statcounter

       

Ebrill 2006

This page contains all the articles in the issue.
Either scroll through the page or select the required article in the table below.
To reduce the loading time all advertisements, photographs and graphics have been removed.

If an article is accompanied by photographs,
this may be viewed by opening the individual file through the bi-lingual menu,
or using the article title link.

* indicates an article has photograph() or graphic(s) attached to the individual file

Golygyddol Urdd Rhys Webb
Parcio yng Nghorwen Cymdeithas Carrog Joan ‘The Grouse’ Jones
Eglwys Carrog * Ysgol Carrog Trwydded Neuadd
Y Bont “Y Bont” O Lan yr Afon

Golygyddol

Bydd £5 o wobr i unrhyw un all ddod o hyd i’r gast Ffwl Ebrill yn y rhifyn hwn. Bydd rhaid ichi graffu’n arw- mae’n un cyfrwys iawn!

Yn y rhifyn hwn ceir newyddion diweddaraf am y cyfyngiad pwysau ar y bont sy’n anochel erbyn hyn ond gobeithio bydd y cyngor yn gwneud rhywbeth i rybuddio gyrwyr cerbydau hir am y mynediad anodd.

Rydym wedi cychwyn gwario ein harian grant i brynu camera gan obeithio bydd y trigolion yn ei ddefnyddio ac yn anfon storiau a lluniau i’r Bont.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Llwyddiant yn yr URDD

Bu disgyblion Ysgol Carrog yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd yn Llangollen y mis hwn.

Celf a Chrefft - Poppy Edwards, Hollie Edwards, Sioned Roberts, Bethany Smith.

Llwyfan - Adrodd o dan 8 oed Abbie Jones

Adrodd o dan 10 oed - Oliver Knight

Adrodd o dan 12 oed - Eleanor Sansom

Unawd Piano - Alice Gonzalez

Daeth y Band a’r Grwp Recorder yn gyntaf yn yr Eisteddfod Gylch ac yn Eisteddfod y Sir. Byddant yn cynrychioli Sir Ddinbych yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Rhuthun.

Daeth Poppy Edwards yn ail yn Eisteddfod y Sir am ei phaentiad.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

RHYS WEBB, O.B.E. yn agor pencadlys newydd y Sir

I anrhydeddu ei wasanaeth hir i Lywodraeth Leol am dros 50 o flynyddoedd fe dderbyniodd ein Rhys Webb wahoddiad i agor yn swyddogol Neuadd y Sir newydd yn Rhuthun ar ddydd Gwener 31 Mawrth.

Bu Rhys yn gwasanaethu fel Cynghorydd a Chadeirydd Cyngor Clwyd a Chyngor Sir Ddinbych. Gwnaed yn gadeirydd Bwrdd Menter Ariannol Breifat Cyngor Sir Ddinbych o gychwyn y cynllun hyd iddo gwblhau, gan arwain tîm a ddaeth â Neuadd y Sir i fodolaeth.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Parcio Ceir yng Nghorwen

Erbyn hyn mae’n debyg ei bod hi’n anochel y bydd y Cyngor Sir yn codi tâl am barcio yng Nghorwen. Cafodd y ddeddf sy’n caniatàu codi tal am barcio ei phasio yn 1996 ond roedd gan Gorwen a rhai trefi eraill dreth o ‘ddim’. Yn ôl pob golwg cynhwysir y cynnig i safoni’r taliadau am barcio ledled y sir yn y cynigion cyllideb am 2006 a roddwyd gerbron cyfarfod llawn y cyngor yn 2005. Mae tref Corwen yn cael ei chynnwys ymhlith nifer o drefi eraill ac o’r herwydd mae’n ymddangos nad oes modd eithrio unrhyw dref unigol o’r taliadau parcio safonol. Ond mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cynnig yn llwyr a gofynnodd am gyfarfod gydag Arweinydd y Cyngor i drafod yr oblygiadau, yn arbennig o ystyried nad oes prin ddim lleoedd parcio eraill.

Oherwydd hyn, mae’r Cyngor Sir yn cyfarfod â’r Cyngor Cymuned ac â Chymuned Busnes Corwen ddydd Iau 27 Ebrill 2006. Ni chodir unrhyw daliadau tan ar ôl y cyfarfod hwn.

