Tachwedd 2003
Ar y dudalen hon ceir holl erthyglau’r rhifyn hun.
Gallwch naill ai sgrolio drwy’r dudalen neu gallwch ddewis yr erthygl rydych ei hangen o’r tabl isod.
Er mwyn lleihau amser llwytho i lawr fe dynnywyd yr holl hysbysebion, ffotograffau a graffigs.
Os oes ffotograff gydag unrhyw lun gellir ei weld drwy agor y ffeil unigol drwy’r ddewislen ddwyieithog,
neu drwy ddefnyddio’r teitl cyswallt.
* yn golygu bod ffotograff(au) neu graffog(au) ynghlwm wrth y ffeil unigol.
Croeso i argraffiad dau. Rydym wedi goroesi ac wedi dysgu llawer am sut i gynhyrchu a dosbarthu papur newydd. Diolch i’r rhai a roddodd help Haw drwy rannu’r papur ac i sicrhau nad oeddent ddim ond 18 diwrnod yn hwyr!! Hefyd diolch i Mike Brown o Cyhoeddiadau A5 a argraffodd y rhifyn cyntaf yn rhad ac am ddim. Roedd y rhan fwyaf o’r sylwadau gennych yn rhai ffafriol, OS oedd unrhyw beth ar go11 nid oeddem yn ymwybodol ohono! Nodwyd gan Y Bont fod Sioe Dalentau’r Pentref yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn llwyddianus. Mae Heather Scott yn recriwtio talent i’r Sioe a fydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Mae’r sioe yn agored i bob oed a thalentau cudd! OS ydych am ymuno (neu helpu) cysylltwch a Heather cyn gynted a phosibl gan fod lie yn gyfyngedig
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Fel Cynghorydd Sir i Garrog ers 1958 rwyf wedi gweld nifer o newidiadau, ond o bell, yr un mwyaf arwyddocaol yw trawsffurfiad yr hen adeilad Ysgol ir Neuadd newydd. Dros y cyfnod hir yr ydym wedi bod yn adnewyddu ac ail-adnewyddu ein Neuadd, rydym yn falch bod Clwyd ac yna Sir Ddinbych wedi rhoi llawer o gymorth ariannol a c ymarferol. Fe1 aelod or Cyngor hoffwn ddweud fy mod wedi fy mhlesio ac fod gennym gyfleuster gwerth chweil yng Ngharrog.
Hoffwn ddiolch i’r bobl lleol sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau hyn. Nid ydynt yn gofyn am unrhyw wobr am ei gwaith caled, dim ond i’r adeilad gael ei ddefnyddio ac i bawb edrych ar ei 01. Gofynnir hefyd am bob cefnogaeth tuag at ymdrechion codi arian yn y dyfodol fel y gall trigolion Carrog ymfalchio yn y Neuadd am flynyddoedd i ddod.
Hoffwn hefyd estyn llongyfarchiadau i’r rhai sy’n gyfrifol am gynhyrchu ein Papur Newydd Cymunedol. Mae’n yniad gwych a phob lwc iddynt yn eu menter.
Cyng. Rhys Webb
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Bron f’atgof cyntaf o bontydd oedd ar ddiwrnod trip Ysgol Sul n’ol yn y pumdegau. Rhyl oedd pen y daith i ni yn Sir Fon bryd hynny a’r hwyl mwyaf oedd ar y ffordd yno. Roedd yn rhaid i ni gyd ddod oddi ar y bws a cherdded ar draws yr hen bont yng Nghonwy oherwydd ei bod yn rhy wan i gynnal pwysau bws llawn - am sbort! .... annodd yw gorddweud pwysigrwydd pont i bobl Sir Fon. Wedi’r cwbl rhaid oedd croesi pont wrth fynd i unfan! Ar yr un pryd mae’r bont yn ffordd o gau gweddill y byd allan. Mi f’aswn i’n dadlau fod y bont yn diffinto cymeriad - fod y bont yn dod yn rhan anatod o bwy ydych. Mae hyn i’w weld yng Ngharrog er mai nid ynys mo’r pentref. Er mor brydferth yw’r bont sy’n croesi’r afon mi fydd ei chroesi yn foment lawer mwy pwyerus na’r olygfa. Daw’r croesi yn symbol cryf o droi cefn wrth i ni gofleidio cymdiethas arbennig nad yw’n bodoli tu draw i fwa’r hen bont.
