statcounter

       

Hydref 2005 October


This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Weli’s a Berfa Ysgol Carrog
* Efeillio / Plouyé Noson y Pedwardehau Anna Culshaw
Iechyd Carrog Merched y Wawr
Da Iawn Loteri Neuadd Idwal Pritchard
Marwolaethau Doris Powell Jones Douglas Grenville Teague

THIS MONTHS EDITION IS SPONSORED BY A. W. DOLBEN - PARC SERVICE STATION

GOLYGYDDOL

Fel y gallwch weld does dim llawer iawn o le ar gyfer y Golygyddol y mis yma, felly dyma grybwyll un neu ddau o bethau’n fyr. I ddechrau, diolch ichi am gefnogi “Y Bont Bash”, gwelir y swm a godwyd a’n cyfrifon yn y rhifyn hwn. Yn ail, nid yw’r terfyn cyflymdra 40 milltir - yr - awr yn y Parc wedi gwella’r gyrru di-ofal, fel y tystia’r wal a chwalwyd. Yn drydydd, rydym wedi cychwyn adran rhagrybuddio, felly os oes gennych unrhyw ddigwyddiad neu gyfarfod yna rhowch wybod inni, ni waeth pa mor bell i’r dyfodol y bo. Yn bedwerydd, i’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â “StarTrek”, ymddiheurwn os na ddealloch y rhannau blaenorol o hanes y 3 Chopa. Y newyddion da yw fod y rhan olaf yn y rhifyn hwn.

Hefyd, mae yma adroddiad o’r ymweliad gefeillio â Plouyé. Hoffwn atgoffa pawb mai cynllun ar gyfer yr holl bentref yw hwn a bod croeso i bob aelod o’r gymuned gymryd rhan ynddo.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

WELI’S A BERFA

Mae Henson ifanc yn tyfu’n gyflym ac mae’r hyfforddi wedi cychwyn o ddifrif. Mae fy marn i ohono’n newid o ddydd i ddydd yn ôl ei ymddygiad. Er enghraifft, ddydd Llun llwyddodd i gasglu’r hyrddod yn Erw Seion a’u cael nhw i’r corlannau heb unrhyw help. Roedd o wedi gwneud gymaint o argraff arna i dyma fi’n dweud wrth bawb oedd yn fodlon gwrando pa mor dda oedd o. Ond yn ddiweddarach yr wythnos honno dyma fo’n ôl yn fachgen drwg eto gan redeg ar ôl ŵyn tew o’r tŷ i’r Felin ac i Groes Faen. Doeddwn innau ddim mor frwd am ei botensial wedyn. Yn ffodus, roedd Vivian a Ruth o gwmpas ac roedden nhw’n gallu stopio’r ŵyn cyn iddyn nhw ddiflannu dros y gorwel. Doedd Henson a finnau ddim yn siarad am ychydig o ddiwrnodiau ar ôl y trychineb hwnnw.

Gan fod y cylch ffermio ar fin cychwyn eto, rydw i wedi bod wrthi’n didoli’r mamogiaid a’u cael yn barod i’r hyrddod. Dewisais yr hen rai i’w gwerthu a rhannu’r lleill yn grwpiau cyfleus. Dau ddiwrnod wedyn dyma fi’n gwneud hyn i gyd eto am fod rhywun wedi gadael yr holl giatiau ar agor a’r defaid wedi penderfynu ail-gyfarfod a’i gilydd.

Doedd pethau fawr gwell efo’r hyrddod chwaith. Dydyn nhw’n gwneud dim o gwbl drwy’r flwyddyn a heb fod yn broblem o gwbl, a phan ddaw’r amser pan wyt ti eisiau nhw maen nhw’n dechrau bod yn drafferthus. Dwi wedi bod yn cadw hen ddafad gyda’r hyrddod, mae’n gyfleus i gadw llygad arni. Penderfynodd dau o’r bechgyn bod hon ym myd y defaid yn cyfateb i Catherine Zeta Jones, Catherine Jenkins a Charlotte Church i gyd yn un. Cawson nhw dipyn o ffrae dros bwy oedd i ennill ei ffafrau ac ar ôl curo’i gilydd yn ddidrugardedd roedd un hwrdd yn cerdded fel Zebedee a’r llall yn edrych fel yr Elephant man. Yn y cyfamser roedd yr hen ddafad wedi diflannu’n ddistaw a welodd neb mohoni wedyn.