Mae pobl yr ardal yn teimlo’n gryf am y mater a bu un brotest a achosodd atal traffig ar yr A5.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

CYMDEITHAS CARROG

Casglwyd £140 eleni with fynd o amgylch y pentref yn canu carolau,ac mae’r arian eisioes wedi mynd tuag at ymddiriedolaeth “Anthony Nolan” sydd wedi bod yn hanfodol o bwysig tuag at wellhad Anna Culshaw. Carem ddiolch i’r cantorion a’r cerddorion a diolch arbennig i bawb a gyfrannodd.

Yn mis lonawr aeth rhai ohonom i weld pantomeim “Dick Whittington Rock’n Roll” yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug. Cafwyd noson ardderchog a canmoliaeth arbennig i’r actorion i gyd. Diolch hefyd i Edwin Jones am drefhu’r noson ac edrychwn ymlaen at fynd y tro nesaf!

Diwedd mis Chwefror cawsom ein noson flynyddol i ddathlu Dydd Gwyl Dewi ,mae hon yn noson boblogaidd erbyn hyn a pawb wedi mwynhau y bwyd blasus a baratowyd gan Eirian ac Edwin Jones Ty Mawr a merched y gymdeithas. I’n diddanu eleni death “Hogie’r Berferddwlad” atom a cafwyd adloniant bendigedig ganddynt, dilolch hefyd am gyfraniad Sion Dolben Hughes ac Alun Williams. Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd tuag at llwyddiant y noson.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Er Cof

Adroddwn gyda thristwch mawr am farwolaeth Joan ‘The Grouse’ Jones yng nghartref y teulu ger yr Amwythig. Roedd Joan yn adnabyddus yn dafarnwr Tafarn y Grouse. Bu’n rhedeg y dafarn, gyda’i gwr o 1970 hyd 1980. Mae’n gadael mab, Alan, a theulu ac anfonwn iddynt ein cydymdeimlad dwys.

Bu’r angladd yn Amlosgfa’r Amwythig ddydd Llun 10 Ebrill am 1.20pm.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Difrod a lladrad yn yr Eglwys

Bu fandaliaid yn difrodi’r Eglwys rhwng canol nos ar Sadwrn 25 Mawrth ac yn gynnar fore Sul. Difrodwyd y goleuadau diogelwch ac aed a’r mat o’r porth. Mae’n anodd deall pam fyddai unrhyw un eisiau hen fat coco. Amcanir mai tua 3 i 5 y bore y digwyddodd hyn. Byddem yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth a pheidiwch anghofio rhif Crimestoppers 0800 555 111.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* DWYWAITH yn GYNTAF I BLANT CARROG!

Cychwyn o’r arosfan newydd yn Llidiart y Parc am 9.30 a.m.ddydd Llun, Mawrth 20fed. Roedd plant Ysgol Cae Drewyn, Corwen a’u hathrawon eisoes ar y bws ac roedd plant Llantysilio yn mynd i ymuno â ni yn Llangollen.

Roedd pawb wedi bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at ein taith i Gaerdydd ers wythnosau ac wedi cynllunio beth i fynd gyda ni Ð digon o fferins am dri diwrnod.

Roedd ein stop cyntaf yn ymyl Henffordd i gael cinio mewn lle picnic ac i Dave y gyrrwr gael seibiant, yna ymlaen â ni i’r Pwll Mawr ym Mlaenafon am yr antur fawr. Ar ôl gwisgo helmed a lamp dyma ni i lawr am 300 troedfedd mewn caets. Roedd ein harweinydd yn disgrifio bywyd y glÊwr o dan y ddaear inni a sut roedd plant ein hoedran ni’n gweithio’n gwthio’r dramiau glo a chludo glo. Gwelsom y stablau ar waelod y pwll ble roedd y ceffylau’n byw pan nad oeddent yn tynnu’r dramiau glo. Roedd yr holl brofiad yn gyffrous dros ben nes i’n harweinydd ddiffodd y goleuadau a’n gadael mewn tywyllwch llwyr.

Ar ôl gadael y Pwll Mawr a mynd tua Chanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd roeddwn yn awyddus gweld yr ystafelloedd gwely ble roeddem yn aros am ddwy noson Yn ystod ein hymweliad cawsom daith o gwmpas Stadiwm y Mileniwm gyda’u Neuadd Gyngerdd wych ble bu nifer o enwogion yn perfformio a euthum i’r ystafelloedd gwisg a ddefnyddiodd Will Young a II Divo yn ystod y Sioe Frenhinol. Ar ôl y daith cawsom groeso gan Hywel, ein gwestai yr Urdd, cael swper ac yna mynd i chwarae bowlio deg mewn lle cyfagos. Euthum i’r gwely m ddeg o’r gloch ar ôl diwrnod hir a chyffrous a mynd i gysgu ar unwaith.