Gwyn L. Williams
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
• | Roedd Paul McCartney yng Ngharrog yn 1968 ym mhriodas ei frawd, Michael. |
• | Roedd Michael yn aelod o ’The Scaffold’ |
• | Roedd 12 o westeion yn cynnwys Jane Asher |
• | Ail briododd tad Paul sef Jim yn 1966 a bu’n byw yn Afon Ro am rai blynyddoedd |
• | Arweinwyd y briodas gan y Parch David Bevan. Roedd ei wraig Mary yn perthyn i Paul |
• | Aeth y parti priodas i gael te i’r Rheiorthdy. |
A oes gan unrhyw un luniau o’r digwyddiad?
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Cymdeithas Hanesddyol Edeyrnion
Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu yn 1978. Galwodd Cyngor Cymdeithas Corwen gyfarfod cyhoeddus i asesu diddordeb mewn ffurfio Cymdeithas o’r fath. Er syndod daeth tua 80 o bobl i’r cyfarfod a penderfynwyd sefydlu’r Gymdeithas. Y nod oedd i annog ymchwil hanes lleol ac i drefnu darlithoedd, sgyrsiau a teithiau, ac i geisio diogelwch hen bethau.
Ym mis Mehefin, 1979 roedd Cyngor Glyudwr am ddymchwel wyrcws Gorwen gan ei fod yn atgof o’r dyddiau caled. Gwrthwynebodd y Gymdeithas yn gryf a thrwy lwc cymerwyd sylw o’n cri. Mae hyn yn golygu fod adeilad o bensaerniaeth amlwg yng Nghorwen yn dal if fodoli - heddiw fe’i adnabyddir fel Corwen Manor. Trueni nad oeddem o gwmpas rhwng 1901 a 1908 fel a ddarganfwyd ar ddydd Mawrth, Hydref 2lain eleni. Rhoddodd Mr. Ian Lebbon gyflwyniad yn Neuadd Carrog ar yr ymdrech a wnaethpwyd i annog cymorth i ddiogelu Carchardy Owain Glyndwr. Mae’n drist na wrandawodd neb yr adeg hynny a bod rhan pwysig o’n etifeddiaeth wedi ei golli.
Bob blwyddyn ceir pedwar darlith o fewn Edeymion a tri taith i fannau o ddiddordeb. Mae croeso cynnes i bawb - ond yn well fyth gallwch ymaelodi am gost o £3 y flwyddyn. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Ysgol Isa Cynwyd ar Ddydd Mawrth. Tachwedd 25ain am 7.30 yr hwyr.
Mrs. Valmai Webb
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Enillodd Ysgol Carrog £100 yng nghystadleuaeth ‘Aqua’ a drefnwyd gan Bafiliwn Llangollen. Cafodd Harry Pooler a Sioned Roberts ganmoliaeth am ei gwaith a derbyniodd y ddau gryst a thocynnau sinema. Roedd y gwaith wedi ei arddangos yn y Gallery.
Cafodd y plant eu diddori gan Superted and Twf yr wythnos diwethaf. Trefnwyd yr ymweliad gan Menter Iaith syn hybu dwy ieithrwydd ac fe gafodd bob blentyn fag anrheg i fynd adref.
Mwynhaodd y plant iau ddiwrnod yn Canolfan Addysg Legacy lie cawsant cyfle i fod yn Geltiaid am ddiwrnod.