Dwi wedi bod yn gwerthu ŵyn drwy’r haf, ac i lawr i’r cant diwethaf rŵan. Roeddwn yn weddol fodlon efo’r prisiau gefais i, nes imi edrych ar rai o gyfrifon Taid a gweld ei fod o wedi cael mwy am ei ŵyn ar ddiwedd y 70au na rydw i’n cael rŵan. Dwi wedi rhoi’r papurau i gyd allan o’r golwg ymhen tywyllaf y tŷ, byddai darllen mwy yn fy ngwneud i’n reit ddigalon.

Bob blwyddyn, mi fydda i’n gwneud ychydig o ffensio i gadw ar ben y gwaith. Roedd y gwair yn y sied a finnau wedi gorffen chwistrellu’r rhedyn felly dyma fi’n penderfynu gwneud darn o ffens - mi wnaeth y gwaith fy narn ladd i. Roedd y tir yn sych a doeddwn i ddim yn gallu dyrnu’r pyst i mewn gan bron dorri fy nghefn yn yr ymdrech. Yn y diwedd mi dorrais i’r ordd. Mi fuaswn i’n ystyried cyflogi contractwr ond mae hynny’n golygu talu a byddai hynny’n torri nghalon i. Penderfynais ddyfalbarhau.

Os wnaiff hi ddal i fwrw glaw a’r tir yn meddalu, hwyrach bydda i wedi gorffen cyn y Nadolig.

Gareth Llan.
© Copyright Gareth Bryan 2005

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

PEIDIWCH AG ANGHOFIO 12 TACHWEDD 2005

Cynhelir Noson y 40au yn y Neuadd i gofio am 60ain pen-blwydd diwedd yr Ail Ryfel Byd. Bydd band o ansawdd uchel i’n difyrru gyda’r addewid o luniaeth sy’n nodweddiadol o’r cyfnod, felly os rydych yn hoffi cerddoriaeth dda a Spam Fritters yna hon fydd noson orau’r flwyddyn ichi. Yn ôl y sôn, efallai bydd teyrnged i Dad’s Army, cynhelir clyweliadau ar gyfer rhannau Spike, Godfrey a Capt Mainwering! Byddwn yn eich atgoffa. Gadewch inni wneud hon yn noson i’w chofio.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

YSGOL CARROG

Cychwynnodd y tymor newydd yn weithgar dros ben! Bu’r holl blant iau yn mwynhau cyngerdd ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen gan “Mabon”, sy’n grŵp â chysylltiadau â Charrog gan fod dau o’u cerddorion wedi cefnogi’r grŵp Manaw a fu’n aros yma ddwywaith yn ystod y misoedd diwethaf.

Yn rhan o’u cywaith Hanes, cerddodd y plant i fyny i Fryn Owain Glyndŵr a chawsant eu hannog i ddefnyddio’u dychymyg a mynd yn ôl mewn amser dros 600 o flynyddoedd. Roedd aelod o’r gymdeithas sy’n cyflwyno’r gorffennol - sy’n un o’r rhieni hefyd- yn aros amdanom wedi’i wisgo mewn gwisg draddodiadol.

Dathlwyd Diwrnod Llyfrau’r Byd drwy wisgo i fyny yn anifeiliaid ac adrodd storļau a cherddi am anifeiliaid ac anifeiliaid mytholegol.

Bu’r disgyblion yn casglu arian ar gyfer Macmillan Nurses drwy wisgo’u gwalltiau’n waci.

Mae’r disgyblion a’r staff yn falch iawn fod Emyr, gŵr Anti Yvonne, yn gwella ar ôl ei ddamwain ddiweddar. Penderfynodd y bydd yn cadw’n ddigon pell oddi wrth ysgolion a thanau ac ni fydd yn mynd yn ddyn tân rŵan.

