W GOFYN
Gofynnwch
I’r cynghorydd os yw rheolwr y cwmni yn buddsoddi ei arian ei hyn gyda’r
cwmni. Nid yw hyn yn sicrhau perfformiad da ond fe all sicrhau ymrwymiad.
4.PORTFFOLIO
Dylai
buddsoddwyr gysidro gwneud portfolio gyda nifer o gronfaoedd sy’n cynnwys
cymysgedd o feddiannau e.e. Rhwymau, ac eiddo. Mae’n gwneud synnwyr I rhannu’r
arian fel nad ydych yn debygol o golli swm mawr ar unwaith.
If you have any questions
e-mail us at office@hlfinancial-ifa.co.uk phone
01978 860897
or send your letters to the address below.
Article
supplied by
H.L. Financial Consultants. Unit 9, The Malthouse, Regent Street,
Llangollen, LL20 8HS.
H.L. Financial consultants is an appointed representative
of Berkeley Independent Advisers Ltd.
which is authorised and regulated
by the Financial Services Authority
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar benwythnos Mai 14/16eg bydd Carrog a Llidiart y Parc yn efeillio’n swyddogol gyda Plouyé yn Llydaw. Bydd 10 o drigolion Plouyé yn cynnwys y maer, M. le Guern yn aros yn y pentref dros y penwythnos. Mae Plouyé yn gymuned ddwyieithog (Ffrengig/Llydaweg) sydd yn debyg o ran maint I Garrog/Parc a chanddi Eglwys ac Ysgol a tair tafarn (un ohonynt yn siop hefyd !!!). Bydd y penwythnos yn gyfle I ni gymharu diwylliant an ffordd o fyw.
Dyma amlinelliad o weithgareddau’’r penwythnos:
Gwener
Mai 14eg Derbyniad swyddogol yn y Neuadd am 2 or gloch. Bydd croeso
I holl drigolion Carrog a’u ffrindiau. Bydd adloniant gan blant yr ysgol a
bydd papurau swyddogol yr efeillio yn cael eu harwyddo yn Gymraeg, Llydaweg,
Saesneg a Ffrangeg, gan W. R. Webb a Maer Plouyé.
Bydd Cor Meibion Glyndwr a delynores yn gyfrifol am yr adloniant o 6.30 y.h. a bydd bar a bwffet ar gael gan y Grouse. Ar Ddydd Sadwrn 15fed o Fai bydd ein ymwelwyr yn ymuno a ni am “Hog Roast” a Thonic gyda cherddoriaeth gan ddeuawd lleol adnabyddus, Tonic, a’r mochyn gan Dai Butch. Yn ogystal a hyn bydd ein ymwelwyr yn mynd ar deithiau yn cynnwys taith I Langollen (gan gwrteisi Rheilffordd Llangollen) ac ymweliad I Ewephoria a fydd yn ddiddorol gan fod Plouyé mewn ardal lle mae ffensys a defaid yn bethau estron.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae “Carrog Crafters” wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer yr arddangosfa ar nos Wener Mai 21ain. Mae croeso i bawb i’r Neuadd am 7 o’r gloch gyda lluniaeth ysgafn. Cafodd Eleanor Sansom gyntaf yn yr Eisteddfod yn Llanelwy, a bydd yn mynd ymlaen i’r Eisteddfod yn Sir Fon. Roedd balwnau a baneri yn hedfan i ddathlu penblwydd arbennig Mrs Jones.