Ymunodd Carrog a Llantysilio, Glyndyfrdwy and Dyffryn Ial am weithdy diogelwch ffordd gyda chwmni ‘Jugglestruck’.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Adroddwyd ar Newyddion HTV yr wythnos diwethaf fod son am gau ysgolion pentref yng Nghymru. Y rheswm pennaf am gau ysgolion ye’r gostyngiad mewn niferoedd sydd, yn ol polisi swyddogol, yn gwneud yr ysgol yn anichonadwy, Er nifer o brotestiadau caewyd un ysgol.
Yn yr achos hwn gwerthwyd tir yr ysgol i ddatblygwr a adeiladodd ystadd o dai felly yn dod a mwy o blant yn ol i’r pentref a fyddai’n gwneud y nifer yn yr ysgol yn ddichonadwy.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Roedd y Neuadd yn orlawn ar gyfer Cyngerdd Mawreddog ar y 18fed o Hydref. Agorwyd y Cyngerdd gyda Chantorion Rhos, Cor cymysg a ennillodd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, dilynwyd gan Pedwarawd Llansilin gyda’i harmoni bendigedig a’u telyneg doniol.
Canodd Bryony Keyse a Samantha Scott ddwy ddeuawd hyfryd gyda Diana Keyse ar y piano. Chwaraeodd Colin Keyse unawd ffidl ac fe gyfeiliodd i Bethan Scotford ynghyd a Diana Keyse.
Cyflwynwyd y noson gan Eurin Jones gyda’i storiau digri rhwng y perfformiadau. Trwy gymorth nawdd nifer of bob1 yn y pentref, derbynniodd Ty’r Eos ac Eglwys Carrog rodd o o leiaf £266 yr un.
Trefnwyd y Cyngerdd gan Pam Evans, Jennifer Jones a Tina Lloyd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Capel Methodist
Cynhelir Gwasanaeth am ddau or gloch ar yr 23ain o Dachwedd yng ngofal Mrs. Mair Penri Jones or Parc, Bala.
Eglwys Llansantffraid
Dydd Sul Coffa - bydd gwasanaeth ar ddydd Sul y nawfed o Dachwedd am 10.45 y bore yn cychwyn wrth y “War Memorial” ac yn symud i’r Eglwys yn dilyn y ‘distawrwydd’.
Mae’r Eglwys yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd - nodyn i’r rhai sydd am gyfrannu - mae’r ape1 dal ar agor.
Capel Bedyddwyr
Cynhalwyd gwasanaethau diolchgarwch ar yr ugeinfed o Hydref gyda Mr. Elwyn Ashford Jones yn annerch y plant yn y prynhawn ac yn pregethu yn yr hw yr.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mr. Bill Davies 3, Tai Teg yn 72 oed Estynnwn ein cydymdeimlad i’w weddw, Janet a’r plant a’r yrion/wyresau
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar dydd Mawrth Hydref 21ain ruedd Carrog yn chwarae adre i Tim ‘A’ Ysbyty Ifan pan enillwad Ysbyty Ifan pedair fem i ddwy.
Y Dydd Mawrth dilyniol enillodd tim Llandrillo ‘B’ yn erbyn Carrog tair gem i dduy.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Mae’r system fwres caolog wedi cael ei ynchwilio ac yn gweithio ar ftger y gaeaf. Fe roddir cyfarwyddiadau i’r sawl sy’n defnyddio’r Neuadd.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Clwb Ieuenctid
Mae’r Clwb Ieuenctid yn cyfarfod bob Nos Wener o 7 - 9 yr hwyr yn ystod misoedd y gaeaf. Croeso i aelodau newydd.
Capel Methodist
Mae’r Ysgol Sul yn cyfarfod bob bore Sul am 10 or gloch. Croeso i blant o bob oedran.
Ffair Nadolig Eglwys Carrog
Nos Iau, 27ain o Dachwedd. Bydd nifer o weithgareddau a stondinau.