Mae’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn trefnu cyfres o nosweithiau diddorol (am ddim!) yn yr ysgol. Gellir cael mwy o wybodaeth yn Ysgol Carrog, bydd y dyddiadau yn Nyddiadur y Bont.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

EFEILLIO / PLOUYÉ 2005

Cyrhaeddodd dau ar bymtheg ohonom Lydaw o gyfeiriadau gwahanol ar gyfer yr ymweliad efeillio. Daeth deuawd o bibyddion Llydaw i gyfarfod â’r rhai a ddaeth ar Fferi Roscoff , roedd ein gwesteion wedi bod mor feddylgar â’u darparu i chwythu’r we pry cop i ffwrdd ar ôl inni groesi’r sianel.

Dechreuodd y dathlu gyda chinio gydag aelodau o’r Pwyllgor Efeillio Plouyé er mwyn ein cyflwyno i fwyd Llydaw a’n paratoi ar gyfer y penwythnos.

Erbyn hyn ceir Cornel Carrog yn Plouyé, mae hon yn ardal amwynder yn y pentref sydd â Maen Hir yn ei chanol o garreg wenithfaen Llydaw. Roedd ein hymweliad i ddathlu agor y safle’n swyddogol, y llywydd oedd Marcel Le Guern, y maer, Marc Parayre (Llywyd y Pwyllgor Efeillio ) a Rhys Webb yn cynrychioli Carrog. Yn arwydd o’r achlysur cyflwynodd ein dirprwyaeth lechen ac arni eiriau yn y Gymraeg. Bydd hi’n cael ei gosod yn yr ardal maes o law.

Yfwyd llwncdestun i ddyfodol yr efeillio ac yna fe’n difyrrwyd gan fwy o fwyd a dawnsio a thân gwyllt mawreddog.

Ar fore dydd Sul cafodd ein parti gyfle naill ai i fynd i’r Eglwys neu i gael ein tywys am dro hamddenol o gwmpas rhannau hanesyddol y pentref. Cawsom ymweliad â thref gyfagos Pleyben, gyda’i heglwys hynafol a’i hamgueddfa Lydewig. Mae mynyddoedd Llydaw ychydig yn is na rhai Cymru. Dychwelsom i Plouyé dros y mynydd uchaf , Roc Trevezal, sy’n 384 metr o uchder ac yn dro bach hamddenol i Ddringwyr 3 chopa o Garrog, ond mae’n cymharu’n dda â’r Alban am nifer a ffyrnigrwydd y pryfed.

Roedd ein gwesteion wedi rhagweld y byddwn ar ein cythlwng ar ôl diwrnod hir gan baratoi barbiciw ar dir hen gapel adfeiliedig St. Maudez cyn mynd i Ty Elise - tafarndy hynafol Plouyé a gafodd ei redeg ers 25 o flynyddoedd gan Gymro o Ferthyr Tudful!

Yn ôl arwyddair y trip - “Dim cysgu ar y daith” ac “Ewch gyda’r llif” roeddwn i gyd ar ein traed yn gynnar ar ddydd Llun ar gyfer ymweliad â Bragdy Coreff yn Carhaix, ble cawsom daith dywysedig bersonol gan y Cyfarwyddwr Rheoli (a Maer y Dref) a’n hanogodd i flasu’r diodydd gwahanol. Cawsom orffwys ar lan yr afon i fwynhau picnic a baratodd ein gwesteion.

Mae Plouyé yn dal i gynnal ei sioe amaethyddol, yn debyg i un Carrog yn y gorffennol, ac roedd hi’n bleser cael gwahoddiad ar bwyllgor lleol y sioe. Cawsom weld gwartheg Holstein sydd â chynhyrchiad rhyfeddol o lefrith a gwelsom geffylau gwedd oedd yng ngeiriau un o’r parti “yn rhy fawr (1800 Kg.!) i fynd i un o focsys ceffylau Ifor Williams”.

Mae amaethyddiaeth yn cael ei gymryd o ddifrif yn Plouyé ac roedd dau aelod seneddol a gweinidog y Llywodraeth yn mwynhau’r diwrnod ac yn cymysgu mewn tymheredd o dros 30 gradd. Gofynnwyd i Rhys Webb gyflwyno’r tlws am yr anifail gorau yn y sioe. Yn ôl traddodiad, cyflwynir y gwobrau blynyddol mewn cinio mawreddog yn neuadd y pentref. Gwahoddwyd pawb o’n parti ni a chafwyd adloniant byrfyfyr gan y sawl oedd yn gallu cael gafael yn y meic gyntaf. Roedd y wledd yn cynnwys pump cwrs a gwin diderfyn gan roi cyfle inni roi mwy o gyflwyniadau yn ddiolch am yr holl groeso. Yn ei araith o groeso, addawodd llywydd y sioe y byddai holl ffermwyr Plouyé yn ymweld â Charrog, ond roeddent am ddod â’i hanifeiliaid hefyd.