Mae’r Ysgol wedi croesawu 5 o blant rhan amser 3 oed. Mae Francis, Megan, Osian, Sam, Maddie yn setlo’n dda. Pob lwc i Molly Bourne, Charlotte Roberts a Sioned Roberts sydd wedi ymuno a Band Chwythbrennau Ieuenctid yng Nghorwen.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae Ystad Rhagatt wedi cyflwyno piano Yamaha I’r Neuadd sydd yn ychwanegiad gwerthfawr. Yn y cyfarfod diwethaf fe gytunwyd I ofyn I Mr. Brynle Hughes I wneud tipyn o fan adgyweirio I do’r Neuadd ac I adnewyddu’r gwteri wrth gefn y Neuadd. Mae’r difrod a gafwyd ar ol y fandaliaeth wedi ei drwsio ond hyd yn hyd nid oes unrhyw newydd am y rhai a achosodd y difrod er mwyn I ni allu gofyn am iawndal. Byddwn yn tynnu rhif cyntaf y Clwb 100 y Mis nesaf.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Etholiadau’r Cyngor a’r Gymuned
Ar Fehefin 10fed bydd etholiadau ar gyfer aelodau Sirol Cyngor a Chymuned Ewropiaidd. Nid yw yn bolisi gennym I basio barn boliticaidd ond mae gofyn I enau fod I mewn erbyn Dydd Iau 13eg o Fai. Rydym yn gofyn fodd bynnag I’r ymgeiswyr adael I ni fel cymdeithas wybod eu bwriad, a’r hyn sydd ganddynt ar y gweill I Garrog/Parc os ydynt yn cael eu hetholi. Rydym hefyd yn cynnwys y rhai nad ydynt yn byw yn y gymuned os sydd am ein cynrychioli. Byddwn yn printio’r sylwadau hyn yn y rhifyn nesaf er mwyn rhoi cymorth I chi fel pleidleiswyr I benderfynnu. Rydym wedi son am nifer o achosion pentrefol yn ystod y misoedd diwethaf a bydd yn ddiddorol gweld pwy fydd yn fodlon wynebu’r problemau hyn. Bydd y Cynghorydd Rhys Webb yn ymddeoli ar ol blynyddoedd maith o wasanaeth I’r Llywodraeth Lleol Mae wedi bod yn ffyddlon I’r gymuned ac I’r Cyngor l leol fel Cynghorydd Annibynnol am 46 mlynedd, yn ogystal a bod yn Gadeirydd Llywodraethwr yr ysgol ac yn aelod o bwyllgorau di-ri.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llongyfarchiadau I Emma Simpson o Llidiart y Parc ar enedigaeth merch fach, Caitlin, a bwysodd 6 pwys 6 owns ar 10fed o Ebrill.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Siop Carrog
Annwyl Olygydd,
Rwyf yn gofidio fod Siop Carrog
wedi cau, a’r effaith y mae hyn yn mynd I gael
ar y gymuned, yn ogystal a’r argraff y bydd yn ei roi I ymwelwyr. Tair mlynedd
yn ol roedd gan Garrog Siop a swyddfa Bost a oedd yn ffynnu a does dim rheswm
pam na all hyn fodoli unwaith eto yn y dwylo iawn. Mae hanfodol I unrhyw fentr
fedru cynnig gwasanaeth na geir mewn archfarchnadoedd. Mae digon o sgop yma
I gynnig cynnyrch lleol I bobl y pentref ac I ymwelwyr yn dymhorol. Mae gan
Jane a minnau diddordeb mewn agor Siop Gymunedol, sydd yn cael ei redeg gan
bobl lleol yn wirfoddol ac yn cynnig mwy na chynnyrch ond lle I fobl gyfarfod,
ffotogopio, I “shredio” llythyrau wast y.b yn ogystal a gwerthu bwyd fres
ac eitemau hanfodol (glo, matsys y.b) Rydym ar ddeall y bydd Siop Carrog ar
gael o Fis Gorffennaf ymlaen ac felly mae gofyn dechrau cynllunio nawr. Cysylltwch
a Jane ar 01678 520400 os ydych am roi cymorth I ni gael Siop Carrog ar agor
unwaith eto.
John Legg
Berwyn House.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
1af 15fed o Fai Arddangosiad o ddarluniau Ed Fisher yn Llyfrgell Llangollen.
14eg o Fai Derbyniad Efeillio gyda Cor Meibion Glyndwr I ddilyn yn rhad ac am ddim.
15fed o Fai Hog Roast gyda adloniant gan Tonic. Tocynnau £5 yn y Neuadd.
Eglwys Carrog Noson Goffi Iau, 27ain o Fai yn GreenAcres. Mwy o fanylion ar bosteri yn nes at yr amser.
Gwasanaethau Eglwys ym Mis Mai
2il 9.30 Cymun
9fed 11.00 - Gweddi Foreuol
16eg - 11.00 Cymun
23ain 11.00 Gweddi Foreuol
27ain Noson Goffi 7.00
30ain 9.30 Cymun
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article