Efeillio
Bydd cyfarfod i drafod efeillio gyda phntref ym Mreton yn y Neuadd, nos Wener 29ain o Dachwedd am 7 o’r gloch yn yr ystafell bwyllgor.
Neuadd Carrog
Cyfarfod Pwyllgor ar nos Lun. laf o Rhagfyr am 7 or gloch. Cyfarfod agored yw hwn ac fe annogir y gymuned i fynychu.
Ysgol Carrog PTFA
Noson Bingo yn y Neuadd 25ain o Dachwedd 6.30 yr hwyr.
Carolau 0 Gwmpas Y Goeden
Rhagfyr 9fed - 6.30 yn y Neuadd
Clwb Llansantffraid
Diolch i’r rhai
a helpodd i lenwi bocsus esgidiau gyda anrhegion a theganau i blant o’r
Dwyrain Canol. Mae’r Clwb yn cyfarfod bob yn ail ddydd Iau ac yn estyn
croeso i aelodau newydd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Mrs. Eileen Williams,
Llywydd neu’r Trysorydd Mrs. Marian Brown.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
A oes unrhyw yn cofio Sian a Jenny Corish o Tawelfa. Mae’r teulu yn byw yn Llundain erbyn hyn ac mae’r ddwy ferch wedi dewis saethu fel chwaraeon. Y mis diwethaf cafodd Jenny ei hanrydeddu yng Nghaerdydd gan dderbyn Merch Chwaraeon y Flwyddyn. Mae’r ddwy yn teithio i Sweden yr wythnos nesaf i gystadlu yn y Pencampwriaeth Ewropeaidd. Pob Iwc iddynt!
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Victoria (Neé Tinniswood) a Simon Creegan Davis ar enedigaeth merch, Beatrice (6pwys 6 owns) ar 19/10/03 am 6 am.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Llongyfarchiadau i Dim “Y Bont” - Paul, Ian a Colin a’r holl arwyr a alluogodd i’r rhifyn cyntaf o’r Bont gael ei argraffu a’i rannu. Da iawn chi.
Y Felin
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Olygydd,
Llongyfarchiadau ar yr argraffiad cyntaf o “Y Bont”. Cylchlythyr diddorol a defnyddiol.
Gobeithio y cewch fynd o nerth i nerth - bydd yn ddefnyddiol iawn i ni yn Llidiart y Parc, trwy roi gwybod i ni beth sy’n digwydd ‘dros y dwr’!
Efallai
y byddai’n bosib dosbarthu nifer o gopiau yn siopau Corwen er mw yn hyrw
ydd digw yddiadau’r pentref.
Pob lwc gyda’r fenter newydd.
Faye Lea.
Parc House
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Annwyl Syr,
‘Rwyf yn byw yn Llidiart y Parc ac yn peni’n arw am gyflymder y traffig ar hyd yr A5. Yn y misoedd diwethaf bu nifer o ddamweiniau yn y pentref o achos hyn. Teimlaf mai mater o amser fydd hi nes i ryw berson diniwed gael difrod neu waeth obherwydd diffyg cyfyngiad cyflymder.
Yn dilyn nifer o geisiadau, rhaid gofyn pam fod y Cyngor mor anfodlon i gyflwyno’r cyfyngiad cyflymder a allai arbed bywydau?
Eric Lea.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
Ar Werth
Llun Gopiwr Muratec
F - 48. Gweithio’n ardderchog. Yn cynnwys papur ychwanegol. £25 ono 01490 430 259
Ryburn Heatranger LPG
2 flwydd oed. Coginio ac i fyny at 16 gwresogydd. Gwyrdd £2,500 ono Hanner y pris gwreiddiol 01490 430 397
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
Yn Eisiau
Ysgrifennydd Llogi’r Neuadd Gadewch i Colin Roberts neu Ian Lebbon wybod os oes diddordeb gennych.
Δ – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – – –
© Copyright “Y Bont” unless otherwise indicated / Hawlffraint “Y Bont” oni nodir yn wahanol.