Mae gennym lawer o atgofion melys am ein hymweliad ac rydym yn gobeithio estyn croeso i barti o Plouyé yma’r flwyddyn nesaf.

Cynhelir cyfarfod o Gymdeithas Efeillio Carrog/Llidiart y Parc yn y dyfodol agos, ac estynnir gwahoddiad i bawb.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

NOSON Y PEDWARDEGAU

Oes gennych chi unrhyw femorabilia neu fanion o flynyddoedd y rhyfel? Os oes, yna tybed a fyddech chi’n fodlon rhoi benthyg i ychwanegu at awyrgylch noson Cofio Pedwardegau yr Ail Ryfel Byd ar 12 Tachwedd.

Gofynnir ichi gysylltu â Janice Sheasby neu ag unrhyw aelod o Bwyllgor y Neuadd os oes unrhyw beth gennych rydych chi’n fodlon ei roi ar fenthyg.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

ANNA CULSHAW

Mae Anna’n dal i wella. Aeth am wyliau byr i lan y môr gyda’i Nain a’i Thaid yn ddiweddar. Mae ganddi ychydig o fisoedd eto cyn dychwelyd i’r ysgol, ac mae’n derbyn hyfforddiant gartref ar hyn o bryd. Rydym yn dymuno adferiad llwyr iddi.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

MATERION IECHYD

Syndrom Coesau Aflonydd.

Mae’r cyflwr diflas hwn yn effeithio ar 5 - 10% o bobl. Mae’n anhwylder niwrolegol a ddisgrifiwyd gyntaf yn 1672 gan Thomas Willis, meddyg i Charles 11. Yr Athro Ekbom a fathodd y term ‘Restless Leg Syndrome’ (RLS) yn 1944. Gall gychwyn yn unrhyw oedran, gan gynnwys babandod. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef ohono yn ganol oed neu’n hŷ;n ac mae’n ymddangos ei fod yn gwaethygu gydag oedran. Mae’r mwyafrif o bobl sydd â RLS yn dioddef o’r cyflwr mwy cyffredin a elwir yn ‘anhwylder symudiadau cyfnodol aelodau’r corff’. Symudiadau anwirfoddol wrth gysgu fel hercian neu blycio yn y coesau yw’r anhwylder hwn, mae’n digwydd mewn cyfnodau o 10 i 60 eiliad yn ystod y nos a gall achosi amharu ar gysgu.

Beth ydy’r symptomau?

Teimladau anghyfforddus sydd weithiau’n boenus iawn yn y coesau. Disgrifir hwy fel llosgi neu deimlad o dynnu neu fel pryfed yn cerdded y tu mewn i’r goes, yn enwedig wrth eistedd neu orwedd ac maent yn digwydd yn amlach gyda’r hwyr nag yn y dydd. Gall cyfnodau heb symud fel taith bell neu eistedd yn y sinemâu eu cychwyn. Gall gorwedd i lawr yn y nos eu cychwyn hefyd.

Daw angen anorchfygol i symud y coesau o gwmpas i geisio lliniaru’r teimladau anghynnes. Yn aml iawn bydd pobl yn cerdded i fyny ac i lawr neu’n cicio yn y gwely ac yn symud eu coesau wrth iddynt eistedd. Roedd fy nhad yn dioddef o’r anhwylder byddai’n treulio’r noson yn gwingo ar y llawr fel gwybedyn yn marw, er mawr ddiflastod i Mam.

Beth yw’r achos?

Yn y rhan fwyaf o achosion mae’r achos yn anhysbys, mae gan hanner y dioddefwyr berthynas sydd â’r un cyflwr. Mewn RDS Teuluol bydd y dioddefwyr yn debygol o fod yn iau pan ddechreua’r symptomau. Mewn achosion eraill, mae’n ymddangos fod RLS yn perthyn i’r ffactorau neu’r cyflyrau canlynol, nid ydym yn gwybod a ydy’r ffactorau hyn yn achosi RLS neu beidio; -lefelau isel o haearn neu anaemia, pan fydd y lefelau’n cael eu cywiro yna efallai bydd y claf yn gweld bod y symptomau’n lleihau.