Y diwrnod canlynol cawsom frecwast wedi’i goginio cyn teithio i Sain Ffagan, yr Amgueddfa Werin. Cawsom weld y tai gwahanol, Ysgol Oes Fictoria, talwrn ceiliogod a ddaeth o Ddinbych, Pentref Yr oes Geltaidd, a Thy’r Dyfodol. Cawsom ginio gan yr Urdd o dan do am ei bod yn ffyrnig oer yn y gwynt. Deuthum yn ôl i’r Ganolfan ar ôl bod yn Asda ble roedd ar y plant angen fferins. Cyn y daith. Cawsom orffwys yn ein stafelloedd cyn swper ac yna i ffwrdd â ni i’r sinema i weld The Pink Panther. Wedyn, dyma ni’n ôl i’r Disgo a drefnwyd gan Hywel a ddysgodd ddawns yr Urdd inni a chwarae llawer o’n hoff gerddoriaeth. Ar ôl diwrnod blinedig arall roeddwn yn barod i’n gwelyau eto. Y bore wedyn roedd brecwast am 8.30 am ein bod am fynd i’r Senedd sydd ar draws y ffordd o’n llety. Rhoddodd Karen Sinclair, ein AC lleol sgwrs inni am beth sy’n digwydd yn y Senedd a’n tywys o gwmpas yr adeilad i ddangos ble roedd popeth yn digwydd. Hefyd, cawsom gyfarfod â Janet Ryder a atebodd ein holl gwestiynau. Ar ol y daith cawsom dro o gwmpas Bae Caerdydd ac yn ôl i’r ganolfan am ginio ac wedyn ar y bws ar gyfer ein taith adref gan gyrraedd am 6.30 p.m.wedi mwynhau i’r eithaf.

A beth am ddod yn gyntaf? Ni yw’r ysgolion cyntaf o Sir Ddinbych i aros yng nghanolfan yr Urdd a’r cyntaf yng ngogledd Cymru i ymweld â’n Senedd Newydd.

Disgyblion blwyddyn 5 & 6.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

* YSGOL CARROG - St. David’s Day Concert

Photographs only - no article.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Newyddion Diweddaraf am Y Bont

Byddwch wedi sylwi fod y gorchmynion traffig swyddogol wedi’u cyhoeddi’n hysbysu bod y cyfyngder pwysau wedi codi i 18 tunnell fetrig i gydymffurfio â deddfwriaeth Ewrop ar hyn o bryd. Cytunodd Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych i archwilio’r posibilrwydd o wella’r arwyddion ar gyrion y pentref gan rybuddio traffig o’r mynediad cul i’r bont a’i lled ar gyfer cerbydau hir.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Cymhorthdal Y BONT

Erbyn hyn rydym wedi gwario rhan gyntaf y grant drwy brynu camera Canon SLR a byddwn yn trefnu cwrs am ddim i drigolion sydd yn dymuno defnyddio’r camera. Os hoffech ddod i’r cwrs yna gofynnir ichi gysylltu â’r bont drwy’r rhifau cysylltu ar y dudalen hysbysebion er mwyn inni gael rhyw syniad o niferoedd.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

O Lan yr Afon

“Systemau mordwyo lloeren yn dinistrio ein cymunedau gwledig’” dyna oedd neges nifer o erthyglau mewn papurau newydd y mis hwn. Mae nifer cynyddol o gwynion oddi wrth y cymunedau gwledig ynghylch gyrwyr loriau mawr sy’n dilyn y systemau mordwyo hyn heb feddwl. Mae’r systemau’n eu gyrru ar y ffyrdd byrraf. O’r herwydd, daeth nifer o wagenni mawr ar ffyrdd oedd yn rhy gul a throellog o lawer iddynt gan ddod i drafferthion ac achosi tagfa draffig a llawer o helynt i bobl leol. Mae effaith hyn mor fawr mewn rhai ardaloedd nes iddynt alw am dynnu’r ffyrdd bach oddi ar y mapiau a ddefnyddir gan y systemau hyn. Ddwywaith o leiaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu loriau mawr yn achosi rhwystr ar ffyrdd yn ardal Carrog. Y tro cyntaf, bu lori anferth yn aros y tu allan i Dewis Dyddyn gan ollwng gwynt o’r breciau cryfion. Roedd y cerbyd yn llenwi’r ffordd yn gyfan gwbl gan rwystro’r holl draffig ac eithrio cerddwyr a beicwyr. Almaenwr oedd y gyrrwr â nwyddau ganddo ar gyfer y stâd ddiwydiannol yng Nghorwen. Roedd y cwmni roedd y gyrrwr yn gweithio iddynt wedi rhoi cyfesuryn GPS iddo, nid ar gyfer Ystâd Llidiart ond ar gyfer Llidiart y Parc ar hyd y ffordd gefn.