- Clefyd cronig fel methiant yr arennau, clefyd siwgr, Clefyd Parkinson, niwropathi ymylol a niwropathi amgantol. Mae trin y cyflwr gwaelodol yn aml yn gwella RLS.

- Mae rhai gwragedd beichiog yn cael profiad o RLS, yn arbennig yn y cyfnodau diwethaf. Yn y rhan fwyaf o wragedd mae’r cyflwr yn gwella o fewn 4 wythnos ar ôl esgor.

- Gall rhai mathau o feddyginiaeth fel cyffuriau gwrth-gyfog, gwrth- ffit a chyffuriau seicotig waethygu’r symptomau.

Sut mae gwneud diagnosis o RLS?

Nid oes unrhyw brawf penodol; gwneir y diagnosis drwy edrych ar hanes a symptomau’r anhwylder.

Sut mae trin RLS?

Fel y gwŷr unrhyw un sy’n dioddef o’r cyflwr, gall symud y coesau roi rhyddhad dros dro yn unig. Ond mae modd rheoli’r RLS drwy ddod o hyd i’r anhwylder gwaelodol a’i drin. Os nad oes unrhyw achos, yna rhaid canolbwyntio ar drin y symptomau.

Ataliad yw’r allwedd ar gyfer y rhai sydd â symptomau ysgafn neu gymedrol, fel cymryd llai o gaffein, alcohol a thybaco (y dihirod arferol!!). Efallai bydd y doctoriaid yn awgrymu defnyddio ychwanegiadau er mwyn cywiro diffygion o ran haearn, ffolad a magnesiwm.

Dangosodd astudiaethau fod patrymau rheolaidd o gysgu yn gallu lleihau’r symptomau. Gall rhai mesurau roi peth ryddhad dros dro, fel rhoi’r traed mewn padell o ddŵr oer neu ddŵr cynnes, paciau rhew neu baciau poeth ar y coesau.

Siaradwch â’ch meddyg rhag ofn mai rhyw glefyd gwaelodol neu ddiffyg yw achos eich symptomau. Mewn achosion drwg, gall cyffuriau fod o gymorth. Mae’r ymchwil yn mynd rhagddo ac mae cyffuriau newydd yn cael eu harbrofi sydd yn rhoi rhyddhad oddi wrth y symptomau. Nid oes unrhyw wellhad dewinol ar hyn o bryd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CARROG, Hardd

Bydd amryw ohonoch wedi sylwi ar baentiwr wrthi gyda’i īsl yn y pentref a’r cyffiniau drwy’r haf. Mae Karl Young yn hanu o Dde Affrica. Daeth i aros am un noson ac aros am dri mis am ei fod am ddal harddwch y golygfeydd. Yn arwydd o’i ddiolch am y croeso a dderbyniodd yma rhoddodd un o’i baentiadau i’r gymuned yn y Bash. Dangosir hwn yn barhaol yn y Neuadd.

Erbyn hyn mae Karl a Lorraine wedi mynd ar eu hanturiaethau, dymunwn yn dda iddynt nes iddynt ddychwelyd y flwyddyn nesaf.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

MERCHED Y WAWR

Cawsom ein cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn yn 05/06 yn Festri Capel Seion, Corwen, Nos Fercher 21 ain o Fedi. Croesawyd pawb gan Dorothy Hughes ac estynwyd cydymdeimlad efo teulu Doris P. Jones yn eu colled a’u hiraeth. ‘Roedd Doris ym aelod ffyddlon o Ferched y Wawr ers blynyddoedd a hyd yn oed ar ol symud i Langollen gwnai ymdrech I ddod atom a byddai bob amser yn gefnogol I bob gweithgaredd. Bydd colled fawr ar ei hol.

Cawsom noson ddifyr iawn gyda Joan Salisbury, Cyffylliog yn dangos amrywiaeth o waith llaw bendigedig yn cynnwys bagiau, brodwaith, cwiltio, croesbwyth, gwau, addurno bocsys a llawer mwy - ‘roedd yn noson gartrefol phawb yn cael syniadau buddiol I wneud un neu ddau o bethau at y ‘Dolig Bydd ein cyfarfod nesaf ar Hydref 19 yn yr un lle pryd y byddwn yn croesawu’r dysgwyr atom I weld gwaith arlunio Keith Morgan, Glyndyfrdwy. Croeso cynnes I rywun ddod atom i ymarfer eu Cymraeg.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

DA IAWN, FERCHED!

Enillodd tri o gyn-ddisgyblion Ysgol Carrog wobrau yn ddiweddar mewn noson wobrwyo yn Ysgol Dinas Bran.

Cyflwynwyd gwobr R. W. Ellis i Heather Blair am y Cyrhaeddiad Cyffredinol Gorau yn TGAU, a gwobrau’r GRhA am Saesneg, Ffiseg, ac Addysg Grefyddol.

Derbyniodd Katherine Lloyd y wobr am Gymraeg ail iaith a derbyniodd Katie Stokes y wobr Tecstiliau.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

LOTERI NEUADD

Medi

1st Sue Ventre - £20
Runner Up Karen Ravenscroft - £10

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

POB DYMUNIAD DA, A BRYSIWCH WELLA

I Idwal Pritchard am adferiad buan i iechyd da.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

MARWOLAETHAU

DORIS POWELL JONES

Ar y SOain o Ortega 2005, yn dawel yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, yn nghwmni ei theulu agosaf fe hunodd Doris Powell Jones, Algwyn, Llangollen. (Gynt o Fron Newydd a Cileurych, Carrog).

Cynhaliwyd yr angladd , yng ngofal y Parch Dafydd Rees Roberts, dydd Gwener y 5ed o Awst, gyda gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Salem, Carrog , ac i ddilyn yn breifat i’r teulu yn unig ym Mynwent y Bedyddwyr. Yr organyddes oedd Mrs. Aurona Williams, gyda’r trefniadau yng ngofal cwmni Arthur Evans a’i feibion.

Dyma’r deyrnged a gyflwynodd y Parch Dafydd Rees Roberts diwrnod yr angladd:-

“Annwyl Ffrindie,

Ga ’i yn gynta’, ar ein rhan ni i gyd, estyn ein cydymdeimlad diffuant i chi yn eich colled drist. I chi yn arbennig Ed ar golli eich priod annwyl. I Kay, Chris, Aled a Gwyn o golli mam a nain mor arbennig. I Anit Gwen a’r golli ei hannwyl nith, ac i Vivian, Felicia, John, Haydn a Raymond a’u teuluoedd ar golli chwaer a modryb annwyl iawn. Derbyniwch ein cydymdeimlad cywiraf o golli un oedd mor annwyl i chi, a hynny mor sydyn. Mae’n anodd credu bod ei hiechyd wedi dirywio mor sydyn ac iddi gael ei chipio o’n plith yn gymharol ifanc, ychydig wythnosau cyn cyraedd ei saithdeg mlwydd oed.

Doris oedd yr hynaf o blant Cileurych, ac wrth feddwl dros bethau y dyddiau diwethaf ‘ma dwi wedi sylweddoli fy mod yn ei hadnabod erioed i bob pwrpas, neu ers oeddwn i yn ifanc iawn beth bynnag. ‘Rwy’n cofio rhieni Ed yn byw yng Nghoedtalog cyn iddynt symud i Fron Newydd yn 1955. ‘Roedden nhw yn ffrindiau mawr hefo taid a nain Y Lon, ac fe fyddai Ed a hwythau yn dod draw yn ami. Trwy Ed fe ddaethom i adnabod Doris a theulu Cileurych a hynny flynyddoedd cyn bod son am Lil a Haydn yn dod yn ffrindiau. A’r cof sydd gena i o Doris o’r blynyddoedd rheini yw ei bod yn berson hoffus cyfeillgar. Dros y blynyddoedd fe gadarnhawyd yr argraff honno. ‘Roedd Doris yn un am bodol, am ei theulu yn arbennig, ac am bobol yn gyffredinol hefyd. ‘Roedd yn un dda am gymdeithasu ac yr oedd ganddi lawer o ffrindiau.