Sylweddolodd yn fuan iawn na all ei lori, oherwydd y pwysau a’r hyd groesi’r bont. Roedd hefyd yn amheus ynghylch mynd ymlaen ar hyd ffordd Ty Nant tua Glyndyfrdwy. Cytunais innau na allai cerbyd mor fawr deithio ar y troeon cul. Roeddem yn anghywir yn hyn, ond adroddaf yr hanes hwnnw eto.

Gan ddefnyddio medrau rhyfeddol llwyddodd i facio drwy’r pentref gan osgoi nifer o geir oedd wedi’u parcio a llwyddo o’r diwedd i ddod ‘nôl i’r ffordd tua chyffordd Maes y Llan gan gau’r ffordd unwaith eto.

Yr ail dro, wrth ddod yn ôl o Lyndyfrdwy ar hyd y ffordd gefn gwelais fod y ffordd wedi’i chau gan lori arall anferth gyda gyrrwr o Ffrancwr yn defnyddio GPS ar hyd y ffordd gefn o Langollen gan barhau i ddilyn ei gyfarwyddiadau wrth iddo fynd i fyny i gyfeiriad ffordd Bwlch Goch i Fryneglwys. Llwyddodd i fynd ar hyd y canllath cyntaf cyn i’r trofeydd a’r ffordd serth ei rwystro a llithrodd yn ôl gan stopio yn y triongl o laswellt ar waelod y ffordd a bron cau’r ddwy ffordd. Roedd wedi’i ddal yn y clawdd mor dynn fel nad oedd modd symud o gwbl.

Bu rhaid galw am lori torri - i - lawr ac ymhen oriau wedyn daeth y tryc a’r lori i lawr Ffordd Ty Nant ac i’r Pentref, gan brofi fod y gyrrwr o’r Almaen a finnau y naill a’r llall yn anghywir gan gredu na allai cerbyd mor fawr fynd ar hyd y ffordd gefn. Mae nifer o fannau ym Mhrydain nad oes fapiau cyfrifiadurol ar eu cyfer - Ynys Manaw yn un. O geisio defnyddio’r system ar ffyrdd yr Ynys ceir y neges’ Ewch i’r fordd agosaf’ Tybed ai ffordd gwrtais o ddweud ‘ ewch o ma!’ ydy hwn.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –

Trwydded Adeiladau newydd i’r Neuadd

Oherwydd y newidiadau yn Deddfau Trwyddedu bu rhaid gwneud cais newydd ar gyfer y Neuadd. Yn ôl y ddeddf Trwyddedau 2003 mae angen trwydded ar gyfer adloniant a reolwyd - fel dramâu, ffilmiau digwyddiadau chwaraeon o dan do, darparu adloniant cerddoriaeth dawnsio, lluniaeth hwyr, swper ac yn y blaen a darparu alcohol. Rhaid cael trwydded ar gyfer pob digwyddiad a gynhelir yn y Neuadd o gyngherddau plant i ffeiriau eglwys hyd yn oed os nad oes alcohol yn cael ei ddarparu. Nid ddisgwylir y bydd y Neuadd yn cael ei defnyddio ar gyfer llawer mwy o ddigwyddiadau nag a gynhelir yma ar hyn o bryd (tua 12 noson y flwyddyn) ond rhaid inni roi’r drwydded mewn geiriau hyblyg er mwyn caniatàu digwyddiadau fel Carolau o gwmpas y Goeden Nadolig, Carnifal Carrog neu bartïon preifat. O dan ofynion y Ddeddf, rhaid i ddaliwr trwydded bersonol fod yn oruchwyliwr a enwyd ar gyfer darparu alcohol. Ein diolch i Sarah Kenrick am gytuno i wneud y gwaith.

Mae’r cais hwn wedi golygu llawer o waith caled a llawer o amser i’r Cadeirydd ac i Ysgrifennydd y Neuadd gan greu 8 amlen a phob un yn cynnwys 30 tudalen.

Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –


© Hawlfraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.