Ar hyd y blynyddoedd fe fu Doris yn weithgar yn ardal Carrog. Yr oedd yn hoff o ganu a chanddi lais da, a phan yn ifanc fe fu yn cystadlu mewn eisteddfodau. Yna yn ddiweddarach fe fu yn aelod o Gor Edeyrnion. Pan ‘roedd yr Aelwyd yn bodoli yma yng Ngharrog fe fu yn actio mewn amryw o ddramau. Ond er iddi gyfrannu i a chefnogi gwahanol weithgareddau yn yr ardal ar hyd y blynyddoedd, yma yn ei Chapel y bu ei chyfraniad mwyaf. Cafodd ei magu yma, ei bedyddio yma a’i derbyn yn gyflawn aelod yma. Bu’n chwarae’r organ am flynyddoedd, ac yn barod i gymryd rhan mewn oedfaon er yn nerfus wrth wneud hynny.

Ac ers blynyddoedd bellach yr oedd yn Drysorydd y Capel. Oni bai am Doris a cnewyllyn bach o ffyddloniaid ni fyddai’r Capel wedi gallu dal i fod a’i ddrws yn agored. Yr oedd achos lesu Grist yn bwysig iawn iddi.

Yr oedd Doris hefyd yn berson ei theulu. Aeth hi ddim ymhell o gartre’ i edrych am wr ond priododd fab y ffarm drws nesa’, a hynny bellach dros bedwar deg pump o flynyddoedd yn ol. Wedyn ymgartrefu yn Fron Newydd a ffarmio yno nes ymddeol i Langollen wyth mlynedd yn ol. ‘Roedd Doris wedi edrych ymlaen am gael ymddeol i fynglo ac fe gafodd ei dymuniad yn Algwyn. I goroni popeth cael Kay a’r teulu yn gymdogion yn fuan wedyn. ‘Roedd ganddi feddwl y byd ohonoch, a chithau a meddwl y byd ohoni hithau. Yr oedd y cariad a chynhesrwydd eich perthynas yn amlwg i bawb. Dwi’n siwr hefyd bod eich gofal arbennig ohoni a’ch cariad mawr tuag ati wedi bod yn nerth a chysur iddi dros yr wythnosau diwethaf fel yr oedd ei hiechyd yn dirywio. Gobeithio ei bod yn gysur i chi eich bod wedi gallu gwneud popeth a allech drosti.

Yr oedd ei theulu estynedig hefyd yn bwysig i Doris, ac fe fyddai wrth ei bodd yn trefnu i gael ei chwaer a’i brodyr a’u teuluoedd at eu gilydd i fynd am bryd o fwyd neu i ddathlu rhyw achlysur teuluol. ‘Roedd ganddi feddwl y byd o’i neiod a’i nrthod. Bu’n hynod o garedig tuag atoch ac fe wn fod gennych feddwl y byd o Anti Do. ‘Roedd ganddi ddiddordeb mawr yn eich hanes a’ch llwyddiannau ac yn ymhyfrydu ynddoch. Yn Anti Do fe gawsoch fodryb arennig iawn. Fe gafodd ei theulu-yng-nghyfraith hefyd chwaer a merch-yng-hyfraith arbennig iawn a charedig. ‘Roedd Lil yn dweud mor ffeind a chymwynasgar y bu Doris ar hyd y blynyddoedd, nad oedd dim yn ormod ganddi ac yr ai allan o’i ffordd i wneud cymwynas, yn arbennig ar adegau prysur fel adeg wyna a’r cynhaeaf.

Mae eich colled yn fawr fel teulu, mae’r golled yn fawr i’r Capel a’r ardal. Ond i chi Ed ac i Kay, Chris, Aled a Gwyn y bydd y golled fwyaf. Mwyaf yn y byd y fendith o gael menthyg rhywun annwyl fel Doris, mwya’ yn y byd hefyd y golled ar ei hoi. Y mae gennych fyrdd o atgofion annwyl amdani i’w trysori, a lie i ddiolch i Dduw am gael menthyg un mor annwyl, er ei bod yn anodd gorfod gollwng gafael ami yn llawer rhy fuan. Ein gobaith a’n gweddi yw y cewch bob nerth a chysur yn eich hiraeth a’ch galar i allu credu bod lesu wedi concro marwolaeth ac wedi agor y ffordd i’r bywyd tragwyddo a’i wynfyd, y tu hwnt i farwolaeth ac allan o gyrraedd pob gwaeledd a dioddefaint. Pob nerth a chysur i chi i gyd yn eich colled.“

Lil Powell.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Y DIWEDDAR DOUGLAS GRENVILLE TEAEUE

Bnawn mawrth Awst yr ail tristawyd ardal gyfan o glywed am farwolaeth Grenville Teague, priod annwyl y ddiweddar Olwen a thad gofalus Melfyn a brawd hoffus Brenda.

Gwyddai pawb nad oedd Grenville mewn iechyd da ers rhai blynyddoedd ac er fod arwyddion yn ymddangos fod y corf yn dirywio cadwodd ei ysbryd a’i asbri ac roedd ei sgwrs bob amser yn ddiddorol a hwyliog. Felly death ei farwolaeth yn frawychus o sydyn I bawb a’i adnabu.

Roedd yn fab i David a Dilys Teague Glyndyfrdwy a threuliodd y rhan helaethaf o’i oes yn Llidiart y Parc, Carrog ac yna’n ol i Lidiart y Parc I ymddeol.

Ym 1954 priododd ac Olwen Cefn Bodig, Parc, Bala, a buont yn byw yn Fron Heulog Carrog, yna Glandwr. Daeth Melfyn yn rhan o’r teulu a chafodd gartref ardderchog a phob gofal, ac yn gannwyll llygaid ei fam a’i dad.

Ym 1964 symudasant I gadw’r Llythyrdy a’r siop yng Ngharrog ac roedd Gren wedi cael digon o brofiad o waith siop erbyh hyn gan iddo fod yn gweithio yn Astleys, Corwen, ac roedd o’n fawr ei barch gan ei gwsmeriaid. Tra yn y Post buont yn hynod o garedig a chymdogol a pharod eu cymwynas bob amser.

Cymerent fel teulu ran flanllaw ym mywyd y pentref, roedd rhyw raffl neu gilydd at bob math o achosion da ar y cowntar ac roedd rhyw fferins bach ychwanegol yn ymddangos o’r cefn i’r hen blant.

Roedd Gren yn ffyddlon iawn I Gapel y Bedyddwyr a bu am gyfnod yn organydd yno. Roedd yn hoff iawn o bob math o gerddoriaeth a hyd y gallod mynychodd gyngherddau fyrdd yn yr ardal. Yn ddiweddar Katherine Jenkins oedd ei ffefryn ac roedd yn hynod o falch pan Iwyddodd ei frawd a’i chwaer yng nghyfraith i gael ei llofnod iddo pan oedd hi’n canu mewn cyngerdd yn Lerpwl. Roedd wrth ei fodd efo chwaraeon o bob math. O Bel Droed i Dennis ac ef oedd un o sylfaenwyr Clwb Snwcer yn y neuadd.

Cymerodd ran flaenllaw yn y gweithgareddau yn niwedd y saithdegau a sicrhaodd ein bod yn cael neuadd gymunedol yng Ngharrog. Ef oedd trysyrodd cyntaf y neuadd.

Ar ol ymddeol o’r siop symudodd y teulu i Fron Dderw, Llidiart y Parc ac yno roedd wrth ei fodd yn yr ardd, yn cynllunio a chwilota am blanhigion diddorol ac addas i’w cynefin nes gwneud y gomel hon yn Eden fach gwerth ei gweld.

Cydymdeimlwn gyda Melfyn a’r teulu i gyd yn eu colled a’u hiraeth am un oedd mor annwyl iddynt.

Bu’r angladd ddydd lau yr unfed ar ddeg o Awst yng Nghapel y Bedyddwyr, Carrog a’r gwasanaeth yng nghofal Dafydd Rees Roberts Llanuwchllyn, gyda Aurona Williams wrth yr organ. Y cludwyr oedd David Jones, Brynle Hughes, Alun a Gareth (neiaint), ac roedd y trefniadau yng ngofal Arthur Evans a’i feibion a’r rhoddion tuag at Lety’r Eos. Rhoddwyd ef i orffwys ym mynwent newydd Carrog.

Brynle Hughes.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

© All material is Copyright of “Y Bont” unless otherwise indicated at the end of the article.